- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG CYMRU
Gwnaed
5 Hydref 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Hydref 2009
Yn dod i rym
2 Tachwedd 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 72 a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) a'r pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 19(3), 21(3), 34(5), 35(4) a (5), 36(4) a (5) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(2), ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 2 Tachwedd 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Dirymir rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Adolygu Strwythur Staffio) (Cymru) 2005(3).
3. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 2002” (“2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
4. Ar ôl rheoliad 5 o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(4) mewnosoder y testun canlynol:
5A.—(1) Rhaid i'r corff llywodraethu sicrhau bod y pennaeth yn yr ysgol—
(a)yn cydymffurfio â'r dyletswyddau a osodir ar y pennaeth; a
(b)yn elwa ar unrhyw hawlogaeth a roddir i'r pennaeth
drwy unrhyw orchymyn o dan adran 122 o Ddeddf 2002 (cyflog ac amodau athrawon)(5).
(2) Wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (1)(a), rhaid i'r corff llywodraethu roi sylw i'r dymunoldeb bod y pennaeth yn gallu cael cydbwysedd boddhaol rhwng yr amser y mae ei angen arno i gyflawni ei ddyletswyddau proffesiynol a'r amser y mae ei angen arno i ddilyn ei ddiddordebau personol y tu allan i'r gwaith.”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
5 Hydref 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 drwy gydgrynhoi'r darpariaethau sydd eisoes yn bodoli a thrwy osod dyletswyddau newydd ar gyrff llywodraethu.
Dirymir rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Adolygu Strwythur Staffio) (Cymru) 2005 a'i ailddatgan yn rheoliad 5A o rheoliadau 2006 gyda rhai diwygiadau. Gwelwyd Rheoliadau 2005 fel mesurau trosiannol a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2008 ac eithrio rheoliad 5. Yr oedd rheoliad 5 yn darparu bod yn rhaid i gorff llywodraethu wrth iddo reoli pennaeth roi sylw i'r dymunoldeb bod y pennaeth yn gallu cael cydbwysedd boddhaol rhwng gwaith a bywyd. Mae'r rheoliad 5A newydd yn sicrhau bod y ddyletswydd hon yn parhau.
Mae rheoliad 5A hefyd yn cynnwys dyletswydd newydd bod cyrff llywodraethu'n sicrhau bod penaethiaid yn cydymffurfio â'r dyletswyddau a osodir arnynt drwy orchmynion a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 122 o Ddeddf Addysg 2002. Gwelir y dyletswyddau hyn yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.
1998 p. 31. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 72, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
2002 p.32. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Caniateir i orchymyn o dan adran 122 gael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: