2003 Rhif 945 (Cy.126)
BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2 ac yntau wedi parchu yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar gyfer materion sy'n ymwneud â dioglewch bwyd3 ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 30 Mai 2003.

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 19952.

Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 19954), yn y diffiniad o “Directive 96/77/EC5, yn lle'r geiriau “and Commission Directive 2001/30/EC” rhoddir y geiriau “, Commission Directive 2001/30/EC6 and Commission Directive 2002/82/EC7.

Diwygiadau canlyniadol3.

(1)

Hepgorir paragraff (2) o reoliad 9 (diwygiadau canlyniadol) Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 20028.

(2)

Yn y Rheoliadau a restrir isod, i'r graddau y maent yn ymestyn i Gymru, dylid dehongli cyfeiriadau at Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 19979), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 199910, Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 200011), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 200112, Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002 a'r Rheoliadau hyn:
  • Rheoliadau Hydrocarbonau Mwynol mewn Bwyd 196613;
  • Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 197614);
  • Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 197615;
  • Rheoliadau Suddion Ffrwythau a Nectarau Ffrwythau 197716);
  • Rheoliadau Llaeth Tewychedig a Llaeth Sych 197717;
  • Rheoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 198118;
  • Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 198419;
  • Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 199220;
  • Rheoliadau Labelu Bwyd 199621).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199822
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, fel y'u diwygiwyd eisoes (“y prif Reoliadau”), sy'n ymestyn i Brydain Fawr.

Mae'r Rheoliadau yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/82/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 96/77/EC sy'n gosod meini prawf purdeb pendodol ar ychwanegion bwyd heblaw am liwiau a melyswyr (OJ Rhif L292,28.10.2002.p.1).

Mae'r Rheoliadau yn pennu meini prawf purdeb newydd mewn perthynas â'r ychwanegion a bennwyd yn yr Atodlen i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/ 82/EC (rheoliad 2) ac yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Reoliadau penodol mewn perthynas â chyfeiriadau yn y Rheoliadau hynny at y prif Reoliadau (rheoliad 3).

Ni pharatowyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.