- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Rhaid i gynllun a wneir o dan y Rhan hon ddarparu bod lwfans awdurdod tân yn cael ei dalu, am bob blwyddyn y mae'r cynllun yn ymwneud â hi, i bob aelod o'r awdurdod tân, a rhaid i swm y lwfans hwnnw fod yr un fath â'r swm a delir i bob aelod.
(2) At ddibenion y flwyddyn sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005, ni fydd cyfanswm y lwfans awdurdod tân sy'n daladwy i bob aelod o dan y cynllun yn fwy na £505.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3)(a), (4) a (5) o reoliad 6, ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006, ni fydd cyfanswm y lwfans awdurdod tân sy'n daladwy i bob aelod o dan y cynllun yn fwy na £1,002.
(4) At ddibenion y blynyddoedd sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 neu ar ôl hynny, ni fydd cyfanswm y lwfans awdurdod tân sy'n daladwy i bob aelod o dan y cynllun (yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3)(a), (4) a (5) o reoliad 6) yn fwy na chyfanswm y lwfans a oedd yn daladwy yn ystod y flwyddyn flaenorol.
(5) Os bydd cyfnod swydd aelod yn para am ran o flwyddyn yn unig, rhaid i'r cynllun ddarparu y bydd hawl yr aelod hwnnw yn hawl i gael tâl am y gyfran honno o'r lwfans awdurdod tân hwnnw sy'n cyfateb i nifer y dyddiau y mae cyfnod swydd yr aelod o'i chymharu â nifer y dyddiau yn y cyfnod hwnnw.
(6) Pan fo aelod yn cael ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol(1) o gyfrifoldebau a dyletswyddau'r aelod hwnnw yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000 neu â rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno(2), rhaid i'r cynllun bennu y caiff yr awdurdod tân wrthod talu'r gyfran honno o'r lwfans awdurdod tân sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn perthynas â'r cyfnod pan ataliwyd yr aelod dros dro neu ataliwyd ef dros dro yn rhannol.
(7) Rhaid i gynllun a baratoir o dan y Rhan hon ddarparu na fydd mwy nag un lwfans awdurdod tân yn daladwy i aelod.
Gweler adran 83(7) i (10) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Gweler yn enwedig O.S. 2001/2287 (Cy.171).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: