- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
2 Mawrth 2004
Yn dod i rym
5 Mawrth 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad(2) ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd(3) ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2004, byddant yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 5 Mawrth 2004.
2. Yn Atodlen 3 i Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(4)), yn y cofnod am E425 yn lle'r geiriau yn nhrydedd golofn y cofnod hwnnw, rhodder y geiriau “Foods in general (except those referred to in Schedules 6, 7 and 8, and jelly confectionery, including jelly mini-cups)”.
3.—(1) Hepgorir paragraff (2) o reoliad 3 (diwygiadau canlyniadol) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2003(5).
(2) Yn y Rheoliadau a restrir isod, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae cyfeiriadau at Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 i'w dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1997(6), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999(7), Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001(8)), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001(9) Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001(10)), Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001(11), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002(12), Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002(13)), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2003(14), Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003(15)), Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003(16), Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003(17), Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Powdr (Cymru) 2003(18), Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003(19), Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003(20)), Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004(21) a'r Rheoliadau hyn:
Rheoliadau Hydrocarbonau Mwynau mewn bwyd 1966(22);
Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992(23);
Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(24);
Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984(25).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(26)).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Mawrth 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, fel y'u diwygiwyd eisoes (“y prif Reoliadau”) sy'n gymwys i Brydain Fawr gyfan.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Cyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 2003/52/EC(27) yn diwygio Cyfarwyddeb 95/2/EC(28) o ran amodau defnydd ychwanegyn bwyd E425 Konjac.
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu i E425 Konjac gael ei ddefnyddio mewn Bwydydd yn gyffredinol (ac eithrio mewn rhai bwydydd a bennir yn y prif Reoliadau) ond nid mewn cyffaith jeli. Mae cyffaith jeli yn cynnwys teisennau cwpan jeli.
4. Nid oes asesiad o effaith y rheoliadau wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn gan na fydd gan yr offeryn effaith ar gostau busnes. Mae nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/52 yn cael eu trosi yn y rheoliadau hyn wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11 Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, c. 1.
O.S. 1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413, O.S. 1999/1136, O.S. 2001/1787 (Cy.128), O.S. 2002/329 (Cy.42) ac O.S. 2003/945 (Cy.126).
O.S. 1966/1073; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.
O.S. 1992/1978; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.
O.S. 1996/1499; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 1984/1566; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.
OJ Rhif L178, 17.7.2003, t.23.
OJ Rhif L61, 18.3.1995, t.1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: