Search Legislation

Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Rhagolygol

Rheoliad 4(1)

ATODLEN 1LL+CY MATERION SYDD I'W CYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN

1.  Datganiad o nodau cyffredinol y cartref, a'r amcanion sydd i'w cyrraedd mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

2.  Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu, yn y cartref a'r tu allan iddo, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

3.  Enw a chyfeiriad busnes pob person cofrestredig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Cymwysterau a phrofiad perthnasol pob person cofrestredig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Niferoedd y personau sy'n gweithio yn y cartref, eu cymwysterau a'u profiad perthnasol, ac os yw'r gweithwyr i gyd o un rhyw, disgrifiad o sut y bydd y cartref yn hybu modelau rôl priodol o'r ddwy ryw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Y trefniadau ar gyfer goruchwylio, hyfforddi a datblygu'r cyflogeion.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

7.  Strwythur trefniadol y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

8.  Y manylion canlynol—LL+C

(a)ystod oedran, rhyw a niferoedd y plant y bwriedir darparu llety ar eu cyfer;

(b)a oes bwriad i letya plant sy'n anabl, y mae arnynt anghenion arbennig neu sydd ag unrhyw nodweddion arbennig eraill;

(c)ystod yr anghenion (heblaw'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (b)) y bwriedir i'r cartref eu diwallu.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

9.  Y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau'r cartref ar gyfer derbyniadau brys, (os yw'r cartref yn darparu ar gyfer derbyniadau brys).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

10.  Os yw'r cartref yn darparu neu os bwriedir iddo ddarparu llety i fwy na chwech o blant, disgrifiad o'r canlyniadau cadarnhaol a fwriedir ar gyfer plant mewn cartref o'r maint hwnnw, a disgrifiad o strategaeth y cartref ynglŷn â mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau andwyol sy'n deillio o faint y cartref ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

11.  Disgrifiad o ethos ac athroniaeth y cartref, a sail damcaniaethol neu therapiwtig y gofal sy'n cael ei ddarparu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

12.  Y trefniadau a wneir i ddiogelu a hybu iechyd y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

13.  Y trefniadau ar gyfer hybu addysg y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref, gan gynnwys y cyfleusterau ar gyfer astudio preifat.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

14.  Y trefniadau ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad y plant mewn hobïau a gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

15.  Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref ynghylch ei weithrediad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

16.  Manylion—LL+C

(a)polisi'r cartref ar reoli ymddygiad a defnyddio ataliadau;

(b)y dulliau rheoli a disgyblu a all gael eu defnyddio yn y cartref, o dan ba amgylchiadau y gellir eu defnyddio a chan bwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

17.  Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant a mynd i'r afael â bwlio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

18.  Y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag absenoldeb plentyn o'r cartref nad yw wedi'i awdurdodi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

19.  Manylion unrhyw gyfrwng gwyliadwriaeth i gadw golwg ar blant y gellir ei ddefnyddio yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

20.  Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

21.  Y trefniadau a wneir ar gyfer hyfforddiant a defodau crefyddol y plant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

22.  Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref a'i rieni, ei berthnasau a'i gyfeillion.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

23.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion y plant sy'n cael eu lletya yno.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

24.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o gynlluniau lleoliad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

25.  Y math o lety a threfniadau cysgu a ddarperir (gan gynnwys manylion unrhyw barthau ar gyfer mathau penodol o blant) ac o dan ba amgylchiadau y gall plant rannu ystafelloedd gwely.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

26.  Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

27.  Manylion polisi'r cartref ar ymarfer gwrth-gamwahaniaethu yng nghyswllt phlant a hawliau plant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Rheoliadau 6, 8, 26

ATODLEN 2LL+CYR WYBODAETH Y MAE EI HANGEN MEWN PERTHYNAS Å PHERSONAU SY'N CEISIO RHEDEG NEU REOLI CARTREF PLANT NEU WEITHIO MEWN UN

1.  Prawf adnabod gan gynnwys ffotograff diweddar.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

2.  Naill ai—LL+C

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000)(1), neu fod y swydd yn dod o dan adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 1997 tystysgrif record droseddol fanwl a roddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno y mae llai na thair blynedd mewn perthynas â hi wedi mynd heibio ers ei rhoi; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif record droseddol a roddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn perthynas â hi ers ei rhoi,

gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

3.  Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Os yw person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau'n golygu gweithio gyda phlant neu gydag oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, cadarnhad o'r rheswm y daeth y swydd neu'r gyflogaeth i ben.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

7.  Manylion unrhyw dramgwyddau troseddol—LL+C

(a)y cafodd y person ei gollfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw gollfarnau sydd wedi darfod o fewn ystyr “spent” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974(3) ac y gellir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1975 (Eithriadau) 1975 (fel y mae'r Gorchymyn hwnnw ar ôl ei ddiwygio o bryd i'w gilydd)(4); neu

(b)y mae wedi'i rybuddio amdanynt gan gwnstabl ac yr oedd wedi'u cyfaddef adeg rhoi'r rhybudd.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 28(1)

ATODLEN 3LL+CYR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YNG NGHOFNODION ACHOSION PLANT SY'N CAEL EU LLETYA MEWN CARTREFI PLANT

1.  Enw'r plentyn ac unrhyw enw yr oedd y plentyn yn cael ei adnabod wrtho yn flaenorol heblaw enw a ddefnyddiwyd gan y plentyn cyn ei fabwysiadu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

2.  Dyddiad geni a rhyw y plentyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

3.  Argyhoeddiad crefyddol y plentyn, os oes un.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Disgrifiad o darddiad hiliol y plentyn a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Cyfeiriad y plentyn yn union cyn iddo fynd i'r cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Enw, cyfeiriad a rhif ffôn awdurdod lleoli'r plentyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

7.  Y ddarpariaeth statudol (os oes un) y darperir llety i'r plentyn odani.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

8.  Enw, cyfeiriad, rhif ffôn rhieni'r plentyn a'u hargyhoeddiad crefyddol, os oes ganddynt un.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

9.  Enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw weithiwr cymdeithasol sydd am y tro wedi'i ddyrannu i'r plentyn gan yr awdurdod lleoli.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

10.  Unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan reoliad 16(2)(ch) (honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod mewn perthynas â'r plentyn).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

11.  Dyddiad ac amgylchiadau pob tro y bu'r plentyn yn absennol o'r cartref gan gynnwys a oedd yr absenoldeb wedi'i awdurdodi ac unrhyw wybodaeth ynghylch lle oedd y plentyn yn ystod cyfnod yr absenoldeb.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

12.  Dyddiad unrhyw ymweliad â'r plentyn tra oedd yn y cartref a'r rheswm drosto.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

13.  Copi o unrhyw ddatganiad o anghenion addysgol arbennig a gadwyd mewn perthynas â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996(5) a gedwir mewn perthynas â'r plentyn, gyda manylion unrhyw anghenion o'r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

14.  Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheoli, atal neu ddisgyblu a ddefnyddiwyd ar y plentyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

15.  Unrhyw anghenion deiet neu anghenion iechyd arbennig sydd gan y plentyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

16.  Enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw ysgol neu goleg a fynychir gan y plentyn ac unrhyw gyflogwr i'r plentyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

17.  Pob adroddiad ysgol a gafwyd gan y plentyn tra oedd yn cael ei letya yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

18.  Y trefniadau ar gyfer cysylltiadau, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau, gwaharddiadau neu amodau arnynt, rhwng y plentyn, ei rieni, ac unrhyw berson arall.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

19.  Copi o unrhyw gynllun ar gyfer gofalu am y plentyn a baratowyd gan ei awdurdod lleoli ac o'r cynllun lleoliad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

20.  Dyddiad a chanlyniad unrhyw adolygiad o gynllun yr awdurdod lleoli ar gyfer gofalu am y plentyn, neu o gynllun lleoliad y plentyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

21.  Enw a chyfeiriad yr ymarferydd cyffredinol y mae'r plentyn wedi'i gofrestru gydag ef ac enw a chyfeiriad ymarferydd deintyddol cofrestredig y plentyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

22.  Manylion unrhyw ddamwain neu salwch difrifol a gafodd y plentyn tra oedd yn cael ei letya yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

23.  Manylion unrhyw imwneiddiad, alergedd, neu archwiliad meddygol a gafodd y plentyn a manylion unrhyw angen neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

24.  Manylion unrhyw archwiliad iechyd neu brawf datblygiadol a gynhaliwyd mewn perthynas â'r plentyn yn ei ysgol neu mewn cysylltiad â hi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 3 para. 24 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

25.  Manylion unrhyw feddyginiaethiau sy'n cael eu cadw ar gyfer y plentyn yn y cartref, gan gynnwys unrhyw feddyginiaethau y caniateir i'r plentyn eu rhoi i'w hunain, a manylion am roi unrhyw feddyginiaeth i'r plentyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 3 para. 25 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

26.  Y dyddiad pan adneuwyd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr gan neu ar ran y plentyn er mwyn eu cadw'n ddiogel, a dyddiadau tynnu unrhyw arian, a'r dyddiad y dychwelwyd unrhyw bethau gwerthfawr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 3 para. 26 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

27.  Y cyfeiriad, a'r math o sefydliad neu lety, y mae'r plentyn yn mynd iddo pan yw'n peidio â chael ei letya yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 3 para. 27 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 28(4)

ATODLEN 4LL+CCOFNODION ERAILL

1.  Cofnod ar ffurf cofrestr yn dangos mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant—LL+C

(a)y dyddiad y cafodd ei dderbyn i'r cartref;

(b)y dyddiad y peidiodd â chael ei letya yno;

(c)ei gyfeiriad cyn iddo gael ei letya yn y cartref;

(ch)ei gyfeiriad ar ôl iddo ymadael â'r cartref plant;

(d)ei awdurdod lleoli;

(dd)y ddarpariaeth statudol, os oes un, y cafodd ei letya yn y cartref odani.

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

2.  Cofnod o bob person sy'n gweithio yn y cartref plant, a hwnnw'n gofnod y mae'n rhaid iddo gynnwys y manylion canlynol mewn perthynas ag unigolyn sy'n dod o dan reoliad 26(1)—LL+C

(a)enw llawn;

(b)rhyw;

(c)dyddiad geni;

(ch)cyfeiriad cartref;

(d)cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n ymwneud â phlant, a'i brofiad o waith sy'n ymwneud â phlant;

(dd)a yw'n gweithio'n amser llawn neu'n rhan-amser yn y cartref, (am dâl neu beidio) ac os yw'n rhan-amser, y nifer o oriau ar gyfartaledd y mae'n gweithio bob wythnos; ac

(e)a yw'n preswylio yn y cartref.

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

3.  Cofnod o unrhyw berson sy'n preswylio neu'n gweithio ar unrhyw adeg yn y cartref plant nad yw wedi'i grybwyll yn y cofnodion a gedwir yn unol â pharagraff 1 neu 2.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Cofnod o bob damwain sy'n digwydd yn y cartref plant, neu i blant tra maent yn cael eu lletya yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Cofnod o unrhyw feddyginiaeth a dderbyniwyd, a waredir ac a roddwyd i unrhyw blentyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Cofnod o bob ymarfer tân neu brawf larwm tân a gynhelir, gyda manylion unrhyw ddiffyg naill ai yn y weithdrefn neu yn yr offer o dan sylw, ynghyd â manylion y camau a gymerwyd i gywiro'r diffyg hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

7.  Cofnod o bob arian a adneuwyd gan blentyn i'w gadw'n ddiogel, ynghyd â dyddiad tynnu'r arian hwnnw, neu'r dyddiad y dychwelwyd ef.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

8.  Cofnod o bob peth gwerthfawr a adneuwyd gan blentyn a dyddiad ei ddychwelyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

9.  Cofnodion o bob cyfrif a gedwir yn y cartref plant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

10.  Cofnod o'r bwydlenni a weinwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

11.  Cofnod, yn unol â rheoliad 17(4), o bob mesur disgyblu a orfodwyd ar blentyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

12.  Cofnodion o bob roster dyletswyddau staff, a chofnod o'r rosteri a weithiwyd mewn gwirionedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

13.  Lòg dyddiol o'r digwyddiadau sy'n digwydd yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I74Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

14.  Cofnod o bob ymwelydd â'r cartref ac â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref, gan gynnwys enwau'r ymwelwyr a'r rhesymau am yr ymweliad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 29(1)

ATODLEN 5LL+CDIGWYDDIADAU A HYSBYSIADAU

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Colofn 1Colofn 2
Y digwyddiad:I'w hysbysu i:
Swyddfa briodol y Cynulliad CenedlaetholYr awdurdod LleoliYr awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardalSwyddog heddlu priodolYr awdurdod iechyd lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal
Marwolaeth plentyn sy'n cael ie letya yn y cartrefieieieie
Cyfeirio unigolyn sy'n gweithio yn y cartref at yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 2(1)(a) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(6)ieie
Salwch difrifol neu ddamwain ddifrifol sydd wedi'u dioddef gan blentyn sy'n cael ei letya yn y cartrefieie
Brigiad clefyd heintus sydd ym marn ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n ymweld â'r cartref yn ddigon difrifol i gael ei hybysu fel y cyfrywieieie
Honiad bod plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref wedi cyflawni tramgwydd difrifolieie
Plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref yn ymwneud â phuteindra, neu amheuaeth ei fod yn ymwneud ag efieieieie
Digwyddiad difrifol sy'n golygu bod angen galw'r heddlu i'r cartrefieie
Plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref yn rhedeg i ffwrddie
Unrhyw gwyn ddifrifol ynghylch y cartref neu bersonau sy'n gweithio ynoieie
Cychwyn unrhyw ymchwiliad amddiffyn plant sy'n ymwneud â phlentyn sy'n cael ei letya yn y cartref a chanlyniad dilynol yr ymchwiliadieie

Rheoliad 33(1)

ATODLEN 6LL+CY MATERION SYDD I'W MONITRO A'U HADOLYGU GAN Y PERSON COFRESTREDIG

1.  Mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant, cydymffurfedd â chynllun yr awdurdod lleoli ar gyfer gofal y plentyn (os yw'n gymwys) a'r cynllun lleoliad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

2.  Adneuo a rhoi arian a phethau gwerthfawr eraill a roddwyd i mewn er mwyn eu cadw'n ddiogel.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I78Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

3.  Bwydlenni dyddiol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Pob damwain a niwed sy'n cael eu dioddef yn y cartref neu gan blant sy'n cael eu lletya yno.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I80Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Unrhyw salwch a gaiff plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I81Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Cwynion mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref a'u canlyniadau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I82Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

7.  Unrhyw honiadau neu amheuon o gamdriniaeth mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref a chanlyniad unrhyw ymchwiliad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I83Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

8.  Cofnodion recriwtio staff a chofnodion ynghylch cynnal y gwiriadau angenrheidiol ar gyfer gweithwyr newydd yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I84Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

9.  Ymwelwyr â'r cartref ac â phlant yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I85Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

10.  Hysbysiadau o'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 5.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I86Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

11.  Unrhyw absenoldeb diawdurdod o'r cartref gan blentyn sy'n cael ei letya yno.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I87Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

12.  Defnyddio mesurau rheoli, atal a disgyblu mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I88Atod. 6 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

13.  Asesiadau risg at ddibenion iechyd a diogelwch a'r camau a gymerir wedyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I89Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

14.  Meddyginiaethau, triniaeth feddygol a chymorth cyntaf a roddir i unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I90Atod. 6 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

15.  Yn achos ysgol gymwys, safonau'r ddarpariaeth addysgol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I91Atod. 6 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

16.  Rosteri dyletswyddau personau sy'n gweithio yn y cartref, a'r rosteri a weithiwyd mewn gwirionedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I92Atod. 6 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

17.  Lòg dyddiol y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I93Atod. 6 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

18.  Ymarferion tân a phrofion larymau a phrofion offer tân.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I94Atod. 6 para. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

19.  Cofnodion gwerthusiadau cyflogeion.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I95Atod. 6 para. 19 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

20.  Cofnodion cyfarfodydd staff.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I96Atod. 6 para. 20 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

(1)

Mae adran 115(ea) i'w mewnosod gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104, ar ddyddiad sydd i'w bennu. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto.

(2)

Mae adrannau 113(3A) a 115(6A) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1997 (p.14) o ddyddiad sydd i'w bennu, ac wedi'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi. Mae adrannu 113(3C) a 115(6B) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.

(4)

O.S. 1975/1023. Ar y ddyddiad y mae'r rheoliadau hyn yn dod i rym, mae'r offerynnau canlynol yn gwneud diwygiadau perthnasol i'r Gorchymyn: O.S. 1986/1249; 1986/2268; ac O.S. 2001/1192.

(5)

1996 p.56. Mae adran 324 yn cael ei diwygio gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) a pharagraff 77 o Atodlen 30 iddi, a chan adran 9 o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources