2004 Rhif 1024 (Cy.121)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 19481 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 12 Ebrill 2004.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Y swm y mae ei angen at anghenion personol2.

Y swm y mae'n rhaid i awdurdod lleol ragdybio o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 y bydd ar berson ei angen at anghenion personol y person hwnnw yw £18.40 yr wythnos.

Dirymu3.

Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 20033 drwy hyn wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r swm wythnosol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru i ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ar breswylwyr sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ei angen at eu hanghenion personol.

O 12 Ebrill 2004 ymlaen, rhagdybir y bydd ar bob preswylydd o'r fath angen £18.40 yr wythnos at eu hanghenion personol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2003 sy'n cael eu dirymu, ac oedd yn rhagnodi'r swm wythnosol o £17.80.