Search Legislation

Gorchymyn Rheilffordd Llangollen a Chorwen 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1RHAGARWEINIOL

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheilffordd Llangollen a Chorwen 2010 a daw i rym ar 27 Awst 2010.

(2Caniateir enwi Gorchymyn Rheilffordd Ysgafn Llangollen a Chorwen 1984(1) a'r Gorchymyn hwn gyda'i gilydd fel Gorchmynion Rheilffordd Llangollen a Chorwen 1984 a 2010.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

  • mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys unrhyw strwythur neu adeiledd, neu unrhyw ran o adeilad, strwythur neu adeiledd;

  • mae i'r ymadrodd “awdurdod strydoedd” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “street authority” yn Rhan 3 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991(2);

  • ystyr “y CCC” (“the PLC”) yw Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus Rheilffordd Llangollen plc, cwmni a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 a'i rif cofrestredig yw 2716476 a chyda'i swyddfa gofrestredig yng Ngorsaf y Rheilffordd, Stryd yr Abaty, Llangollen, Sir Ddinbych LL20 8SN;

  • mae “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion trosglwyddiad electronig;

  • mae “cynnal a chadw” (“maintain”) yn cynnwys arolygu, trwsio, addasu, altro, symud ymaith, ail adeiladu ac amnewid, a rhaid dehongli “gwaith cynnal a chadw” (“maintenance”) yn unol â hynny;

  • mae “cwrs dŵr” (“watercourse”) yn cynnwys pob afon, ffrwd, ffos, traen, camlas, toriad, cwlfert, arglawdd, llifddor, carthffos a llwybrau y mae dŵr yn llifo drwyddynt, ac eithrio carthffosydd neu draeniau cyhoeddus;

  • ystyr “Deddf 1961” (“the 1961 Act”) yw Deddf Iawndal Tir 1961(3);

  • ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(4);

  • ystyr “y gwaith rhestredig” (“the scheduled work”) yw'r gwaith a bennir yn Atodlen 1 (Gwaith rhestredig) neu unrhyw ran ohono;

  • ystyr “gweithfeydd awdurdodedig” (“authorised works”) yw'r gwaith rhestredig ac unrhyw weithfeydd eraill a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn;

  • ystyr “yr hen reilffordd” (“the former railway”) yw'r rheilffordd neu'r hen reilffordd a awdurdodwyd gan Ddeddf Rheilffordd Llangollen a Chorwen 1860(5) a pha faint bynnag o unrhyw reilffordd neu hen reilffordd arall ag sydd wedi'i lleoli o fewn terfynau'r Gorchymyn ynghyd â pha faint bynnag o bob gweithfeydd sy'n ymwneud â'r cyfryw reilffordd neu hen reilffordd ag sydd wedi'u lleoli felly;

  • mae i “perchennog”, mewn perthynas â thir, yr un ystyr ag sydd i “owner” yn Neddf Caffael Tir 1981(6);

  • ystyr “planiau'r gweithfeydd” (“the works plans”) yw'r planiau yr ardystiodd Gweinidogion Cymru eu bod yn blaniau'r gweithfeydd at ddibenion y Gorchymyn hwn.

  • mae i'r ymadroddion “priffordd” ac “awdurdod priffyrdd” yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion “highway” a “highway authority” yn Neddf y Priffyrdd 1980(7);

  • ystyr “y rheilffordd bresennol” (“the existing railway”) yw'r rheilffordd a awdurdodir gan Orchymyn Rheilffordd Ysgafn Llangollen a Chorwen 1984 ynghyd â'r holl diroedd a'r gweithfeydd sy'n ymwneud â'r rheilffordd honno;

  • ystyr “y rheilffordd estyniadol” (“the extension railway”) yw'r rheilffordd yr awdurdodir ei hadeiladu gan y Gorchymyn hwn ynghyd â'r holl diroedd a'r gweithfeydd sy'n ymwneud â'r rheilffordd honno a chyn cwblhau unrhyw ran o'r rheilffordd estyniadol honno bydd yr ymadrodd hwnnw yn cynnwys safle'r rhan honno;

  • ystyr “y rheilffyrdd” (“the railways”) yw'r rheilffordd bresennol a'r rheilffordd estyniadol, neu'r naill neu'r llall ohonynt;

  • mae “stryd” (“street”) yn cynnwys rhan o stryd;

  • ystyr “terfynau'r Gorchymyn” (“the Order limits”) yw unrhyw derfynau gwyriad a'r terfynau pellach;

  • ystyr “terfynau'r gwyriad” (“the limits of deviation”) yw terfynau'r gwyriad ar gyfer y gwaith rhestredig a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd;

  • ystyr “y terfynau pellach” (“the further limits”)

  • yw'r terfynau a ddangosir gan y llinellau sydd ar blaniau'r gweithfeydd ac wedi'u marcio “terfynau'r tir sydd i'w ddefnyddio” (“limits of land to be used”);

  • ystyr “y trawsluniau” (“the sections”) yw'r trawsluniau yr ardystiodd Gweinidogion Cymru eu bod yn drawsluniau at ddibenion y Gorchymyn hwn;

  • ystyr “trosglwyddiad electronig (“electronic transmission”) yw cyfathrebiad a drosglwyddir—

    (a)

    drwy rwydwaith gyfathrebu electronig; neu

    (b)

    drwy ddull arall ond yn parhau ar ffurf electronig;

  • ystyr “yr Ymddiriedolaeth” (“the Trust”) yw Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen, sef elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig drwy warant a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 a'i rif cofrestredig yw 3040336 (a ymgorfforwyd yn wreiddiol fel Cymdeithas Reilffordd Llangollen Cyfyngedig o dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965(8)) a chyda'i swyddfa gofrestredig yng Ngorsaf y Rheilffordd, Stryd yr Abaty, Llangollen, Sir Ddinbych LL20 8SN; ac

  • ystyr “yr ymgymerwr” (“the undertaker”) yw'r Ymddiriedolaeth ac yn dilyn unrhyw werthiant, prydles neu is-brydles o dan erthygl 17 (trosglwyddo rheilffyrdd gan yr ymgymerwr) bydd yr ymadrodd hwn yn golygu neu'n cynnwys y trosglwyddai o fewn ystyr yr erthygl honno.

(2Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at hawliau dros dir yn cynnwys cyfeiriadau at hawliau i wneud, neu i osod a chynnal a chadw, unrhyw beth yn y tir neu arno, neu oddi tano, neu yn y gofod awyr uwchben ei arwynebedd.

(3Brasgywir yn unig yw pob pellter, cyfeiriad a hyd a roddir mewn disgrifiad o'r gwaith rhestredig neu mewn unrhyw ddisgrifiad o bwerau neu o diroedd a chymerir y bydd pellteroedd rhwng pwyntiau ar waith rhestredig wedi'u mesur ar hyd y gwaith rhestredig.

Ymgorffori Deddf Cydgrynhoi Cymalau Rheilffyrdd 1845

3.—(1Caiff y darpariaethau a ganlyn o Deddf Cydgrynhoi Ymgorffori Cymalau Rheilffyrdd 1845(9) eu hymgorffori yn y Gorchymyn hwn—

  • adran 68 (gwaith hwyluso gan y cwmni);

  • adran 73 (dim gwaith hwyluso i fod yn ofynnol ar ôl y cyfnod rhagnodedig);

  • adran 75 (peidio â chau giatiau);

  • adrannau 103 a 104 (gwrthod gadael y goets ar ben siwrnai);

  • adran 105 (cludo nwyddau peryglus ar y rheilffordd);

  • adran 145 (adennill cosbau); ac

  • adran 154 (tramgwyddwyr crwydrol).

(2Yn y darpariaethau hynny, fel y'u hymgorfforir yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “y cwmni” (“the company”) yw'r ymgymerwr;

  • ystyr “y Ddeddf neilltuol” (“the special Act”) yw'r Gorchymyn hwn;

  • mae “nwyddau” (“goods”) yn cynnwys unrhyw beth sy'n cael ei gludo ar y rheilffordd yr awdurdodir ei hadeiladu gan y Gorchymyn hwn;

  • ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaeth yw wedi ei ragnodi gan y Gorchymyn hwn at ddibenion y ddarpariaeth honno;

  • ystyr “y rheilffordd” (“the railway”) yw'r rheilffordd estyniadol ac unrhyw weithfeydd eraill a awdurdodir; ac

  • mae “toll” (“toll”) yn cynnwys unrhyw dreth neu arwystl neu daliad arall sy'n daladwy o dan y Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddeddfiad arall ar gyfer unrhyw deithiwr neu unrhyw nwyddau a gludir ar unrhyw reilffordd yr awdurdodir ei hadeiladu gan y Gorchymyn hwn.

RHAN 2DARPARIAETHAU AM WEITHFEYDD

Prif bwerau

Y pŵer i adeiladu a chynnal a chadw gweithfeydd

4.—(1Caiff yr ymgymerwr adeiladu a chynnal a chadw'r gwaith rhestredig.

(2Yn ddarostyngedig i erthygl 6 (y pŵer i wyro), ni chaniateir adeiladu'r gwaith rhestredig ond yn unig ar y llinellau neu yn y sefyllfaoedd a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd ac yn unol â'r lefelau a ddangosir ar y trawsluniau hynny.

Y pŵer i adeiladu a chynnal a chadw gweithfeydd ategol

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr ymgymerwr wneud a chynnal a chadw pa rai bynnag o'r gweithfeydd a ganlyn ag a ddichon fod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion adeiladu'r gwaith rhestredig, neu at ddibenion ategol i hynny, sef—

(a)gweithfeydd i altro safle cyfarpar, gan gynnwys prif bibellau, carthffosydd, traeniau a cheblau;

(b)gweithfeydd i altro llwybr cwrs dŵr, neu i ymyrryd mewn modd arall ag ef;

(c)tirweddu a gweithfeydd eraill i liniaru unrhyw effeithiau andwyol a gaiff adeiladu, cynnal a chadw neu weithio'r gwaith rhestredig;

(ch)gweithfeydd er buddiant neu er diogelwch mangreoedd y mae'r gwaith rhestredig yn effeithio arnynt.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr ymgymerwr wneud y fath weithfeydd eraill (o ba natur bynnag) ag a ddichon fod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion adeiladu'r gwaith rhestredig, neu at ddibenion ategol i hynny.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr ymgymerwr yn benodol o fewn y tir a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 2 (gweithfeydd ychwanegol) wneud a chynnal a chadw unrhyw weithfeydd a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen gyda'r holl weithfeydd a'r cyfleusterau angenrheidiol sy'n gysylltiedig â'r gweithfeydd hynny.

(4Nid yw paragraffau (1) i (3) yn awdurdodi gwneud gweithfeydd neu waith cynnal a chadw y tu allan i derfynau'r gwyriad ond yn unig os yw'r cyfryw weithfeydd yn cael eu gwneud o fewn y terfynau pellach.

Y pŵer i wyro

6.  Wrth adeiladu neu gynnal a chadw'r gwaith rhestredig, caiff yr ymgymerwr—

(a)gwyro'n llorweddol oddi wrth y llinellau neu'r sefyllfaoedd a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd hyd eithaf terfynau'r gwyriad ar gyfer y gwaith hwnnw; a

(b)gwyro'n fertigol oddi wrth y lefelau a ddangosir ar y trawsluniau—

(i)i unrhyw raddau heb fod yn fwy na 3 metr tuag i fyny; neu

(ii)i unrhyw raddau tuag i lawr ag y canfyddir sy'n angenrheidiol neu'n hwylus.

Strydoedd

Mynediad at weithfeydd

7.—(1Caiff yr ymgymerwr, at ddibenion y gweithfeydd rhestredig—

(a)ffurfio a gosod mynedfeydd, neu wella mynedfeydd presennol, yn y lleoliad a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 3 (mynediad at weithfeydd) at y briffordd a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno; a

(b)gyda chymeradwyaeth yr awdurdod priffyrdd, ac nid yw'r cyfryw gymeradwyaeth i'w dal yn ôl yn afresymol, ffurfio a gosod mynedfeydd eraill, neu wella mynedfeydd presennol, yn y fath leoliadau o fewn terfynau'r Gorchymyn ag sydd yn rhesymol ofynnol gan yr ymgymerwr at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig.

(2Os yw awdurdod priffyrdd sy'n cael cais am gydsyniad o dan baragraff (1) yn methu â hysbysu'r ymgymerwr o'i benderfyniad cyn diwedd y cyfnod o 28 niwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad y gwnaed y cais arno, bernir bod yr awdurdod hwnnw wedi cydsynio iddo.

Croesfannau, etc.

8.—(1Caiff yr ymgymerwr adeiladu'r rheilffordd estyniadol fel ei fod yn mynd ar y gwastad ar draws llwybr troed FP 61 (“y llwybr troed”) 435 o fetrau i'r de-orllewin o Orsaf Carrog.

(2Wrth arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon caiff yr ymgymerwr altro lefel y llwybr troed.

(3Yn ystod adeiladu'r gweithfeydd awdurdodedig ac at y diben hwnnw caiff yr ymgymerwr, wedi iddo ymgynghori â'r awdurdod strydoedd dros y llwybr troed, rwystro pawb am unrhyw gyfnod rhesymol rhag mynd ar hyd pa faint bynnag o'r llwybr troed ag sydd o fewn terfynau'r gwyriad.

(4Caiff yr awdurdod priffyrdd a'r ymgymerwr wneud cytundebau mewn perthynas ag adeiladu a chynnal a chadw'r groesfan a awdurdodir gan yr erthygl hon; a chaiff cytundeb o'r fath gynnwys telerau o ran taliadau neu faterion eraill a ystyrir yn briodol gan y partïon.

(5Bydd gan unrhyw un sy'n cael colled oherwydd atal dros dro unrhyw hawl tramwy preifat o dan yr erthygl hon yr hawl i gael iawndal, y dyfernir arno, mewn achos o anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

Pwerau atodol

Gollwng dŵr

9.—(1Caiff yr ymgymerwr wneud defnydd o unrhyw gwrs dŵr neu draen i ddraenio dŵr mewn cysylltiad ag adeiladu neu gynnal a chadw'r gweithfeydd awdurdodedig, ac at y diben hwnnw caiff osod, codi neu altro pibellau, a chaiff, ar unrhyw dir o fewn terfynau'r Gorchymyn, dorri agoriadau i mewn i'r cwrs dŵr neu i'r draen, a gwneud cysylltiadau â hwy.

(2Rhaid i'r ymgymerwr beidio â gollwng unrhyw ddŵr i unrhyw gwrs dŵr, na thraen ac eithrio gyda chydsyniad y sawl y mae'n perthyn iddo; a chaniateir rhoi'r cydsyniad hwnnw ar y fath delerau ac amodau a osodir yn rhesymol gan y person hwnnw, ond rhaid iddo beidio â'i ddal yn ôl yn afresymol.

(3Rhaid i'r ymgymerwr beidio â thorri agoriad i mewn i unrhyw draen ac eithrio—

(a)yn unol â phlaniau a gymeradwywyd gan y sawl y mae'r draen yn perthyn iddo, ond rhaid iddo beidio â dal yn ôl y cyfryw gymeradwyaeth yn afresymol; a

(b)pan fo'r person hwnnw wedi cael cyfle i oruchwylio torri'r agoriad.

(4Rhaid i'r ymgymerwr, wrth arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon, beidio â difrodi nac ymyrryd â gwely na glannau unrhyw gwrs dŵr sy'n ffurfio rhan o brif afon.

(5Rhaid i'r ymgymerwr gymryd y fath gamau ag sydd yn rhesymol ymarferol i sicrhau bod unrhyw ddŵr a ollyngir i gwrs dŵr neu draen o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mor rhydd ag sy'n ymarferol rhag gro, pridd neu sylwedd solet arall, olew neu fater sydd mewn daliant.

(6Nid yw'r erthygl hon yn awdurdodi i unrhyw fater fynd i mewn i ddyfroedd rheoledig pan fo ei fynd i mewn neu ei ollwng i ddyfroedd rheoledig wedi ei wahardd gan adran 85(1), (2) neu (3) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(10).

(7Os yw person sy'n cael cais am gydsyniad o dan baragraff (2) neu am gymeradwyaeth o dan baragraff (3)(a) yn methu â hysbysu'r ymgymerwr o'i benderfyniad cyn diwedd y cyfnod o 28 niwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad y gwnaed y cais arno, bernir bod y person hwnnw wedi rhoi'r cydsyniad neu'r gymeradwyaeth, yn ôl y digwydd.

(8Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “traen” (“drain”) yw traen sy'n perthyn i Asiantaeth yr Amgylchedd, bwrdd traenio mewnol, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru; a

(b)mae i ymadroddion eraill, ac eithrio cyrsiau dŵr, a ddefnyddir yn nhestun Saesneg yr erthygl hon ac yn Neddf Adnoddau Dŵr 1991 yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf honno.

RHAN 3AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Amddiffyniad i achosion cyfreithiol mewn perthynas â niwsans statudol

10.—(1Os dygir achos cyfreithiol o dan adran 82(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(11) (achos gerbron ynadon gan berson a dramgwyddir gan niwsans statudol) mewn perthynas â niwsans sy'n dod o fewn paragraff (g) o adran 79(1) o'r Ddeddf honno (sŵn sy'n dod o fangre fel ei fod yn rhagfarnu iechyd neu'n niwsans) rhaid peidio â gwneud gorchymyn, ac ni chaniateir gosod dirwy, o dan adran 82(2) o'r Ddeddf honno os dengys y diffynnydd—

(a)bod y niwsans yn ymwneud â mangre a ddefnyddir gan yr ymgymerwr at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn neu mewn cysylltiad â hynny mewn perthynas â gweithfeydd awdurdodedig ac y gellir tadogi'r niwsans ar wneud y gweithfeydd awdurdodedig sy'n cael eu gwneud yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd o dan adran 60 o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974(12) neu â chydsyniad a roddwyd o dan adran 61 neu 65 o'r Ddeddf honno; neu

(b)bod y niwsans yn ganlyniad i weithio'r gweithfeydd awdurdodedig ac na ellir yn rhesymol ei osgoi.

(2Ni fydd y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974, sef—

(a)adran 61(9) (bod cydsyniad i waith ar safle adeiladu i gynnwys datganiad nad yw ynddo'i hun yn ffurfio amddiffyniad mewn achos cyfreithiol o dan adran 82 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990), a

(b)adran 65(8) (darpariaeth gyfatebol mewn perthynas â chydsyniad i fynd dros ben lefel sŵn cofrestredig),

yn gymwys pan fo'r cydsyniad yn ymwneud â defnydd o fangre gan yr ymgymerwr at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn neu mewn cysylltiad â hynny mewn perthynas â gweithfeydd.

(3Gwneir darpariaethau'r erthygl hon heb ragfarnu cymhwysiad adran 122 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(13) (awdurdod statudol fel amddiffyniad i achosion mewn niwsans, etc.) at y gweithfeydd awdurdodedig nac i gymhwysiad unrhyw reol mewn cyfraith gwlad sy'n cael effaith gyffelyb.

Caniatâd cynllunio a materion atodol

11.—(1O ran cymhwyso paragraff 3(c) o'r Ail Atodlen o Ffurf y Gorchymyn Cadw Coed a osodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Cadw Coed) 1969(14) (gan gynnwys y paragraff hwnnw fel y'i cymhwysir gan reoliad 3(ii) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Cadw Coed) (Diwygio) a (Coed mewn Ardaloedd Cadwraeth) (Achosion a Eithrir) 1975(15), neu fel y'i hymgorfforir mewn unrhyw orchymyn cadw coed), rhaid trin unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf 1990 sy'n barnu bod caniatâd cynllunio wedi ei roi mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn megis petai yn barnu bod y caniatâd wedi ei roi ar gais a wnaed o dan Ran 3 o'r Ddeddf honno at ddibenion y Rhan honno.

(2O ran cymhwyso erthygl 5(1)(d) o Ffurf y Gorchymyn Cadw Coed a osodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999(16) fel y'i hymgorfforir mewn unrhyw orchymyn cadw coed neu fel y mae'n cael ei effaith yn rhinwedd rheoliad 10(1)(a) o'r Rheoliadau hynny, rhaid peidio â thrin unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf 1990 sy'n barnu bod caniatâd cynllunio wedi ei roi mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn megis petai yn ganiatâd cynllunio amlinellol.

(3Rhaid trin caniatâd cynllunio y bernir drwy gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf 1990 ei fod wedi ei roi mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn megis petai yn ganiatâd cynllunio penodol at ddibenion adran 264(3)(a) o'r Ddeddf honno (achosion pan fo tir i gael ei drin fel tir gweithredol at ddibenion y Ddeddf honno).

Y pŵer i docio coed sy'n tyfu dros ben y gweithfeydd awdurdodedig

12.—(1Caiff yr ymgymerwr dorri i lawr neu docio unrhyw goeden neu berth gerllaw unrhyw ran o'r gweithfeydd awdurdodedig, neu dorri eu gwreiddiau'n ôl, os yw'n credu'n rhesymol bod angen gwneud hynny er mwyn rhwystro'r goeden neu'r berth—

(a)rhag rhwystro neu ymyrryd ag adeiladu, cynnal a chadw neu weithio'r gweithfeydd awdurdodedig neu unrhyw gyfarpar a ddefnyddir yn y gweithfeydd awdurdodedig; neu

(b)rhag bod yn berygl i deithwyr neu i bobl eraill sy'n defnyddio'r gweithfeydd awdurdodedig.

(2Wrth arfer pwerau paragraff (1), rhaid i'r ymgymerwr beidio â gwneud difrod dianghenraid i unrhyw goeden na pherth a rhaid iddo dalu iawndal i unrhyw berson am unrhyw golled neu ddifrod sy'n codi o arfer y pwerau hynny.

(3Dyfernir ar unrhyw anghydfod parthed hawl person i iawndal o dan baragraff (2), neu parthed swm yr iawndal, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

Y pŵer i weithio ac i ddefnyddio'r rheilffordd

13.—(1Caiff yr ymgymerwr weithio a defnyddio'r rheilffordd estyniadol a gweithfeydd awdurdodedig eraill fel system drafnidiaeth i gludo teithwyr a nwyddau, neu ran o system felly.

(2Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn, nac mewn unrhyw ddeddfiad a ymgorfforir gyda'r Gorchymyn hwn neu a gymhwysir ganddo, yn rhagfarnu nac yn effeithio ar weithrediad Rhan 1 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(17).

Y pŵer i godi taliadau am docynnau teithio

14.  Caiff yr ymgymerwr hawlio, cymryd ac adennill neu ildio codi'r cyfryw daliadau am gludo teithwyr neu nwyddau ar y rheilffordd estyniadol neu am unrhyw wasanaethau neu gyfleusterau eraill a ddarperir mewn cysylltiad â gweithio'r rheilffordd honno, ag y gwêl yn dda.

Cymhwyso deddfiadau

15.—(1Yn yr erthygl hon ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw—

(a)o ran pa faint bynnag o'r hen reilffordd sydd ym mherchnogaeth yr ymgymerwr neu sydd wedi'i phrydlesu iddo ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, y dyddiad hwnnw; a

(b)o ran unrhyw ran o'r hen reilffordd nad yw ar y dyddiad hwnnw o dan y cyfryw berchnogaeth neu brydles, y dyddiad pan werthir neu pan brydlesir y rhan honno i'r ymgymerwr.

(2Oni bai bod y Gorchymyn hwn yn darparu'n wahanol, o'r dyddiad perthnasol ymlaen—

(a)bydd yr hen reilffordd neu unrhyw ran ohoni yn parhau i fod yn ddarostyngedig i bob darpariaeth statudol a darpariaeth arall sy'n gymwys i'r hen reilffordd ar y dyddiad hwnnw (i'r graddau y maent yn parhau mewn bodolaeth ac yn gallu cael effaith); a

(b)bydd yr ymgymerwr, gan gau allan BRB (Residuary) Limited—

(i)yn cael yr hawl i'r buddiant o'r holl hawliau, y pwerau a'r breintiau sy'n ymwneud â'r hen reilffordd, a'r hawl i'w harfer; a

(ii)yn ddarostyngedig i baragraff (3), yn ddarostyngedig i'r holl rwymedigaethau, statudol neu eraill, sy'n ymwneud â'r hen reilffordd (i'r graddau y maent yn parhau mewn bodolaeth ac yn gallu cael effaith), gyda'r bwriad y bydd BRB (Residuary) Limited yn cael ei ryddhau o bob cyfryw rwymedigaeth.

(3Mae unrhyw ddeddfiad yr awdurdodwyd adeiladu a gweithio'r hen reilffordd drwyddo yn cael ei effaith yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn.

(4Yn yr erthygl hon ystyr “BRB (Residuary) Limited” yw'r cwmni o'r enw hwnnw sy'n dwyn y rhif cofrestredig 4146505 a chyda'i swyddfa gofrestredig yn 14 Pentonville Road, Llundain, N1 9HF.

Cymhwyso is-ddeddfau i'r rheilffordd estyniadol

16.—(1Bydd yr is-ddeddfau a wnaed gan Gymdeithas Rheilffordd Llangollen Cyfyngedig mewn perthynas â'r rheilffordd bresennol ac a gadarnhawyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 4 Gorffennaf 1986 yn gymwys i'r rheilffordd estyniadol megis y maent yn gymwys i'r rheilffordd bresennol.

(2Bydd paragraff (1) yn cael ei effaith mewn perthynas â'r rheilffordd estyniadol neu unrhyw ran ohoni ar y dyddiad y bydd y rheilffordd honno neu unrhyw ran ohoni wedi ei chwblhau ac ar agor i draffig ac o'r dyddiad hwnnw ymlaen.

Trosglwyddo'r rheilffyrdd gan yr ymgymerwr

17.—(1Yn yr erthygl hon—

  • mae “prydles” (“lease”) yn cynnwys is-brydles a phan ddefnyddir “prydlesu” fel berf rhaid ei dehongli yn unol â hynny;

  • ystyr “y trosglwyddai” (“the transferee”) yw unrhyw berson y prydlesir neu y gwerthir y rheilffyrdd, neu unrhyw ran ohonynt yn unol â'r erthygl hon; ac

  • ystyr “yr ymgymeraeth a drosglwyddir” (“the transferred undertaking”) yw pa faint bynnag o'r rheilffyrdd a brydlesir neu a werthir yn unol â'r erthygl hon.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) caiff yr ymgymerwr—

(a)brydlesu'r rheilffyrdd, neu unrhyw ran ohonynt, i unrhyw berson; neu

(b)gwerthu'r rheilffyrdd, neu unrhyw ran ohonynt, i unrhyw berson;

ar y fath delerau ac amodau ag y cytuna'r ymgymerwr a'r trosglwyddai arnynt.

(3Rhaid i'r ymgymerwr beidio â phrydlesu na gwerthu'r rheilffyrdd, nac unrhyw ran ohonynt, o dan yr erthygl hon i unrhyw berson ac eithrio gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

(4Oni bai bod y Gorchymyn hwn yn darparu'n wahanol,

(a)bydd yr ymgymeraeth a drosglwyddir yn parhau i fod yn ddarostyngedig i bob darpariaeth statudol a darpariaeth arall sy'n gymwys i'r ymgymeraeth a drosglwyddir ar ddyddiad y brydles neu'r gwerthiant (i'r graddau y maent yn parhau mewn bodolaeth ac yn gallu cael effaith); a

(b)bydd y trosglwyddai, gan gau allan yr ymgymerwr, (i) yn cael yr hawl i'r buddiant o'r holl hawliau, y pwerau a'r breintiau sy'n ymwneud â'r ymgymeraeth a drosglwyddir, a'r hawl i'w harfer, a (ii) yn ddarostyngedig i'r holl rwymedigaethau, statudol neu eraill, sy'n ymwneud â'r ymgymeraeth a drosglwyddir (i'r graddau y maent yn parhau mewn bodolaeth ac yn gallu cael effaith) gyda'r bwriad y bydd yr ymgymerwr yn cael ei ryddhau o bob cyfryw rwymedigaeth.

(5Bydd paragraff (4) yn cael effaith yn ystod cyfnod unrhyw brydles a roddir o dan is-baragraff (2)(a) ac o ddyddiad gweithredol unrhyw werthiant o dan is-baragraff (2)(b).

Cymhwyso cyfraith landlord a thenant

18.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys—

(a)i unrhyw gytundeb i brydlesu'r cyfan neu unrhyw ran o'r rheilffyrdd neu'r hawl i weithio'r cyfryw i unrhyw berson; a

(b)i unrhyw gytundeb a wneir gan yr ymgymerwr gydag unrhyw berson i adeiladu, i gynnal a chadw, i ddefnyddio neu i weithio'r gweithfeydd awdurdodedig, neu unrhyw ran ohonynt,

i'r graddau y mae unrhyw gytundeb o'r fath yn ymwneud â'r telerau y mae unrhyw dir sy'n ddarostyngedig i brydles a roddwyd gan y cytundeb hwnnw neu oddi tano i gael ei ddarparu at ddefnydd y person hwnnw.

(2Ni fydd unrhyw ddeddfiad na rheol gyfreithiol sy'n rheoleiddio hawliau a rhwymedigaethau landlordiaid a thenantiaid yn rhagfarnu gweithrediad unrhyw gytundeb y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo.

(3Yn unol â hynny, ni fydd deddfiad na rheol gyfreithiol o'r fath yn gymwys mewn perthynas â hawliau a rhwymedigaethau partïon i unrhyw brydles a roddwyd drwy unrhyw gytundeb o'r fath neu oddi tano fel ei bod—

(a)yn cau allan neu mewn unrhyw fodd yn addasu unrhyw un neu ragor o hawliau a rhwymedigaethau'r partïon hynny o dan delerau'r brydles, boed hynny mewn perthynas â dirwyn y denantiaeth i ben neu unrhyw fater arall;

(b)yn rhoi neu'n gosod ar unrhyw barti o'r fath unrhyw hawl neu rwymedigaeth sy'n codi allan o unrhyw beth sy'n cael ei wneud neu sy'n ddiffygiol o gael ei wneud neu sy'n gysylltiedig â hynny mewn perthynas â thir sy'n ddarostyngedig i'r brydles, yn ychwanegol at unrhyw hawl neu rwymedigaeth o'r fath y darperir ar ei gyfer yn nhelerau'r brydles; neu

(c)yn cyfyngu unrhyw barti i'r brydles rhag gorfodi (boed hynny drwy achos am iawndal neu mewn modd arall) unrhyw rwymedigaeth sydd ar unrhyw barti arall o dan y brydles.

Rhwystro adeiladu gweithfeydd awdurdodedig

19.  Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol—

(a)yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr ymgymerwr wrth osod llinellau'r gwaith rhestredig neu wrth adeiladu unrhyw waith awdurdodedig; neu

(b)yn ymyrryd â, neu'n symud neu'n symud ymaith unrhyw gyfarpar sy'n perthyn i unrhyw berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr ymgymerwr,

yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Tresmasu

20.—(1Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn tresmasu ar unrhyw ran o'r rheilffyrdd; neu

(b)yn tresmasu ar unrhyw dir i'r ymgymerwr yn beryglus o agos at y rheilffyrdd neu at unrhyw gyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gweithio'r rheilffyrdd neu mewn cysylltiad â hynny,

yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(2Ni chaiff neb ei gollfarnu o dramgwydd o dan yr erthygl hon oni ddangosir bod hysbysiad yn rhybuddio'r cyhoedd i beidio â thresmasu ar y rheilffyrdd wedi ei arddangos yn glir ac yn cael ei gynnal a'i gadw ar yr orsaf reilffordd agosaf at y man lle'r honnir y cafodd y tramgwydd ei gyflawni.

Er mwyn diogelu Asiantaeth yr Amgylchedd

21.  Bydd Atodlen 4 yn cael ei heffaith.

Er mwyn diogelu Dŵr Cymru Cyfyngedig

22.  Bydd Atodlen 5 yn cael ei heffaith.

Ardystio planiau, etc.

23.  Rhaid i'r ymgymerwr, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi gwneud y Gorchymyn hwn, gyflwyno copïau o'r trawsluniau ac o'r planiau gwaith i Weinidogion Cymru iddynt ardystio eu bod, yn eu tro, yn gopïau cywir o'r trawsluniau a'r planiau gwaith y cyfeirir atynt yn y Gorchymyn hwn; ac fe dderbynnir dogfen a ardystiwyd yn y modd hwnnw mewn unrhyw achos cyfreithiol fel tystiolaeth o gynnwys y ddogfen y mae'n gopi ohoni.

Cyflwyno hysbysiadau

24.—(1Caniateir cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall y mae'n ofynnol ei chyflwyno neu y mae awdurdod i'w chyflwyno at ddibenion y Gorchymyn hwn—

(a)drwy'r post; neu

(b)gyda chydsyniad y sawl sydd i'w derbyn ac yn ddarostyngedig i baragraffau (6) i (8) drwy drosglwyddiad electronig.

(2Os corff corfforaethol yw'r person y cyflwynir hysbysiad neu ddogfen arall iddo at ddibenion y Gorchymyn hwn, mae'r hysbysiad neu'r ddogfen wedi ei chyflwyno'n briodol os cyflwynwyd hi i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.

(3At ddibenion adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(18) fel y mae i'w chymhwyso at ddibenion yr erthygl hon, cyfeiriad priodol unrhyw berson mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad neu ddogfen i'r person hwnnw o dan baragraff (1), os rhoddodd y person hwnnw gyfeiriad ar gyfer cyflwyno yw'r cyfeiriad hwnnw, ac fel arall—

(a)yn achos ysgrifennydd neu glerc corff corfforaethol, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff hwnnw; a

(b)yn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person hwnnw ar adeg y cyflwyno.

(4Os yw'n ofynnol, neu os oes awdurdod, at ddibenion y Gorchymyn hwn, bod hysbysiad neu ddogfen arall yn cael ei chyflwyno i berson oherwydd bod ganddo unrhyw fuddiant mewn tir, neu ei fod yn feddiannydd tir, ac na ellir canfod enw neu gyfeiriad y person hwnnw wedi ymholi rhesymol caniateir cyflwyno'r hysbysiad drwy—

(a)ei gyfeirio at y person hwnnw wrth ei enw neu drwy ei ddisgrifio fel “perchennog”, neu yn ôl y digwydd “meddiannydd”, y tir (gan ddisgrifio'r tir); a

(b)naill ai ei adael yn nwylo'r person sydd, neu yr ymddengys ei fod, yn preswylio ar y tir neu wedi'i gyflogi ar y tir, neu ludo'r hysbysiad yn amlwg i ryw adeilad neu wrthrych ar y tir neu yn agos ato.

(5Os cyflwynir neu os anfonir hysbysiad neu ddogfen arall y mae'n ofynnol eu cyflwyno neu eu hanfon at ddibenion y Gorchymyn hwn drwy drosglwyddiad electronig cymerir y bydd y gofyniad wedi'i gyflawni os yw'r sawl sy'n cael yr hysbysiad neu'r ddogfen arall i'w trosglwyddo wedi rhoi ei gydsyniad i ddefnyddio trosglwyddiad electronig naill ai yn ysgrifenedig neu drwy drosglwyddiad electronig.

(6Os yw'r sawl sy'n cael hysbysiad neu ddogfen arall a gyflwynir neu a anfonir drwy drosglwyddiad electronig yn hysbysu'r anfonwr o fewn 7 diwrnod i gael y ddogfen fod ar y sawl sy'n cael y ddogfen angen copi ar bapur o'r cyfan neu unrhyw ran o'r hysbysiad hwnnw neu'r ddogfen arall honno rhaid i'r anfonwr ddarparu copi o'r fath cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(7Caniateir i berson sydd wedi rhoi unrhyw gydsyniad i ddefnyddio trosglwyddiad electronig ddirymu'r cydsyniad hwnnw yn unol â pharagraff (8).

(8Os nad yw person mwyach yn fodlon derbyn trosglwyddiad electronig at unrhyw un neu ragor o ddibenion y Gorchymyn hwn—

(a)rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad yn ysgrifenedig neu drwy drosglwyddiad electronig yn dirymu unrhyw gydsyniad a roddodd at y diben hwnnw; a

(b)bydd y cyfryw ddirymiad yn derfynol ac yn cael ei effaith ar ddyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad ond ni fydd y dyddiad hwnnw lai na 7 diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad arno.

(9Ni ellir cymryd bod yr erthygl hon yn cau allan defnyddio unrhyw ddull o gyflwyno na ddarperir yn benodol ar ei gyfer ynddi.

Dim adennill dwbl

25.  Ni fydd iawndal yn daladwy mewn perthynas â'r un mater o dan y Gorchymyn hwn ac yn ogystal o dan unrhyw ddeddfiad, unrhyw gontract neu unrhyw reol gyfreithiol arall.

Cymrodeddu

26.  Cyfeirir unrhyw wahaniaeth o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, oni wneir darpariaeth wahanol ar ei gyfer, at un cymrodeddwr y bydd y partïon yn cytuno arno, neu yn niffyg cytundeb, a benodir ar gais y naill neu'r llall o'r partïon (wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r parti arall) gan Lywydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil, a bydd yr un cymrodeddwr hwnnw yn dyfarnu ar y gwahaniaeth hwnnw.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru.

25 Awst 2010

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources