Search Legislation

Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 1047 (Cy.105)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007

Wedi'i wneud

27 Mawrth 2007

Yn dod i rym

30 Mawrth 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 7, 8(1), 37, 38(1), 39, 83(2) a 87(2), (3) a (5)(a) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1), ac a freiniwyd ynddo bellach(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007. Daw i rym ar 30 Mawrth 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

(2Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn, ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn y Rheoliadau canlynol, yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag ystyr yr ymadroddion Saesneg hynny yn y Rheoliadau hynny.

(3Y Rheoliadau yw—

(a)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ar ddiogelu anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo a gweithrediadau cysylltiedig a'r Cyfarwyddebau diwygio, sef 64/432/EEC a 93/119/EC, a Rheoliad (EC) 1255/97(3);

(b)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97 ynghylch meini prawf y Gymuned ar gyfer mannau aros ac yn diwygio'r cynllun o'r llwybr y cyfeirir ato yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 91/628/EEC(4).

(4Ystyr “awdurdod lleol” (“local authority) mewn perthynas ag ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno.

(5Ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(6Mae unrhyw gyfeiriad at y Rheoliadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3) yn gyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.

Ymestyn y diffiniad o “animals” a “poultry”

3.  At ddibenion y Ddeddf yn y modd y mae'n gymwys i'r Gorchymyn hwn, mae'r diffiniadau o “animals” a “poultry” yn adran 87 o'r Ddeddf yn cael eu hymestyn i gwmpasu pob anifail asgwrn cefn a phob anifail di-asgwrn-cefn â gwaed oer.

RHAN 2Cludo Anifeiliaid

Darpariaeth gyffredinol ynghylch diogelu anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo

4.—(1Mae'n dramgwydd i gludo unrhyw anifail mewn ffordd sy'n peri, neu'n debyg o beri, i'r anifail hwnnw gael ei anafu neu iddo ddioddef yn ddiangen.

(2Mae'n dramgwydd i gludo unrhyw anifail ac eithrio yn y cynwysyddion neu'r cyfryngau cludo, o dan yr amodau (yn benodol gyda golwg ar le, awyru, tymheredd a diogelwch) a chyda'r cyflenwadau hylif ac ocsigen, sy'n briodol ar gyfer y rhywogaeth o dan sylw.

(3Mae'r erthygl hon yn gymwys i gludo anifeiliaid di-asgwrn-cefn â gwaed oer.

(4Mae'r erthygl hon yn gymwys i gludo anifeiliaid asgwrn cefn ac eithrio'r rhai y mae Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 yn gymwys iddynt.

Cludo

5.—(1Bydd person sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf—

(a)Erthygl 3 (amodau cyffredinol ar gyfer cludo anifeiliaid);

(b)Erthygl 4(1) (mae Erthygl 4 yn ymwneud â dogfennaeth gludo);

(c)Erthygl 5(1) (mae Erthygl 5 yn ymwneud â rhwymedigaethau cynllunio i gludo anifeiliaid);

(ch)Erthygl 6(1) (mae Erthygl 6 yn ymwneud â chludwyr);

(d)o 5 Ionawr 2008 ymlaen, Erthygl 6(5);

(dd)Erthygl 7 (arolygu cyfrwng cludo ymlaen llaw a'i gymeradwyo ymlaen llaw);

(e)pwyntiau 1.8, 1.9 neu 1.11 Pennod III o Atodiad I (mae Pennod III yn ymwneud ag arferion cludo).

(2Ni chaiff neb dynnu ymaith, difwyno, dileu na newid unrhyw farc a wneir o dan baragraff (3) o erthygl 24 (pwerau arolygwyr);

(3Rhaid cadw copïau o'r ddogfennaeth y cyfeirir ati yn Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 am 6 mis o'r dyddiad y cwblhawyd y daith.

Cludwyr

6.  Bydd cludwr sy'n methu â chydymffurfio â darpariaethau canlynol Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf—

(a)Erthygl 4(2) (mae Erthygl 4 yn ymwneud â dogfennaeth gludo);

(b)Erthygl 5(2) a (4) (mae Erthygl 5 yn ymwneud â rhwymedigaethau cynllunio ar gyfer cludo anifeiliaid);

(c)Erthygl 6(2), (3), (4), (6) ac (8) (mae Erthygl 6 yn ymwneud â chludwyr);

(ch)Erthygl 6(9)—

(i)yn achos cyfrwng cludo ar y ffordd sydd mewn gwasanaeth am y tro cyntaf ar neu ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym; a

(ii)yn achos pob cyfrwng cludo ar y ffordd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009;

(d)Erthygl 12 (mae Erthygl 12 yn ymwneud â chyfyngu ar geisiadau am awdurdodiad).

Llestri gyrru mewn ac allan

7.—(1Bydd meistr llestr gyrru mewn ac allan sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 3.1 Pennod II o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (mae Pennod II yn ymwneud â darpariaethau ychwanegol ar gyfer cludo ar lestri gyrru mewn ac allan) yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf.

(2Ni chaiff unrhyw gludwr gludo anifeiliaid ar lestr gyrru mewn ac allan oni bai bod meistr y llestr wedi gwirio'n gyntaf y materion y cyfeirir atynt yn y pwynt hwnnw.

Trefnwyr

8.  Bydd trefnydd sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r rhwymedigaethau yn Erthygl 5(3) a (4) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (mae Erthygl 5 yn ymwneud â rhwymedigaethau cynllunio i gludo anifeiliaid) yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf.

Ceidwaid

9.  Bydd ceidwad sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 8 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (ceidwaid mewn mannau ymadael, mannau trosglwyddo neu gyrchfannau) yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf.

Canolfannau cynnull

10.  Bydd gweithredydd canolfan gynnull sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 9 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (canolfannau cynnull) yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf.

Safleoedd rheoli

11.—(1Mae'n dramgwydd i berson weithredu safle rheoli onid yw wedi'i gymeradwyo at y diben hwnnw.

(2Mae'n dramgwydd i unrhyw berson weithredu neu ddefnyddio safle rheoli onid yw wedi'i gymeradwyo yn unol ag Erthygl 3(1) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97.

(3Bydd gweithredydd safle rheoli sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97 yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf—

(a)Erthygl 4 (defnyddio safleoedd rheoli);

(b)Erthygl 5 (gweithredu safleoedd rheoli);

(c)Erthygl 6(1) (cadarnhau bod anifail yn ffit i barhau ar ei daith).

RHAN 3Rhanddirymiadau ar gyfer cyfryngau cludo ar y ffordd ar deithiau o dan 12 awr

Cymhwyso

12.  Yn unol ag Erthygl 18(4) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, mae'r rhanddirymiadau yn y Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â chyfrwng cludo ar y ffordd a ddefnyddir ar gyfer taith nad yw'n hwy na 12 awr er mwyn cyrraedd y gyrchfan derfynol (“cyfrwng cludo ar y ffordd”).

Rhanddirymu arolygu a chymeradwyo

13.  At ddibenion Erthygl 18(1) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, nid oes angen tystysgrif gymeradwyaeth ar gyfrwng cludo ar y ffordd a ddefnyddir i gludo anifeiliaid ac eithrio equidae domestig neu anifeiliaid domestig o deulu'r ych, teulu'r ddafad, teulu'r afr, neu deulu'r mochyn.

Rhanddirymu'r gofyniad am fynediad parhaus i ddwr

14.  At ddibenion pwynt 1.4(b) Pennod V o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, yn ystod taith—

(a)nid oes ar foch angen mynediad parhaus i ddwr ar gyfrwng cludo ar y ffordd;

(b)rhaid cynnig dwr i foch bob hyn a hyn fel y bo'n briodol a rhoi cyfle digonol iddynt yfed.

Rhanddirymu'r gofyniad ynghylch to sydd wedi'i inswleiddio

15.  At ddibenion pwynt 1.1 Pennod VI o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, nid oes angen inswleiddio to ar gyfrwng cludo ar y ffordd.

Rhanddirymu'r gofynion ynghylch tymheredd

16.—(1At ddibenion pwynt 3.1 Pennod VI o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, caniateir i dymheredd ar gyfrwng cludo ar y ffordd ostwng islaw 0°C yn ystod taith—

(a)hyd at yr amser y caiff y cyfrwng cludo ar y ffordd ei symud am y tro cyntaf yn y man ymadael; a

(b)yn ystod unrhyw ddadlwytho a llwytho sy'n digwydd mewn mannau trosiannol ar y daith.

(2Ond pan fo'r tymheredd yn gostwng islaw 0°C, rhaid darparu i foch, sy'n pwyso llai na 30kg ac nad yw eu mam yn mynd gyda hwy ar y daith, ddigon o ddeunydd sarn sy'n briodol i'r rhywogaeth er mwyn sicrhau eu bod yn ddigon cynnes a chysurus.

Rhanddirymu'r gofyniad ynghylch systemau awyru

17.  O ran y system awyru ar gyfrwng cludo ar y ffordd—

(a)nid yw'n ofynnol iddi fod â'r galluoedd a ddisgrifir ym mhwynt 3.2 Pennod VI o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005;

(b)rhaid bod modd ei haddasu er mwyn sicrhau y cedwir at y gofynion ar gyfer tymereddau a nodir yn y pwynt hwnnw ac yn erthygl 16(1) yn ystod y daith.

Rhanddirymu'r gofynion ynghylch monitro tymheredd

18.  Nid yw'n ofynnol cael y systemau monitro tymheredd, cofnodi data a rhybuddio y cyfeirir atynt ym mhwyntiau 3.3 a 3.4 Pennod VI o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ar gyfrwng cludo ar y ffordd.

Rhanddirymu'r gofyniad ynghylch system lywio

19.  Nid yw'n ofynnol cael y system lywio y cyfeirir ati ym mhwynt 4.1 Pennod VI o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ar gyfrwng cludo ar y ffordd.

RHAN 4Cymeradwyaethau

Yr awdurdod cymwys

20.—(1Y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion rhoi neu ddyroddi—

(a)awdurdodiadau i gludwyr yn unol ag Erthyglau 10, 11 a 13 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005;

(b)tystysgrifau hyfedredd yn unol ag Erthygl 17(2) o'r Rheoliad hwnnw;

(c)tystysgrifau cymeradwyo cyfryngau cludo ar y ffordd yn unol ag Erthygl 18(1) o'r Rheoliad hwnnw;

(ch)tystysgrifau cymeradwyo llestri da byw yn unol ag Erthygl 19(1) o'r Rheoliad hwnnw.

(2At ddibenion y Rheoliad hwnnw, y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys ar gyfer—

(a)cael hysbysiadau o newidiadau sy'n ymwneud ag awdurdodiadau yn unol ag Erthygl 6(2);

(b)derbyn dogfennau yn unol ag Erthygl 6(5), (8) a (9) a phwynt 3(b) o Atodiad II;

(c)gwirio ac arolygu logiau teithio yn unol ag Erthygl 14(1) ac ail baragraff pwynt 5 o Atodiad II;

(ch)cyflawni gwiriadau sy'n ymwneud â theithiau hir yn unol ag Erthygl 15;

(d)cofnodi gwybodaeth ynglyn â llestri da byw yn unol ag Erthygl 19(3) a (4);

(dd)arolygu llestri da byw yn unol ag Erthygl 20;

(e)ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd, os na fydd cludwyr yn cydymffurfio, yn unol ag Erthygl 23;

(f)cael hysbysiadau gan awdurdodau cymwys eraill o fethiant â chydymffurfio, yn unol ag Erthygl 26(2) a (3);

(ff)cymryd camau, os bydd toriadau, yn unol ag Erthygl 26;

(g)arolygu anifeiliaid, cyfryngau cludo a'r ddogfennaeth sy'n mynd gyda hwy yn unol ag Erthygl 27(1);

(ng)cymeradwyo cymdeithasau dosbarthu yn unol â phwynt 1 Pennod IV o Atodiad I.

(3Y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion—

(a)rhoi neu ddyroddi cymeradwyaethau yn unol ag Erthyglau 3 a 4(2) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97;

(b)derbyn gwybodaeth am anifeiliaid, sy'n pasio drwy safle rheoli, yn unol ag Erthygl 5(h) ac (i) o'r Rheoliad hwnnw.

(4Y Cynulliad Cenedlaethol sy'n gyfrifol am arfer swyddogaethau Aelod-wladwriaeth at ddibenion—

(a)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005;

(b)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97,

ac am ddynodi cyrff yn unol ag Erthyglau 17(2), 18(1) a 19(1) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005.

Cymeradwyaethau, awdurdodiadau etc.

21.  O ran unrhyw gymeradwyaethau, awdurdodiadau neu dystysgrifau a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 neu Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97

(a)rhaid iddynt fod mewn ysgrifen;

(b)caniateir iddynt gael eu gwneud yn destun amodau; ac

(c)caniateir iddynt gael eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu ar unrhyw bryd.

Atal cymeradwyaethau, dirymu cymeradwyaethau etc.

22.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy hysbysiad, atal neu ddiwygio cymeradwyaeth, awdurdodiad, tystysgrif gymeradwyaeth neu dystysgrif hyfedredd os yw wedi'i fodloni bod unrhyw un o'r amodau y cafodd y gymeradwyaeth neu'r dystysgrif ei rhoi odano neu y cafodd yr awdurdodiad ei roi odano wedi'i dorri neu fod unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97 neu'r Gorchymyn hwn wedi'i thorri.

(2O ran ataliad o dan baragraff (1)—

(a)mae'n effeithiol ar unwaith pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei fod yn angenrheidiol i ddiogelu lles yr anifeiliaid;

(b)ni fydd yn effeithiol fel arall am o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.

(3Yn yr hysbysiad rhaid—

(a)rhoi rhesymau;

(b)datgan pryd y daw ei effaith i rym ac, yn achos ataliad, datgan ar ba ddyddiad neu adeg pa ddigwyddiad y mae ei effaith i ddod i ben; ac

(c)esbonio hawl derbynnydd yr hysbysiad i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(4Pan na fo'r hysbysiad yn effeithiol ar unwaith, a bod sylwadau yn cael eu cyflwyno o dan erthygl 23, ni fydd diwygiad neu ataliad yn effeithiol tan y penderfyniad terfynol gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag erthygl 23 oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol er mwyn diogelu lles anifeiliaid i'r diwygiad neu'r ataliad fod yn effeithiol ar unwaith a'i fod yn rhoi hysbysiad i'r perwyl hwnnw.

(5Pan gaiff ataliad ei gadarnhau, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy hysbysiad, ddirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad, tystysgrif gymeradwyaeth neu dystysgrif hyfedredd os caiff ei fodloni na chydymffurfir â'r Gorchymyn hwn, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 na Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97.

(6Rhaid peidio â dyroddi hysbysiad o dan baragraff (5) hyd oni fydd y broses yn erthygl 23 (os bydd un) wedi'i chwblhau.

Cyflwyno sylwadau i berson penodedig

23.—(1Caiff person gyflwyno i berson a benodir at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol sylwadau ysgrifenedig yn erbyn gwrthod, diwygio, atal neu ddirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad neu dystysgrif neu yn erbyn amod sydd ynddi neu ynddo.

(2Rhaid i unrhyw sylwadau gael eu cyflwyno o fewn 21 o ddiwrnodau o gael hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Rhaid i'r person penodedig ystyried y sylwadau a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad terfynol a'i resymau i'r person sy'n cyflwyno'r sylwadau.

RHAN 5Amrywiol

Pwerau arolygwyr

24.—(1Os yw arolygydd o'r farn bod anifeiliaid yn cael eu cludo, neu i'w cludo, mewn ffordd sydd—

(a)yn mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn; neu

(b)yn dramgwydd yn erbyn y Ddeddf yn rhinwedd y Gorchymyn hwn,

caiff gyflwyno hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros yr anifeiliaid yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i sicrhau cydymffurfedd â'r Gorchymyn hwn, gan roi rhesymau dros y gofynion.

(2Caiff arolygydd yn benodol—

(a)gwahardd cludo'r anifeiliaid, naill ai am gyfnod amhenodol neu am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad;

(b)pennu o dan ba amodau y caniateir i'r anifeiliaid gael eu cludo;

(c)ei gwneud yn ofynnol i'r daith gael ei chwblhau, neu i'r anifeiliaid gael eu dychwelyd i'w man ymadael, gan ddilyn y llwybr mwyaf uniongyrchol, ar yr amod na fyddai'r dull gweithredu hwn yn peri i'r anifeiliaid ddioddef yn ddiangen;

(ch)ei gwneud yn ofynnol i anifeiliaid nad ydynt yn ffit i gwblhau eu taith gael eu dadlwytho, eu dyfrhau, eu bwydo neu eu gorffwys;

(d)ei gwneud yn ofynnol i'r anifeiliaid gael eu cadw mewn llety addas lle cânt ofal priodol hyd nes y bydd y broblem a nodwyd yn yr hysbysiad wedi'i datrys;

(dd)ei gwneud yn ofynnol i'r anifeiliaid gael eu cigydda neu eu lladd heb boen; neu

(e)ei gwneud yn ofynnol i gyfrwng cludo neu gynhwysydd gael ei drwsio neu ei amnewid cyn iddo gael ei ddefnyddio i gludo anifeiliaid.

(3Pan fo'n angenrheidiol at ddibenion adnabod, caiff arolygydd farcio anifail.

(4Caiff arolygydd gymryd copïau o unrhyw ddogfen a arolygwyd er mwyn canfod a gydymffurfiwyd â darpariaethau'r Gorchymyn hwn, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 neu Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97.

(5Caiff arolygydd gyflwyno i'r perchennog, neu i unrhyw berson y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros safle rheoli, hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd unrhyw gamau y mae'r arolygydd o'r farn resymol eu bod yn angenrheidiol i sicrhau cydymffurfedd â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97, neu i gywiro unrhyw doriad o'r Rheoliad hwnnw.

(6Yn benodol, caiff arolygydd—

(a)ei gwneud yn ofynnol i un neu ragor o anifeiliaid ar safle rheoli gael eu symud o'r safle rheoli;

(b)pennu o dan ba amodau y caiff anifeiliaid aros yno.

(7Wrth benderfynu a ddylid cyflwyno hysbysiad o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd gymryd i ystyriaeth unrhyw fethiant blaenorol i gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn, unrhyw Orchymyn arall a wnaed o dan adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf neu bwynt 8 Atodiad II i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (dychwelyd dogfennau ar ôl cwblhau taith).

(8Pan fo person yn methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y gofyniad yn cael ei fodloni.

(9Rhaid i'r person sydd wedi methu â chydymffurfio ad-dalu unrhyw dreuliau rhesymol a dynnir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r awdurdod lleol wrth gymryd camau o'r fath a gellir adennill unrhyw swm o'r fath sy'n ddyledus yn ddiannod.

Cydymffurfio â hysbysiadau

25.  Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn ar draul y person y caiff yr hysbysiad ei gyflwyno iddo, ac eithrio os darperir fel arall yn yr hysbysiad hwnnw.

Dangos cynlluniau

26.—(1Rhaid i berchennog neu siartrwr unrhyw lestr sydd i'w defnyddio ar gyfer cludo anifeiliaid—

(a)dangos, os gofynnir iddo wneud hynny, i un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol blaniau o'r llestr (gan gynnwys manylion ei system awyru ac unrhyw ffitiadau ar gyfer da byw); a

(b)darparu, os gofynnir iddo wneud hynny, unrhyw wybodaeth ynghylch y llestr y mae'r swyddog o'r farn ei bod yn angenrheidiol i'w alluogi i ganfod a gydymffurfir â darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn ystod y daith arfaethedig.

(2Ond nid oes rhaid i neb ddarparu unrhyw wybodaeth nad oes modd iddo, drwy arfer diwydrwydd rhesymol, gael gafael arni.

Rhwystro

27.  Ni chaiff neb—

(a)heb esgus rhesymol, fethu â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97 neu'r Gorchymyn hwn unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae ar y person hwnnw angen rhesymol amdano neu amdani at ddibenion ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hynny neu'r Gorchymyn hwn;

(b)darparu gwybodaeth anwir ar unrhyw lòg teithio (p'un a yw wedi'i gyflwyno i gael ei gymeradwyo, wedi'i ddychwelyd i swyddog y Cynulliad Cenedlaethol ar ôl y daith neu fel arall) na darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol am unrhyw ddogfennaeth a gariwyd yn unol ag Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005;

(c)rhoi eitem mewn cofnod neu ddatganiad, neu roi unrhyw wybodaeth at ddibenion y Gorchymyn hwn, y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys neu, at y dibenion hynny, gwneud datganiad neu roi unrhyw wybodaeth yn ddi-hid a'r datganiad hwnnw neu'r wybodaeth honno'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys; neu

(ch)achosi neu ganiatáu unrhyw un o'r uchod.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

28.—(1Os dangosir bod tramgwydd a gyflawnwyd o dan y Gorchymyn hwn gan gorff corfforaethol—

(a)wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu

(b)i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,

bydd y swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, bydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffygion aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw'n un o gyfarwyddwyr y corff.

(3Ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o bwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath.

Gorfodi

29.—(1Yr awdurdod lleol sy'n gorfodi'r Gorchymyn hwn.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn perthynas ag achos penodol, fod unrhyw ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol o dan baragraff (1) i'w chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.

Diwygio

30.—(1Mae Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003(5) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 3, hepgorer paragraff (2).

(3Hepgorer erthygl 4.

(4Yn erthygl 5, hepgorer paragraff (2).

(5Yn erthygl 9(4), hepgor “,4”.

Dirymu

31.  Mae'r Atodlen (Gorchmynion sydd wedi'u dirymu) yn effeithiol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2007

Erthygl 31

YR ATODLENGorchmynion sydd wedi'u dirymu

1.  Mae'r canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn effeithiol yng Nghymru—

(a)Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Ffyrdd a Rheilffyrdd) 1975(7);

(b)Gorchymyn Allforio Anifeiliaid (Diogelu) 1981(8);

(c)Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) 1997(9);

(ch)Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Mannau Aros) 1998(10);

(d)Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Diwygio) 1999(11).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ar ddiogelu anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo ac yn ystod gweithrediadau cysylltiedig (OJ Rhif L 3, 5.1.2005. t.1).

Mae'n darparu hefyd ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad y Cyngor 1255/97 ynghylch meini prawf y Gymuned ar gyfer mannau aros (OJ L 174, 2.7.97 t.1).

Mae'n dirymu (i'r graddau y mae'n effeithiol yng Nghymru) Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) 1997, a weithredodd Gyfarwyddeb y Cyngor 91/628/EEC ar ddiogelu anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo (OJ Rhif L340, 11.12.91, t. 17).

Mae Rhan 2 o'r Gorchymyn yn gorfodi gofynion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ynglŷn â chludo (erthygl 5), cludwyr (erthygl 6), llestri gyrru mewn ac allan (erthygl 7), trefnwyr (erthygl 8), ceidwaid (erthygl 9) a chanolfannau cynnull (erthygl 10). Mae'n gorfodi hefyd ofynion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97 mewn perthynas â safleoedd rheoli (erthygl 11). Mae erthygl 11 yn ei gwneud yn dramgwydd i ddefnyddio safle rheoli nas cymeradwywyd ac i weithredu safle rheoli heb gael cymeradwyaeth ymlaen llaw.

Mae Rhan 3 yn darparu rhanddirymiadau ynglyn â'r cyfrwng cludo ar y ffordd a ddefnyddir ar gyfer teithiau nad ydynt yn hwy na 12 awr er mwyn cyrraedd y gyrchfan derfynol (erthyglau 12 i 19).

Mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer diwygio, atal neu ddirymu cymeradwyaethau, awdurdodiadau neu dystysgrifau ac ar gyfer sylwadau yn erbyn hysbysiad i'w diwygio, i'w hatal neu i'w dirymu (erthyglau 20 i 23).

Rhoddir pwerau i arolygwyr ei gwneud yn ofynnol i berson cyfreithiol gydymffurfio â'r Gorchymyn, gan gynnwys pwer i stopio taith (erthygl 24).

Mae'n ofynnol i berchenogion a siartrwyr llestri a ddefnyddir i gludo anifeiliaid ddangos gwybodaeth, os gofynnir iddynt wneud hynny, i un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol a gall yr wybodaeth honno gynnwys plan o'r llestr (erthygl 26).

Awdurdodau lleol sy'n gorfodi'r Gorchymyn (erthygl 29).

Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac yn dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi a gellir cael copïau oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1981 p. 22 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 p.42.

(2)

Swyddogaethau a drosglwyddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchmynion y Cynulliad Cenedlaethol (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a 2004 (O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044 yn y drefn honno).

(3)

OJ L 3, 5.1.2005 t.1.

(4)

OJ L 174, 2.7.97 t.1.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources