- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
27 Mawrth 2003
Yn dod i rym
30 Mai 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2) ac yntau wedi parchu yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar gyfer materion sy'n ymwneud â dioglewch bwyd(3) ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 30 Mai 2003.
2. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(4)), yn y diffiniad o “Directive 96/77/EC”(5), yn lle'r geiriau “and Commission Directive 2001/30/EC” rhoddir y geiriau “, Commission Directive 2001/30/EC(6) and Commission Directive 2002/82/EC”(7).
3.—(1) Hepgorir paragraff (2) o reoliad 9 (diwygiadau canlyniadol) Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002(8).
(2) Yn y Rheoliadau a restrir isod, i'r graddau y maent yn ymestyn i Gymru, dylid dehongli cyfeiriadau at Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1997(9)), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999(10), Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2000(11)), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001(12), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002 a'r Rheoliadau hyn:
Rheoliadau Hydrocarbonau Mwynol mewn Bwyd 1966(13);
Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976(14));
Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976(15);
Rheoliadau Suddion Ffrwythau a Nectarau Ffrwythau 1977(16));
Rheoliadau Llaeth Tewychedig a Llaeth Sych 1977(17);
Rheoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981(18);
Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984(19);
Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992(20);
Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(21)).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(22)
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, fel y'u diwygiwyd eisoes (“y prif Reoliadau”), sy'n ymestyn i Brydain Fawr.
Mae'r Rheoliadau yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/82/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 96/77/EC sy'n gosod meini prawf purdeb pendodol ar ychwanegion bwyd heblaw am liwiau a melyswyr (OJ Rhif L292,28.10.2002.p.1).
Mae'r Rheoliadau yn pennu meini prawf purdeb newydd mewn perthynas â'r ychwanegion a bennwyd yn yr Atodlen i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/ 82/EC (rheoliad 2) ac yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Reoliadau penodol mewn perthynas â chyfeiriadau yn y Rheoliadau hynny at y prif Reoliadau (rheoliad 3).
Ni pharatowyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), fel y caiff ei ddarllen gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999.
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.
O.S. 1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413, O.S. 1999/1136, O.S. 2001/1787 (Cy.128) ac O.S. 2002/329 (Cy.42).
OJ Rhif L339, 30.12.1996, t.1.
OJ Rhif L146, 31.5.2001, t.1.
OJ Rhif L292, 28.10.2002, t.1.
O.S. 1966/1073; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.
O.S. 1976/509; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.
O.S. 1976/541; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.
O.S. 1977/927; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.
O.S. 1977/928; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.
O.S. 1981/1063; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.
O.S. 1984/1566; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.
O.S. 1992/1978; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.
O.S. 1996/1499; y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: