- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Caniateir diwygio neu ddirymu cynllun a wneir o dan y Rhan hon ar unrhyw adeg.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), canateir i gynllun a wneir o dan y ddarpariaeth hon ddarparu ar gyfer addasu lwfansau yn flynyddol, a hynny o ran y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006 a'r blynyddoedd dilynol.
(3) Rhaid i addasiad blynyddol a wneir gan awdurdod tân—
(a)yn achos lwfans awdurdod tân, beidio â bod yn fwy na'r swm sy'n cynrychioli cyfartaledd yr holl addasiadau blynyddol a wnaed (os gwnaed addasiadau) gan ei awdurdodau cyfansoddol i'r lwfansau sylfaenol(1) sy'n daladwy gan yr awdurdodau hynny yn y flwyddyn honno, o dan Reoliadau 2002; a
(b)yn achos lwfans cadeirydd awdurdod tân a lwfans is-gadeirydd awdurdod tân, beidio â bod yn fwy na'r swm sy'n cynrychioli cyfartaledd yr holl addasiadau blynyddol a wnaed (os gwnaed addasiadau) gan ei awdurdodau cyfansoddol i'r lwfansau cyfrifoldebau arbennig(2) sy'n daladwy gan yr awdurdodau hynny yn y flwyddyn honno, o dan Reoliadau 2002.
(4) Pan fo addasiad i'w wneud i gynllun a fydd yn effeithio ar y lwfans sy'n daladwy ar gyfer y flwyddyn y gwneir yr addasiad, caiff y cynllun ddarparu bod yr hawl i gael y lwfans sydd wedi'i addasu yn gymwys o ddechrau'r flwyddyn y gwneir yr addasiad ynddi.
(5) Pan nad yw cynllun yn darparu bod yr hawl i gael lwfans sydd wedi'i addasu yn gymwys o ddechrau blwyddyn, fel a ddisgrifir ym mharagraff (4)—
(a)bydd yr addasiad yn effeithiol o ddyddiad yr addasu; a
(b)bydd yr hawl i gael y lwfans hwnnw sydd wedi'i addasu yn hawl i gael tâl am y gyfran honno o'r lwfans hwnnw sy'n cyfateb i nifer y dyddiau y mae'r lwfans yn effeithiol yn ystod y flwyddyn honno o'i chymharu â nifer y dyddiau sydd yn y flwyddyn honno.
Gweler rheoliad 7 o O.S. 2002/1895 (Cy.196).
Gweler rheoliad 8 o O.S. 2002/1895 (Cy.196).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: