- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i gynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael trwydded gan yr Awdurdod Trwyddedau cyn bod gwaith penodedig yn cael ei wneud mewn stryd benodedig.
(2) Rhaid i gynllun trwyddedau bennu personau (neu fathau o bersonau) nad yw'r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys iddynt a'r amgylchiadau (neu fathau o amgylchiadau) nad yw'r gofyniad hwnnw'n gymwys ynddynt.
(3) Rhaid i gynllun trwyddedau bennu'r wybodaeth a fydd yn mynd gyda chais am drwydded, a chaniateir iddo bennu ym mha fodd ac o fewn pa gyfnod y dylid cyflwyno ceisiadau o'r fath.
(4) Rhaid i gynllun trwyddedau ei gwneud yn ofynnol i bob cais am drwydded gael ei gyfyngu i un stryd.
(5) Rhaid i gynllun trwyddedau ei gwneud yn ofynnol i bob cais am drwydded neu am amrywio trwydded roi amcangyfrif o barhad tebygol y gwaith sy'n destun y cais hwnnw.
(6) Rhaid i gynllun trwyddedau ddarparu bod pob trwydded yn pennu'r cyfnod amser pryd y bydd y gwaith penodedig ar stryd benodedig wedi'i awdurdodi gan y drwydded honno.
(7) Caiff cynllun trwyddedau ddarparu bod dosbarthiadau gwahanol o drwydded yn ofynnol mewn perthynas ag amgylchiadau gwahanol.
(8) Caiff cynllun trwyddedau ddarparu, pan fo bwriad i wneud y gwaith penodedig perthnasol mewn mwy nag un is-gyfnod, fod yn rhaid cael trwydded ar wahân mewn cysylltiad â phob is-gyfnod.
(9) Rhaid i gynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth i'w gwneud yn ofynnol i gopi o bob cais am drwydded gael ei ddarparu gan y ceisydd, pan ofynnir am gopi o'r fath, i unrhyw awdurdod perthnasol ac i unrhyw berson arall a chanddo offer yn y stryd y mae'r cais yn ymwneud â hi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: