- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
21 Mawrth 2002
Yn dod i rym
1af Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru.
2.—(1) Diwygir Atodlen 1 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod) i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001(2) fel a ganlyn.
(2) Ychwanegir at ddiwedd paragraff 14 yn Rhan I (Swyddogaethau amrywiol) yng ngholofn (1)
“ac i benderfynu'r amodau a thelerau yn amodol i'r rheini y daliant eu swydd (gan gynnwys gweithdrefnau i'w diswyddo).”
(3) Yn Rhan I (Swyddogaethau amrywiol) ar y diwedd, ychwanegir:
(a)yng ngholofn (1):
“17. Y pŵ er i wneud gorchymyn sy'n enwi lle yn fan cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau'r heddlu mewn perthynas ag yfed alcohol.”;
(b)yng ngholofn (2):
| “adran 13(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p.16).”(3); |
(c)yng ngholofn (1):
“18. Y pŵer i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaethau Pobl Ifanc; a”
(ch)yng ngholofn (2):
| “Adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000”(4); |
(d)yng ngholofn (1):
“19. Y pŵer i gymeradwyo Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc.”; ac
(dd)yng ngholofn (2):
| “adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000”. |
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan weithrediaeth i'r awdurdod (sy'n gorfod bod ar un o'r ffurfiau a bennir yn adran 11(2) i (5) o'r Ddeddf) onid yw'r swyddogaethau hynny wedi'u pennu yn swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod.
Pennodd Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”) nifer o swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath i raddau cyfyngedig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig. Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu swyddogaeth ychwanegol yn un nad yw i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth.
Mae Rheoliad 2 yn gwneud diwygiad i Atodlen 1 i Reoliadau 2001. Ceir geiriau ychwanegol (ym mharagraff 14) ynglŷn â phenodi staff er mwyn ei gwneud yn eglur nad cyfrifoldeb gweithrediaeth i awdurdod lleol fydd penderfynu amodau a thelerau (gan gynnwys gweithdrefnau diswyddo). Mae'r diwygiad yn mewnosod cyfeiriad at adran 13 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001. Mae'r diwygiad hwn yn golygu bod y pŵer i wneud Gorchymyn sy'n enwi lle yn fan cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau'r heddlu mewn perthynas ag adran 13(2) yn un y mae'r rhaid iddo beidio â chael ei arfer gan weithrediaeth i awdurdod lleol. Mae i'r diwygiad hefyd yr un effaith mewn perthynas â phwerau i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaethau Pobl Ifanc a Phartneriaethau Fframwaith Plant a Phobl Ifanc o dan adrannau 123 i 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: