Search Legislation

Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 9

ATODLEN 1Cyrff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion newydd sy'n bwriadu ffedereiddio

Egwyddorion cyffredinol

1.  Mae maint aelodaeth y corff llywodraethu dros dro, na chaiff fod yn llai na 15 nac yn fwy na 25 o lywodraethwyr dros dro, i'w benderfynu gan yr awdurdod lleol.

2.  Wrth benderfynu maint aelodaeth y corff llywodraethu dros dro, rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chynnwys—

(a)unrhyw noddwr-lywodraethwyr dros dro;

(b)unrhyw lywodraethwyr sefydledig dros dro a benodwyd yn unol â pharagraff 8(2); nac

(c)unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt dros dro.

3.  Wrth benderfynu maint aelodaeth y corff llywodraethu dros dro, rhaid i'r awdurdod lleol gynnwys unrhyw lywodraethwyr cymunedol ychwanegol dros dro a benodir yn unol â pharagraff 12.

4.  Pan fo cymhwyso paragraffau 5 i 10 yn cynhyrchu Rhif nad yw'n Rhif cyfan, rhaid i'r awdurdod lleol bennu naill ai'r Rhif cyfan nesaf uwchlaw neu'r Rhif cyfan nesaf islaw (yn ôl ei ddewis), ar yr amod bod cyfanswm nifer y llywodraethwyr dros dro o fewn y terfynau a bennir ym mharagraff 1.

Corff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion cymunedol, arbennig cymunedol neu ysgolion meithrin a gynhelir newydd

5.  Rhaid i gorff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir ar gyfer dwy neu ragor o ysgolion cymunedol arfaethedig, ysgolion arbennig cymunedol arfaethedig neu ysgolion meithrin a gynhelir arfaethedig yn unig, gael ei gyfansoddi fel a ganlyn—

(a)ar gyfer pob un o'r ysgolion arfaethedig, o leiaf un rhiant-lywodraethwr dros dro, a benodir i gynrychioli buddiannau rhieni plant sydd, neu sy'n debygol o fod, yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr dros dro;

(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr dros dro;

(ch)o leiaf ddau lywodraethwr awdurdod lleol dros dro;

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (dd), o leiaf ddau lywodraethwr cymunedol dros dro;

(dd)o leiaf un llywodraethwr cynrychiadol dros dro pan fo'r ffederasiwn arfaethedig yn cynnwys o leiaf un ysgol arbennig gymunedol arfaethedig, i gymryd lle nifer cydradd o'r llywodraethwyr cymunedol sy'n ofynnol o dan is-baragraff (d); ac

(e)pennaeth neu ddarpar bennaeth pob un o'r ysgolion arfaethedig, oni fydd wedi ymddiswyddo o'i swydd fel llywodraethwr.

Corff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion sefydledig neu arbennig sefydledig newydd

6.  Rhaid i gorff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir ar gyfer dwy neu ragor o ysgolion sefydledig arfaethedig neu ysgolion arbennig sefydledig arfaethedig yn unig, gael ei gyfansoddi fel a ganlyn—

(a)ar gyfer pob un o'r ysgolion arfaethedig, o leiaf un rhiant-lywodraethwr dros dro, a benodir i gynrychioli buddiannau rhieni plant sydd, neu sy'n debygol o fod, yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr dros dro;

(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr dros dro;

(ch)o leiaf ddau lywodraethwr awdurdod lleol dros dro;

(d)o leiaf ddau lywodraethwr cymunedol dros dro;

(dd)o leiaf ddau o lywodraethwyr sefydledig dros dro (neu lywodraethwyr partneriaeth dros dro, fel y bo'n briodol mewn perthynas ag unrhyw ysgol heb sefydliad); ac

(e)pennaeth neu ddarpar bennaeth pob un o'r ysgolion arfaethedig, oni fydd wedi ymddiswyddo o'i swydd fel llywodraethwr.

Corff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion gwirfoddol a reolir newydd

7.  Rhaid i gorff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir ar gyfer dwy neu ragor o ysgolion gwirfoddol a reolir arfaethedig yn unig, gael ei gyfansoddi fel a ganlyn—

(a)ar gyfer pob un o'r ysgolion arfaethedig, o leiaf un rhiant-lywodraethwr dros dro, a benodir i gynrychioli buddiannau rhieni plant sydd, neu sy'n debygol o fod, yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr dros dro;

(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr dros dro;

(ch)o leiaf ddau lywodraethwr awdurdod lleol dros dro;

(d)o leiaf ddau lywodraethwr cymunedol dros dro;

(dd)o leiaf ddau lywodraethwr sefydledig dros dro; ac

(e)pennaeth neu ddarpar bennaeth pob un o'r ysgolion arfaethedig, oni fydd wedi ymddiswyddo o'i swydd fel llywodraethwr.

Corff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir newydd

8.—(1Rhaid i gorff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir ar gyfer dwy neu ragor o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir arfaethedig yn unig, gael ei gyfansoddi fel a ganlyn—

(a)ar gyfer pob un o'r ysgolion arfaethedig, o leiaf un rhiant-lywodraethwr dros dro, a benodir i gynrychioli buddiannau rhieni plant sydd, neu sy'n debygol o fod, yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr dros dro;

(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr dros dro;

(ch)o leiaf ddau lywodraethwr awdurdod lleol dros dro;

(d)y cyfryw nifer o lywodraethwyr sefydledig dros dro ag y bo ddau yn fwy na chyfanswm nifer yr holl lywodraethwyr dros dro eraill a restrir yn is-baragraffau (a) i (ch); ac

(dd)pennaeth neu ddarpar bennaeth pob un o'r ysgolion arfaethedig, oni fydd wedi ymddiswyddo o'i swydd fel llywodraethwr.

(2Yn ychwanegol, caiff y person sydd â hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig dros dro benodi pa bynnag nifer o lywodraethwyr sefydledig dros dro (hyd at ddau, neu, os yw'r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd newydd yn unig, hyd at bedwar) ag y bo'n ofynnol i gadw eu mwyafrif.

Corff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion gwirfoddol a reolir newydd ac ysgolion cymunedol, arbennig cymunedol, neu ysgolion meithrin a gynhelir newydd

9.  Rhaid i gorff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir ar gyfer o leiaf un ysgol wirfoddol a reolir arfaethedig ac o leiaf un ysgol gymunedol arfaethedig, ysgol arbennig gymunedol arfaethedig neu ysgol feithrin a gynhelir arfaethedig gael ei gyfansoddi fel a ganlyn—

(a)ar gyfer pob un o'r ysgolion arfaethedig, o leiaf un rhiant-lywodraethwr dros dro, a benodir i gynrychioli buddiannau rhieni plant sydd, neu sy'n debygol o fod, yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr dros dro;

(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr dros dro;

(ch)o leiaf ddau lywodraethwr awdurdod lleol dros dro;

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (e), o leiaf ddau lywodraethwr cymunedol dros dro;

(dd)o leiaf ddau lywodraethwr sefydledig dros dro;

(e)o leiaf un llywodraethwr cynrychiadol dros dro pan fo'r ffederasiwn arfaethedig yn cynnwys o leiaf un ysgol arbennig gymunedol arfaethedig, i gymryd lle un o'r llywodraethwyr cymunedol sy'n ofynnol o dan is-baragraff (d); ac

(f)pennaeth neu ddarpar bennaeth pob un o'r ysgolion arfaethedig, oni fydd wedi ymddiswyddo o'i swydd fel llywodraethwr.

Corff llywodraethu dros dro ar gyfer ffederasiwn arfaethedig a gyfansoddir o fwy nag un categori o ysgol, ac yn cynnwys o leiaf un ysgol newydd sy'n ysgol sefydledig neu'n ysgol arbennig sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir

10.  Rhaid i gorff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir ar gyfer mwy nag un categori o ysgol ac o leiaf un ysgol sefydledig arfaethedig, ysgol arbennig sefydledig arfaethedig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir arfaethedig, gael ei gyfansoddi fel a ganlyn—

(a)ar gyfer pob un o'r ysgolion arfaethedig, o leiaf un rhiant-lywodraethwr dros dro, a benodir i gynrychioli buddiannau rhieni plant sydd, neu sy'n debygol o fod, yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr dros dro;

(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr dros dro;

(ch)o leiaf ddau lywodraethwr awdurdod lleol dros dro;

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (e), o leiaf ddau lywodraethwr cymunedol dros dro

(dd)o leiaf ddau o lywodraethwyr sefydledig dros dro (neu lywodraethwyr partneriaeth dros dro, fel y bo'n briodol mewn perthynas ag unrhyw ysgol heb sefydliad);

(e)o leiaf un llywodraethwr cynrychiadol dros dro pan fo'r ffederasiwn arfaethedig yn cynnwys o leiaf un ysgol arbennig gymunedol arfaethedig, i gymryd lle un o'r llywodraethwyr cymunedol sy'n ofynnol o dan is-baragraff (d); ac

(f)pennaeth neu ddarpar bennaeth pob un o'r ysgolion arfaethedig, oni fydd wedi ymddiswyddo o'i swydd fel llywodraethwr.

Noddwr-lywodraethwyr a disgybl-lywodraethwyr cyswllt dros dro

11.  Caiff corff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir yn unol â pharagraffau 5 i 10, benodi yn ychwanegol—

(a)hyd at ddau noddwr-lywodraethwr dros dro; a

(b)hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt dros dro.

Llywodraethwyr cymunedol ychwanegol dros dro

12.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gorff llywodraethu dros dro a gyfansoddir yn unol â pharagraffau 5 i 10 ar gyfer un neu ragor o'r canlynol—

(a)unrhyw ysgol arfaethedig gymunedol, wirfoddol neu sefydledig sydd i fod yn ysgol gynradd; a

(b)unrhyw ysgol feithrin arfaethedig a gynhelir;

sy'n gwasanaethu ardal sydd ag un neu ragor o gynghorau cymuned.

(2Rhaid i offeryn llywodraethu ysgol arfaethedig ddarparu bod y corff llywodraethu dros dro yn cynnwys (yn ychwanegol at y llywodraethwyr sy'n ofynnol yn rhinwedd paragraffau 5 i 11, yn ôl fel y digwydd) un llywodraethwr cymunedol dros dro a enwebir gan y cyngor cymuned.

(3Pan fo ysgol arfaethedig yn gwasanaethu ardal lle y mae dau neu ragor o gynghorau cymuned, caiff y corff llywodraethu dros dro geisio enwebiadau gan un neu ragor o'r cynghorau hynny.

Rheoliad 11

ATODLEN 2Ethol a phenodi rhiant-lywodraethwyr

1.  Yn ddarostyngedig i baragraff 2(2), yn yr Atodlen hon ystyr “corff priodol” (“appropriate body”) yw—

(a)yr awdurdod lleol pan fo'r ysgol ffederal yn ysgol gymunedol, ysgol arbennig gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu'n ysgol feithrin a gynhelir; neu

(b)corff llywodraethu'r ffederasiwn pan fo'r ysgol ffederal yn ysgol sefydledig, ysgol arbennig sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

2.—(1Os yr awdurdod lleol yw'r corff priodol mewn perthynas ag ysgol, caiff yr awdurdod lleol hwnnw ddirprwyo i bennaeth yr ysgol, neu i bennaeth y ffederasiwn, unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan yr Atodlen hon.

(2Yr awdurdod lleol fydd y corff priodol mewn perthynas ag ysgol o fewn paragraff 1(b) os bydd corff llywodraethu'r ffederasiwn a'r awdurdod lleol yn cytuno felly.

3.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 4 i 8 rhaid i'r corff priodol wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i ethol rhiant-lywodraethwyr.

4.  Rhaid i'r corff priodol benderfynu, at ddibenion ethol rhiant-lywodraethwyr, unrhyw gwestiwn pa un a yw person yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol.

5.  Yn achos y ddyletswydd a osodir gan baragraff 3—

(a)nid yw'n cynnwys pŵer i osod unrhyw ofynion ynghylch yr isafswm o bleidleisiau y mae angen eu bwrw i ymgeisydd gael ei ethol, ond

(b)mae'n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso.

6.  Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir drwy bleidlais gudd.

7.—(1Rhaid i'r trefniadau a wneir o dan baragraff 3 ddarparu bod pawb sydd â'r hawl i bleidleisio yn cael cyfle i wneud hynny drwy'r post.

(2At ddibenion is-baragraff (1), mae “post” (“post”) yn cynnwys danfon drwy law.

(3Caiff y trefniadau a wneir o dan baragraff 3 ddarparu ar gyfer rhoi cyfle i bawb sydd â hawl i bleidleisio wneud hynny drwy gyfrwng dull electronig.

8.  Pan ddaw lle'n wag i riant-lywodraethwr, rhaid i'r corff priodol gymryd y camau hynny sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod pob person y mae'n hysbys i'r corff priodol ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol—

(a)yn cael gwybod am y lle gwag a'i bod yn ofynnol ei lenwi drwy etholiad;

(b)yn cael gwybod bod ganddo hawl i sefyll fel ymgeisydd a phleidleisio yn yr etholiad; ac

(c)yn cael cyfle i wneud hynny.

9.  Rhaid sicrhau'r nifer o riant-lywodraethwyr sy'n ofynnol drwy ychwanegu rhiant-lywodraethwyr a benodir gan y corff llywodraethu, os daw un neu ragor o leoedd ar gyfer rhiant-lywodraethwyr yn wag a naill ai—

(a)bod y nifer o rieni sy'n sefyll i'w hethol yn llai na nifer y lleoedd gwag;

(b)bod o leiaf 50 y cant o'r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol yn lletywyr ac y byddai, ym marn y corff priodol, yn anymarferol ethol rhiant-lywodraethwyr; neu

(c)yn achos ysgol sy'n ysgol arbennig gymunedol neu'n ysgol arbennig sefydledig a sefydlwyd mewn ysbyty, y byddai, ym marn y corff priodol, yn anymarferol ethol rhiant-lywodraethwyr.

10.—(1Ac eithrio pan fo paragraff 11 yn gymwys, wrth benodi rhiant-lywodraethwr i gynrychioli ysgol ffederal, rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn benodi—

(a)rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol;

(b)rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol arall o fewn y ffederasiwn; neu

(c)rhiant plentyn sydd mewn oedran ysgol gorfodol, neu, yn achos ysgol feithrin a gynhelir, sydd mewn neu o dan oedran ysgol gorfodol.

(2Rhaid i'r corff llywodraethu beidio â phenodi person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b) neu (c) ac eithrio pan nad yw'n rhesymol ymarferol penodi person y cyfeirir ato yn yr is-baragraff sy'n union ragflaenu.

11.—(1Pan fo'r ysgol yn ysgol arbennig gymunedol neu'n ysgol arbennig sefydledig, wrth benodi rhiant-lywodraethwr, rhaid i gorff llywodraethu'r ffederasiwn benodi—

(a)rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol;

(b)rhiant plentyn mewn oedran ysgol gorfodol sydd ag anghenion addysgol arbennig;

(c)rhiant person o unrhyw oedran sydd ag anghenion addysgol arbennig; neu

(ch)rhiant plentyn mewn oedran ysgol gorfodol.

(2Rhaid i gorff llywodraethu'r ffederasiwn beidio â phenodi person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b), (c) neu (ch) ac eithrio pan nad yw'n rhesymol ymarferol penodi person y cyfeirir ato yn yr is-baragraff sy'n union ragflaenu.

Rheoliadau 12 a 13

ATODLEN 3Ethol athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr

1.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 2 i 4, rhaid i gorff llywodraethu'r ffederasiwn wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i ethol athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr.

2.  At y dibenion o ethol athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr, corff llywodraethu'r ffederasiwn sydd i benderfynu pa un a yw person yn athro neu athrawes ysgol neu wedi ei gyflogi i weithio yn yr ysgol rywfodd arall.

3.  Yn achos y ddyletswydd a osodir gan baragraff 1—

(a)nid yw'n cynnwys pŵer i osod unrhyw ofynion ynghylch yr isafswm o bleidleisiau y mae angen eu bwrw i ymgeisydd gael ei ethol; ond

(b)mae'n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso.

4.  Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir drwy bleidlais gudd.

Rheoliad 17

ATODLEN 4Penodi llywodraethwyr partneriaeth

1.  Pan fo'n ofynnol penodi llywodraethwr partneriaeth—

(a)rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn geisio enwebiadau gan rieni disgyblion cofrestredig mewn ysgolion yn y ffederasiwn nad oes ganddynt sefydliad a chan y cyfryw bersonau eraill y tybia'n briodol yn y gymuned a wasanaethir gan y ffederasiwn; a

(b)caiff corff llywodraethu ffederasiwn geisio enwebiadau gan rieni disgyblion cofrestredig mewn ysgolion eraill yn y ffederasiwn fel y tybia'n briodol.

2.  Ni chaiff unrhyw berson enwebu i'w benodi, na phenodi, person yn llywodraethwr partneriaeth oni fyddai'r person hwnnw'n gymwys i'w benodi gan gorff llywodraethu'r ffederasiwn yn llywodraethwr cymunedol.

3.—(1Yn achos ysgol arbennig sefydledig heb sefydliad, rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn benodi yn llywodraethwr partneriaeth o leiaf un person sydd â phrofiad o addysg ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig, onid oes diffyg enwebai cymwys sydd â phrofiad o'r fath.

(2Wrth geisio enwebiadau ar gyfer llywodraethwr partneriaeth mewn ysgolion arbennig sefydledig, rhaid i gorff llywodraethu'r ffederasiwn gymryd camau i sicrhau bod personau sy'n gwneud enwebiadau yn ymwybodol o'r gofyniad ym mharagraff (1).

4.  Yn ddarostyngedig i baragraff 5(2), ni chaiff unrhyw lywodraethwr enwebu person i'w benodi'n llywodraethwr partneriaeth.

5.—(1Rhaid i'r corff llywodraethu benodi pa bynnag nifer o lywodraethwyr partneriaeth sy'n ofynnol yn ôl yr offeryn llywodraethu o blith enwebeion cymwys.

(2Os yw'r nifer o enwebeion cymwys yn llai na'r nifer o leoedd gwag, ceir cwblhau'r nifer o lywodraethwyr partneriaeth sy'n ofynnol â phobl a ddetholir gan gorff llywodraethu'r ffederasiwn.

6.—(1Pan fo corff llywodraethu ffederasiwn yn gwneud penodiad o dan baragraff 5(2), ar ôl gwrthod unrhyw berson a enwebwyd o dan baragraff 1, rhaid iddo roi rhesymau ysgrifenedig dros ei benderfyniad i'r awdurdod lleol ac i'r person a wrthodwyd.

(2Pan fo ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan ragor nag un awdurdod lleol rhaid dehongli'r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at awdurdod lleol fel cyfeiriad at bob un o'r awdurdodau lleol.

7.  Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn wneud pob trefniant angenrheidiol ar gyfer enwebu a phenodi llywodraethwyr partneriaeth a phenderfynu ynghylch pob mater arall yn ymwneud â'u henwebu a'u penodi.

Rheoliad 18

ATODLEN 5Penodi noddwr-lywodraethwyr

1.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “noddwr” (“sponsor”) mewn perthynas â ffederasiwn yw—

(a)person sy'n rhoi neu sydd wedi rhoi cymorth ariannol sylweddol (sydd at y dibenion hyn yn cynnwys buddiant mewn nwyddau) i'r ffederasiwn neu i ysgol ffederal, ac eithrio cymorth a roddir yn unol â rhwymedigaeth statudol; neu

(b)unrhyw berson arall (nad yw wedi ei gynrychioli fel arall ar gorff llywodraethu'r ffederasiwn) sy'n darparu neu sydd wedi darparu gwasanaethau sylweddol i'r ffederasiwn neu i ysgol ffederal.

2.  Pan fo gan y ffederasiwn un neu ragor o noddwyr, caiff corff llywodraethu'r ffederasiwn benderfynu bod yr offeryn llywodraethu i ddarparu y caiff corff llywodraethu'r ffederasiwn benodi nifer o noddwr-lywodraethwyr, na fydd yn fwy na dau, a enwebir yn unol â pharagraff 3.

3.  Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn geisio enwebiadau ar gyfer penodiadau o'r fath gan noddwr y ffederasiwn neu noddwr ysgol ffederal neu (yn ôl fel y digwydd) gan unrhyw un neu ragor o noddwyr y ffederasiwn neu noddwyr ysgol ffederal.

Rheoliad 19

ATODLEN 6Penodi llywodraethwyr cynrychiadol

1.—(1Mewn perthynas ag ysgol arbennig gymunedol a sefydlir mewn ysbyty, rhaid i'r awdurdod lleol ddynodi fel y corff priodol—

(a)un bwrdd iechyd lleol y cysylltir yr ysgol agosaf ag ef neu ragor nag un bwrdd iechyd lleol y cysylltir yr ysgol agosaf â hwy i weithredu ar y cyd; neu

(b)yr ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y cysylltir yr ysgol agosaf â hi;

a rhaid i'r corff priodol benodi llywodraethwr cynrychiadol i gymryd lle un o'r nifer o lywodraethwyr cymunedol a benodir yn unol â rheoliad 22, 26 neu 27 (yn ôl fel y digwydd).

(2At ddibenion yr Atodlen hon ystyr “ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service trust”) yw corff a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).

2.  Pan nad yw ysgol arbennig gymunedol wedi ei sefydlu mewn ysbyty—

(a)caiff yr awdurdod lleol ddynodi un sefydliad gwirfoddol, neu ragor nag un sefydliad o'r fath yn gweithredu ar y cyd, fel y sefydliad gwirfoddol priodol sy'n ymwneud â'r materion y trefnwyd yr ysgol yn arbennig mewn perthynas â hwy; a

(b)pan fo sefydliad gwirfoddol priodol wedi ei ddynodi felly, rhaid iddo benodi llywodraethwr cynrychiadol i gymryd lle un o'r nifer o lywodraethwyr cymunedol a benodir yn unol â rheoliad 22, 26 neu 27 (yn ôl fel y digwydd).

Rheoliad 32

ATODLEN 7Cymwysiadau ac anghymwysiadau

Cyffredinol

1.  Ac eithrio yn achos disgybl-lywodraethwyr cyswllt, nid yw unrhyw berson yn gymwys i fod yn llywodraethwr onid yw'n 18 oed neu'n hŷn ar ddyddiad ei ethol neu ei benodi.

2.  Ni chaiff unrhyw berson ar unrhyw adeg ddal mwy nag un swydd llywodraethwr yn yr un ysgol.

3.  Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, nid yw'r ffaith bod person yn gymwys i'w ethol neu ei benodi'n llywodraethwr o gategori penodol mewn ffederasiwn yn ei anghymhwyso rhag cael ei ethol neu ei benodi neu rhag parhau'n llywodraethwr o unrhyw gategori arall yn y ffederasiwn hwnnw.

Anhwylder meddyliol

4.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr mewn ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo'n agored i gael ei gadw'n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(2) neu o dan unrhyw ailddeddfiad neu addasiad statudol o'r Ddeddf honno a fydd mewn grym o bryd i'w gilydd.

Methiant i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd

5.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw lywodraethwr nad yw'n llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd.

(2Os bydd llywodraethwr heb ganiatâd y corff llywodraethu, yn methu â bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y corff am gyfnod di-dor o chwe mis, sy'n cychwyn ar ddyddiad y cyfarfod cyntaf o'r fath lle y methodd â bod yn bresennol, bydd y llywodraethwr hwnnw, pan ddaw'r cyfnod hwnnw i ben, wedi ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd llywodraethwr yn y ffederasiwn hwnnw.

(3Pan fo llywodraethwr wedi anfon ymddiheuriad at glerc y corff llywodraethu cyn cyfarfod nad yw'n bwriadu bod yn bresennol ynddo, rhaid i gofnodion y cyfarfod gofnodi a oedd y corff llywodraethu wedi cydsynio i'r absenoldeb ai peidio, a rhaid anfon copi o'r cofnodion at y llywodraethwr dan sylw i'w breswylfa arferol.

(4Nid yw llywodraethwr a anghymhwyswyd rhag bod yn llywodraethwr ffederasiwn o dan is-baragraff (2) yn gymwys i'w ethol, i'w enwebu, nac i'w benodi yn llywodraethwr o unrhyw gategori yn y ffederasiwn hwnnw yn ystod y deuddeng mis yn union ar ôl ei anghymhwyso o dan is-baragraff (2).

Methdaliad

6.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ffederasiwn–

(a)os yw wedi ei ddyfarnu'n fethdalwr neu os yw ei stad wedi ei hatafaelu ac yntau (yn y naill achos neu'r llall) heb ei ryddhau o fethdaliad ac os nad yw'r gorchymyn methdalu wedi ei ddirymu neu ei ddadwneud neu os bod cyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled yn gymwys mewn perthynas ag ef; neu

(b)os yw wedi gwneud compownd neu drefniant â'i gredydwyr, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedaeth i'w gredydwyr, ac yntau heb ei ryddhau mewn perthynas â hynny.

Anghymhwyso cyfarwyddwyr cwmnïau

7.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo'n destun—

(a)gorchymyn anghymhwyso neu ymgymeriad anghymhwyso o dan Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986(3);

(b)gorchymyn anghymhwyso o dan Ran 2 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1989(4);

(c)ymgymeriad anghymhwyso a dderbyniwyd o dan Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002(5); neu

(ch)gorchymyn a wnaed o dan adran 429(2)(b) o Ddeddf Methdaliad 1986(6) (methu â thalu o dan orchymyn gweinyddu llys sirol).

Anghymhwyso ymddiriedolwyr elusennau

8.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ffederasiwn os yw–

(a)wedi ei ddiswyddo fel ymddiriedolwr elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiynwyr Elusennau neu'r Uchel Lys ar sail unrhyw gamymddygiad neu gamreoli yr oedd yn gyfrifol amdano neu'n ymwybodol ohono wrth weinyddu'r elusen, neu y cyfrannodd ato neu a hwylusodd drwy ei ymddygiad; neu

(b)os yw wedi ei ddiswyddo, o dan adran 34 o Ddeddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005(7) (pwerau'r Llys Sesiwn i ymdrin â rheoli elusennau), rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff.

Personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi

9.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo—

(a)wedi ei gynnwys yn y rhestr o athrawon a rhai fu'n gweithio gyda phlant neu bersonau ifanc y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir arnynt o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(8);

(b)yn destun cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf 2002;

(c)wedi ei anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan adrannau 28, 29 neu 29A o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000(9);

(ch)wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989(10) ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd;

(d)wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006(11);

(dd)wedi ei wahardd o weithgaredd a reoleiddir sy'n ymwneud â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(12);

(e)yn destun cyfarwyddyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 167A o Ddeddf 2002(13); neu

(f)wedi'i anghymhwyso, yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 470 neu adran 471 o Ddeddf 1996, rhag bod yn berchennog unrhyw ysgol annibynnol neu rhag bod yn athro neu athrawes neu gyflogai arall mewn unrhyw ysgol.

Collfarnau troseddol

10.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), anghymhwysir person rhag dal swydd, neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ffederasiwn pan fo unrhyw un o is-baragraffau (2) i (4) neu (6) yn gymwys iddo.

(2Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw—

(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi bod yn effeithiol neu, yn ôl fel y digwydd, y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd; neu

(b)ers ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr neu, yn ôl fel y digwydd, ers iddo ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd;

wedi ei gael yn euog, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar (pa un a yw'r ddedfryd yn ataliedig ai peidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb y dewis o dalu dirwy.

(3Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os cafwyd ef, o fewn cyfnod o 20 mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi dod i rym neu, yn ôl fel y digwydd, y dyddiad y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd, yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a'i ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw'n llai na dwy flynedd a hanner.

(4Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw ar unrhyw adeg wedi ei gael yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw'n llai na phum mlynedd.

(5At ddibenion is-baragraffau (2) i (4), rhaid diystyru unrhyw gollfarn gan lys y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu gerbron llys o'r fath, am drosedd na fyddai, pe bai'r ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, wedi ei hystyried yn drosedd yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig yn ôl y gyfraith mewn grym ar yr adeg yr oedd y ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd.

(6Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw—

(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi dod i rym neu, yn ôl fel y digwydd, y dyddiad y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd; neu

(b)ers ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr neu, yn ôl fel y digwydd, ers iddo ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd;

wedi ei gael yn euog o dan adran 547 o Ddeddf 1996(14) neu o dan adran 85A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(15) (niwsans neu aflonyddwch ar fangre addysgol) o drosedd ac wedi ei ddedfrydu i dalu dirwy.

Llywodraethwyr mwy na dwy ysgol

11.—(1Ac eithrio yn achos disgybl-lywodraethwyr cyswllt, ni chaiff unrhyw berson ddal swydd llywodraethwr mewn mwy na dau ffederasiwn ar unrhyw adeg.

(2At ddibenion is-baragraff (1) nid ystyrir swyddi llywodraethwyr ex officio, swyddi llywodraethwyr y mae'r Rheoliadau Ysgolion Newydd a Gynhelir yn gymwys iddynt nac unrhyw benodiad o dan adrannau 16, 16A, 18 neu 18A o Ddeddf 1998.

Gwrthod gwneud cais am dystysgrif cofnodion troseddol

12.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ar unrhyw adeg pan fydd yn gwrthod cais gan y corff llywodraethu i wneud cais o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(16) am dystysgrif cofnodion troseddol.

Hysbysu'r clerc

13.  Os yw person—

(a)wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ffederasiwn yn rhinwedd unrhyw un o'r paragraffau 6 i 11; a

(b)yn llywodraethwr neu os bwriedir iddo fod yn llywodraethwr;

rhaid iddo hysbysu clerc y corff llywodraethu o'r ffaith honno.

Rheoliad 44

ATODLEN 8Addasu'r Rheoliadau Staffio

1.  Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (7) mewnosoder y paragraff canlynol—

(8) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at bennaeth neu ddirprwy bennaeth ysgol i'w ddehongli fel cyfeiriad at bennaeth neu ddirprwy bennaeth ffederasiwn neu ysgol ffederal; a

(b)pan gyfeirir at yr awdurdod a phan fo ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan fwy nag un awdurdod, mae'r cyfeiriad i'w ddehongli fel cyfeiriad at bob un..

2.  Yn rheoliad 4 yn lle paragraff (1), rhodder y canlynol—

(1) Rhaid i gorff llywodraethu ac awdurdod arfer eu priod swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn ac unrhyw ddeddfiad arall gyda golwg ar sicrhau y cyflogir, neu y cymerir ymlaen rywfodd arall yn hytrach nag o dan gontractau cyflogaeth, staff sy'n addas ac yn ddigonol o ran eu niferoedd i sicrhau y darperir addysg sy'n briodol ar gyfer oedrannau, galluoedd, cymwyseddau ac anghenion y disgyblion gan roi sylw i unrhyw drefniadau ar gyfer defnyddio gwasanaethau'r staff a gyflogir neu y cymerir ymlaen rywfodd arall yn hytrach nag yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal o dan sylw..

3.  Yn rheoliad 6(1)(a) ar ôl “pennaeth” gosoder “perthnasol”.

4.  Yn rheoliadau 7(1), (2)(a) i (c) a (4)(c), 24A(2) a (5), 27(1) a (3), 29(1) a (4), a 32(1) yn lle “yr ysgol” ym mhob man y mae'n digwydd rhodder “y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

5.  Yn rheoliad 7(3), yn lle “staff yr ysgol” rhodder “staff y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

6.  Yn rheoliad 7(4)(a), yn lle “yr ysgol” rhodder “y ffederasiwn”.

7.  Yn rheoliad 7(4)(b) ac (ch), yn lle “ysgol” rhodder “ysgol ffederal” .

8.  Yn rheoliadau 9 ac 20 ar ôl “Mae'r Rhan hon yn gymwys i” mewnosoder “ysgolion ffederal sy'n”.

9.  Yn rheoliadau 9A(3), 9B a 20A(3) yn lle “ysgol” ym mhob man lle y mae'n digwydd rhodder “ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

10.  Yn rheoliad 10(11) yn lle “weithio yn yr ysgol” rhodder “weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

11.  Yn rheoliadau 12(1), 12(4), 12(9)(b), 12(15), 15A(1), (2) a (5), 17(1) i (3), (8) ac (11), 26(1), (5), (10)(b) ac (15) yn lle “yr ysgol” ym mhob man y mae'n digwydd rhodder “y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

12.  Yn rheoliadau 15A(4), 18(3) a 24A(4) yn lle “gweithio yn yr ysgol”, ym mhob man y digwydd, rhodder “gweithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal”.

13.  Yn rheoliad 16 yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 18—

(a)mae gan y corff llywodraethu a phennaeth y ffederasiwn ill dau bŵer i atal unrhyw berson a gyflogwyd, neu a gymerwyd ymlaen rywfodd arall yn hytrach nag o dan gontract cyflogaeth, i weithio yn y ffederasiwn; a

(b)mae gan y corff llywodraethu a phennaeth ysgol ffederal ill dau bŵer i atal unrhyw berson a gyflogwyd, neu a gymerwyd ymlaen rywfodd arall yn hytrach nag o dan gontract cyflogaeth, i weithio yn yr ysgol ffederal honno,

os yw'r corff llywodraethu neu'r pennaeth (yn ôl fel y digwydd) o'r farn bod angen atal y person hwnnw..

14.  Yn rheoliad 17(4) yn lle “yr ysgol” rhodder “yr ysgol ffederal”.

15.  Yn rheoliad 18(1) yn lle “weithio mewn ysgol” rhodder “weithio mewn ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

16.  Yn rheoliad 18(3) yn lle “ysgol” yn y lle cyntaf y mae'n digwydd rhodder “ysgol ffederal”.

17.  Yn rheoliadau 18A a 26A yn lle “ysgol” rhodder “ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

18.  Yn rheoliad 19(1) ar ôl “gynorthwyir” mewnosoder “ffederal”.

19.  Yn rheoliad 19(2)(a) ar ôl “ysgol” mewnosoder “ffederal”.

20.  Yn rheoliad 19(4) ar ôl “gynorthwyir” mewnosoder “ffederal”.

21.  Yn rheoliad 23(1) ar ôl “sy'n” mewnosoder “ysgol ffederal ac yn”.

22.  Yn rheoliad 23(5) yn lle “ysgol” rhodder “ysgol ffederal”.

23.  Yn rheoliad 24, ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

(8A) Rhaid i'r llywodraethwyr sefydledig a benodwyd mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir ffederal benodol gydsynio i unrhyw argymhelliad o dan baragraff (8)(c) mewn perthynas â phennaeth yr ysgol honno..

24.  Yn rheoliad 24A yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Ni chaiff unrhyw berson a gyflenwir gan fusnes cyflogaeth i ffederasiwn neu ysgol ffederal ddechrau gweithio fel athro neu athrawes neu aelod o staff cymorth yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal oni fydd y corff llywodraethu wedi cael—

(a)hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y busnes cyflogaeth ynglŷn â'r person hwnnw—

(i)bod y gwiriadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 15A(6) wedi cael eu gwneud;

(ii)bod cais am dystysgrif fanwl o gofnod troseddol ynghyd â datganiad o addasrwydd plant wedi cael ei wneud, neu fod tystysgrif o'r fath wedi dod i law mewn ymateb i gais a wnaed gan y busnes cyflogaeth hwnnw neu gan fusnes cyflogaeth arall; a

(iii)p'un a oedd yn datgelu, os cafodd y busnes cyflogaeth dystysgrif o'r fath cyn bod y person i ddechrau gweithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal, unrhyw fater neu wybodaeth, neu a roddwyd unrhyw wybodaeth i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997; a

(b)os cafodd y busnes cyflogaeth dystysgrif fanwl o gofnod troseddol cyn bod y person i ddechrau gweithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal, a bod honno'n datgelu unrhyw fater neu wybodaeth, neu os rhoddwyd unrhyw wybodaeth i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o'r dystysgrif..

25.  Yn rheoliad 28 yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Mae gan gorff llywodraethu a phennaeth–

(a)ffederasiwn, ill dau bŵer i atal unrhyw berson a gyflogwyd, neu a gymerwyd ymlaen rywfodd arall yn hytrach nag o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y ffederasiwn; a

(b)ysgol ffederal, ill dau bŵer i atal unrhyw berson a gyflogwyd i weithio neu a gymerwyd ymlaen rywfodd arall yn hytrach nag o dan gontract cyflogaeth i weithio yn yr ysgol ffederal honno,

os yw'n ofynnol atal y person hwnnw ym marn y corff llywodraethu neu (yn ôl fel y digwydd) y pennaeth..

26.  Yn rheoliad 32 yn lle paragraff (2), rhodder—

(2) Mae rheoliadau 16 a 17 yn gymwys mewn perthynas ag atal, diswyddo neu dynnu'n ôl o ffederasiwn neu ysgol ffederal unrhyw aelod o'r staff sydd wedi'i gyflogi gan yr awdurdod, fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag atal, diswyddo neu dynnu'n ôl o ffederasiwn neu ysgol ffederal y mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo neu iddi, berson sydd wedi ei gyflogi i weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal..

27.  Yn rheoliad 32(3) yn lle “yr ysgol” rhodder “yr ysgol ffederal” ac yn lle “fel pe bai'n ysgol” rhodder “fel pe bai'n ysgol ffederal”.

28.  Yn rheoliadau 33(1) a 34(1) ar ôl “gynorthwyir” mewnosoder “sy'n ysgol ffederal”.

29.  Yn rheoliad 35 ar ôl “arfaethedig” mewnosoder “sydd i fod yn ysgol ffederal”.

Rheoliad 45

ATODLEN 9Addasu'r Rheoliadau Cynghorau Ysgol

1.  Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “ysgol”, yn lle “ysgol a gynhelir” rhodder “ysgol a gynhelir sy'n ysgol ffederal”, ac yn lle “ysgol feithrin a gynhelir” rhodder “ysgol feithrin a gynhelir ac sydd yn ysgol ffederal”.

2.  Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “ysgol fabanod”, yn lle “ysgol a gynhelir” rhodder “ysgol a gynhelir sy'n ysgol ffederal”.

3.  Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “ganolfan adnoddau anghenion addysgol arbennig”, ar ôl “ysgol” mewnosoder “sy'n ysgol ffederal”.

4.  Yn rheoliad 3 yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn sefydlu cyngor ysgol, a'i ddiben yw galluogi disgyblion i drafod materion ynglŷn â'u hysgol, eu haddysg ac unrhyw fater arall y maent yn ymboeni amdano neu sydd o ddiddordeb ac i wneud sylwadau arnynt i'r corff llywodraethu ac i bennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal.

5.  Yn rheoliad 3(2) yn lle “bennaeth ysgol” rhodder “bennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

6.  Yn rheoliad 3(3) yn lle “phennaeth ysgol” rhodder “phennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

7.  Yn rheoliad 3(4) yn lle “phennaeth yr ysgol” rhodder “phennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

8.  Yn rheoliad 4(2) yn lle “pennaeth” rhodder “pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

9.  Yn rheoliad 4(4) yn lle “ysgol a phennaeth unrhyw ysgol” rhodder “a phennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

10.  Yn rheoliad 5 ar ôl “neu ysgolion arbennig” gosoder “sefydliadol sy'n ysgolion ffederal.”.

11.  Yn lle rheoliad 7 rhodder—

(1) Rhaid i bennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal sicrhau bod cyfle gan y cyngor ysgol i enwebu hyd at ddau ddisgybl o flwyddyn 11 i 13 (yn gynhwysol) o'i aelodaeth i fod yn ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt ar y corff llywodraethu.

(2) Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn dderbyn unrhyw ddisgybl a enwebir yn unol â pharagraff (1), a'i benodi yn ddisgybl-lywodraethwr cyswllt ar gorff llywodraethu'r ffederasiwn, ar yr amod nad yw'r disgybl wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod, yn unol ag Atodlen 10 i Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2009..

Rheoliad 72

ATODLEN 10Cyfyngiadau ar bersonau rhag cymryd rhan yn nhrafodion y corff llywodraethu neu ei bwyllgorau

Buddiannau ariannol

1.—(1At ddibenion rheoliad 72(2), mae buddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall yn cynnwys achos—

(a)pan fo person perthnasol wedi ei enwebu neu ei benodi i swydd gan berson y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef; neu

(b)pan fo person perthnasol yn bartner busnes i berson y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef; neu

(c)pan fo gan berthynas i berson perthnasol (gan gynnwys ei briod, ei bartner sifil o fewn ystyr “civil partner” yn Neddf Partneriaethau Sifil 2004(17) neu rywun sy'n byw gyda'r person hwnnw fel petai'n briod neu'n bartner sifil iddo), a'r person hwnnw'n gwybod hynny, fuddiant o'r fath neu y câi ei drin fel petai ganddo fuddiant o'r fath.

(2At ddibenion rheoliad 72(2) nid yw person perthnasol i'w drin fel petai ganddo fuddiant ariannol mewn unrhyw fater—

(a)ar yr amod nad yw ei fuddiant yn y mater yn fwy na buddiant cyffredinol y rhai hynny y telir iddynt am weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal;

(b)yn unig oherwydd iddo gael ei enwebu neu ei benodi i'r swydd gan unrhyw gorff cyhoeddus, neu ei fod yn aelod o gorff o'r fath, neu'n cael ei gyflogi gan gorff o'r fath; neu

(c)yn unig oherwydd ei fod yn aelod o gorfforaeth neu gorff arall os nad oes iddo unrhyw fuddiant ariannol mewn unrhyw warantau o eiddo'r gorfforaeth honno neu gorff arall.

(3Ni rwystrir llywodraethwr, oherwydd ei fuddiant ariannol yn y mater, rhag ystyried a phleidleisio ynghylch cynigion i'r corff llywodraethu gymryd yswiriant i ddiogelu'r aelodau rhag rhwymedigaethau yr ânt iddynt sy'n deillio o'u swydd, ac ni rwystrir y corff llywodraethu, oherwydd buddiannau ariannol ei aelodau, rhag sicrhau yswiriant o'r fath a thalu'r premiymau.

(4Ni rwystrir llywodraethwr rhag ystyried neu bleidleisio ynghylch unrhyw gynnig sy'n ymwneud â lwfansau sydd i'w talu'n unol â Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005(18) oherwydd bod ganddo fuddiant mewn taliadau o lwfansau o'r fath i aelodau'r corff llywodraethu yn gyffredinol, ond rhaid i aelod o gorff llywodraethu neu o unrhyw bwyllgor o gorff llywodraethu fynd allan o gyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir a ddylai ef gael lwfans arbennig, swm unrhyw daliad iddo neu unrhyw gwestiwn ynghylch lwfans sydd wedi ei dalu iddo, a rhaid iddo beidio â phleidleisio ar y mater.

Swydd llywodraethwr, cadeirydd, is-gadeirydd neu glerc

2.—(1Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol yn bresennol mewn cyfarfod o'r ffederasiwn neu ysgol ffederal ac un o'r canlynol yn fater i'w ystyried—

(a)ei benodiad, ei ailbenodiad, ei ataliad dros dro neu ei ddiswyddiad ei hun fel aelod o'r corff llywodraethu neu bwyllgor;

(b)ei benodiad neu ei ddiswyddiad ei hun fel clerc, cadeirydd neu is-gadeirydd y corff llywodraethu neu fel clerc neu gadeirydd pwyllgor;

(c)os yw'n noddwr-lywodraethwr, unrhyw benderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 5 ynghylch y ddarpariaeth yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer noddwr-lywodraethwyr.

(2Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid trin buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 72(2) fel pe baent yn gwrthdaro â buddiannau'r corff llywodraethu.

Talu neu arfarnu personau sy'n gweithio yn yr ysgol

3.—(1Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol, y telir iddo am weithio mewn ffederasiwn neu ysgol ffederal, ac eithrio fel pennaeth, yn bresennol mewn cyfarfod o'r ffederasiwn neu ysgol ffederal pan fo tâl neu werthuso perfformiad unrhyw berson penodol a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu'r ysgol ffederal yn fater sydd o dan ystyriaeth.

(2Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo pennaeth ffederasiwn neu ysgol ffederal yn bresennol mewn cyfarfod o'r ffederasiwn neu ysgol ffederal pan fo tâl neu werthuso perfformiad y pennaeth ei hunan yn fater sydd o dan ystyriaeth.

(3Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, rhaid trin buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 72(2) fel pe baent yn gwrthdaro â buddiannau'r corff llywodraethu.

Penodi staff

4.  Pan fo person perthnasol a gyflogir i weithio mewn ffederasiwn neu ysgol ffederal yn bresennol mewn cyfarfod o'r ffederasiwn neu ysgol ffederal a phenodi olynydd i'r person hwnnw yn fater dan ystyriaeth, rhaid iddo adael y cyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir y mater dan sylw, a rhaid iddo beidio â phleidleisio ar unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud â'r mater hwnnw.

Personau sy'n aelodau o fwy nag un corff llywodraethu

5.  Nid yw'r ffaith bod person yn llywodraethwr neu'n aelod o bwyllgor corff llywodraethu mewn mwy nag un ffederasiwn i'w ystyried, o dan unrhyw amgylchiadau, yn achos o wrthdaro rhwng buddiannau at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(8)

1999 p.14; fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14).

(10)

1989 p.41.

(11)

2006 p.21.

(12)

2006 p.47.

(13)

Mewnosodwyd adran 167A gan adran 169 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40) ond nid yw eto mewn grym.

(14)

Fel y'i diwygiwyd gan baragraff 163 i Atodlen 30 i Ddeddf 1998 a chan adran 206 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 20 i'r Ddeddf honno, a chan adran 6 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40) ac Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.

(15)

1992 p.13; mewnosodwyd gan adran 206 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 20 i'r Ddeddf honno.

(16)

1997 p.50; mewnosodwyd gan adran 163 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.15). Cafodd is-adrannau (2A) a (12) eu mewnosod, a chafodd is-adran (6) ei diwygio, gan Orchymyn Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) (Cyfathrebu Electronig) 2009 (O.S. 2009/203). Disodlwyd paragraffau (a) a (b), fel y'i hymddeddfwyd yn wreiddiol gan baragraff 149 o Atodlen 16 i Deddf y Lluoedd Arfog 2006 (p.52), gan baragraff (a) o is-adran (10).

(17)

2004 p.33.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources