- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
5 Mawrth 2003
Yn dod i rym
6 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) a pharagraffau 1(1) a 5(1), (2) a (4) o Atodlen 4 iddi, a rheiny'n bwerau sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2003.
2.—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992(3).
(3) Bydd i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr â'r termau Saesneg cyfatebol yn y prif Reoliadau.
3. Mae'r Prif Reoliadau yn cael eu diwygio fel a ddarperir yn Rheoliad 4.
4. Yn Rheoliad 32(1) (dehongli etc) o'r Prif Reoliadau, yn y diffiniad o “earnings”, mewnosodwch ar ôl is-baragraff (v)—
“(vi)tax credits within the meaning of the Tax Credits Act 2002.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Mawrth 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (fel y'u diwygiwyd) yn rhagnodi'r pwerau y caiff awdurdodau lleol eu defnyddio i gasglu ac adennill treth gyngor. Mae Rheoliad 32(1) o'r Rheoliadau hynny yn cael ei ddiwygio yn y fath fodd ag i hepgor o'r diffiniad o “earnings” Gredyd Treth Plant a Chredyd Treth Gweithio, o fewn ystyr “Child Tax Credit” a “Working Tax Credit” yn Neddf Credydau Treth 2002.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: