- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
10 Mawrth 2010
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006.
2. Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym at y diben o wneud rheoliadau ar 15 Mawrth 2010:
(a)adran 57 (cyllido ysgolion) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau a osodir ym mharagraff (b);
(b)paragraffau 3, 4 a 5 o Atodlen 5 (cyllido ysgolion a gynhelir).
3. Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym ar 2 Ebrill 2010:
(a)adran 57 (cyllido ysgolion) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b)adran 184 (diddymiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau a nodir ym mharagraff (ch);
(c)Atodlen 5 (cyllido ysgolion a gynhelir) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(ch)yn Rhan 6 o Atodlen 18, diddymu yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998—
(i)yn adran 17(6), y geiriau o “but” ymlaen,
(ii)adran 47A(6),
(iii)yn adran 48(4), y geiriau o “the approval” hyd at “and for”,
(iv)yn Atodlen 14, paragraff 1(1) i (6), yn Atodlen 15, paragraffau 1(4) a (6), 2(5) a 3.
4. Dim ond mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2011 neu ar ôl hynny y mae'r diwygiadau a wneir i adrannau 48 a 49 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, ac Atodlen 14 iddi, gan baragraffau 3 i 5 o Atodlen 5 i Ddeddf 2006 a'r diddymiad yn Rhan 6 o Atodlen 18 i Ddeddf 2006 o baragraff 1(1) i (6) o Atodlen 14 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, yn gymwys.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
10 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn adran 57 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 ac Atodlen 5 iddi i rym at y diben o wneud rheoliadau ar 15 Mawrth 2010 ac yna'n llawn ar 2 Ebrill 2010 (ynghyd â diddymiadau cysylltiedig a wnaed gan adran 184 ac Atodlen 18).
Mae adran 57 ac Atodlen 5 yn diwygio darpariaethau Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 sy'n ymwneud ag ariannu ysgolion a gynhelir. Effaith y diwygiadau hyn fydd fel a ganlyn:
Diwygir adran 47A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (fforymau ysgolion) er mwyn cyfeirio at unrhyw swyddogaeth a osodir ar fforymau ysgolion gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a dileu'r ddarpariaeth a oedd yn caniatáu rheoliadau i roi'r pŵer i Weinidogion Cymru symud aelod nad yw'n aelod ysgolion o fforwm;
Diwygir adran 48 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac Atodlen 14 iddi fel bod dyletswydd awdurdod addysg lleol i baratoi cynllun ariannol yn cael ei disodli gan ddyletswydd i gynnal cynllun a rhaid i unrhyw gynigion i amrywio'r cynllun gael eu cyflwyno i'r fforwm ysgolion. Bydd rheoliadau'n gallu darparu ynghylch cymeradwyaeth gan y fforwm ysgolion neu gan Weinidogion Cymru;
Diwygir adran 49 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel y bydd gan ysgolion newydd gyllidebau dirprwyedig o ddyddiad a bennir mewn rheoliadau;
Diwygir Atodlen 15 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 er mwyn dileu hawl corff llywodraethu i apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn atal eu hawl i gael cyllideb ddirprwyedig.
Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaeth drosiannol er mwyn darparu mai dim ond mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2011 neu ar ôl hynny y mae'r diwygiadau a wneir i adrannau 48 a 49 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, ac Atodlen 14 iddi, yn gymwys.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 1 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 4 | 1 Medi 2009 | 2009/1027 (Cy.89) |
Adran 37(1) a (2)(a) | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 38 | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 39 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 40 | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adrannau 43—45 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 47 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 53 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 55 | 9 Chwefror 2009 | 2009/49 (Cy.17) |
Adran 89 yn rhannol | 1 Ionawr 2010 | 2009/2545 (Cy.207) |
Adran 96 yn rhannol | 1 Ionawr 2010 | 2009/2545 (Cy.207) |
Adran 156 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 164 | 1 Medi 2009 | 2009/1027 (Cy.89) |
Adran 166 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 169 | 12 Hydref 2009 | 2009/2545 (Cy.207) |
Adran 170 | 12 Hydref 2009 | 2009/2545 (Cy.207) |
Adran 171 | 12 Hydref 2009 | 2009/2545 (Cy.207) |
Adran 175 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 184 yn rhannol | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 184 yn rhannol | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 184 yn rhannol | 1 Medi 2009 | 2009/1027 (Cy.89) |
Adran 184 yn rhannol | 1 Ionawr 2010 | 2009/2545 (Cy.207) |
Atodlen 17 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Atodlen 18 yn rhannol | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Atodlen 18 yn rhannol | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Atodlen 18 yn rhannol | 1 Medi 2009 | 2009/1027 (Cy.89) |
Atodlen 18 yn rhannol | 1 Ionawr 2010 | 2009/2545 (Cy.207) |
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2006/2990 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/54, O.S. 2006/3400, O.S. 2007/935 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1271), O.S. 2007/1271, O.S. 2007/1801, O.S. 2007/3074 ac O.S. 2008/1971.
Gweler hefyd adran 188(1) a (2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 8 Tachwedd 2006 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol) ac 8 Ionawr 2007 (ddeufis yn ddiweddarach).
2006 p.40. Diwygiwyd adran 181 gan adran 23 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (2008 mccc 2).
Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: