Search Legislation

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Medi 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Mae'r rheoliadau a nodir yn Atodlen 1 wedi eu dirymu.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “absenoldeb anawdurdodedig” (“unauthorised absence”) yw achlysur pan gofnodir bod disgybl yn absennol heb awdurdod yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010(1) a rhaid dehongli “absenoldeb awdurdodedig” (“authorised absence”) yn unol â hynny;

ystyr “adroddiad llywodraethwyr” (“governors' report”) yw'r adroddiad y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei baratoi unwaith bob blwyddyn ysgol o dan adran 30 o Ddeddf 2002;

ystyr “blwyddyn adrodd yr ysgol” (“reporting school year”) yw'r flwyddyn ysgol yn union cyn y flwyddyn ysgol pryd y mae'r corff llywodraethu yn cyhoeddi'r wybodaeth;

ystyr “categori iaith” (“language category”) yw'r categori a ddefnyddir i ddiffinio math a rhychwant yr addysg cyfrwng Gymraeg a ddarperir gan ysgol ac a osodir yn y ddogfen wybodaeth o'r enw “Diffinio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg” a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru fel Cylchlythyr 023/2007(2);

ystyr “Crynodeb Perfformiad Ysgol Uwchradd” (“Summary of Secondary School Performance”) yw crynodeb o berfformiad ysgol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar DEWi;

ystyr “cyfarfod rhieni blynyddol” (“annual parents' meeting”) yw'r cyfarfod rhieni y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei gynnal unwaith ym mhob blwyddyn ysgol o dan adran 33 o Ddeddf 2002(3);

ystyr “cyfnod allweddol” (“key stage”) yw unrhyw un o'r cyfnodau a osodir ym mharagraffau (a) i (d) o adran 103(1) o Ddeddf 2002(4);

mae “cyfnod sylfaen” i'w ddehongli'n unol â “foundation phase” yn adran 102 o Ddeddf 2002;

ystyr “cyfran o'r gyllideb” (“budget share”) yw'r swm a ddyrennir i'r corff llywodraethu yn rhinwedd adran 47 o Ddeddf 1998(5);

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(6);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(7);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “DEWi” (“DEWi”) yw cronfa ddata menter cyfnewid data Cymru a gynhelir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (8); ac

mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” gan adran 576 o Ddeddf 1996(9).

Materion i'w trin mewn adroddiad llywodraethwyr

3.  Rhaid i bob adroddiad llywodraethwyr gynnwys yr wybodaeth a bennir yn yr Atodlen 2.

Gofynion o ran adroddiad llywodraethwyr

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, mater i'r corff llywodraethu yw penderfynu ym mha iaith neu ieithoedd y mae adroddiad y llywodraethwyr i'w lunio, ac ar ba ffurf neu'r ffurfiau y mae i'w lunio ynddi neu ynddynt.

(2Rhaid i'r corff llywodraethu gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol o ran unrhyw iaith ychwanegol sydd i'w defnyddio neu o ran unrhyw ffurf ychwanegol y mae'r adroddiad i'w lunio ynddi.

5.—(1Rhaid i'r corff llywodraethu gymryd y camau hynny sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod—

(a)rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol a phob person cyflogedig yn yr ysgol yn cael (yn rhad ac am ddim) gopi o adroddiad y llywodraethwyr;

(b)copïau o'r adroddiad ar gael i'w gweld (ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl) yn yr ysgol; ac

(c)pan fo (yn rhinwedd adran 33 o Ddeddf 2002) rhwymedigaeth ar y corff llywodraethu i gynnal cyfarfod rhieni blynyddol, bod copïau o adroddiad y llywodraethwyr sydd i'w ystyried yn y cyfarfod hwnnw yn cael eu rhoi i rieni nid llai na phythefnos cyn y cyfarfod hwnnw.

(2Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1)(a), i'r graddau y mae'n ymwneud â rhieni disgyblion cofrestredig na'r gofyniad ym mharagraff (1)(c) yn gymwys os—

(a)yw'r corff llywodraethu yn cymryd y camau hynny sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol yn cael (yn ddi-dâl) gopi o'r wybodaeth sydd yn yr adroddiad yn rhinwedd paragraffau 1, 3, 5, 6, 7 ac 11 o Atodlen 2 ac yn hysbysu'r rhieni hynny ar yr un pryd am eu hawl i gael copi o'r adroddiad llawn yn unol â rheoliad 6; a

(b)pan fo (yn rhinwedd adran 33 o Ddeddf 2002) rhwymedigaeth ar y corff llywodraethu i gynnal cyfarfod rhieni blynyddol, bod gwybodaeth a hysbysiad yn cael eu rhoi i'r rhieni hynny nid llai na phythefnos cyn y cyfarfod hwnnw.

6.  Pan (yn rhinwedd rheoliad 5(2)) nad yw paragraffau (a) nac (c) o reoliad 5(1) yn gymwys, rhaid i'r corff llywodraethu roi copi o'i adroddiad llawn i unrhyw riant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol os gofynnir mewn ysgrifen iddo wneud hynny.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

29 Gorffennaf 2011

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources