- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau a ganlyn yn y paragraff hwn, rhaid i'r ymgymerwr ad-dalu i'r Cwmni y treuliau rhesymol a dducpwyd gan y Cwmni wrth archwilio, symud ymaith, altro neu amddiffyn unrhyw bibell berthnasol neu mewn cysylltiad â hynny, neu ag adeiladu unrhyw bibell berthnasol newydd y dichon fod ei hangen o ganlyniad i wneud unrhyw un neu ragor o'r gweithfeydd awdurdodedig.
(2) Os gosodir, yn unol â darpariaethau'r Atodlen hon, gyfarpar sy'n dal mwy, neu sy'n fwy o faint, yn lle cyfarpar presennol llai neu sy'n llai o faint, ac os nad yw'r ymgymerwr yn cytuno i osod cyfarpar sy'n dal hynny neu sydd o'r maint hwnnw, yn ôl y digwydd, neu, yn niffyg cytundeb, nas penderfynir ei fod yn angenrheidiol drwy gymrodedd yn unol ag erthygl 26, yna os yw gosod peth felly yn golygu cost wrth adeiladu gweithfeydd o dan yr Atodlen hon sy'n fwy na'r costau y byddid wedi eu dwyn petai'r cyfarpar a osodir yn dal yr un faint neu o'r un maintioli â'r offer presennol, yn ôl y digwydd, fe gwtogir y swm a fyddai ar wahân i'r paragraff hwn yn daladwy i'r Cwmni yn rhinwedd is-baragraff (1) o swm y gorfaint hwnnw.
(3) At ddibenion is-baragraff (2) ni thrinnir ymestyn cyfarpar fel ei fod yn hwy na hyd cyfarpar presennol fel gosod cyfarpar sy'n fwy na chyfarpar presennol.
(4) Fe gwtogir swm a fyddai ar wahân i'r is-baragraff hwn yn daladwy i'r Cwmni mewn perthynas â gweithfeydd yn rhinwedd is-baragraff (1), os yw'r gweithfeydd yn cynnwys gosod cyfarpar a ddarperir yn lle cyfarpar a osodwyd fwy nag 8 mlynedd ynghynt fel ei fod yn rhoi unrhyw fuddiant ariannol i'r Cwmni drwy yrru yn ôl amser adnewyddu'r cyfarpar yn ei gwrs arferol, o'r swm sy'n cynrychioli'r buddiant hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: