- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
30 Mawrth 2004
Yn dod i rym
12 Ebrill 2004
1.—(1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 12 Ebrill 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Y swm y mae'n rhaid i awdurdod lleol ragdybio o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 y bydd ar berson ei angen at anghenion personol y person hwnnw yw £18.40 yr wythnos.
3. Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2003(3) drwy hyn wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r swm wythnosol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru i ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ar breswylwyr sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ei angen at eu hanghenion personol.
O 12 Ebrill 2004 ymlaen, rhagdybir y bydd ar bob preswylydd o'r fath angen £18.40 yr wythnos at eu hanghenion personol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2003 sy'n cael eu dirymu, ac oedd yn rhagnodi'r swm wythnosol o £17.80.
1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ar gyfer y diffiniadau o “the Minister” a “prescribed” yn eu trefn, ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S. 1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: