- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), anghymhwysir person rhag dal swydd, neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ffederasiwn pan fo unrhyw un o is-baragraffau (2) i (4) neu (6) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw—
(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi bod yn effeithiol neu, yn ôl fel y digwydd, y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd; neu
(b)ers ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr neu, yn ôl fel y digwydd, ers iddo ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd;
wedi ei gael yn euog, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar (pa un a yw'r ddedfryd yn ataliedig ai peidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb y dewis o dalu dirwy.
(3) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os cafwyd ef, o fewn cyfnod o 20 mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi dod i rym neu, yn ôl fel y digwydd, y dyddiad y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd, yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a'i ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw'n llai na dwy flynedd a hanner.
(4) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw ar unrhyw adeg wedi ei gael yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw'n llai na phum mlynedd.
(5) At ddibenion is-baragraffau (2) i (4), rhaid diystyru unrhyw gollfarn gan lys y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu gerbron llys o'r fath, am drosedd na fyddai, pe bai'r ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, wedi ei hystyried yn drosedd yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig yn ôl y gyfraith mewn grym ar yr adeg yr oedd y ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd.
(6) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw—
(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi dod i rym neu, yn ôl fel y digwydd, y dyddiad y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd; neu
(b)ers ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr neu, yn ôl fel y digwydd, ers iddo ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd;
wedi ei gael yn euog o dan adran 547 o Ddeddf 1996(1) neu o dan adran 85A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2) (niwsans neu aflonyddwch ar fangre addysgol) o drosedd ac wedi ei ddedfrydu i dalu dirwy.
Fel y'i diwygiwyd gan baragraff 163 i Atodlen 30 i Ddeddf 1998 a chan adran 206 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 20 i'r Ddeddf honno, a chan adran 6 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40) ac Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.
1992 p.13; mewnosodwyd gan adran 206 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 20 i'r Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: