2005 Rhif 1394 (Cy.108)
ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 108(3)(c), (7), (8), (9), (10) ac (11) a 210(7) o Ddeddf Addysg 20021.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2005.

(2)

Mae darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys at ddiben canfod cyraeddiadau disgyblion sydd ym mlwyddyn olaf y trydydd cyfnod allweddol a hynny yn y pynciau craidd a'r pynciau sylfaen eraill.

(3)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Dirymu2.

Dirymir Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 19972, Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) (Diwygio) 19983 a Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) (Diwygio) 20014.

Dehongli3.

(1)

Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “a bennir” (“specified”) yw pennu mewn perthynas â'r trydydd cyfnod allweddol gan orchymyn adran 108(3)(a) a (b);

ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw'r awdurdod o'r enw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru5;

mae i “blwyddyn ysgol” yr ystyr a roddir i “school year” yn adran 97 o'r Ddeddf;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “y dogfennau cysylltiedig” (“the associated documents”) yw'r dogfennau a gyhoeddir gan yr Awdurod ac sy'n gosod unrhyw lefelau cyrhaeddiad, targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau craidd a'r pynciau sylfaen eraill, ac sy'n effeithiol yn rhinwedd y gorchymynion adran 108(3)(a) a (b) ar gyfer y pynciau hynny ac sydd mewn grym am y tro6;

ystyr “gorchmynion adran 108(3)(a) a (b)” (“section 108(a) and (b) orders”) yw gorchmynion a wneir, neu sydd â'r un effaith â phetaent wedi'u gwneud, o dan adran 108(3)(a) a (b) o'r Ddeddf ac sy'n pennu targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio;

ystyr “y pynciau craidd” (“the core subjects”) yw mathemateg, Saesneg, gwyddoniaeth, ac mewn perthynas ag ysgolion cyfrwng Cymraeg, Cymraeg;

ystyr “y pynciau sylfaen eraill” (“the other foundation subjects”) yw technoleg, addysg gorfforol, hanes, daearyddiaeth, celfyddyd, cerddoriaeth, Cymraeg os nad yw'r ysgol yn ysgol gyfrwng Gymraeg, ac iaith dramor fodern a bennir mewn gorchymyn a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu ag effaith fel pe bai wedi'i wneud, o dan adran 105(4) o'r Ddeddf7;

ystyr “TC” (“AT”) yw targed cyrhaeddiad;

ystyr “tymor yr haf” (“summer term”) yw'r tymor terfynol mewn blwyddyn ysgol;

mae i “ysgol a gynhelir” yr ysytyr a roddir i “maintained school” yn adran 97 o'r Ddeddf.

(2)

Mae cyfeiriadau at—

(a)

y trydydd cyfnod allweddol i'w dehongli yn unol ag adran 103 o'r Ddeddf; a

(b)

lefelau cyrhaeddiad, targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio yn gyfeiriadau at y lefelau, y targedau a'r rhaglenni a osodir yn y dogfennau cysylltiedig.

(3)

Os nad yw unrhyw rif cyfartalog y mae'n ofynnol ei benderfynu drwy'r Gorchymyn hwn yn rhif cyfan, rhaid ei dalgrynnu i'r rhif cyfan agosaf, gan dalgrynnu'r ffracsiwn un hanner i fyny i'r rhif cyfan nesaf.

(4)

Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl yn y Gorchymyn hwn sy'n dwyn y rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn yr erthygl y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddi.

Asesiad athrawon — cyffredinol4.

(1)

Rhaid i'r pennaeth drefnu i bob disgybl gael ei asesu gan athro ym mhob pwnc craidd a phob pwnc sylfaen arall yn ystod tymor yr haf yn unol â darpariaethau'r erthygl hon ac erthyglau 5 i 7, ac i'r athro hwnnw gofnodi'r canlyniadau.

(2)

Rhaid i'r disgybl gael ei asesu a rhaid i'r athro gofnodi'r canlyniadau ddim hwyrach na phythefnos cyn diwedd tymor yr haf.

(3)

Wrth asesu disgybl yn unol â'r erthygl hon caiff athro ystyried canlyniadau unrhyw asesiad blaenorol o'r disgybl (p'un a wnaed ef gan yr athro hwnnnw ai peidio).

Asesiad athrawon — Cymraeg, Saesneg, mathemateg, iaith dramor fodern, a gwyddoniaeth5.

(1)

Yn achos Cymraeg, Saesneg, mathemateg, iaith dramor fodern a gwyddoniaeth, diben yr asesiad yw canfod lefel y cyrhaeddiad a gyflawnodd y disgybl ym mhob TC a bennwyd ar gyfer y pwnc sy'n gymwys i'r disgybl ac yn y pwnc fel y'i cyfrifir yn unol â pharagraff (3) ac eithrio os bydd erthygl 6(3) yn gymwys.

(2)

Datganiad o bob lefel cyrhaeddiad y mae'r disgybl wedi'i chyflawni (p'un a bennir y lefel honno mewn perthynas â'r trydydd cyfnod allweddol gan y gorchymyn adran 108(3)(a) a (b) perthnasol ai peidio) mewn perthynas â phob TC a grybwyllir ym mharagraff (1) ac, ac eithrio pan fydd erthygl 6(3) yn gymwys, o'i lefel yn y pwnc fel a gyfrifir felly fydd y cofnod o'r canlyniadau

(3)

Yn ddarostyngedig i erthygl 6, lefel cyrhaeddiad disgybl ym mob pwnc yw cyfartaledd ei lefelau ym mhob TC, ond yn achos mathemateg, mae lefel ei gyrhaeddiad yn TC2 (rhif ac algebra) i'w phwysoli â ffactor o ddau, ac yn achos Cymraeg pwysolir y TCau gan y ffactorau a ddangosir fel a ganlyn —

(a)

yn achos disgybl sy'n dilyn rhaglen astudio o'r enw “Cymraeg” —

  • TC1 (llafar) 4;

  • TC2 (darllen) 3, a

  • TC3 (ysgrifennu) 3,

a

(b)

yn achos disgybl sy'n dilyn rhaglen astudio o'r enw “Cymraeg Ail Iaith” —

  • TC1 (llafar) 3,

  • TC2 (darllen) 1, a

  • TC3 (ysgrifennu) 1.

Disgyblion nad ydynt yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol6.

(1)

Mae erthygl 5(3) i fod yn effeithiol mewn perthynas â disgyblion nad yw darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn gymwys mewn perthynas â hwy (gan gynnwys disgyblion â datganiad anghenion addysgol arbennig) gyda'r addasiadau a bennir yn yr erthygl hon.

(2)

Os nad yw un TC mewn pwnc yn gymwys i un o'r disgyblion hynny, mae erthygl 5(3) i fod yn effeithiol fel petai nifer y TCau sy'n gymwys i'r disgybl yn gyfanswm y TCau yn y pwnc ac fel petai'r TC nad yw'n gymwys, ac unrhyw bwysoli mewn perthynas ag ef, yn cael ei ddiystyru.

(3)

Os nad yw rhagor nag un TC mewn pwnc yn gymwys i'r disgybl, nid yw erthygl 5(3) i fod yn gymwys i'r disgybl mewn perthynas â'r pwnc hwnnw.

(4)

Yn achos Cymraeg os yw'r disgybl yn dilyn rhaglen astudio o'r enw “Cymraeg Ail Iaith”, nid yw erthygl 5(3) i fod yn gymwys i'r disgybl hwnnw os nad yw TC1 (llafar) yn gymwys iddo.

Asesu gan athrawon: pynciau eraill7.

(1)

Yn achos daearyddiaeth, hanes, celfyddyd, cerddoriaeth ac addysg gorfforol, diben yr asesu yw canfod y lefel cyrhaeddiad a gyflawnodd y disgybl yn y pwnc, a datganiad o'r lefel honno fydd y cofnod o'r canlyniadau.

(2)

Yn achos technoleg, diben yr asesu yw canfod y lefel cyrhaeddiad a gyflawnodd y disgybl yn y rhaglen astudio o'r enw “Dylunio a Thechnoleg” a chanfod y lefel cyrhaeddiad a gyflawnodd y disgybl yn y rhaglen astudio o'r enw “Technoleg Gwybodaeth”, a datganiad o'r lefelau hynny fydd y cofnod o'r canlyniadau.

Gwerthuso'r Trefniadau Asesu8.

Rhaid i'r Awdurdod wneud y trefniadau y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol eu gwneud er mwyn penderfynu i ba raddau y mae darpariaethau erthygl 4 i 7 a'u gweithrediad yn cyflawni'r diben a grybwyllir yn erthygl 1(2).

Pwerau atodol y Cynulliad Cenedlaethol9.

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud y darpariaethau hynny y mae'n ymddangos yn hwylus iddo eu gwneud ac sy'n rhoi effaith lawn i'r darpariaethau a wneir o dan y Gorchymyn hwn (ac eithrio darpariaethau sy'n rhoi neu'n gosod swyddogaethau fel a grybwyllir yn adran 108(7) o'r Ddeddf) neu sy'n ychwanegu atynt mewn ffordd arall.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19988.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion yng Nghymru. Mae'n dirymu ac yn disodoli Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997 (fel y'i diwygiwyd). Mae'n pennu'r trefniadau asesu i ddisgyblion ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol tri.

Mae erthygl 2 yn dirymu Gorchymyn 1997 (fel y'i diwygiwyd).

Mae erthygl 3 yn cynnwys diffiniadau o dermau a ddefnyddir yn y Gorchymyn.

Mae erthygl 4 yn darparu i ddisgyblion gael eu hasesu gan athrawon.

Mae erthygl 5 yn gosod diben yr asesiad mewn Cymraeg, Saesneg, mathemateg, iaith dramor fodern a gwyddoniaeth ac yn gosod y rheolau technegol ar gyfer penderfynu lefelau cyrhaeddiad disgybl yn y pynciau hynny.

Mae erthygl 6 yn gosod rheolau arbennig sy'n gymwys mewn perthynas â disgyblion nad ydynt yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (gan gynnwys disgyblion â datganiad anghenion addysgol arbennig).

Mae erthygl 7 yn gosod diben yr asesiad mewn daearyddiaeth, hanes, celfyddyd, cerddoriaeth, addysg gorfforol a thechnoleg.

Mae erthygl 8 yn ei gwneud yn ofynnol i wneud trefniadau i werthuso'r trefniadau asesu.

Mae erthygl 9 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud darpariaeth sy'n rhoi effaith i'r darpariaethau a wneir gan y Gorchymyn hwn neu i wneud darpariaeth sy'n ychwanegu at y darpariaethau hynny.

Y newid sywleddol a wna'r Gorchymyn hwn yw nad yw bellach yn gwneud darpariaeth ar gyfer profion disgyblion. Yn unol â hynny, nid ailddeddfir erthyglau 10 a 11 o Orchymyn 1997.