2003 Rhif 522 (Cy.72)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921 a pharagraffau 1(1) a 5(1), (2) a (4) o Atodlen 4 iddi, a rheiny'n bwerau sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru2, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw a chychwyn1.

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2003.

Cymhwyso a Dehongli2.

(1)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

(2)

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 19923.

(3)

Bydd i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr â'r termau Saesneg cyfatebol yn y prif Reoliadau.

Diwygio'r Prif Reoliadau3.

Mae'r Prif Reoliadau yn cael eu diwygio fel a ddarperir yn Rheoliad 4.

Atafaelu enillion: credydau treth4.

Yn Rheoliad 32(1) (dehongli etc) o'r Prif Reoliadau, yn y diffiniad o “earnings”, mewnosodwch ar ôl is-baragraff (v)—

“(vi)

tax credits within the meaning of the Tax Credits Act 2002.”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (fel y'u diwygiwyd) yn rhagnodi'r pwerau y caiff awdurdodau lleol eu defnyddio i gasglu ac adennill treth gyngor. Mae Rheoliad 32(1) o'r Rheoliadau hynny yn cael ei ddiwygio yn y fath fodd ag i hepgor o'r diffiniad o “earnings” Gredyd Treth Plant a Chredyd Treth Gweithio, o fewn ystyr “Child Tax Credit” a “Working Tax Credit” yn Neddf Credydau Treth 2002.