Search Legislation

Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 6 Gorffennaf 2006.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aderyn caeth arall” (“other captive bird ”) yw unrhyw aderyn a gedwir yn gaeth ac nad yw'n ddofednyn, ac mae'n cynnwys aderyn a gedwir ar gyfer sioeau, rasys, arddangosfeydd, cystadlaethau, ar gyfer bridio neu i'w werthu;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw arolygydd a benodwyd gan awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn neu o dan y Ddeddf, neu arolygydd milfeddygol;

ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw arolygydd milfeddygol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn neu o dan y Ddeddf;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) o ran ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

ystyr “brechu” (“vaccinate”) yw trin dofednod neu adar caeth arall â brechlyn yn erbyn ffliw adar;

mae i “brechu ataliol” yr un ystyr â “preventive vaccination” yn Erthygl 56 o'r Gyfarwyddeb;

mae i “brechu brys” yr un ystyr ag “emergency vaccination” yn Erthygl 53 o'r Gyfarwyddeb;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;

ystyr “dofednod” (“poultry”) yw'r holl adar sy'n cael eu magu neu eu cadw'n gaeth i gynhyrchu cig i'w fwyta neu wyau i'w bwyta, cynhyrchu cynhyrchion eraill, i ailstocio cyflenwadau adar hela neu at ddibenion unrhyw raglen fridio ar gyfer cynhyrchu'r categorïau hyn o adar;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1);

ystyr “ffliw adar” (“avian influenza”) yw haint mewn dofednod neu adar caeth eraill a achosir gan unrhyw firws ffliw A o'r is-deipiau H5 neu H7 neu haint y mae ei fynegai pathogenedd mewnwythiennol mewn cywion ieir chwe wythnos oed yn uwch nag 1.2;

ystyr “y Gorchymyn Ffliw Adar” (“the Avian Influenza Order”) yw Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Tarddu o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) 2006(2);

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ar fesurau Cymunedol i reoli ffliw adar a honno'n Gyfarwyddeb sy'n diddymu Cyfarwyddeb 92/40/EEC(3);

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad neu le.

(2Mae i ymadroddion Saesneg eraill a ddiffinnir yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr â'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn.

Datganiadau, hysbysiadau a thrwyddedau

3.—(1O ran y datganiadau sy'n cael eu gwneud o dan y Rheoliadau hyn—

(a)rhaid iddynt fod mewn ysgrifen;

(b)caniateir eu diwygio neu eu dirymu, drwy ddatganiad ysgrifenedig pellach, ar unrhyw adeg;

(c)rhaid iddynt ddynodi maint y parth brechu sy'n cael ei ddatgan;

(ch)rhaid iddynt gyfeirio at y mesurau gofynnol sy'n gymwys yn y parth brechu a dweud a ydynt yn gymwys yn y parth cyfan ynteu mewn rhan ohono;

(d)rhaid iddynt ddweud i ba gategorïau o adar y mae'r mesurau yn gymwys iddynt; ac

(dd)rhaid iddynt ddweud ar draul pwy y mae'r mesurau i'w cyflawni.

(2O ran hysbysiadau a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn—

(a)caniateir eu diwygio neu eu dirymu, drwy hysbysiad pellach, ar unrhyw bryd;

(b)rhaid iddynt bennu a ydynt yn gymwys i'r cyfan neu ran o'r fangre;

(c)os ydynt yn gymwys i ran o fangre, rhaid iddynt bennu i ba ran ohoni y maent yn gymwys;

(ch)rhaid iddynt gyfeirio at y mesurau gofynnol sy'n gymwys i'r fangre;

(d)rhaid iddynt ddweud i ba gategorïau o adar y mae'r mesurau yn gymwys iddynt; ac

(dd)rhaid iddynt ddweud ar draul pwy y mae'r mesurau i'w cyflawni.

(3O ran trwyddedau a roddir o dan y Rheoliadau hyn—

(a)rhaid iddynt fod yn drwyddedau a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan arolygydd a benodwyd gan yr awdurdod lleol ac sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)rhaid iddynt fod mewn ysgrifen;

(c)caniateir iddynt fod yn gyffredinol neu'n benodol;

(ch)caniateir, yn ychwanegol at unrhyw amodau sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn, eu gwneud yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn angenrheidiol i reoli clefyd; a

(d)caniateir eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu, mewn ysgrifen, ar unrhyw adeg.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a wêl yn dda i sicrhau bod datganiadau, hysbysiadau a thrwyddedau yn cael eu dwyn i sylw'r rhai y gallant effeithio arnynt cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(5Yn benodol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod cyhoeddusrwydd yn cael ei roi i faint unrhyw barth a ddatgenir o dan y Rheoliadau hyn, natur y cyfyngiadau a'r gofynion sy'n gymwys ynddo a dyddiadau ei ddatgan a'i ddileu.

(6Ac eithrio pan gyfarwyddir fel arall gan y Cynulliad Cenedlaethol (mewn datganiad o barth brechu neu drwy hysbysiad i ddeiliad y drwydded), bydd trwyddedau a roddir yn yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon ar gyfer gweithgareddau y gellid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn yn effeithiol yng Nghymru fel petaent yn drwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.

(7Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded benodol a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn—

(a)cadw'r drwydded neu gopi ohoni gydag ef bob amser yn ystod y symudiad trwyddedig;

(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu swyddog arall i'r Cynulliad Cenedlaethol, dangos y drwydded a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohoni gael ei gymryd; ac

(c)os gofynnir iddo wneud hynny, rhoi ei enw a'i gyfeiriad.

(8Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded gyffredinol a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn, wneud y canlynol—

(a)cario gydag ef, ar bob adeg yn ystod y symudiad trwyddedig, nodyn traddodi sy'n cynnwys manylion—

(i)yr hyn sy'n cael ei symud (gan gynnwys faint ohono);

(ii)dyddiad y symudiad;

(iii)enw a chyfeiriad y fangre gychwynnol;

(iv)enw a chyfeiriad y gyrchfan.

(b)dangos, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu swyddog arall i'r Cynulliad Cenedlaethol, y nodyn traddodi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohono gael ei gymryd; ac

(c)os gofynnir iddo wneud hynny, rhoi ei enw a'i gyfeiriad.

Gwahardd brechu

4.—(1Ni chaiff neb frechu unrhyw aderyn yn erbyn ffliw adar ac eithrio pan fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 5 neu 6.

(2Nid yw'r gwaharddiad yn y rheoliad hwn yn gymwys i'r canlynol—

(a)unrhyw beth a wneir o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan erthygl 4 o Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998(4); neu

(b)rhoi brechlyn yn unol â thystysgrif prawf anifeiliaid a roddwyd o dan reoliad 8 o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005(5).

Penderfyniad i wneud brechu brys yn ofynnol

5.—(1Pan fo'r amod ym mharagraff (2) wedi'i fodloni, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, os yw'n credu ei bod yn angenrheidiol i leihau'r risg o ymlediad ffliw adar—

(a)datgan parth brechu brys yng Nghymru gyfan neu mewn rhan ohoni, pan fo'r ardaloedd hynny yn cynnwys dofednod neu adar caeth eraill y mae'n credu y dylid eu brechu; neu

(b)cyflwyno hysbysiad brechu brys i feddiannydd unrhyw fangre lle mae dofednod, adar caeth eraill neu unrhyw gategori o ddofednod neu adar caeth eraill y mae'n credu y dylid eu brechu, yn cael eu cadw.

(2Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud asesiad risg sy'n dangos bod bygythiad sylweddol ac uniongyrchol y byddai ffliw adar yn ymledu yng Nghymru neu i Gymru oherwydd—

(a)brigiad ffliw adar yn y Deyrnas Unedig;

(b)brigiad ffliw adar mewn Aelod-wladwriaeth gyfagos; neu

(c)bod presenoldeb ffliw adar mewn dofednod neu adar caeth eraill mewn trydedd wlad gyfagos wedi'i gadarnhau.

(3Bernir bod unrhyw fangre sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth brechu brys yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.

Penderfyniad i wneud brechu ataliol yn ofynnol

6.—(1Pan fo'r amodau ym mharagraff (2) wedi'u bodloni, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, os yw'n credu ei bod yn angenrheidiol i leihau'r risg o ymlediad ffliw adar—

(a)datgan parth brechu ataliol yng Nghymru gyfan neu mewn rhan ohoni, pan fo'r ardaloedd hynny yn cynnwys dofednod neu adar caeth eraill y mae'n credu y dylid eu brechu; neu

(b)cyflwyno hysbysiad brechu ataliol i feddiannydd unrhyw fangre lle mae dofednod, adar caeth eraill neu unrhyw gategori o ddofednod neu adar caeth eraill y mae'n credu y dylid eu brechu, yn cael eu cadw.

(2Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)bod asesiad risg wedi'i wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol a bod yr asesiad hwnnw'n dangos bod pob ardal yng Nghymru neu fod ardaloedd penodol o Gymru, mathau o hwsmonaeth ddofednod neu gategorïau penodol o ddofednod neu adar caeth eraill yn agored i risg ffliw adar; a

(b)bod cynllun brechu ataliol wedi'i gyflwyno i'r Comisiwn ac wedi'i gymeradwyo ganddo yn unol ag Erthyglau 56 a 57 o'r Gyfarwyddeb.

(3Bernir bod unrhyw fangre sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth brechu ataliol yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.

Estyn y pŵer i beri brechu

7.  Er gwaethaf adran 16(1) o'r Ddeddf, caiff y Cynulliad Cenedlaethol beri bod dofednod neu adar caeth eraill nad ydynt yn dod o dan yr adran honno yn cael eu brechu os ydynt mewn parth brechu neu o fewn mangre sy'n destun hysbysiad brechu ac mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel pe bai'r cyfryw frechu'n cael ei wneud wrth arfer y pŵer yn adran 16(1)—

(a)is-adrannau 16(2) i 16(17)(6) (triniaeth ar ôl bod yn agored i haint);

(b)adran 16A(7) (lladd anifeiliaid sydd wedi'u brechu); ac

(c)adran 62A(8) (lladd: pŵer mynediad).

Mesurau sy'n gymwys mewn parth brechu neu i fangre o dan hysbysiad

8.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, mewn datganiad o barth brechu neu mewn hysbysiad brechu—

(a)ei gwneud yn ofynnol i ddofednod, adar caeth eraill neu unrhyw gategori penodedig o ddofednod neu adar caeth eraill gael eu brechu yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddir ganddo; neu

(b)pan fo'r brechu i'w wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a awdurdodir ganddo i wneud y brechu gael cydweithrediad.

(2Ni chaiff neb symud unrhyw ddofednyn, aderyn caeth arall na'u cynhyrchion—

(a)allan o barth brechu; neu

(b)allan o fangre sy'n destun hysbysiad brechu;

ac eithrio o dan awdurdod trwydded.

(3Ym mharagraff (2) ystyr “cynhyrchion” (“products”) dofednod neu adar caeth eraill yw unrhyw garcas, unrhyw ŵy neu unrhyw beth arall sy'n tarddu neu sydd wedi'i wneud (boed yn gyfan gwbl neu'n rhannol) o ddofednod neu adar caeth eraill neu garcasau adar o'r fath.

(4Nid yw paragraff (2) yn gymwys—

(a)i gynhyrchion sy'n deillio o ddofednod neu adar caeth eraill a leolir y tu allan i barth brechu neu fangre sy'n destun hysbysiad brechu; neu

(b)i ddosbarthiad manwerthol wyau dofednod a symudiadau sy'n dilyn dosbarthiad o'r fath.

(5Mae paragraffau (2) i (4) yn gymwys heb leihau effaith unrhyw ofyniad neu gyfyngiad arall sy'n gymwys mewn unrhyw ran o barth neu fangre am fod y rhan honno o'r parth neu'r fangre yn dod o fewn parth arall a ddatganwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu am ei bod yn destun hysbysiad arall a gyflwynwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, at ddibenion lleihau'r risg o ymlediad ffliw adar neu at unrhyw ddibenion eraill.

(6Rhaid i unrhyw berson sy'n symud dofednod, adar caeth eraill neu eu cynhyrchion o dan y rheoliad hwn gadw cofnod, ar ffurf nodyn traddodi neu fel arall, o ddyddiad y symudiad ac o rif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddiwyd, am o leiaf chwe wythnos ar ôl dyddiad y symudiad.

Brechu brys heb gynllun a gymeradwywyd

9.—(1Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn datgan parth brechu brys neu'n cyflwyno hysbysiad brechu brys cyn bod cynllun brechu brys wedi'i gymeradwyo gan y Comisiwn yn unol ag Erthygl 54 o'r Gyfarwyddeb—

(a)rhaid i drwydded a ddyroddir o dan reoliad 8(2) osod yr amodau a bennir yn yr Atodlen;

(b)rhaid i berchennog neu yrrwr unrhyw gerbyd neu gyfrwng cludo arall a ddefnyddir i gludo dofednod byw neu adar caeth eraill, wyau dofednod neu gig dofednod o dan drwydded o'r fath lanhau a diheintio, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl eu defnyddio, y cerbyd hwnnw ac unrhyw gyfarpar a ddefnyddiwyd i gludo deunydd o'r fath yn unol â Rhan 1 o Atodlen 3 o'r Gorchymyn Ffliw Adar i'r graddau y mae'n gymwys i gerbydau;

(c)rhaid i arolygydd milfeddygol, drwy hysbysiad i berchennog neu yrrwr cerbyd neu gyfrwng cludo arall y cyfeirir ato yn is-baragraff 1(b), ei gwneud yn ofynnol i unrhyw beth a allai fod wedi'i halogi â'r firws ffliw adar ac y mae'n credu nad oes modd iddo gael ei lanhau na'i ddiheintio na'i drin.

(2O dan is-baragraff 1(b), rhaid diheintio'n unol ag Erthygl 66(4) o'r Gorchymyn Ffliw Adar.

(3Rhaid darllen cyfeiriadau at “y Gorchymyn hwn” yn Rhan 1 o Atodlen 3 i'r Gorchymyn Ffliw Adar fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hyn.

(4Bernir bod canolfannau pacio a lladd-dai sydd wedi'u dynodi o dan y Gorchymyn Ffliw Adar wedi'u dynodi at ddibenion derbyn dofednod, adar caeth eraill, wyau dofednod neu gig dofednod (yn ôl y digwydd) sy'n cael eu symud o dan drwydded a roddwyd o dan reoliad 8(2) o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (1).

(5Pan fydd y cynllun brechu brys wedi'i gymeradwyo yn unol ag Erthygl 54 o'r Gyfarwyddeb, caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd amrywio'r amodau yn y drwydded y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1)(a).

Methiant i frechu anifeiliaid a bennwyd i'w brechu

10.—(1Rhaid i unrhyw berson (ac eithrio arolygydd) sy'n gwybod neu sy'n amau bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gwneud yn ofynnol i aderyn gael ei frechu, ond nad oedd yr aderyn hwnnw wedi'i frechu ar yr adeg y dylai fod wedi'i frechu, hysbysu ar unwaith Reolwr Milfeddygol Rhanbarthol y Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol ar gyfer yr ardal y mae'r aderyn hwnnw wedi'i leoli ynddi.

(2Os bydd arolygydd yn amau bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gwneud yn ofynnol i aderyn gael ei frechu, ond nad oedd yr aderyn hwnnw wedi'i frechu ar yr adeg y dylai fod wedi'i frechu, rhaid i'r arolygydd drefnu bod yr aderyn hwnnw yn cael ei frechu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Glanhau a diheintio cerbydau: darparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau

11.  Pan fo'n ofynnol glanhau a diheintio cerbydau yn unrhyw fangre gan neu o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i feddiannydd y fangre honno ddarparu cyfleusterau digonol a chyfarpar priodol a deunyddiau priodol ar gyfer y glanhau a'r diheintio hwnnw.

Newid meddiannaeth mangre o dan gyfyngiad

12.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os nad yw ceidwad unrhyw ddofednyn neu aderyn caeth arall yn gallu ei symud o fangre adeg terfynu ei hawl i'w meddiannu oherwydd cyfyngiad ar symud a osodwyd gan neu o dan y Rheoliadau hyn ac mae'r rheoliad hwn yn parhau i fod yn gymwys am saith niwrnod ar ôl i unrhyw gyfyngiad o'r fath gael ei godi.

(2Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannu'r fangre adeg y terfyniad hwnnw—

(a)rhoi unrhyw gyfleusterau, ar gyfer bwydo, tendio neu ddefnyddio'r dofednyn neu'r anifail caeth arall mewn ffordd arall (gan gynnwys ei werthu), y bydd ar y ceidwad angen rhesymol amdanynt; a

(b)caniatáu i'r ceidwad hwnnw ac unrhyw berson a awdurdodir ganddo gael mynd i'r fangre ar adegau rhesymol i fwydo, tendio neu ddefnyddio'r dofednyn neu'r aderyn caeth arall mewn ffordd wahanol.

(3Os nad yw'r ceidwad yn gallu neu os nad yw'n fodlon bwydo neu dendio'r dofednyn neu'r aderyn caeth arall, rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannau'r fangre gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y dofednyn neu'r aderyn hwnnw yn cael ei fwydo a'i dendio'n iawn.

(4Mae ceidwad y dofednyn neu aderyn caeth arall yn atebol i dalu'r costau rhesymol a dynnir o dan y rheoliad hwn gan unrhyw berson sy'n ei fwydo neu'n ei dendio, neu'n darparu cyfleusterau ar gyfer ei fwydo, ei dendio neu ei ddefnyddio fel arall.

Cymorth rhesymol

13.  Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo roi cymorth rhesymol neu wybodaeth resymol i berson sy'n cymryd camau wrth weithredu'r Rheoliadau hyn er mwyn cyflawni ei swyddogaethau oddi tanynt, wneud hynny'n ddi-oed onid oes ganddo achos rhesymol dros beidio â gwneud hynny.

Gwybodaeth anwir

14.  Ni chaiff neb roi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol i berson sy'n cymryd camau wrth weithredu'r Rheoliadau hyn.

Dangos cofnodion

15.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo ddangos cofnod gan berson sy'n cymryd camau wrth weithredu'r Rheoliadau wneud hynny'n ddi-oed.

(2Pan ddangosir y cofnod, caiff person sy'n cymryd camau i weithredu'r Rheoliadau hyn—

(a)copïo unrhyw gofnodion, ar ba ffurf bynnag y cedwir hwy; neu

(b)symud unrhyw gofnodion er mwyn galluogi iddynt gael eu copïo, neu pan gedwir hwy yn electronig, ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu llunio ar ffurf y gellir ei chludo ymaith.

(3Rhaid i berson sy'n symud cofnodion o dan y rheoliad hwn roi derbynneb ysgrifenedig amdanynt.

Cydymffurfio â hysbysiadau, datganiadau a thrwyddedau

16.—(1Mae unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo, neu y mae datganiad neu drwydded yn gymwys iddo, o dan y Rheoliadau hyn, ac sy'n mynd yn groes i'r gofynion neu'r cyfyngiadau yn yr hysbysiad neu'r datganiad hwnnw, neu yn y drwydded honno, neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy, yn euog o dramgwydd.

Pwerau arolygwyr

17.—(1Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel pe bai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf ac fel pe bai'r diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob aderyn—

(a)adran 63 (pwerau cyffredinol arolygwyr);

(b)adran 64A(9) (pwerau arolygwyr ynglŷn â rhwymedigaethau Cymunedol), ac

(c)adran 65(1) i (3) (pŵer i ddal gafael ar lestri ac awyrennau).

(2Mae adran 65A(10) o'r Ddeddf (arolygu cerbydau) yn gymwys fel petai—

(a)y Rheoliadau hyn yn Orchymyn o dan y Ddeddf;

(b)y diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob aderyn; ac

(c)pob parth brechu neu fangre a bennwyd mewn hysbysiad brechu wedi'i ddynodi neu wedi'i dynodi cyhyd ag y bydd yn para mewn bodolaeth at ddibenion yr adran honno.

(3Caiff arolygydd farcio unrhyw aderyn neu beth arall at ddibenion ei adnabod.

(4Bydd unrhyw berson sy'n difwyno, cuddio neu dynnu unrhyw farc a ddodwyd o dan baragraff (3) yn euog o dramgwydd.

Tramgwyddau ac achosion cyfreithiol

18.—(1Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf—

(a)adran 66 a 66A(11) (gwrthod a rhwystro);

(b)adran 67 (dyroddi trwyddedau anwir etc.);

(c)adran 68 (dyroddi trwyddedau sy'n wag etc.),

(ch)adran 71 (tramgwyddau eraill o ran trwyddedau);

(d)adran 71A(12) (erlyniadau: terfyn amser);

(dd)adran 73 (tramgwyddau cyffredinol);

(e)adran 77 (arian y gellir ei adennill yn ddiannod); ac

(f)adran 79(1) i (4) (tystiolaeth a gweithdrefn)

ac fel pe bai'r diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob aderyn.

(2Mae adran 69 o'r Ddeddf (cael trwyddedau drwy dwyll etc.) yn gymwys fel pe bai trwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn wedi'u rhoi o dan Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf.

(3Mae adran 75 o'r Ddeddf(13) (cosbau am dramgwyddau ynadol penodol) yn gymwys fel pe bai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf ac eithrio bod rhaid i unrhyw gyfnod o garchar ar gollfarn ddiannod beidio â bod yn hwy na thri mis.

Pwerau cyffredinol arolygwyr i gymryd camau i atal ffliw adar rhag ymledu

19.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys ym mhob parth brechu a phob mangre a bennir mewn hysbysiad brechu.

(2Caiff arolygydd milfeddygol, neu arolygydd sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd, os yw'n credu ei bod yn angenrheidiol i atal ffliw adar rhag ymledu, ei gwneud yn ofynnol—

(a)i ddal gafael ar unrhyw gerbyd, cyfarpar neu unrhyw beth arall a'i ynysu, ac yna ei lanhau a'i ddiheintio drwy gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y fangre lle mae'r cerbyd, y cyfarpar neu'r peth arall yn bresennol neu i'r person sydd â gofal am y peth;

(b)i lanhau a diheintio unrhyw fangre, neu ran o unrhyw fangre, drwy gyflwyno hysbysiad yn gwneud hynny'n ofynnol i feddiannydd y fangre honno;

(c)i ddal gafael mewn lle penodedig ar unrhyw anifail, dofednyn neu aderyn caeth arall neu ei ynysu drwy gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y fangre lle y mae'r anifail, y dofednyn neu'r aderyn caeth arall yn bresennol, neu i'w geidwad;

(ch)i wahanu unrhyw anifail, dofednyn neu aderyn caeth arall oddi wrth unrhyw anifeiliaid, dofednod neu adar caeth eraill drwy gyflwyno hysbysiad yn gwneud hynny'n ofynnol i feddiannydd y fangre lle y mae'r anifail, y dofednyn neu'r aderyn yn bresennol, neu i'w geidwad.

Pwerau arolygwyr os ceir methiant

20.—(1Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio ag un o ofynion y Rheoliadau hyn neu ag un o ofynion datganiad, trwydded neu hysbysiad oddi tanynt, caiff arolygydd gymryd y camau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau y bydd y gofyniad yn cael ei fodloni (gan gynnwys cymryd unrhyw beth i'w feddiant a dal ei afael arno).

(2Wrth gymryd camau o dan y rheoliad hwn, caiff arolygydd gyfarwyddo unrhyw berson i gymryd neu i ymatal rhag cymryd camau penodedig ynghylch unrhyw fangre, anifail, aderyn, cerbyd neu unrhyw beth arall.

(3Ni fydd unrhyw gamau a gymerir o dan y rheoliad hwn yn lleihau effaith achos am dramgwydd sy'n deillio o'r methiant.

(4Rhaid i'r person a fethodd ad-dalu unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r awdurdod lleol wrth gymryd camau o'r fath a gellir adennill unrhyw ad-daliad yn ddiannod.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

21.—(1Os dangosir bod tramgwydd a wnaed gan gorff corfforaethol—

(a)wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu

(b)i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,

bydd y swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff.

(3ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath.

Gorfodi

22.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i baragraff (2), orfodi'r Rheoliadau hyn.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, bod rhaid iddo orfodi'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(14)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Gorffennaf 2006

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources