Search Legislation

Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 1 Awst 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Rhagarweiniol

2.  Diwygir Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000(1) fel a ganlyn.

Dehongli Rheoliadau 2000

3.—(1Diwygir rheoliad 2(1) fel a ganlyn—

(i)hepgorer y diffiniad o “Rheoliadau 1982”

(ii)yn y diffiniad o “person anabl” hepgorer y geiriau “dros ddwy flwydd oed”;

(iii)yn nhestun Saesneg y diffiniad o “holder”, yn lle “institution” rhodder “organisation”;

(iv)yn y testun Saesneg, hepgorer y diffiniadau o “institution” ac “institutional badge”;

(v)yn y testun Saesneg, yn union ar ôl y diffiniad o “issuing authority”, hepgorer y gair “and”;

(vi)yn y testun Saesneg, ar ôl y diffiniad o “local authority”, mewnosoder—

“organisation” (“sefydliad”) means an organisation concerned with the care of disabled persons to which a disabled person’s badge may be issued in accordance with section 21(4) of the 1970 Act; and

“organisational badge” (“bathodyn sefydliad”) means a disabled person’s badge issued to an organisation.

Dirymu darpariaethau darfodedig o Reoliadau 2000

4.—(1Diwygir rheoliad 3 fel a ganlyn.

(2Hepgorer paragraffau (1) a (2).

(3Newidier y pennawd yn unol â hynny i “Darpariaeth drosiannol”.

Disgrifiadau o bersonau anabl

5.—(1Diwygir rheoliad 4 fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Y disgrifiadau rhagnodedig o berson anabl y caniateir rhoi bathodyn person anabl iddo yw—

(a)person dros 3 blwydd oed sy'n dod o fewn un neu ragor o'r disgrifiadau a bennir ym mharagraff (2);

(b)person nad yw dros 3 blwydd oed sy'n dod o fewn y naill neu'r llall neu'r ddau o'r disgrifiadau a bennir ym mharagraff (3).

(3Ym mharagraff (2)—

(a)Ar ôl “disgrifiadau” mewnosoder “y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a)”;

(b)Yn is-baragraff (b)—

(i)hepgorer y geiriau “defnyddio cerbyd modur a ddarparwyd gan yr Adran Nawdd Cymdeithasol neu Weithrediaeth yr Alban neu sy'n”; a

(ii)yn lle “ag adran 5(2)(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977”, rhodder “â pharagraff 10(3) o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(2) a pharagraff 10(3) o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(3)”;

(c)ar ôl paragraff (2)(ch) mewnosoder—

(ch2)wedi—

(i)cael budd-dal cyfandaliad o dan erthygl 15(1)(a) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd wrth Gefn (Cynllun Iawndal) 2011(4) o fewn y lefelau tariff 1 i 8 (yn gynwysedig); a

(ii)wedi ei ardystio gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel un sydd ag anabledd parhaol a sylweddol sy'n achosi anallu i gerdded neu anhawster cerdded sylweddol iawn;.

(ch)yn lle is-baragraff (d) rhodder—

(d)yn gyrru cerbyd modur yn rheolaidd; sydd ag anabledd difrifol i'w ddwy fraich ac yn analluog i weithredu, neu'n cael anhawster sylweddol i weithredu, pob math neu rai mathau o feter parcio..

(4Ar ôl paragraff (2) mewnosoder y paragraffau canlynol—

(3) Y disgrifiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw—

(a)plentyn y mae'n rhaid iddo bob amser, oherwydd ei gyflwr, fynd ag offer meddygol swmpus gydag ef, na ellir ei gludo o amgylch gyda'r plentyn heb beri anhawster mawr;

(b)plentyn y mae'n rhaid iddo bob amser, oherwydd ei gyflwr, gael ei gadw'n agos at gerbyd modur er mwyn rhoi triniaeth ar gyfer y cyflwr hwnnw pe bai angen, naill ai yn y cerbyd neu drwy gludo'r plentyn yn gyflym yn y cerbyd i fan lle y gellir rhoi triniaeth o'r fath.

“(4) Yn y rheoliad hwn—

(a) mae “offer meddygol swmpus” (“bulky medical equipment”) yn cynnwys yn benodol unrhyw un o'r canlynol—

(i)peiriannau anadlu;

(ii)peiriannau sugno;

(iii)pympiau bwydo;

(iv)offer parenterol;

(v)gyrwyr chwistrelli;

(vi)offer gweini ocsigen;

(vii)offer ar gyfer monitro dirlawnder ocsigen parhaus; ac

(viii)castiau a chyfarpar meddygol cysylltiedig ar gyfer cywiro dysplasia'r glun.

(b)mae i “meter parcio” (“parking meter”) yr ystyr a roddir i “parking meter” yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(5) (gweler adrannau 46(2)(a) a 142(1)).

Bathodynnau sefydliad

6.  Yn lle rheoliad 5 o'r testun Saesneg, rhodder—

5    Organisational badges

An organisational badge may be issued to an organisation for a motor vehicle which is to be used to carry disabled persons falling within one or more of the descriptions specified in regulation 4(2) or (3).

Cyfnod rhoi bathodyn

7.  Yn lle rheoliad 6(2) rhodder—

(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 7(2) a 9, rhoddir bathodyn person anabl—

(a)i berson sy'n dod o fewn y disgrifiad a bennir yn rheoliad 4(1)(b), am gyfnod sy'n diweddu ar y diwrnod yn union ar ôl trydydd pen-blwydd y person hwnnw;

(b)i berson sy'n dod o fewn y disgrifiad a bennir yn rheoliad 4(2)(a) neu 4(2)(ch), am ba un bynnag yw'r byrraf o'r canlynol—

(i)y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau gyda'r dyddiad rhoi; neu

(ii)y cyfnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad rhoi ac yn dod i ben ar y dyddiad y bydd y person hwnnw'n peidio â chael cyfradd uwch cydran symudedd y lwfans byw i'r anabl neu'r atodiad symudedd;

(c)i berson nad yw'n dod o fewn is-baragraff (a) neu (b), am gyfnod o 3 blynedd sy'n dechrau gyda'r dyddiad rhoi.

Seiliau dros wrthod rhoi bathodyn

8.  Yn rheoliad 8(2)(b)(ii) o'r testun Saesneg, yn lle “institution” yn y ddau fan y mae'n digwydd rhodder “organisation”.

Dychwelyd bathodyn i'r awdurdod rhoi

9.  Yn rheoliad 9(1) o'r testun Saesneg—

(a)yn lle “institutional” yn y ddau fan y mae'n digwydd, rhodder “organisational”; a

(b)yn lle “institution” yn y ddau fan y mae'n digwydd, rhodder “organisation”.

Ffurf bathodyn

10.—(1Yn rheoliad 11(a)(ii) o'r testun Saesneg, yn lle “institutional” rhodder “organisational”.

(2Yn y testun Saesneg, yn lle Rhan II o'r Atodlen i Reoliadau 2000, rhodder y Rhan II a ddangosir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n effeithio ar ddilysrwydd bathodyn—

(a)a roddwyd cyn bo'r Rheoliadau hyn wedi dod i rym; a

(b)a oedd mewn ffurf a oedd yn cydymffurfio â Rheoliadau 2000 ar yr adeg y'i rhoddwyd.

Arddangos bathodyn sefydliad

11.—(1Yn nhestun Saesneg rheoliadau 15 ac 16, yn lle “institutional” ym mhob man y mae'n digwydd, rhodder “organisational”.

(2Yn unol â hynny, yn y testun Saesneg, newidier pennawd rheoliad 15 i “Display of an organisational badge when a vehicle is being driven” a phennawd rheoliad 16 i “Display of an organisational badge when a vehicle is parked”.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

22 Mehefin 2011

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources