Search Legislation

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003; deuant i rym ar 1 Awst 2005 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “Cyfarwyddeb 2002/46” (“Directive 2002/46”) yw Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor(1)) ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau mewn perthynas ag ychwanegion bwyd;

ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio —

(a)

at ddibenion ailwerthu;

(b)

at ddibenion sefydliad arlwyo; neu

(c)

at ddibenion busnes gweithgynhyrchu;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “ffurf dogn” (“dose form”) yw ffurf megis capsiwlau, pastiliau, tabledi, pils, a ffurfiau tebyg eraill, sachets powdr, ampylau hylifau, poteli sy'n dosbarthu diferion, a ffurfiau tebyg eraill ar hylifau neu bowdrau sydd wedi'u dylunio i gael eu cymryd mewn meintiau unedol bach sydd wedi'u mesur;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu gyda'r bwriad o werthu a chynnig, amlygu neu hysbysebu gyda'r bwriad o werthu;

mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu drin;

ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) os yw bwyd, wrth gynnal busnes, yn cael ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb baratoi pellach; ac

ystyr “ychwanegyn bwyd” (“food supplement”) yw unrhyw fwyd sydd wedi'i fwriadu i ychwanegu at ddeiet normal ac sydd —

(a)

yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol, ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad; a

(b)

yn cael ei werthu ar ffurf dogn.

(2Rhaid ystyried bod ychwanegyn bwyd wedi'i ragbacio at ddibenion y Rheoliadau hyn —

(a)os yw'n barod i'w werthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo, a

(b)os yw wedi'i roi mewn pecyn cyn cael ei gynnig i'w werthu yn y fath fodd ag i beidio â chaniatáu newid yr ychwanegyn bwyd heb agor neu newid y pecyn.

(3Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac ar eu ffurf Saesneg yng Nghyfarwyddeb 2002/46 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno.

Cwmpas y Rheoliadau

3.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ychwanegion bwyd sy'n cael eu gwerthu fel bwyd a'u cyflwyno fel y cyfryw.

(2Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion meddyginiaethol fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb 2001/83/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor(2) ar god y Gymuned ynglyn â chynhyrchion meddyginiaethol i bobl eu defnyddio.

Cyfyngiad ar y ffurf a ddefnyddir i werthu ychwanegion bwyd i'r defnyddiwr olaf

4.  Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd i'r defnyddiwr olaf oni bai ei fod wedi'i ragbacio.

Gwaharddiadau gwerthu sy'n ymwneud â chyfansoddiad ychwanegion bwyd

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd y mae fitamin neu fwyn wedi'i ddefnyddio wrth ei gynhyrchu oni bai bod y fitamin neu'r mwyn hwnnw—

(a)wedi'i restru yng ngolofn 1 o Atodlen 1; a

(b)ar ffurf sydd

(i)wedi'i rhestru yn Atodlen 2, a

(ii)yn bodloni'r meini prawf purdeb perthnasol.

(2Y meini prawf purdeb perthnasol at ddibenion paragraff (1)(b)(ii) yw —

(a)y meini prawf purdeb, os o gwbl, a bennwyd drwy ddeddfwriaeth Gymunedol ar gyfer defnyddio'r sylwedd o dan sylw wrth gynhyrchu bwyd at ddibenion heblaw'r rhai y mae Cyfarwyddeb 2002/46 yn ymdrin â hwy; neu

(b)yn absenoldeb meini prawf purdeb o'r fath, y meini prawf purdeb sy'n dderbyniol yn gyffredinol ar gyfer y sylwedd o dan sylw ac sy'n cael eu hargymell gan gyrff rhyngwladol.

(3Yn achos fitamin neu fwyn nad yw wedi'i restru yng ngholofn 1 o Atodlen 1 neu nad yw ar ffurf a restrir yn Atodlen 2, ni fydd y gwaharddiadau ym mharagraff (1) yn gymwys tan 1 Ionawr 2010 —

(a)os oedd y sylwedd o dan sylw yn cael ei ddefnyddio wrth gynhyrchu ychwanegyn bwyd a oedd ar werth yn y Gymuned Ewropeaidd ar 12 Gorffennaf 2002;

(b)os cafodd coflen yn cefnogi'r defnydd ar y sylwedd o dan sylw ei chyflwyno i'r Comisiwn gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu unrhyw Aelod-wladwriaeth arall erbyn 12 Gorffennaf 2005; ac

(c)nad yw'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd wedi rhoi barn anffafriol ynglyn â defnyddio'r sylwedd hwnnw, neu ar ei ddefnyddio ar y ffurf honno wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd.

Cyfyngiadau ar werthu sy'n ymwneud â labelu etc ychwanegion bwyd

6.—(1Ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r enw y mae'n cael ei werthu odano yn “ychwanegyn bwyd”.

(2Heb ragfarnu Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(3), ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo oni bai ei fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol —

(a)enw categori unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n nodweddu'r cynnyrch neu fynegiant o natur y fitamin neu'r mwyn neu'r sylwedd arall;

(b)y gyfran o'r cynnyrch yr argymhellir ei bwyta'n ddyddiol;

(c)rhybudd i beidio â chymryd mwy na'r dogn dyddiol penodedig a argymhellir;

(ch)datganiad i'r perwyl na ddylid defnyddio ychwanegion bwyd yn lle deiet amrywiol;

(d)datganiad i'r perwyl y dylid storio'r cynnyrch y tu allan i gyrraedd plant bach; ac

(dd)faint o unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n bresennol yn y cynnyrch.

(3Rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(dd) —

(a)cael ei rhoi ar ffurf Rhif au;

(b)cael ei rhoi yn achos fitamin neu fwyn a rhestrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1, gael ei roi drwy ddefnyddio'r uned berthnasol a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;

(c)datgan y swm fesul cyfran o'r cynnyrch fel yr argymhellir ei fwyta'n ddyddiol ar label y cynnyrch;

(ch)bod yn faint cyfartalog ar sail dadansoddiad y gweithgynhyrchydd o'r cynnyrch; a

(d)cael ei mynegi hefyd, yn achos fitamin neu fwyn a restrir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC(4) ar labelu maethiad ar gyfer bwydydd, fel canran (y caniateir ei rhoi hefyd ar ffurf graff) o'r lwfans dyddiol perthnasol a argymhellir ac a bennir yn yr Atodiad hwnnw.

(4Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw dull ei labelu, ei gyflwyno neu ei hysbysu yn cynnwys sôn, naill ai'n ddiamwys neu'n ymhlyg, na all deiet cytbwys ac amrywiol ddarparu meintiau priodol o fitaminau neu fwynau yn gyffredinol.

Dull marcio neu labelu

7.—(1Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sydd

(a)yn barod i'w ddanfon i'r defnyddiwr olaf, neu

(b)yn barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac wedi'i ragbacio,

os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol ei farcio neu ei labelu â hwy o dan reoliad 6 (2) yn ymddangos —

(i)ar y pecyn;

(ii)ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn; neu

(iii)ar label sydd i'w weld yn glir drwy'r pecyn,

ac eithrio pan werthir i unrhyw un heblaw'r defnyddiwr olaf, y caiff y manylion hyn fel arall ymddangos ar y dogfennau masnachol ynglyn â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau hynny, sy'n cynnwys y manylion hyn i gyd, naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn i'r ychwanegyn bwyd gael ei anfon, neu'r un pryd â hynny ac ar yr amod bod y manylion sy'n ofynnol o dan reoliad 5(a), (c) ac (e) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 wedi'u marcio neu wedi'u labelu hefyd ar y pecyn allanol y mae'r ychwanegyn bwyd hwnnw wedi'i werthu gydag ef.

(2Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac nad yw wedi'i ragbacio os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol eu marcio neu eu labelu â hwy o dan reoliad 6(2) yn ymddangos —

(a)ar label sydd ynghlwm wrth yr ychwanegyn bwyd;

(b)ar docyn neu hysbysiad y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad yn y man lle mae'n dewis yr ychwanegyn bwyd hwnnw; neu

(c)mewn dogfennau masnachol sy'n ymwneud â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau yn naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn hynny, neu'r un pryd ag anfon yr ychwanegyn bwyd hwnnw.

(3Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu ychwanegyn bwyd â hwy o dan reoliad 6(2) yn hawdd i'w deall, yn hollol ddarllenadwy, yn annileadwy a, phan fydd bwyd yn cael ei werthu i'r defnyddiwr olaf, rhaid i'r manylion hynny gael eu marcio mewn man amlwg mewn ffordd sy'n eu gwneud yn hawdd i'w gweld.

(4Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu'r ychwanegyn bwyd â hwy yn rhinwedd rheoliad 6(2) wedi'u cuddio neu wedi'u tywyllu mewn unrhyw ffordd neu os ymyrryd mewn unrhyw ffordd â'r manylion hynny ag unrhyw fater ysgrifenedig neu ddarluniadol arall.

Gorfodi

8.  Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Tramgwyddau a chosbau

9.  Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 4, 5, 6 neu 7 yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion

10.  Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir i brofi —

(a)bod y bwyd a honnir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef wedi'i fwriadu i'w allforio i wlad y mae ganddi ddeddfwriaeth gyfatebol i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a

(b)yn achos allforio i Aelod-wladwriaeth, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb 2002/46.

Cymhwyso amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf

11.  Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y bydd unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael eu dehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);

(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15;

(d)adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi wrth gynnal busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(f)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofynion o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;

(ff)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;

(g)adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (f) uchod;

(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Gorffennaf 2003

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources