2004 Rhif 554 (Cy.57)
BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 1 a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad2 ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd3 ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso1.

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2004, byddant yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 5 Mawrth 2004.

Diwygiad o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 19952.

Yn Atodlen 3 i Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 19954), yn y cofnod am E425 yn lle'r geiriau yn nhrydedd golofn y cofnod hwnnw, rhodder y geiriau “Foods in general (except those referred to in Schedules 6, 7 and 8, and jelly confectionery, including jelly mini-cups)”.

Diwygiadau canlyniadol3.

(1)

Hepgorir paragraff (2) o reoliad 3 (diwygiadau canlyniadol) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 20035.

(2)

Yn y Rheoliadau a restrir isod, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae cyfeiriadau at Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 i'w dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 19976, Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 19997, Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 20018), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 20019 Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 200110), Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 200111, Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 200212, Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 200213), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 200314, Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 200315), Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 200316, Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 200317, Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Powdr (Cymru) 200318, Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 200319, Rheoliadau Mêl (Cymru) 200320), Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 200421 a'r Rheoliadau hyn:
  • Rheoliadau Hydrocarbonau Mwynau mewn bwyd 196622;
  • Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 199223;
  • Rheoliadau Labelu Bwyd 199624;
  • Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 198425.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199826).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, fel y'u diwygiwyd eisoes (“y prif Reoliadau”) sy'n gymwys i Brydain Fawr gyfan.

2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Cyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 2003/52/EC27 yn diwygio Cyfarwyddeb 95/2/EC28 o ran amodau defnydd ychwanegyn bwyd E425 Konjac.
3.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu i E425 Konjac gael ei ddefnyddio mewn Bwydydd yn gyffredinol (ac eithrio mewn rhai bwydydd a bennir yn y prif Reoliadau) ond nid mewn cyffaith jeli. Mae cyffaith jeli yn cynnwys teisennau cwpan jeli.

4.

Nid oes asesiad o effaith y rheoliadau wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn gan na fydd gan yr offeryn effaith ar gostau busnes. Mae nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/52 yn cael eu trosi yn y rheoliadau hyn wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11 Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.