2002 Rhif 783 (Cy.84)
Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 20001.
Enwi, cychwyn, a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru.
Diwygio Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 20012
1
Diwygir Atodlen 1 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod) i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 20012 fel a ganlyn.
2
Ychwanegir at ddiwedd paragraff 14 yn Rhan I (Swyddogaethau amrywiol) yng ngholofn (1)
ac i benderfynu'r amodau a thelerau yn amodol i'r rheini y daliant eu swydd (gan gynnwys gweithdrefnau i'w diswyddo).
3
Yn Rhan I (Swyddogaethau amrywiol) ar y diwedd, ychwanegir:
a
yng ngholofn (1):
17
Y pŵ er i wneud gorchymyn sy'n enwi lle yn fan cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau'r heddlu mewn perthynas ag yfed alcohol.
b
yng ngholofn (2):
adran 13(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p.16).
c
yng ngholofn (1):
18
Y pŵer i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaethau Pobl Ifanc; a
ch
yng ngholofn (2):
Adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000
d
yng ngholofn (1):
19
Y pŵer i gymeradwyo Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc.
dd
yng ngholofn (2):
adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)