Search Legislation

Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Disgrifiadau o bersonau anabl

5.—(1Diwygir rheoliad 4 fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Y disgrifiadau rhagnodedig o berson anabl y caniateir rhoi bathodyn person anabl iddo yw—

(a)person dros 3 blwydd oed sy'n dod o fewn un neu ragor o'r disgrifiadau a bennir ym mharagraff (2);

(b)person nad yw dros 3 blwydd oed sy'n dod o fewn y naill neu'r llall neu'r ddau o'r disgrifiadau a bennir ym mharagraff (3).

(3Ym mharagraff (2)—

(a)Ar ôl “disgrifiadau” mewnosoder “y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a)”;

(b)Yn is-baragraff (b)—

(i)hepgorer y geiriau “defnyddio cerbyd modur a ddarparwyd gan yr Adran Nawdd Cymdeithasol neu Weithrediaeth yr Alban neu sy'n”; a

(ii)yn lle “ag adran 5(2)(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977”, rhodder “â pharagraff 10(3) o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(1) a pharagraff 10(3) o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(2)”;

(c)ar ôl paragraff (2)(ch) mewnosoder—

(ch2)wedi—

(i)cael budd-dal cyfandaliad o dan erthygl 15(1)(a) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd wrth Gefn (Cynllun Iawndal) 2011(3) o fewn y lefelau tariff 1 i 8 (yn gynwysedig); a

(ii)wedi ei ardystio gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel un sydd ag anabledd parhaol a sylweddol sy'n achosi anallu i gerdded neu anhawster cerdded sylweddol iawn;.

(ch)yn lle is-baragraff (d) rhodder—

(d)yn gyrru cerbyd modur yn rheolaidd; sydd ag anabledd difrifol i'w ddwy fraich ac yn analluog i weithredu, neu'n cael anhawster sylweddol i weithredu, pob math neu rai mathau o feter parcio..

(4Ar ôl paragraff (2) mewnosoder y paragraffau canlynol—

(3) Y disgrifiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw—

(a)plentyn y mae'n rhaid iddo bob amser, oherwydd ei gyflwr, fynd ag offer meddygol swmpus gydag ef, na ellir ei gludo o amgylch gyda'r plentyn heb beri anhawster mawr;

(b)plentyn y mae'n rhaid iddo bob amser, oherwydd ei gyflwr, gael ei gadw'n agos at gerbyd modur er mwyn rhoi triniaeth ar gyfer y cyflwr hwnnw pe bai angen, naill ai yn y cerbyd neu drwy gludo'r plentyn yn gyflym yn y cerbyd i fan lle y gellir rhoi triniaeth o'r fath.

“(4) Yn y rheoliad hwn—

(a) mae “offer meddygol swmpus” (“bulky medical equipment”) yn cynnwys yn benodol unrhyw un o'r canlynol—

(i)peiriannau anadlu;

(ii)peiriannau sugno;

(iii)pympiau bwydo;

(iv)offer parenterol;

(v)gyrwyr chwistrelli;

(vi)offer gweini ocsigen;

(vii)offer ar gyfer monitro dirlawnder ocsigen parhaus; ac

(viii)castiau a chyfarpar meddygol cysylltiedig ar gyfer cywiro dysplasia'r glun.

(b)mae i “meter parcio” (“parking meter”) yr ystyr a roddir i “parking meter” yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(4) (gweler adrannau 46(2)(a) a 142(1)).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources