2011 Rhif 659 (Cy.97)
ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Coleg Caerdydd a'r Fro (Corffori) 2011

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 16(1)(a) ac 17 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19921 sy'n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru2.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi drafft a chrynodeb o'r Gorchymyn hwn yn unol ag adran 51(3)3 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 a Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 20074.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn1.

Teitl y Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg Caerdydd a'r Fro (Corffori) 2011 a daw i rym ar 8 Ebrill 2011.

Corfforaeth Newydd2.

Ar 8 Ebrill 2011 sefydlir corff corfforaethol o'r enw Coleg Caerdydd a'r Fro, at ddibenion sefydlu a rhedeg, o'r dyddiad gweithredu ymlaen, sefydliad addysgol newydd o'r un enw.

Dyddiad gweithredu3.

Y dyddiad gweithredu a bennwyd mewn perthynas â Choleg Caerdydd a'r Fro yw 1 Awst 2011, a bydd y gorfforaeth yn rhedeg y sefydliad addysgol Coleg Caerdydd a'r Fro o'r dyddiad hwnnw ymlaen.

Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu corfforaeth addysg bellach a elwir Coleg Caerdydd a'r Fro o dan adran 16(1)(a) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“y Ddeddf”) at y diben o redeg y sefydliad addysgol sydd â'r un enw. Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer pennu 1 Awst 2011 yn ddyddiad gweithredu at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf, sef y dyddiad y bydd Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymgymryd â rhedeg, o hynny ymlaen, y sefydliad addysgol o'r un enw.

Mae drafft a chrynodeb o'r Gorchymyn hwn wedi eu cyhoeddi yn unol ag adran 51(3) o'r Ddeddf a Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007.