- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gwnaed
8 Medi 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 50(2)(c) a 51(4) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Diwygio) 2010 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2009(2) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3)(a) o erthygl 3 o flaen “10A” mewnosoder “6, 7, 9,”.
(3) Yn lle paragraff (4) o erthygl 3 rhodder—
“(4) Y diben y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw bod awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru yn paratoi cynlluniau perfformio gwerth gorau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2009-2010 a bod Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cynnal arolygiadau ar y cynlluniau hynny, ac arolygiadau eraill, er mwyn penderfynu a yw awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru wedi cydymffurfio â gofynion Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 i'r graddau y mae'r gofynion hynny'n ymwneud â'r flwyddyn ariannol 2009-2010.”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
8 Medi 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (“y Mesur”) yn diwygio sail statudol gwella gwasanaeth a chynllunio strategol gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
Cafodd darpariaethau penodol yn y Mesur eu dwyn i rym gan Orchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1) 2009 (O.S. 2009/1796 (Cy.163) (C.88)) a Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2009 (O.S. 2009/3272 (Cy.288) (C.145)) (“ Gorchymyn Rhif 2”).
Mae Gorchymyn Rhif 2 yn cynnwys darpariaethau arbed sy'n arbed darpariaethau penodol o Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (“Deddf 1999”) er mwyn galluogi awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru i baratoi cynlluniau perfformiad gwerth gorau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2009-2010 a galluogi Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal arolygiadau bod yr awdurdodau hynny yn cydymffurfio â gofynion Rhan 1 o Ddeddf 1999 yn y flwyddyn ariannol 2009-2010.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud y darpariaethau arbed a geir yn erthygl 3(3)(a) a (4) yng Ngorchymyn Rhif 2 yn fwy eglur, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: