Search Legislation

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1394 (Cy.108)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

24 Mai 2005

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 108(3)(c), (7), (8), (9), (10) ac (11) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2005.

(2Mae darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys at ddiben canfod cyraeddiadau disgyblion sydd ym mlwyddyn olaf y trydydd cyfnod allweddol a hynny yn y pynciau craidd a'r pynciau sylfaen eraill.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Dirymu

2.  Dirymir Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997(2), Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) (Diwygio) 1998(3) a Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) (Diwygio) 2001(4).

Dehongli

3.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “a bennir” (“specified”) yw pennu mewn perthynas â'r trydydd cyfnod allweddol gan orchymyn adran 108(3)(a) a (b);

ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw'r awdurdod o'r enw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru(5);

mae i “blwyddyn ysgol” yr ystyr a roddir i “school year” yn adran 97 o'r Ddeddf;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “y dogfennau cysylltiedig” (“the associated documents”) yw'r dogfennau a gyhoeddir gan yr Awdurod ac sy'n gosod unrhyw lefelau cyrhaeddiad, targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau craidd a'r pynciau sylfaen eraill, ac sy'n effeithiol yn rhinwedd y gorchymynion adran 108(3)(a) a (b) ar gyfer y pynciau hynny ac sydd mewn grym am y tro(6);

ystyr “gorchmynion adran 108(3)(a) a (b)” (“section 108(a) and (b) orders”) yw gorchmynion a wneir, neu sydd â'r un effaith â phetaent wedi'u gwneud, o dan adran 108(3)(a) a (b) o'r Ddeddf ac sy'n pennu targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio;

ystyr “y pynciau craidd” (“the core subjects”) yw mathemateg, Saesneg, gwyddoniaeth, ac mewn perthynas ag ysgolion cyfrwng Cymraeg, Cymraeg;

ystyr “y pynciau sylfaen eraill” (“the other foundation subjects”) yw technoleg, addysg gorfforol, hanes, daearyddiaeth, celfyddyd, cerddoriaeth, Cymraeg os nad yw'r ysgol yn ysgol gyfrwng Gymraeg, ac iaith dramor fodern a bennir mewn gorchymyn a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu ag effaith fel pe bai wedi'i wneud, o dan adran 105(4) o'r Ddeddf(7);

ystyr “TC” (“AT”) yw targed cyrhaeddiad;

ystyr “tymor yr haf” (“summer term”) yw'r tymor terfynol mewn blwyddyn ysgol;

mae i “ysgol a gynhelir” yr ysytyr a roddir i “maintained school” yn adran 97 o'r Ddeddf.

(2Mae cyfeiriadau at—

(a) y trydydd cyfnod allweddol i'w dehongli yn unol ag adran 103 o'r Ddeddf; a

(b)lefelau cyrhaeddiad, targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio yn gyfeiriadau at y lefelau, y targedau a'r rhaglenni a osodir yn y dogfennau cysylltiedig.

(3Os nad yw unrhyw rif cyfartalog y mae'n ofynnol ei benderfynu drwy'r Gorchymyn hwn yn rhif cyfan, rhaid ei dalgrynnu i'r rhif cyfan agosaf, gan dalgrynnu'r ffracsiwn un hanner i fyny i'r rhif cyfan nesaf.

(4Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl yn y Gorchymyn hwn sy'n dwyn y rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn yr erthygl y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddi.

Asesiad athrawon — cyffredinol

4.—(1Rhaid i'r pennaeth drefnu i bob disgybl gael ei asesu gan athro ym mhob pwnc craidd a phob pwnc sylfaen arall yn ystod tymor yr haf yn unol â darpariaethau'r erthygl hon ac erthyglau 5 i 7, ac i'r athro hwnnw gofnodi'r canlyniadau.

(2Rhaid i'r disgybl gael ei asesu a rhaid i'r athro gofnodi'r canlyniadau ddim hwyrach na phythefnos cyn diwedd tymor yr haf.

(3Wrth asesu disgybl yn unol â'r erthygl hon caiff athro ystyried canlyniadau unrhyw asesiad blaenorol o'r disgybl (p'un a wnaed ef gan yr athro hwnnnw ai peidio).

Asesiad athrawon — Cymraeg, Saesneg, mathemateg, iaith dramor fodern, a gwyddoniaeth

5.—(1Yn achos Cymraeg, Saesneg, mathemateg, iaith dramor fodern a gwyddoniaeth, diben yr asesiad yw canfod lefel y cyrhaeddiad a gyflawnodd y disgybl ym mhob TC a bennwyd ar gyfer y pwnc sy'n gymwys i'r disgybl ac yn y pwnc fel y'i cyfrifir yn unol â pharagraff (3) ac eithrio os bydd erthygl 6(3) yn gymwys.

(2Datganiad o bob lefel cyrhaeddiad y mae'r disgybl wedi'i chyflawni (p'un a bennir y lefel honno mewn perthynas â'r trydydd cyfnod allweddol gan y gorchymyn adran 108(3)(a) a (b) perthnasol ai peidio) mewn perthynas â phob TC a grybwyllir ym mharagraff (1) ac, ac eithrio pan fydd erthygl 6(3) yn gymwys, o'i lefel yn y pwnc fel a gyfrifir felly fydd y cofnod o'r canlyniadau

(3Yn ddarostyngedig i erthygl 6, lefel cyrhaeddiad disgybl ym mob pwnc yw cyfartaledd ei lefelau ym mhob TC, ond yn achos mathemateg, mae lefel ei gyrhaeddiad yn TC2 (rhif ac algebra) i'w phwysoli â ffactor o ddau, ac yn achos Cymraeg pwysolir y TCau gan y ffactorau a ddangosir fel a ganlyn —

(a)yn achos disgybl sy'n dilyn rhaglen astudio o'r enw “Cymraeg” —

  • TC1 (llafar) 4;

  • TC2 (darllen) 3, a

  • TC3 (ysgrifennu) 3,

a

(b)yn achos disgybl sy'n dilyn rhaglen astudio o'r enw “Cymraeg Ail Iaith” —

  • TC1 (llafar) 3,

  • TC2 (darllen) 1, a

  • TC3 (ysgrifennu) 1.

Disgyblion nad ydynt yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol

6.—(1Mae erthygl 5(3) i fod yn effeithiol mewn perthynas â disgyblion nad yw darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn gymwys mewn perthynas â hwy (gan gynnwys disgyblion â datganiad anghenion addysgol arbennig) gyda'r addasiadau a bennir yn yr erthygl hon.

(2Os nad yw un TC mewn pwnc yn gymwys i un o'r disgyblion hynny, mae erthygl 5(3) i fod yn effeithiol fel petai nifer y TCau sy'n gymwys i'r disgybl yn gyfanswm y TCau yn y pwnc ac fel petai'r TC nad yw'n gymwys, ac unrhyw bwysoli mewn perthynas ag ef, yn cael ei ddiystyru.

(3Os nad yw rhagor nag un TC mewn pwnc yn gymwys i'r disgybl, nid yw erthygl 5(3) i fod yn gymwys i'r disgybl mewn perthynas â'r pwnc hwnnw.

(4Yn achos Cymraeg os yw'r disgybl yn dilyn rhaglen astudio o'r enw “Cymraeg Ail Iaith”, nid yw erthygl 5(3) i fod yn gymwys i'r disgybl hwnnw os nad yw TC1 (llafar) yn gymwys iddo.

Asesu gan athrawon: pynciau eraill

7.—(1Yn achos daearyddiaeth, hanes, celfyddyd, cerddoriaeth ac addysg gorfforol, diben yr asesu yw canfod y lefel cyrhaeddiad a gyflawnodd y disgybl yn y pwnc, a datganiad o'r lefel honno fydd y cofnod o'r canlyniadau.

(2Yn achos technoleg, diben yr asesu yw canfod y lefel cyrhaeddiad a gyflawnodd y disgybl yn y rhaglen astudio o'r enw “Dylunio a Thechnoleg” a chanfod y lefel cyrhaeddiad a gyflawnodd y disgybl yn y rhaglen astudio o'r enw “Technoleg Gwybodaeth”, a datganiad o'r lefelau hynny fydd y cofnod o'r canlyniadau.

Gwerthuso'r Trefniadau Asesu

8.  Rhaid i'r Awdurdod wneud y trefniadau y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol eu gwneud er mwyn penderfynu i ba raddau y mae darpariaethau erthygl 4 i 7 a'u gweithrediad yn cyflawni'r diben a grybwyllir yn erthygl 1(2).

Pwerau atodol y Cynulliad Cenedlaethol

9.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud y darpariaethau hynny y mae'n ymddangos yn hwylus iddo eu gwneud ac sy'n rhoi effaith lawn i'r darpariaethau a wneir o dan y Gorchymyn hwn (ac eithrio darpariaethau sy'n rhoi neu'n gosod swyddogaethau fel a grybwyllir yn adran 108(7) o'r Ddeddf) neu sy'n ychwanegu atynt mewn ffordd arall.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mai 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion yng Nghymru. Mae'n dirymu ac yn disodoli Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997 (fel y'i diwygiwyd). Mae'n pennu'r trefniadau asesu i ddisgyblion ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol tri.

Mae erthygl 2 yn dirymu Gorchymyn 1997 (fel y'i diwygiwyd).

Mae erthygl 3 yn cynnwys diffiniadau o dermau a ddefnyddir yn y Gorchymyn.

Mae erthygl 4 yn darparu i ddisgyblion gael eu hasesu gan athrawon.

Mae erthygl 5 yn gosod diben yr asesiad mewn Cymraeg, Saesneg, mathemateg, iaith dramor fodern a gwyddoniaeth ac yn gosod y rheolau technegol ar gyfer penderfynu lefelau cyrhaeddiad disgybl yn y pynciau hynny.

Mae erthygl 6 yn gosod rheolau arbennig sy'n gymwys mewn perthynas â disgyblion nad ydynt yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (gan gynnwys disgyblion â datganiad anghenion addysgol arbennig).

Mae erthygl 7 yn gosod diben yr asesiad mewn daearyddiaeth, hanes, celfyddyd, cerddoriaeth, addysg gorfforol a thechnoleg.

Mae erthygl 8 yn ei gwneud yn ofynnol i wneud trefniadau i werthuso'r trefniadau asesu.

Mae erthygl 9 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud darpariaeth sy'n rhoi effaith i'r darpariaethau a wneir gan y Gorchymyn hwn neu i wneud darpariaeth sy'n ychwanegu at y darpariaethau hynny.

Y newid sywleddol a wna'r Gorchymyn hwn yw nad yw bellach yn gwneud darpariaeth ar gyfer profion disgyblion. Yn unol â hynny, nid ailddeddfir erthyglau 10 a 11 o Orchymyn 1997.

(5)

Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd i fodoli o dan adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a chafodd ei enw presennol gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997 (p.44).

(6)

Y Gorchmynion perthnasol ar gyfer y trydydd cyfnod allweddol yw O.S. 2000/1159 (Cy.90) (Technoleg), O.S. 2000/1158 (Cy.89) (Cerddoriaeth), O.S. 2000/1157 (Cy.88) (Ieithoedd Tramor Modern), O.S. 2000/1156 (Cy.87) (Hanes), O.S. 2000/1155 (Cy.86) (Daearyddiaeth), O.S. 2000/1154 (Cy. 85) (Saesneg), O.S. 2000/1153 (Cy.84) (Celfyddyd), O.S. 2000/1101 (Cy.79) (Cymraeg), O.S. 2000/1100 (Cy.78) (Mathemateg), O.S. 2000/1099 (Cy.77) (Gwyddoniaeth), a O.S. 2000/1098 (Cy.76) (Addysg Gorfforol).

(7)

Gweler Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2000, O.S. 2000/1980 (Cy.141).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources