Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 783 (Cy.84)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

21 Mawrth 2002

Yn dod i rym

1af Ebrill 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1).

Enwi, cychwyn, a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru.

Diwygio Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001

2.—(1Diwygir Atodlen 1 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod) i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001(2) fel a ganlyn.

(2Ychwanegir at ddiwedd paragraff 14 yn Rhan I (Swyddogaethau amrywiol) yng ngholofn (1)

ac i benderfynu'r amodau a thelerau yn amodol i'r rheini y daliant eu swydd (gan gynnwys gweithdrefnau i'w diswyddo).

(3Yn Rhan I (Swyddogaethau amrywiol) ar y diwedd, ychwanegir:

(a)yng ngholofn (1):

17.  Y pŵ er i wneud gorchymyn sy'n enwi lle yn fan cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau'r heddlu mewn perthynas ag yfed alcohol.;

(b)yng ngholofn (2):

adran 13(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p.16).(3);

(c)yng ngholofn (1):

18.  Y pŵer i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaethau Pobl Ifanc; a

(ch)yng ngholofn (2):

Adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(4);

(d)yng ngholofn (1):

19.  Y pŵer i gymeradwyo Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc.; ac

(dd)yng ngholofn (2):

adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan weithrediaeth i'r awdurdod (sy'n gorfod bod ar un o'r ffurfiau a bennir yn adran 11(2) i (5) o'r Ddeddf) onid yw'r swyddogaethau hynny wedi'u pennu yn swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod.

Pennodd Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”) nifer o swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath i raddau cyfyngedig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig. Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu swyddogaeth ychwanegol yn un nad yw i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth.

Mae Rheoliad 2 yn gwneud diwygiad i Atodlen 1 i Reoliadau 2001. Ceir geiriau ychwanegol (ym mharagraff 14) ynglŷn â phenodi staff er mwyn ei gwneud yn eglur nad cyfrifoldeb gweithrediaeth i awdurdod lleol fydd penderfynu amodau a thelerau (gan gynnwys gweithdrefnau diswyddo). Mae'r diwygiad yn mewnosod cyfeiriad at adran 13 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001. Mae'r diwygiad hwn yn golygu bod y pŵer i wneud Gorchymyn sy'n enwi lle yn fan cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau'r heddlu mewn perthynas ag adran 13(2) yn un y mae'r rhaid iddo beidio â chael ei arfer gan weithrediaeth i awdurdod lleol. Mae i'r diwygiad hefyd yr un effaith mewn perthynas â phwerau i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaethau Pobl Ifanc a Phartneriaethau Fframwaith Plant a Phobl Ifanc o dan adrannau 123 i 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.