Search Legislation

Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 7PENODI SWYDDOGION, EU SWYDDOGAETHAU A'U DISWYDDO

Ethol y cadeirydd a'r is-gadeirydd

47.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 18 o Ddeddf 1998(1) (pŵer Gweinidogion Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol), rhaid i'r corff llywodraethu ethol cadeirydd ac is-gadeirydd o blith ei aelodau yn flynyddol.

(2Nid yw llywodraethwr y telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal neu sy'n ddisgybl mewn ysgol ffederal yn gymwys i fod yn gadeirydd neu'n is–gadeirydd corff llywodraethu'r ffederasiwn dan sylw.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), bydd y cadeirydd neu'r is–gadeirydd yn dal swydd hyd nes y bydd ei olynydd wedi ei ethol yn unol â pharagraff (1).

(4Caiff y cadeirydd neu'r is–gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.

(5Daw swydd y cadeirydd neu'r is–gadeirydd i ben—

(a)pan fydd yn peidio â bod yn aelod o'r corff llywodraethu;

(b)os telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal dan sylw;

(c)os diswyddir ef yn unol â rheoliad 49 neu os cymerir ei le gan gadeirydd a enwebwyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998; neu

(ch)yn achos yr is-gadeirydd, os etholir ef yn unol â pharagraff (6) i lenwi swydd wag y cadeirydd.

(6Pan ddaw swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn wag, rhaid i'r corff llywodraethu yn ei gyfarfod nesaf ethol un o'i aelodau i lenwi'r swydd honno, yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 18 o Ddeddf 1998.

(7Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir i fod yn gadeirydd neu is-gadeirydd drwy bleidlais gudd.

(8Pan fydd y cadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag ar y pryd, bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd ym mhob diben.

(9Os bydd yr is-gadeirydd yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) yn absennol o'r cyfarfod neu os bydd swydd yr is-gadeirydd yn wag ar y pryd, rhaid i'r corff llywodraethu ethol un o'i aelodau i weithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).

(10Bydd clerc y corff llywodraethu yn gweithredu fel cadeirydd yn ystod y rhan honno o unrhyw gyfarfod yr etholir y cadeirydd ynddi.

Dirprwyo swyddogaethau i'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd mewn achosion brys

48.—(1Caiff y cadeirydd, pan fo'r amgylchiadau ym mharagraff (2) yn gymwys yn ei farn ef, arfer unrhyw swyddogaethau o eiddo'r corff llywodraethu y gellir eu dirprwyo o dan reoliad 59(1).

(2Yr amgylchiadau hynny yw y byddai oedi cyn arfer y swyddogaeth yn debygol o fod yn ddifrifol niweidiol i fuddiannau—

(a)y ffederasiwn neu ysgol ffederal;

(b)unrhyw ddisgybl mewn ysgol ffederal, neu ei riant; neu

(c)person sy'n gweithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal.

(3Ym mharagraff (2), ystyr “oedi” (“delay”) yw oedi am gyfnod sy'n ymestyn y tu hwnt i'r dyddiad cynharaf y byddai'n rhesymol ymarferol cynnal cyfarfod o'r corff llywodraethu, neu gyfarfod o bwyllgor y dirprwywyd y swyddogaeth dan sylw iddo.

(4Pan ymddengys i'r is-gadeirydd—

(a)fod yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gymwys; a

(b)na fyddai'r cadeirydd (oherwydd bod y swydd yn wag neu am reswm arall) yn gallu arfer y swyddogaeth dan sylw cyn i'r niwed y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ddigwydd;

rhaid darllen y cyfeiriad at y cadeirydd ym mharagraff (1) fel pe bai'n gyfeiriad at yr is-gadeirydd.

Diswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd

49.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad ddiswyddo'r cadeirydd, onis enwebwyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad ddiswyddo'r is-gadeirydd.

(3Ni fydd penderfyniad i ddiswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn effeithiol oni fo'r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, y rhoddwyd hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 54(7).

(4Cyn i'r corff llywodraethu benderfynu diswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd, rhaid i'r llywodraethwr sy'n cynnig ei ddiswyddo ddatgan yn y cyfarfod hwnnw ei resymau dros wneud hynny a rhaid rhoi cyfle i'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd (yn ôl fel y digwydd) ymateb drwy wneud datganiad, cyn mynd allan o'r cyfarfod.

Penodi a diswyddo clerc y corff llywodraethu

50.—(1Ni fydd y rheoliad hwn yn rhagfarnu ar unrhyw hawliau a rhwymedigaethau a all fod gan y clerc o dan unrhyw gontract â'r corff llywodraethu neu â'r awdurdod lleol.

(2Rhaid i'r corff llywodraethu benodi clerc i'r corff llywodraethu.

(3Rhaid i glerc y corff llywodraethu beidio â bod—

(a)yn llywodraethwr;

(b)yn aelod nad yw'n llywodraethwr o unrhyw un o bwyllgorau'r corff llywodraethu; nac

(c)yn bennaeth y ffederasiwn neu'n bennaeth ysgol ffederal.

(4Er gwaethaf paragraff (2) caiff y corff llywodraethu, os yw'r clerc yn methu â bod yn bresennol yn un o'i gyfarfodydd, benodi unrhyw un o blith ei aelodau (ond nid pennaeth y ffederasiwn na phennaeth ysgol ffederal) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.

(5Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo clerc y corff llywodraethu.

(6Os nad oes gan yr un ysgol ffederal, ar unrhyw adeg, gyllideb ddirprwyedig(2), caiff yr awdurdod lleol ddiswyddo clerc y corff llywodraethu a phenodi un yn ei le, ar yr amod bod yr awdurdod lleol yn ymgynghori â'r corff llywodraethu cyn gweithredu felly.

Swyddogaethau clerc y corff llywodraethu

51.—(1Rhaid i glerc y corff llywodraethu—

(a)gynnull cyfarfodydd y corff llywodraethu yn unol â rheoliad 54;

(b)bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu a sicrhau y cynhyrchir cofnodion o'r trafodion yn unol â rheoliad 56(1);

(c)cadw cofrestr o aelodau'r corff llywodraethu ac adrodd am unrhyw leoedd gwag wrth y corff llywodraethu;

(ch)cadw cofrestr o bresenoldeb llywodraethwyr mewn cyfarfodydd ac adrodd ar unrhyw ddiffyg presenoldeb wrth y corff llywodraethu;

(d)rhoi a derbyn hysbysiadau yn unol â rheoliadau 29 (hysbysu swyddi gwag a phenodiadau), 34 (ymddiswyddo), 35 (diswyddo llywodraethwyr), 47(4) (ymddiswyddiad y cadeirydd neu'r is-gadeirydd) a 54(4) (cynnull cyfarfodydd) o'r Rheoliadau hyn, a pharagraff 13 o Atodlen 7 (hysbysiad o anghymhwyso) i'r Rheoliadau hyn;

(dd)adrodd wrth y corff llywodraethu fel sy'n ofynnol ar gyflawni ei swyddogaethau; ac

(e)cyflawni pa swyddogaethau eraill bynnag a benderfynir gan y corff llywodraethu o bryd i'w gilydd.

(2Caiff clerc y corff llywodraethu ddarparu cyngor i'r corff llywodraethu ynglŷn â'i swyddogaethau a'i weithdrefnau.

(1)

Diwygiwyd gan adran 56 ac adran 215 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 21 i'r Ddeddf honno. Diwygiwyd ymhellach gan adran 61 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18) ac Atodlen 9 i'r Ddeddf honno; a diwygiwyd ymhellach gan adrannau 7 ac 184 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), a Rhan 2 o Atodlen 7 a Rhan 4 o Atodlen 18 i'r Ddeddf honno.

(2)

Gweler adran 39(2) o Ddeddf 2002.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources