Search Legislation

Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Gwasanaethau (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo landlord—

(a)yn bwriadu ymrwymo i gytundeb hir-dymor cymwys y mae adran 20 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 yn gymwys iddo(1) ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym; neu

(b)yn bwriadu cyflawni gwaith cymwys y mae'r adran(2) honno'n gymwys iddo ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “adran 20” (“section 20”) yw adran 20 (cyfyngu ar daliadau gwasanaeth: gofynion ymgynghori) o Ddeddf 1985;

ystyr “adran 20ZA” (“section 20ZA”) yw adran 20ZA (gofynion ymgynghori: atodol) o'r Ddeddf honno;

ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”), mewn perthynas â hysbysiad, yw'r cyfnod o 30 diwrnod yn cychwyn ar ddyddiad yr hysbysiad;

ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Landlord a Thenant 1985(3);

ystyr “hysbysiad cyhoeddus” (“public notice”) yw hysbysiad a gyhoeddir yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn unol â Rheoliadau Contractau Gwaith Cyhoeddus 1991(4), Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993(5)) neu Reoliadau Contractau Cyflenwad Cyhoeddus 1995(6);

ystyr “materion perthnasol” (“relevant matters”), mewn perthynas â chytundeb a gynigir, yw'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd i'w darparu neu'r gwaith sydd i'w gyflawni (yn ôl y digwydd) o dan y cytundeb;

ystyr “person a enwebwyd” (“nominated person”) yw person y cynigir ei enw mewn ymateb i wahoddiad a wneir fel y crybwyllir ym mharagraff 1(3) o Atodlen 1 neu baragraff 1(3) o Ran 2 o Atodlen 4; ac ystyr “enwebiad” (“nomination”) yw unrhyw gynnig o'r fath;

ystyr “perthynas agos” (“close relative”), mewn perthynas â pherson, yw priod neu un sy'n cyd-fyw â'r person hwnnw, rhiant, rhiant-yng-nghyfraith, mab, mab-yng-nghyfraith, merch, merch-yng-nghyfraith, brawd, brawd-yng-nghyfraith, chwaer, chwaer-yng-nghyfraith, llysriant, llysfab neu lysferch y person hwnnw;

ystyr “tenant RTB” (“RTB tenant”), mewn perthynas â landlord, yw person sydd wedi mynd yn denant i'r landlord yn rhinwedd adran 138 o Ddeddf Tai 1985(7) (dyletswydd landlord i drosglwyddo rhydd-ddaliad neu roi les), adran 171A o'r Ddeddf honno (achosion lle y cadwyd yr hawl i brynu), neu adran 16 o Ddeddf Tai 1996(8) (hawl tenant i gaffael annedd)(9) o dan brydles y mae ei thelerau'n cynnwys gofyniad bod y tenant yn ysgwyddo rhan resymol o'r costau hynny a dynnir gan y landlord ac y sonnir amdanynt ym mharagraffau 16A i 16D o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno (taliadau gwasanaeth a chyfraniadau eraill sy'n daladwy gan y tenant)(10));

ystyr “tenantiaeth RTB” (“RTB tenancy”) yw tenantiaeth tenant RTB;

ystyr “un sy'n cyd-fyw” (“cohabitee”), mewn perthynas â pherson, yw—

(a)

person o'r rhyw arall sy'n byw gyda'r person hwnnw fel pe bai'n ŵ r neu'n wraig iddo; neu

(b)

person o'r un rhyw sy'n byw gyda'r person hwnnw mewn perthynas y mae iddi'r un nodweddion ag sydd i'r berthynas rhwng gŵ r a gwraig;

(2At ddibenion unrhyw amcangyfrif sydd i'w roi gan y landlord ac y mae unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn yn ei wneud yn ofynnol—

(a)cynhwysir treth ar werth lle y bo'n gymwys; a

(b)pan fo a wnelo'r amcangyfrif â chytundeb a gynigir, tybied mai dim ond gyda threigl amser y bydd y cytundeb yn dod i ben.

Cytundebau nad ydynt yn gytundebau hir-dymor cymwys

3.—(1Nid yw cytundeb yn gytundeb hir-dymor cymwys(11)

(a)os contract cyflogaeth ydyw; neu

(b)os cytundeb rheoli ydyw a wnaed gan awdurdod tai lleol(12) ac—

(i)corff rheoli tenantiaid; neu

(ii)corff a sefydlwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(13);

(c)os yw'r partïon i'r cytundeb —

(i)yn gwmni daliannol ac yn un neu fwy o'i is-gwmnïau; neu

(ii)yn ddau neu fwy o is-gwmnïau'r un cwmni daliannol;

(ch)os—

(i)pan ymrwymir i'r cytundeb, nad oes tenantiaid i'r adeilad neu i'r tir ac adeiladau eraill y mae a wnelo'r cytundeb â hwy; a

(ii)cytundeb am dymor nad yw'n fwy na phum mlynedd yw'r cytundeb.

(2Nid yw cytundeb yr ymrwymir iddo gan neu ar ran y landlord neu uwch-landlord—

(a)cyn y daw'r Rheoliadau hyn i rym; a

(b)am gyfnod o fwy na deuddeng mis,

yn gytundeb hir-dymor cymwys, er bod mwy na deuddeng mis o'r cyfnod yn dal yn weddill pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.

(3Nid yw cytundeb am dymor o fwy na deuddeng mis, yr ymrwymir iddo, gan neu ar ran y landlord neu uwch-landlord, ac sy'n darparu ar gyfer cyflawni gwaith cymwys y rhoddwyd hysbysiad cyhoeddus ohono cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, yn gytundeb hir-dymor cymwys.

(4Ym mharagraff (1)—

ystyr “corff rheoli tenantiaid” (“tenant management organisation”) yw'r ystyr a roddir iddo gan adran 27AB(8) o Ddeddf Tai 1985(14);

ystyr “cwmni daliannol” (“holding company”) ac “is-gwmnïau” (“subsidiaries”) yw'r ystyr sydd iddynt yn Neddf Cwmnïau 1985(15)); ac

ystyr “cytundeb rheoli” (“management agreement”) yw'r ystyr a roddir iddo gan adran 27(2) o Ddeddf Tai 1985(16).

Cymhwyso adran 20 i gytundebau hir-dymor cymwys

4.—(1Bydd adran 20 yn gymwys i gytundebau hir-dymor cymwys os bydd costau perthnasol(17) a dynnir o dan y cytundeb mewn unrhyw gyfnod cyfrifydda yn fwy na swm sy'n peri bod cyfraniad perthnasol unrhyw denant, mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw, yn fwy na £100.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “cyfnod cyfrifydda” yw cyfnod—

(a)sy'n dechrau ar y dyddiad perthnasol, a

(b)sy'n gorffen ar y dyddiad sydd ddeuddeng mis ar ôl y dyddiad perthnasol.

(3Yn achos y cyfnod cyfrifydda cyntaf, y dyddiad perthnasol yw—

(a)y dyddiad y bydd y cyfnod sy'n cynnwys y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn gorffen, os cwblheir y cyfrifon perthnasol am gyfnodau o ddeuddeng mis, neu

(b)y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, os na chwblhawyd y cyfrifon felly.

(4Yn achos cyfnodau cyfrifydda canlynol, y dyddiad perthnasol yw'r dyddiad sy'n dod yn union ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifydda blaenorol.

Y gofynion ymgynghori: cytundebau hir-dymor cymwys

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mewn perthynas â chytundebau hir-dymor cymwys y mae adran 20 yn gymwys iddynt, y gofynion ymgynghori at ddibenion yr adran honno ac adran 20ZA yw'r gofynion a bennir yn Atodlen 1.

(2Os oes angen rhoi hysbysiad cyhoeddus o'r materion perthnasol y mae a wnelo'r cytundeb hir-dymor cymwys â hwy, y gofynion ymgynghori at ddibenion adrannau 20 a 20ZA, o ran y cytundeb, yw'r gofynion a bennir yn Atodlen 2.

(3Mewn perthynas â thenant RTB ac a chytundeb hir-dymor cymwys penodol, nid oes dim ym mharagraff (1) neu (2) yn ei gwneud yn ofynnol i landlord gydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion ymgynghori sy'n gymwys i'r cytundeb hwnnw ac sy'n codi cyn yr unfed dydd ar ddeg ar hugain o'r denantiaeth RTB.

Cymhwyso adran 20 i waith cymwys

6.  At ddibenion is-adran (3) o adran 20 y swm priodol yw swm sy'n peri bod cyfraniad perthnasol unrhyw denant yn fwy na £250.

Y gofynion ymgynghori: gwaith cymwys

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw gwaith cymwys (pa un ai wrth ei hun neu ynghyd â materion eraill) yn destun cytundeb hir-dymor cymwys y mae adran 20 yn gymwys iddo, y gofynion ymgynghori at ddibenion yr adran honno ac adran 20ZA, mewn cysylltiad â'r gwaith hwnnw, yw'r gofynion a bennir yn Atodlen 3.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mewn achos y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, y gofynion ymgynghori at ddibenion adran 20 ac adran 20ZA, mewn cysylltiad â gwaith cymwys y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, yw'r rhai a bennir yn Atodlen 3.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os cyflawnir gwaith ar unrhyw adeg ar neu ar ôl y dyddiad sydd ddau fis ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, a hynny o dan gytundeb yr ymrwymir iddo, gan neu ar ran y landlord neu uwch-landlord, cyn y daw'r Rheoliadau hyn i rym; neu

(b)os cyflawnir, unrhyw bryd ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, waith cymwys y rhoddwyd hysbysiad cyhoeddus ohono cyn y dyddiad hwnnw, a hynny o dan gytundeb sydd am gyfnod o fwy na deuddeng mis ac yr ymrwymir iddo, gan neu ar ran y landlord neu uwch-landlord.

(4Ac eithrio mewn achos y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, ac yn ddarostyngedig i baragraff (5), os nad yw gwaith cymwys yn destun cytundeb hir-dymor cymwys y mae adran 20 yn gymwys iddo, y gofynion ymgynghori at ddibenion yr adran honno ac adran 20ZA, mewn cysylltiad â'r gwaith hwnnw yw—

(a)y rhai a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 4, mewn achos y mae'n ofynnol rhoi hysbysiad cyhoeddus o'r gwaith hwnnw;

(b)y rhai a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen honno, mewn unrhyw achos arall.

(5Mewn perthynas â thenant RTB a gwaith cymwys penodol, nid oes dim ym mharagraff (1), (2) neu (4) sy'n ei gwneud yn ofynnol i landlord gydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion ymgynghori sy'n gymwys i'r cytundeb hwnnw ac sy'n codi cyn yr unfed dydd ar ddeg ar hugain o'r denantiaeth RTB.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(18)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Mawrth 2004

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources