Search Legislation

Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 2(c)(iv)

ATODLEN 1DIDDYMIADAU

RHAN 1TRIBIWNLYSOEDD PRISIO PRYDLESI

Teitl byr a phennodHyd a lled y diddymiad
Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi 1967 (p. 88)Adran 21(1A) a (3) i (4A).
Deddf Tai 1980 (p. 51)

Yn adran 142—

  • is-adran (2), ac

  • yn is-adran (3), y geiriau o'r dechrau i “and”.

Yn Atodlen 22—

  • Rhan 1, ac yn Rhan 2, paragraff 8(4) i (6).

Deddf Landlord a Thenant, 1985 (p. 70)

Adrannau 31A i 31C.

Yn yr Atodlen, paragraff 8(5).

Deddf Landlord a Thenant 1987 (p.31)

Adran 23(2).

Adrannau 24A a 24B.

Yn adran 38, yn y nodyn ochr, y geiriau “by the court”.

Adran 52A

Yn adran 53(2), y geiriau “under section 52A(3) or”.

Deddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 (p. 53)Yn Atodlen 3, paragraff 13.
Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28)

Adran 75(4) a (5)

Yn adran 88—

  • yn is-adran (2)(b), y geiriau “constituted for the purposes of that Part of that Act”, a

  • is-adrannau (3) i (5) a (7).

Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi, Tai a Datblygu Trefol 1993

Yn adran 91—

  • yn is-adran (1), y geiriau o'r dechrau i “this section; and”,

  • is-adrannau (3) i (8),

  • is-adran (10), ac

  • yn is-adran (11), y geiriau o “and the reference” i'r diwedd.

Yn adran 94, yn is-adran (10), y geiriau o “and references in this subsection” i'r diwedd.

Yn adran 101(1), y diffiniad o “rent assessment committee”.

Deddf Tai 1996 (p. 52)

Adran 83(3).

Adran 86(4) a (5).

Adran 119.

Yn Atodlen 6, yn Rhan 4, paragraffau 7 ac 8.

RHAN 2DIDDYMIADAU ERAILL

Teitl byr a phennodHyd a lled y diddymiad
Deddf Landlord a Thenant 1985 (p. 70)

Adran 19(2A) i (3).

Yn adran 39, y cofnod sy'n cyfeirio at yr ymadrodd “flat”.

Yn yr Atodlen—

  • yn y pennawd cyn paragraff 2, y geiriau “Request for”,

  • yn y pennawd cyn paragraff 4, y geiriau “Request relating to”,

  • yn y pennawd cyn paragraff 5, y geiriau “on request”.

Deddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31)

Yn adran 29(2)(a), y geiriau “repair, maintenance, insurance or”.

Adran 56(2).

Yn Atodlen 2, paragraffau 3 a 7

Deddf Tai 1996 (p.52)

Adran 83(1).

Yn Atodlen 9, paragraff 2(3) a (7).

Erthygl 2(c)

ATODLEN 2ARBEDION

Landlordiad absennol — tai lesddaliad

1.  Ni chaiff y diwygiadau a wnaed gan adrannau 148 a 149 effaith mewn perthynas â chais am ryddfreinio a wneir o dan adran 27 o Ddeddf 1967 cyn 31 Mawrth 2004.

Diffiniad o daliadau gwasanaethau

2.  Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 7 o Atodlen 9 yn gymwys i gostau a dynnir cyn 31 Mawrth 2004 mewn cysylltiad â materion y codir tâl gwasanaethau ar eu cyfer.

Ystyr “management” yn adran 24 o Ddeddf 1987

3.  Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 8 o Atodlen 9 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 24 o Ddeddf 1987 cyn 31 Mawrth 2004.

Yr hawl i gaffael buddiant y landlord

4.  Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 9 o Atodlen 9 a'r diddymiad yn adran 29 o Ddeddf 1987 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 29 o'r Ddeddf honno cyn 31 Mawrth 2004.

Hawl tenant i gael archwiliad rheoli

5.  Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraff 10 o Atodlen 9 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 80 o Ddeddf 1993 cyn 31 Mawrth 2004.

Rhwymedigaeth i dalu taliadau gwasanaethau

6.  Ni fydd effaith i'r diwygiad a wnaed gan adran 155 a diddymiadau adran 19(2A) i (3) o Deddf 1985 ac o adran 83(1) o Ddeddf 1996 mewn perthynas ag —

(a)unrhyw gais a wneir i TPL o dan adran 19(2A) neu (2B) o Deddf 1985; neu

(b)unrhyw achos sy'n ymwneud â thaliad gwasanaethau a drosglwyddir i TPL gan lys sirol,

cyn 31 Mawrth 2004.

Yswiriant

7.  Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraffau 8 i 13 o Atodlen 10 a'r diddymiadau canlyniadol yn yr Atodlen i Deddf 1985 yn gymwys i gais a wneir o dan yr Atodlen honno cyn 31 Mawrth 2004.

Taliadau gweinyddol: rhesymoldeb, galwadau ac atebolrwydd i dalu

8.  Ni fydd paragraffau 2 i 5 o Atodlen 11 yn gymwys i dâl gweinyddol a oedd yn daladwy cyn 31 Mawrth 2004.

Taliadau gweinyddol: penodi rheolwr

9.  Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraff 8 o Atodlen 11 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 24 o Ddeddf 1987 cyn 31 Mawrth 2004.

Taliadau o dan gynlluniau rheoli ystadau

10.  Ni fydd Adran 159 yn gymwys i daliad o dan gynllun rheoli ystad a oedd yn daladwy cyn 31 Mawrth 2004.

Amrywio prydlesi: trosglwyddo awdurdodaeth

11.  Ni chaiff y diwygiadau a wnaed gan adran 163 effaith mewn perthynas â chais a wneir i'r llys o dan Ran 4 o Ddeddf 1897 cyn 31 Mawrth 2004.

Tir y Goron: amrywio prydlesi

12.  Ni fydd amrywiad unrhyw denantiaeth a wneir gan orchymyn neu yn unol â gorchymyn a wnaed cyn 31 Mawrth 2004 o dan adran 38 o Ddeddf 1987 yn cael ei drin fel un sy'n rhwymo'r Goron, fel rhagflaenydd yn y teitl o dan y denantiaeth, yn rhinwedd adran 39(1) o'r Ddeddf honno.

Tribiwnlysoedd prisio prydlesi

13.  Ni fydd effaith i Adran 175, y diwygiadau a wnaed gan adran 176 ac Atodlen 13 a'r diddymiadau yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn mewn perthynas ag —

(a)unrhyw gais a wneir i TPL; neu

(b)unrhyw achosion a drosglwyddir i TPL gan gyngor sir,

cyn 31 Mawrth 2004.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources