- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
24 Mehefin 2003
Yn dod i rym
30 Mehefin 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(2), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freiniwyd ynddo bellach(2), gan ei fod wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac wedi ymgynghori fel y mae'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 30 Mehefin 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Rheoliad 104/2000” (“Regulation 104/2000”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaethu(4));
ystyr “Rheoliad 2065/2001” (“Regulation 2065/2001”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2065/2001 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 ynghylch hysbysu defnyddwyr ynglyn â chynhyrchion pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaethu(5);
ac mae i unrhyw ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yn Rheoliad 104/2000 neu Reoliad 2065/2001 yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Rheoliadau hynny.
3.—(1) Bydd unrhyw berson sydd, yn groes i Erthygl 4.1 o Reoliad 104/2000 (gwybodaeth i ddefnyddwyr) o'i darllen ynghyd â rheoliad 2065/2001, yn cynnig ar gyfer eu hadwerthu i'r defnyddiwr terfynol unrhyw un o'r cynhyrchion y mae'r Erthygl honno yn gymwys iddynt yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Bydd person sydd yn methu â chydymffurfio ag Erthygl 8 o Reoliad 2065/2001 (olrhain a rheoli) yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
4.—(1) O ran Cymru, y rhestr o ddynodiadau masnachol y mae'n ofynnol i'r Deyrnas Unedig ei llunio a'i chyhoeddi o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 104/2000 yw'r un a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, ac yn unol â hynny, y dynodiadau masnachol a nodir yn yr Atodlen honno yw'r enwau a ragnodwyd gan y gyfraith at ddibenion rheoliadau 6(1), 7 ac 8(a) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(6).
(2) Mewn perthynas â rhywogaeth a gynhwysir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ac mewn rhestr a gyhoeddwyd yn Saesneg o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 104/2000 yn effeithiol mewn Aelod-wladwriaeth arall neu mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig, bydd y dynodiad masnachol ar gyfer y rhywogaeth honno yn y rhestr sy'n effeithiol yn yr Aelod-wladwriaeth arall honno neu'r rhan honno o'r Deyrnas Unedig yn un amgen i'r dynodiad masnachol ar gyfer y rhywogaeth honno a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
5. Yn yr achos a ddisgrifir yn erthygl 4.2 o Reoliad 2065/2001 (sefyllfa lle mae'n amlwg oddi wrth y dynodiad masnachol a chylch yr haldiad fod y rhywogaeth yn cael ei dal yn y môr) ni fydd yn groes i Erthygl 4.1 o Reoliad 104/2000 i gynnig ar gyfer ei adwerthu i'r defnyddiwr terfynol gynnyrch pysgodfeydd y mae'r Erthygl honno yn gymwys iddo heb fod y cynnyrch wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r dull cynhyrchu.
6.—(1) At ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000 o'i darllen ynghyd ag Erthygl 7 o Reoliad 2065/2001, rhaid i'r meintiau bach o gynhyrchion y caniateir eu gwerthu'n uniongyrchol i ddefnyddwyr fod yn gynhyrchion na fydd eu gwerth yn uwch nag 20 Ewro am bob pryniant.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, bernir bod y cyfeiriad at 20 Ewro yn gyfeiriad at werth cyfatebol y nifer hwnnw o Ewros mewn sterling, wedi'u trosi drwy gyfeirio at y gyfradd drosi a gyhoeddir yn flynyddol ar ddiwrnod gwaith cyntaf y mis Medi blaenorol yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd neu, os na chyhoeddir cyfradd ynddo ar y diwrnod hwnnw, y gyfradd a gyhoeddir ynddo gyntaf ar ôl hynny.
7. Caiff y mynegiad o gylch yr haldiad sy'n ofynnol o dan Erthygl 4(1)(c) o Reoliad 104/2000, os yw'r amgylchiadau a ddisgrifir yn Erthygl 5(1)(c) o Reoliad 2065/2001 yn gymwys, fynegi'r amryw Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd y cafodd y cynnyrch ei ffermio ynddynt.
8.—(1) At ddibenion Erthygl 2 o Reoliad 2065/2001 (dynodiadau masnachol dros dro), yr Asiantaeth Safonau Bwyd (“yr Asiantaeth”) fydd yr awdurdod cymwys.
(2) Rhaid i'r Asiantaeth lunio a chyhoeddi rhestr o ddynodiadau masnachol dros dro yn unol â'r Erthygl 2 a enwyd.
9. Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
10. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran o'r Ddeddf yn gyfeiriad at y Rheoliadau hyn ac at y darpariaethau hynny yn Rheoliad 104/2000 a Rheoliad 2065/2001 y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy —
(a)adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y bo'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15;
(ch)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(d)adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad);
(dd)adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);
(e)adran 33(2) gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1) (b) above” yn gyfeiriad at urhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y cymhwysir hi gan is-baragraff (dd) uchod;
(f)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y cymhwysir hi gan is-baragraff (dd) uchod;
(ff)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y cymhwysir hi gan is-baragraff (e) uchod;
(g)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ng)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
11. Dirymir paragraff 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (enwau rhagnodedig pysgod a physgod cregyn) i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mehefin 2003
Rheoliad 4
1.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3) o'r paragraff hwn, y dynodiad masnachol ar gyfer unrhyw rywogaeth o bysgod a bennir yng ngholofn 2 o'r Tabl canlynol fydd enw a bennir ar gyfer y rhywogaeth honno yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 1 o'r Tabl a enwyd.
(2) Caniateir defnyddio enw arferol ar gyfer unrhyw rywogaeth o bysgod sydd wedi cael ei mygu neu gael ei rhoi drwy broses debyg, onid yw enw'r rhywogaeth yng ngholofn 2 o'r Tabl canlynol yn cael ei ddilyn gan seren. Mewn achosion o'r fath rhaid i'r enw a ddefnyddir ar gyfer y bwyd pan gaiff y pysgod eu mygu fod naill ai —
(a)yn enw a bennir ar gyfer y rhywogaeth honno yng ngholofn 1 o'r Tabl a enwyd gyda'r gair “smoked” o'i flaen; neu
(b)ac eithrio yn achos Salmo Salar (L.), “smoked Pacific salmon”.
(3) Ni fydd is-baragraff (1) o'r paragraff hwn, o'i ddarllen ynghyd â'r Tabl canlynol, yn gymwys i bysgod a reoleiddir gan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2136/89(8) sy'n gosod safonau marchnata cyffredin ar gyfer sardîns wedi'u preserfio, neu Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1536/92(9) sy'n gosod safonau marchnata cyffredin ar gyfer tiwna a bonito wedi'u preserfio.
(i) Column 1 | (ii) Column 2 |
---|---|
Commercial designation | Species of fish |
(3) Sea Fish | |
Anchovy | All species of the family Engraulidae |
Barracuda | All species of Sphyraena |
Barramundi | (a)Lates calcarifer |
Bass or Sea bass | Dicentrarchus labrax (L.) |
Japanese sea bass | Lateolabrax japonicus |
Spotted sea bass | Dicentrarchus punctatus |
Southern rock bass | Paralabrax callaensis |
Bigeye | All species of Priacanthus |
Bluefish or Tailor | Pomatomus saltatrix |
Bogue | Boops boops |
Bonito | All species of Sarda All species of Euthynnus, with the exception of Euthynnus (Katsuwonus) pelamis All species of Auxis |
Brill | Scophthalmus rhombus (L.) |
Brisling | Sprattus sprattus (L.) when canned |
Catfish or Rockfish or Wolffish | All species of Anarhichas |
Cobia | Rachycentron canadum |
Cod or Codling | Gadus morhua |
Pacific cod or Cod | Gadus macrocephalus |
Greenland cod or Cod | Gadus ogac |
Saffron cod | Eleginus gracilis |
Red cod | Pseudophycis bachus |
Blue cod | Parapercis colias |
Coley or Saithe or Coalfish | Pollachius virens (L.) |
Conger | All species of Conger |
Croaker or Drum or Jewfish | All species of the family Sciaenidae |
Dab | Limanda limanda (L.) |
Yellowtail dab | Limanda ferruginea |
Pacific sand dab | (ii)Citharichthys sordidus |
Dogfish or Flake or Huss or Rigg or Rock Salmon or Rock Eel | All species of Galeorhinus All species of Mustelus All species of Scyliorhinus Galeus melastomus Rafin. Squalus acanthias (L.) |
Dory or John Dory or St Peter’s fish | Zeus faber (L.) |
Eel | All species of Anguilla |
Emperor | All species of Lethrinus |
Escolar or Snake Mackerel | (iii)All species of the family Gempylidae |
Flounder | Platichthys flesus (L.) |
Flying fish | All species of the family Exocoetidae |
Greenling | (a) Ophiodon elongatus |
Grouper | All species of Mycteroperca All species of Epinephelus |
Gurnard | All species of the family Triglidae Peristedion cataphractum (L.) |
Haddock | Melanogrammus aeglefinus (L.) |
Hake | All species of Merluccius |
Alternatively, the following may be used | |
Cape hake | (iv) Merluccius capensis Merluccius paradoxus |
White hake | Urophycis tenuis |
Halibut | Hippoglossus hippoglossus (L.) Hippoglossus stenolepis |
Black halibut or Mock halibut | Reinhardtius hippoglossoides (Walbaum) |
Herring | Clupea harengus (L.) |
Hilsa | 2. Tenualosa ilisha |
Hoki | Macruronus novaezelandiae |
Chilean hoki | Macruronus magellanicus |
Jack or Scad or Horse Mackerel or Trevally | All species of Caranx All species of Hemicaranx All species of Seriola All species of Trachurus All species of Decapterus |
Kingklip | (ii)Genypterus capensis |
Ladyfish | All species of the family Elopidae |
Ling | All species of Molva |
Lumpfish or Lumpsucker | Cyclopterus lumpus |
Mackerel | All species of Scomber |
King Mackerel or Kingfish | Scomberomorus cavalla |
Mahi Mahi | (iii)Coryphaena hippurus |
Marlin | All species of Makaira |
Megrim | All species of Lepidorhombus |
Milkfish | Chanos chanos |
Monk(fish) or Angler(fish) | Lophius piscatorius (L.) (aa) Lophius americanus |
Cape monk(fish) or Cape angler(fish) | |
(a) Lophius vomerinus | |
Red mullet | (iv)All species of Mullus |
Goatfish | All other species of the family Mullidae |
Grey mullet | All species of Mugil All species of Liza All species of Chelon |
Opah or Moonfish | All species of Lampris |
Orange roughy | (v)Hoplostethus atlanticus |
Parrotfish | All species of the family Scaridae |
Picarel | Spicara smaris |
Pilchard | Sardina pilchardus (Walbaum) |
Pacific pilchard | Sardinops sagax that has been caught in the Pacific Ocean. |
South Atlantic pilchard | Sardinops sagax that has been caught in the South Atlantic Ocean. |
Plaice | Pleuronectes platessa (L.) |
American plaice | Hippoglossoides platessoides (Fabr.) |
Pollack or Pollock or Lythe | Pollachius pollachius (L.) |
Pacific pollack or Pacific pollock or Alaska pollack or Alaska pollock | Theragra chalcogramma (Pallas) |
Pomfret or Butterfish | All species of Brama All species of Stromateus All species of Pampus |
Poor cod | (vi)Trisopterus minutus |
Pout or Pout Whiting or Pouting or Bib | Trisopterus luscus |
Rainbow runner | (vii)Elagatis bipinnulata |
Redfish or Ocean perch or Rose fish | All species of Sebastes All species of Helicolenus |
Sablefish | 3. Anoplopoma fimbria |
Sailfish | All species of Istiophorus |
Sardine | Small Sardina pilchardus (Walbaum) |
Sardinella | All species of Sardinella |
Scabbard fish or Sabre or Sabre fish or Silver sabre or Black sabre | Lepidopus caudatus Aphanopus carbo |
Sea bream or Porgy | All species of the family Sparidae except Boops boops |
Sild | Small Clupea harengus (L.), when canned Small Sprattus sprattus (L.), when canned |
Skate or Ray or Roker | All species of Raja |
Smelt or Sparling | All species of Osmerus |
Snapper | All species of the family Lutjanidae |
Alternatively, the following may be used | |
Jobfish | All species of Aphareus All species of Aprion All species of Pristipomoides |
Snook | All species of Centropomus |
Sole or Dover sole | Solea solea (L.) |
Butter sole | Isopsetta isolepis |
Californian sole | Parophrys vetulus |
Lemon sole | Microstomus kitt (Walbaum) |
Petrale sole | Eopsetta jordani |
Rex sole or Long-finned sole | Glyptocephalus zachirus |
Rock sole | Lepidopsetta bilineata |
Pacific sole | Microstomus pacificus |
Torbay sole or Witch | Glyptocephalus cynoglossus (L.) |
Sprat | Sprattus sprattus (L.), except when canned |
Swordfish | Xiphias gladius |
Tarpon | All species of the family Megalopidae |
Threadfin bream | All species of Nemipterus |
Toothfish or Icefish | Dissostichus mawsoni Dissostichus eleginoides |
Tuna or Tunny | All species of Thunnus |
Skipjack tuna (or tuna) | Katsuwonus pelamis |
Albacore tuna (or tuna) | Thunnus alalunga |
Yellowfin tuna (or tuna) | Thunnus albacares |
Bluefin tuna (or tuna) | Thunnus thynnus |
Bigeye tuna (or tuna) | Thunnus obesus |
Turbot | Psetta maxima |
Wahoo | (ii)Acanthocybium solandri |
Whitebait | Small Clupea harengus (L.) Small Sprattus sprattus (L.)(except when canned) |
Whiting | Merlangius merlangus (L.) |
Blue whiting | Micromesistius poutassou (Risso) |
Southern blue whiting | Micromesistius australis |
Winter flounder | Pseudopleuronectes americanus (Walbaum) |
4.—(a) Salmon and Freshwater Fish | |
Bacha | Eutropiichthys vacha |
Batashi | Pseudeutropius atherinoides |
Carp | All species of the family Cyprinidae |
Alternatively the following may be used | |
Mowrala | Amblypharyngodon mola |
Banspata | Danio devario |
Bata | Labeo bata |
Kalibous | Labeo calbasu |
Ghania | Labeo gonius |
Ruhi | Labeo rohita |
Punti | Puntius sarana |
Chelapata | Salmostoma bacaila |
Catfish or American catfish or Channel catfish | All species of the family Ictaluridae |
Catfish | All species of the family Clariidae All species of the family Siluridae All species of the family Bagridae |
Alternatively the following may be used | |
Magur | (i)Clarias batrachus |
Gulsha | Mystus bleekeri |
Buzuri | Mystus tengara |
Tengra | Mystus vittatus |
Pabda | Ompok pabda |
Ayre | Sperata aor |
Boal | Wallago attu |
Chapila | Gudusia chapra |
Char | All species of Salvelinus |
Kakila | Xenentodon cancila |
Keski | Corica soborna |
Khalisha | Colisa fasciatus |
Koi | Anabas testudineus |
Largebaim | Mastacembelus armatus |
Meni | Nandus nandus |
Nile Perch | (ii)Lates niloticus |
Pacific dory or Vietnamese sole | (aa)Pangasius bocourti |
Patabaim | Macrognathus aculeatus |
Queen fish | Botia dario |
(b)River cobbler | (iii)Pangasius micronemus (iv)Pangasius hypophthalmus |
Salmon or Atlantic salmon | Salmo salar (L.)* |
Cherry salmon or Pacific salmon | Oncorhynchus masou* |
Chum salmon or Keta salmon | Oncorhynchus keta (Walbaum)* |
Medium red salmon or Coho salmon or Silver salmon | Oncorhynchus kisutch (Walbaum)* |
Pink salmon | Oncorhynchus gorbuscha (Walbaum)* |
Red salmon or Sockeye salmon | Oncorhynchus nerka (Walbaum)* |
Spring salmon or King salmon or Chinook salmon or Pacific salmon | Oncorhynchus tshawytscha (Walbaum)* |
Shol | Channa striata |
Taki | Channa punctata |
Tilapia | All species of Tilapia All species of Oreochromis |
Trout or Brown trout | Salmo trutta (L.) which has spent all of its life in fresh water |
Sea trout or Salmon trout | Salmo trutta (L.) which has spent part of its life in sea water |
Cut-throat trout or trout | Oncorhynchus clarki |
Rainbow trout or Steelhead trout or trout | Oncorhynchus mykiss |
(b) (c)Shellfish | |
Abalone or Ormer | All species of Haliotis |
Clam or Hard shell clam | Mercenaria mercenaria (L.) Venus verrucosa (L.) |
Clam or Razor clam | All species of Ensis and Solen |
Geoduck or Geoduck clam | (b)Panopea abrupta |
Surf clam | All species of Spisula |
Cockle | All species of Cerastoderma |
Crab | All species of the order Brachyura All species of the family Lithodidae |
Crayfish | All species of the family Astacidae All species of the family Parastacidae All species of the family Austroastacidae All species of the family Cambaridae |
Cuttlefish | All species of Sepia Rossia macrosoma |
Lobster | All species of Homarus |
Slipper lobster | All species of the family Scyllaridae |
Squat lobster | All species of the family Galatheidae |
Crawfish or Spiny lobster or Rock lobster | All species of Panulirus All species of Palinurus All species of Jasus |
Indian ocean lobster | Puerulus sewelli |
Mussel | All species of the family Mytilidae |
Octopus | All species of Octopus |
Oyster | All species of Crassostrea All species of Ostrea |
Oyster or Portuguese oyster | Crassostrea angulata (Lmk.) |
Oyster or Pacific oyster or Rock oyster | Crassostrea gigas (Thunberg) |
Oyster or Native oyster | Ostrea edulis (L.) |
Prawn or Shrimp | Whole fish (of a size which, when cooked, have a count of less than 397 per kg) or tails (of a size which, when peeled and cooked, have a count of less than 1,323 per kg) of –
All species of the family Palaemonidae All species of the family Penaeidae Where the count is less than 123 per kg (head on/shell on) or less than |
King prawn | 198 per kg (head off/shell on) or less than 242 per kg (head off/shell off) (ii) Penaeus monodon Penaeus semisulcatus (iii) Penaeus esculentus Penaeus kerathurus |
Tiger prawn | (aa)Penaeus japonicus (bb)Parapenaeopsis hardwickii |
(a)Parapenaeopsis sculptilis | |
Scallop or King scallop | (iv)Pecten maximus |
Atlantic scallop or Scallop | Placopecten magellanicus |
Queen scallop or Queen or Scallop | Chlamys (Aequipecten) opercularis |
Scallop or Common scallop | |
All species of the family Pectinidae | |
Scampi or Norway lobster or Dublin Bay prawn or Langoustine | Nephrops norvegicus (L.) |
Pacific scampi | Metanephrops andamanicus Metanephrops challengeri Metanephrops thomsoni |
Shrimp | Whole fish (of a size which, when cooked, have a count of 397 per kg or more) or tails (of a size which, when peeled and cooked, have a count of 1,323 per kg or more) of –
Pandalus montagui Leach All species of Crangon |
Shrimp or Pink shrimp | |
Shrimp or Brown shrimp | |
Squid | All species of Loligo All species of Illex Ommastrephes sagittatus |
Arrow Squid | (v)Nototodarus sloani Nototodarus gouldi |
Whelk | All species of Buccinum |
Winkle | All species of Littorina |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Teitl 1, Pennod 2 o Reoliad y Cyngor (EC) 104/2000 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaethu fel y'i cymhwysir i Reoliad y Comisiwn (EC) 2065/2001 sy'n gosod rheolau manwl ar gymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) 104/2000 ynglyn â hysbysu defnyddwyr ynghylch cynhyrchion pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaethu
Mae Teitl 1 o Bennod 2 o Reoliad y Cyngor (EC) 104/2000 yn gosod gofynion ynghylch darparu gwybodaeth am ddynodiad masnachol, dull cynhyrchu a chylch haldiad cynhyrchion pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaethu penodol sy'n cael eu cynnig ar gyfer eu hadwerthu i'r defnyddiwr terfynol. Mae'n darparu ymhellach fod Aelod-wladwriaethau i fod i lunio a chyhoeddi rhestr o ddynodiadau masnachol ar gyfer o leiaf y rhywogaethau a restrir yn Atodiadau I i IV o'r Rheoliad. Mae Rheoliad y Comisiwn (EC) 2065/2001 yn disgrifio'n fanylach yr wybodaeth sydd i'w darparu i ddefnyddwyr a'r esemptiadau y ceir eu caniatáu. Mae'n darparu hefyd ynglyn â'r wybodaeth angenrheidiol sydd i'w darparu ym mhob rhan o'r broses farchnata.
Mae'r Rheoliadau hyn —
yn darparu rhestr, mewn perthynas â Chymru, o'r dynodiadau masnachol y mae'n ofynnol i'r Deyrnas Unedig eu llunio (rheoliad 4 a'r Atodlen) ac yn darparu ymhellach ar gyfer caniatáu dynodiadau masnachol dros dro (rheoliad 8);
yn gwneud darpariaeth ynghylch llacio'r gofynion o dan amgylchiadau penodol mewn perthynas â gwybodaeth am y dull cynhyrchu (rheoliad 5); yn achos pysgotwyr neu gynhyrchwyr dyframaethu yn gwerthu meintiau bach yn uniongyrchol i ddefnyddwyr (rheoliad 6) ac mewn perthynas â chynnwys gwybodaeth ychwanegol am gylch yr haldiad (rheoliad 7);
yn creu tramgwyddau ac yn rhagnodi cosbau (rheoliad 3), yn pennu awdurdodau gorfodi (rheoliad 9) ac yn ymgorffori darpariaethau penodedig Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 10);
yn dirymu'r gofynion labelu pysgod a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Labelu Bwyd 1996 mewn perthynas â Cymru (rheoliad 11).
Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn ac wedi'i adneuo yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau o'r Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
1990 p. 16. Diwygiwyd adran 26(3) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 gan adran 40(4) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 ac Atodlen 6 iddi.
Trosglwyddwyd swyddogaethau a fu gynt yn arferadwy gan “yr Ysgrifennydd Gwladol” o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) o'i ddarllen gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1; sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, sy'n sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac sy'n gosod gweithdrefnau ym materion diogelwch bwyd.
OJ Rhif L17, 21.1.2000, t.22.
OJ Rhif L278, 23.10.2001, t.6.
O.S. 1996/1499; mewnosodwyd rheoliad 6(4) (sy'n diffinio “prescribed by law” (“a ragnodwyd gan y gyfraith”) at ddibenion rheoliadau 6(1), 7 ac 8(a)) gan O.S.1998/1398.
OJ Rhif L212, 22.7.89, t.79.
OJ Rhif L163, 17.6.92, t.1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: