- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
7 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Mawrth 2011
Yn dod i rym
8 Ebrill 2011
Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 16(1)(a) ac 17 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1) sy'n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru(2).
Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi drafft a chrynodeb o'r Gorchymyn hwn yn unol ag adran 51(3)(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 a Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007(4).
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1. Teitl y Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg Caerdydd a'r Fro (Corffori) 2011 a daw i rym ar 8 Ebrill 2011.
2. Ar 8 Ebrill 2011 sefydlir corff corfforaethol o'r enw Coleg Caerdydd a'r Fro, at ddibenion sefydlu a rhedeg, o'r dyddiad gweithredu ymlaen, sefydliad addysgol newydd o'r un enw.
3. Y dyddiad gweithredu a bennwyd mewn perthynas â Choleg Caerdydd a'r Fro yw 1 Awst 2011, a bydd y gorfforaeth yn rhedeg y sefydliad addysgol Coleg Caerdydd a'r Fro o'r dyddiad hwnnw ymlaen.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu corfforaeth addysg bellach a elwir Coleg Caerdydd a'r Fro o dan adran 16(1)(a) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“y Ddeddf”) at y diben o redeg y sefydliad addysgol sydd â'r un enw. Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer pennu 1 Awst 2011 yn ddyddiad gweithredu at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf, sef y dyddiad y bydd Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymgymryd â rhedeg, o hynny ymlaen, y sefydliad addysgol o'r un enw.
Mae drafft a chrynodeb o'r Gorchymyn hwn wedi eu cyhoeddi yn unol ag adran 51(3) o'r Ddeddf a Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007.
1992 p.13; diwygiwyd adran 16 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 gan adran 140(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion ac Atodlen 31 iddi (p.31); a chan adran 111(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21). Diwygiwyd adran 17 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 gan baragraff 7 o Atodlen 3 i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 16(1)(a) a 17 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl hynny, i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Diwygiwyd adran 51(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13) gan erthygl 9(1) o Orchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238) (Cy.243)) a chan baragraffau 13 a 21 o Atodlen 1 iddo; gan adran 111(2)(a) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (c. 21); a chan erthygl 2(1) o Orchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/1080) a pharagraffau 18 a 21(c) a (d) o Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 51(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl hynny, i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 2007/854 (Cy.78), a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy.101).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: