- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Gorffennaf 2004, a'i enw yw Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Ddinbych) 2004.
2. Yn y Gorchymyn hwn:—
ystyr “yr ardal barcio” (“the parking area”) yw'r ardal a ddynodir yn ardal barcio a ganiateir ac yn ardal barcio arbennig gan erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn;
ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1); ac
ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Traffig Ffyrdd 1991.
3. Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Sir Ddinbych gyfan ac eithrio hyd cyfan yr A55, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno a'i ffyrdd ymadael, o fewn y sir.
4. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol drwy hyn yn dynodi'r ardal y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddi—
(a)yn ardal barcio a ganiateir; a
(b)yn ardal barcio arbennig.
5. Mae adrannau 66, 69 i 74, 78, 79 ac 82 o Ddeddf 1991 ac Atodlen 6 iddi yn gymwys mewn perthynas â'r ardal barcio ac yn ôl y cymhwysiad hwnnw maent yn effeithiol yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
6. Addesir Deddf 1984 mewn perthynas â'r ardal barcio fel a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Mehefin 2004
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: