- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2006 a daw i rym ar 8 Rhagfyr 2006.
2. Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “clerc pleidleisio” (“poll clerk”) yw person a benodir gan y swyddog canlyniadau etholaeth i helpu'r swyddog llywyddu i gynnal etholiad mewn gorsaf bleidleisio;
ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
mae “etholaeth Cynulliad” (“Assembly constituency”) a “rhanbarth etholiadol Cynulliad” (“Assembly electoral region”) i'w dehongli yn unol ag adran 2(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1) ac Atodlen 1 iddi;
ystyr “etholiad cyffredin” (“ordinary election”) yw cynnal etholiad etholaeth ac etholiad rhanbarthol ar gyfer dychwelyd pob aelod Cynulliad;
ystyr “etholiad Cynulliad” (“Assembly election”) yw etholiad etholaeth neu etholiad rhanbarthol;
ystyr “etholiad etholaeth” (“constituency election”) yw etholiad i ddychwelyd aelod Cynulliad ar gyfer etholaeth Cynulliad;
ystyr “etholiad rhanbarthol” (“regional election”) yw etholiad i ddychwelyd aelodau Cynulliad ar gyfer rhanbarth etholiadol Cynulliad;
ystyr “Gorchymyn 2003” (“the 2003 Order”) yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003;
ystyr “swyddog canlyniadau etholaeth” (“constituency returning officer”) yw'r person sy'n swyddog canlyniadau ar gyfer etholiad etholaeth;
ystyr “swyddog canlyniadau rhanbarthol” (“regional returning officer”) yw'r person sy'n swyddog canlyniadau ar gyfer etholiad rhanbarthol;
ystyr “swyddog llywyddu” (“presiding officer”) yw'r person a benodir gan y swyddog canlyniadau etholaeth i oruchwylio gorsaf bleidleisio; ac
mae unrhyw gyfeiriad at gofrestr etholwyr yn gyfeiriad at y gofrestr (neu'r cofrestrau) etholwyr a ddefnyddir mewn etholiad Cynulliad ac at y gofrestr (neu'r cofrestrau) fel y cawsant eu cyhoeddi am y tro cyntaf.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), at ddibenion erthygl 21(1)(a) o Orchymyn 2003, nodir drwy hyn y gwasanaethau neu'r treuliau canlynol ar gyfer etholiad Cynulliad neu mewn perthynas ag ef—
(a)gwasanaethau o fath a ddisgrifir ym mharagraffau 1(1) a 2(1) o'r Atodlen;
(b)treuliau o fath a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1), 6(1) a 7(1) o'r Atodlen; ac
(c)treuliau o fath a ddisgrifir ym mharagraffau 9 i 20 o'r Atodlen.
(2) Pan gynhelir, mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad, etholiad rhanbarthol nas ymleddir (p'un ai mewn etholiad cyffredin ai peidio) ni chaiff y fanyleb o dan baragraff (1) effaith mewn perthynas ag—
(a)gwasanaethau o fath a ddisgrifir ym mharagraff 1(1) o'r Atodlen; a
(b)treuliau o fath a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1) a 7(1) o'r Atodlen;
mewn perthynas â'r etholaeth Cynulliad honno yn yr etholiad rhanbarthol.
(3) Mae paragraffau (4) i (6) o'r erthygl hon yn pennu'r uchafsymiau y gellir eu hadennill at ddibenion erthygl 21(2) o Orchymyn 2003 o ran y gwasanaethau a'r treuliau a bennir yn Rhannau I a II o'r Atodlen.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mewn etholiad Cynulliad a ymleddir, pennir drwy hyn yr uchafsymiau y gellir eu hadennill ac a nodir yn yr Atodlen mewn perthynas â'r gwasanaethau a'r treuliau a bennir yn Rhannau I a II o'r Atodlen fel yr uchafsymiau y gellir eu hadennill mewn perthynas â'r gwasanaethau a'r treuliau hynny.
(5) Ond pan geir mewn etholiad cyffredin mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad bleidleisio ar gyfer etholiad etholaeth ac ar gyfer etholiad rhanbarthol bydd unrhyw uchafswm y gellir ei adennill ac a bennir yn y Gorchymyn hwn yn cael effaith mewn perthynas â'r ddau etholiad mewn perthynas â'r etholaeth Cynulliad honno pan fyddai fel arall (heblaw am y paragraff hwn) yn cael effaith mewn perthynas â phob etholiad o'r fath.
(6) Pennir drwy hyn yr uchafsymiau y gellir eu hadennill mewn etholiad Cynulliad nas ymleddir, sef—
(a)£475.00 ar gyfer swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad etholaeth o ran y gwasanaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen;
(b)£95.00 ar gyfer swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol o ran y gwasanaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen;
(c)£1,173.00 ar gyfer swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad etholaeth o ran y treuliau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen; ac
(ch)£235.00 ar gyfer swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol o ran y treuliau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen.
4. Dirymir drwy hyn Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002(2) a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2003(3).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Dafydd Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Rhagfyr 2006
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: