- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
20 Mawrth 2007
Yn dod i rym
29 Mawrth 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 72 a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a'r pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 19(3), 34(5), 35(4) a (5), 36(4) a (5), 210(7) a 214 o Ddeddf Addysg 2002(2):
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 29 Mawrth 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn rheoliad 17(2) o Reoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002(3), yn lle “pharagraff 23 o Atodlen 16 a pharagraff 22 o Atodlen 17 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998” rhodder “rheoliad 6 o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006”.
3.—(1) Yn rheoliad 50(1) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(4), hepgorer y geiriau “a rheoliadau 12 a 21 o Reoliadau Staffio Ysgolion (Cymru) 2005”.
(2) Yn rheoliad 51(1) yn lle “10 a 24” rhodder “10(9) i (20), 24(8) i (19) a 34”.
4.—(1) Diwygier Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(5) yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 3(1) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—
“mae i'r term “busnes cyflogaeth” yr ystyr a roddir i “employment business” gan adran 13(3) o Ddeddf Asiantaethau Cyflogaeth 1973 ac mae'n cynnwys awdurdod lleol a pherson sy'n cynnal busnes cyflogaeth;
ystyr “corff llywodraethu” (“governing body”) yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir y mae'r rheoliad sy'n cynnwys yr ymadrodd hwnnw'n gymwys iddi;
mae i'r term “datganiad o addasrwydd plant” yr ystyr a roddir i “children’s suitability statement” gan adran 113C(2) o Ddeddf yr Heddlu 1997.”
(3) Ar ôl paragraff (4) yn rheoliad 3 mewnosoder —
“(5) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at —
(a)rheoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;
(b)paragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad yr ymddengys y cyfeiriad ynddo.
(6) Mae rheoliadau 4 i 7 yn gymwys i —
(a)ysgolion cymunedol;
(b)ysgolion gwirfoddol a reolir;
(c)ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir;
(ch)ysgolion sefydledig;
(d)ysgolion arbennig cymunedol;
(dd)ysgolion arbennig sefydledig; a
(e)ysgolion meithrin a gynhelir.
(7) At ddibenion y rheoliadau hyn mae person yn gwneud cais am dystysgrif fanwl o gofnod troseddol os bydd y person yn cydlofnodi cais am y dystysgrif fel person cofrestredig (o fewn ystyr adran 120 o Ddeddf yr Heddlu 1997) neu os cydlofnodir cais ar ei ran, a bod y cais yn cael ei gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol yn unol â Rhan V o'r Ddeddf honno.”.
(4) Yn rheoliad 4(1), yn lle “Mewn unrhyw ysgol mae'n rhaid cyflogi, neu gymryd ymlaen heblaw o dan gontractau cyflogaeth, staff sy'n addas” rhodder “Rhaid i gorff llywodraethu ac awdurdod addysg lleol arfer eu swyddogaethau perthnasol o dan y Rheoliadau hyn ac o dan unrhyw ddeddfiad arall er mwyn sicrhau bod staff yn cael eu cyflogi, neu eu cymryd ymlaen o dan gontractau cyflogaeth, sy'n addas”.
(5) Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder y canlynol—
9A.—(1) Rhaid i'r awdurdod wirio pwy yw unrhyw berson a benodir o dan reoliadau 10, 12 neu 15 a rhaid i'r awdurdod wirio'i hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.
(2) Rhaid i'r awdurdod gael tystysgrif fanwl o gofnod troseddol a ddyroddwyd yn unol â Rhan V o Ddeddf yr Heddlu 1997 ynglŷn â phob person o'r fath cyn ei benodi neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl ei benodi, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath.
(3) Yn achos unrhyw berson o'r fath, am ei fod wedi byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig, nad yw cael tystysgrif o'r fath ar ei gyfer yn ddigonol i gadarnhau ei addasrwydd i weithio mewn ysgol, rhaid i'r awdurdod wneud gwiriadau pellach y mae o'r farn eu bod yn briodol, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(4) Rhaid cwblhau'r gwiriadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (3) cyn penodi person.
(5) Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i berson sydd wedi gweithio—
(a)mewn ysgol yng Nghymru mewn swydd a ddaeth ag ef i gyswllt rheolaidd â phlant neu bobl ifanc, neu
(b)mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yr oedd ei swydd yn golygu darparu addysg a oedd yn dod ag ef yn rheolaidd i gyswllt â phlant neu bobl ifanc,
yn ystod cyfnod a ddaeth i ben heb fod yn fwy na thri mis cyn ei benodiad.”.
(6) Ar ôl rheoliad 9A mewnosoder y canlynol—
9B. Mae rheoliad 9A hefyd yn gymwys o ran unrhyw berson a benodir gan yr awdurdod er mwyn gweithio mewn ysgol y mae'r Rhan hon neu Ran 3 yn gymwys iddi.”.
(7) Yn rheoliadau 12(1) a 12(2) yn lle “(3) i (7)” rhodder “(6) to (14)”.
(8) Yn rheoliad 12(6) yn lle “paragraffau (7) i (16)” rhodder “paragraffau (7) i (14)”.
(9) Ar ôl rheoliad 14 mewnosoder y canlynol—
15A.—(1) Ni chaiff unrhyw berson sy'n cael ei gyflenwi gan fusnes cyflogaeth i ysgol ddechrau gweithio fel athro neu athrawes neu aelod o staff cymorth yn yr ysgol oni fydd yr awdurdod neu (yn ôl y digwydd) y corff llywodraethu wedi cael—
(a)hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y busnes cyflogaeth ynglŷn â'r person hwnnw—
(i)bod y gwiriadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) wedi cael eu gwneud;
(ii)bod cais am dystysgrif fanwl o gofnod troseddol ynghyd â datganiad o addasrwydd plant wedi cael ei wneud, neu fod tystysgrif o'r fath wedi dod i law mewn ymateb i gais a wnaed gan y busnes cyflogaeth hwnnw neu gan fusnes cyflogaeth arall; a
(iii)p'un a oedd yn datgelu, os cafodd y busnes cyflogaeth dystysgrif o'r fath cyn bod y person i ddechrau gweithio yn yr ysgol, unrhyw fater neu wybodaeth, neu a roddwyd unrhyw wybodaeth i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997; a
(b)os cafodd y busnes cyflogaeth dystysgrif fanwl o gofnod troseddol cyn bod y person i ddechrau gweithio yn yr ysgol, a bod honno'n datgelu unrhyw fater neu wybodaeth, neu os rhoddwyd unrhyw wybodaeth i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o'r dystysgrif.
(2) Ac eithrio yn achos person y mae paragraff (3) yn gymwys iddo rhaid bod y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(a)(ii) wedi dod i law ddim llai na thri mis cyn y dyddiad y mae'r person i ddechrau gweithio yn yr ysgol.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i berson sydd wedi gweithio—
(a)mewn ysgol yng Nghymru mewn swydd a ddaeth ag ef i gyswllt rheolaidd â phlant neu bobl ifanc, neu
(b)mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yr oedd ei swydd yn golygu darparu addysg a oedd yn dod ag ef yn rheolaidd i gyswllt â phlant neu bobl ifanc,
yn ystod cyfnod a ddaeth i ben heb fod yn fwy na thri mis cyn y dyddiad y mae i ddechrau gweithio yn yr ysgol.
(4) Cyn y caiff person a gynigir ar gyfer gwaith cyflenwi gan fusnes cyflogaeth ddechrau gweithio yn yr ysgol rhaid i'r corff llywodraethu yn yr ysgol wirio pwy ydyw (p'un a wnaed gwiriad o'r fath gan y busnes cyflogaeth cyn cynnig y person am waith cyflenwi ai peidio).
(5) Rhaid i'r awdurdod neu (yn ôl y digwydd) y corff llywodraethu yn y contract neu mewn unrhyw drefniadau eraill y mae'n ei wneud neu eu gwneud gydag unrhyw fusnes cyflogaeth ei gwneud yn ofynnol iddo, o ran unrhyw berson y mae'r busnes cyflogaeth yn ei gyflenwi ar gyfer yr ysgol—
(a)darparu'r hysbysrwydd y cyfeirir ato ym mharagraff (1), a
(b)os bydd unrhyw dystysgrif fanwl o gofnod troseddol y bydd y busnes cyflogaeth yn ei chael yn cynnwys unrhyw fater neu wybodaeth, neu os cafodd unrhyw wybodaeth ei rhoi i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997, ddarparu copi o'r dystysgrif.
(6) At ddibenion paragraff (1)(a)(i) ystyr “gwiriadau” yw—
(a)gwirio pwy yw rhywun;
(b)gwiriad i gadarnhau os yw person yn destun cyfarwyddyd a wnaed o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002 neu unrhyw waharddiad, cyfyngiad neu orchymyn sy'n cael effaith fel cyfarwyddyd o'r fath;
(c)gwiriad i gadarnhau a yw'n bodloni'r gofynion ynglyn â gofynion cymhwyster unrhyw staff;
(ch)gwiriad yn unol â rheoliad 9A(3);
(d)bod tystysgrif fanwl o gofnod troseddol yn ei gylch wedi dod i law; a
(dd)gwiriad o'i hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.”.
(10) Ar ôl rheoliad 18 mewnosoder y canlynol—
18A. Pan fydd aelod o staff ysgol yn symud o swydd nad oedd yn ei ddwyn i gyswllt yn rheolaidd â phlant neu bobl ifanc i swydd sydd yn gwneud hynny, rhaid i'r awdurdod gael tystysgrif fanwl o gofnod troseddol ynglyn ag ef cyn iddo symud i'w swydd newydd neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl hynny, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath.”.
(11) Ar ôl rheoliad 20 mewnosoder y canlynol—
20A.—(1) Rhaid i'r corff llywodraethu wirio pwy yw unrhyw berson a benodir o dan reoliadau 24, 26 a 27 a rhaid i'r corff llywodraethu wirio'i hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.
(2) Rhaid i'r corff llywodraethu gael tystysgrif fanwl o gofnod troseddol a ddyroddwyd yn unol â Rhan V o Ddeddf yr Heddlu 1997 ynglŷn â phob person o'r fath cyn ei benodi neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl ei benodi, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath.
(3) Yn achos unrhyw berson o'r fath, am ei fod wedi byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig, nad yw cael tystysgrif o'r fath ar ei gyfer yn ddigonol i gadarnhau ei addasrwydd i weithio mewn ysgol, rhaid i'r corff llywodraethu wneud gwiriadau pellach y mae o'r farn eu bod yn briodol, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(4) Rhaid cwblhau'r gwiriadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (3) cyn penodi person.
(5) Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i berson sydd wedi gweithio—
(a)mewn ysgol yng Nghymru mewn swydd a ddaeth ag ef i gyswllt rheolaidd â phlant neu bobl ifanc, neu
(b)mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yr oedd ei swydd yn golygu darparu addysg a oedd yn dod ag ef yn rheolaidd i gyswllt â phlant neu bobl ifanc,
yn ystod cyfnod a ddaeth i ben heb fod yn fwy na thri mis cyn ei benodiad.”.
(12) Yn rheoliad 21(1)(a) yn lle “24 neu 26(12) i (16)” rhodder “24 i 25 neu 33 a 34”.
(13) Ar ôl rheoliad 24 mewnosoder y canlynol—
24A.—(1) Ni chaiff unrhyw berson sy'n cael ei gyflenwi gan fusnes cyflogaeth i ysgol ddechrau gweithio fel athro neu athrawes neu aelod o staff cymorth yn yr ysgol oni fydd y corff llywodraethu wedi cael—
(a)hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y busnes cyflogaeth ynglyn â'r person hwnnw—
(i)bod y gwiriadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 15A(6) wedi cael eu gwneud;
(ii)bod cais am dystysgrif fanwl o gofnod troseddol ynghyd â datganiad o addasrwydd plant wedi cael ei wneud, neu fod tystysgrif o'r fath wedi dod i law mewn ymateb i gais a wnaed gan y busnes cyflogaeth hwnnw neu gan fusnes cyflogaeth arall; a
(iii)p'un a oedd yn datgelu, os cafodd y busnes cyflogaeth dystysgrif o'r fath cyn bod y person i ddechrau gweithio yn yr ysgol, unrhyw fater neu wybodaeth, neu a roddwyd unrhyw wybodaeth i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997; a
(b)os cafodd y busnes cyflogaeth dystysgrif fanwl o gofnod troseddol cyn bod y person i ddechrau gweithio yn yr ysgol, a bod honno'n datgelu unrhyw fater neu wybodaeth, neu os rhoddwyd unrhyw wybodaeth i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o'r dystysgrif.
(2) Ac eithrio yn achos person y mae paragraff (3) yn gymwys iddo rhaid bod y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(a)(ii) wedi dod i law ddim llai na thri mis cyn y dyddiad y mae'r person i ddechrau gweithio yn yr ysgol.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i berson sydd wedi gweithio—
(a)mewn ysgol yng Nghymru mewn swydd a ddaeth ag ef i gyswllt rheolaidd â phlant neu bobl ifanc, neu
(b)mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yr oedd ei swydd yn golygu darparu addysg a oedd yn dod ag ef yn rheolaidd i gyswllt â phlant neu bobl ifanc,
yn ystod cyfnod a ddaeth i ben heb fod yn fwy na thri mis cyn y dyddiad y mae i ddechrau gweithio yn yr ysgol.
(4) Cyn y caiff person a gynigir ar gyfer gwaith cyflenwi gan fusnes cyflogaeth ddechrau gweithio yn yr ysgol rhaid i'r corff llywodraethu yn yr ysgol wirio pwy ydyw (p'un a wnaed gwiriad o'r fath gan y busnes cyflogaeth cyn cynnig y person am waith cyflenwi ai peidio).
(5) Rhaid i'r corff llywodraethu yn y contract neu mewn unrhyw drefniadau eraill y mae'n ei wneud neu eu gwneud gydag unrhyw fusnes cyflogaeth ei gwneud yn ofynnol iddo, o ran unrhyw berson y mae'r busnes cyflogaeth yn ei gyflenwi ar gyfer yr ysgol—
(a)darparu'r hysbysrwydd y cyfeirir ato ym mharagraff (1), a
(b)os bydd unrhyw dystysgrif fanwl o gofnod troseddol y bydd y busnes cyflogaeth yn ei chael yn cynnwys unrhyw fater neu wybodaeth, neu os cafodd unrhyw wybodaeth ei rhoi i'r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997, ddarparu copi o'r dystysgrif.
(14) Yn rheoliad 26(1) a 26(2) yn lle “(16)” rhodder “(14)”.
(15) Yn rheoliad 26(7) yn lle “paragraffau (8) i (16)” rhodder “paragraffau (8) i (14)”.
(16) Yn rheoliad 26(14) yn lle “y paragraff hwn” rhodder “paragraff (12)”.
(17) Ar ôl rheoliad 26 mewnosoder y canlynol—
26A. Pan fydd aelod o staff ysgol yn symud o swydd nad oedd yn ei ddwyn i gyswllt yn rheolaidd â phlant neu bobl ifanc i swydd sydd yn gwneud hynny, rhaid i'r corff llywodraethu gael tystysgrif fanwl o gofnod troseddol ynglyn ag ef cyn iddo symud i'w swydd newydd neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl hynny, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath.”.
(18) Yn rheoliad 33 —
(a)yn lle paragraff (2) rhodder y paragraff canlynol—
“(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae paragraffau (3) i (5) yn effeithiol o ran llenwi swydd wag pan fo honno'n swydd pennaeth yr ysgol, yn hytrach na rheoliad 24(7) i (18).”;
(b)ym mharagraff (6) yn lle “(12)” rhodder “(18)”.
(19) Yn rheoliad 34(1) —
(a)yn lle “(6)” rhodder “(5)”;
(b)yn lle “(12)” rhodder “(18)”.
(20) Yn rheoliad 34(2)(b) yn lle “(9)” rhodder “(15)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Mawrth 2007
(Nid yw'r nodyn hyn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (Rheoliadau 2006).
Mae rheoliad 2 yn cynnwys diwygiad i Reoliadau Gwerthuso Athrawon (Cymru) 2002 OS 2002/1394 (Cy.137).
Mae rheoliad 3 yn cynnwys diwygiad i reoliadau 50(1) a 51(1) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 OS 2005/2914 (Cy.211).
Mae rheoliad 4(2) yn mewnosod diffiniad o 'corff llywodraethu' yn Rheoliadau 2006.
Mae rheoliad 4(3) yn mewnosod diffiniad o 'rheoliadau' yn Rheoliadau 2006.
Mae rheoliad 4(4) yn datgan i ba gategorïau o ysgolion y bydd rheoliadau 4 i 7 o Reoliadau 2006 yn gymwys.
Mae rheoliad 4(5) ac (11) yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau 2006 sy'n ei gwneud yn ofynnol i wirio pwy yw person a gwirio'i hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol, yn ddarostyngedig i eithriadau, bod person a benodwyd yn athro neu'n athrawes neu'n aelod o'r staff cymorth, cyn iddo gael ei benodi neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo gael ei benodi, yn destun gwiriad manwl y Swyddfa Cofnodion Troseddol (“SCT”) a wneir o dan Ddeddf yr Heddlu 1997.
Mae rheoliadau 4(7)(8)(12)(14)(15)(16)(18)(19) a (20) yn cynnwys diwygiadau i groesgyfeiriadau yn Rheoliadau 2006.
Mae rheoliadau 4(9) a (13) yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau 2006 sy'n rhwystro athro neu athrawes neu aelod o'r staff cymorth a gyflenwir gan asiantaeth rhag gweithio mewn ysgol hyd nes y bydd yr asiantaeth wedi cadarnhau bod gwiriadau wedi cael eu gwneud, ac mae'n ofynnol i ysgolion yn eu trefniadau gydag asiantaethau i'w gosod o dan rwymedigaeth i ddarparu'r wybodaeth hon.
Mae rheoliadau 4(10) a (17) yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau 2006 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod aelod staff sy'n symud o swydd nad oedd yn ei ddwyn yn rheolaidd i gyswllt â phlant neu bobl ifanc i swydd sydd yn gwneud hynny yn yr un ysgol yn destun gwiriad manwl y SCT cyn bod y person yn dechrau yn ei swydd newydd neu cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.
1998 p.31. Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
2002 p.32. Gweler adran 212 i gael y diffiniad o “regulations”. Yn rhinwedd y diffiniad hwnnw mae'r rheoliadau hyn sy'n cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gymwys i Gymru yn unig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: