- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
14 Gorffennaf 2000
Yn dod i rym
31 Gorffenaf 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(b),(c),(d),(e) ac (f), 17(1), 26, 45, 48(1) a 49(2) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) a pharagraffau 5(1), (2) a (3) a 6(1)(a) o Atodlen 1 iddi, ar ôl iddo ystyried y cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno ac ar ôl iddo, yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, ymgynghori ac (i'r graddau na ellid bod wedi gwneud y Rheoliadau hyn o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990) gan ei fod wedi'i ddynodi(2) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) (Diwygio) (Cymru) 2000, byddant yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2000.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994(4)) yn unol â pharagraff (2) isod i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
(2) Rhoddir y paragraff canlynol yn lle paragraff 2(a) o Ran IX o Atodlen 2—
“2.—(a) The meat product to be used in the prepared meal shall as soon as it has been cooked —
(i)be mixed with the other ingredients as soon as practically possible; in that event the time during which the temperature of the meat products is between 10°C and 60°C shall not exceed two hours,
(ii)be refrigerated to 10°C or less before being mixed with the other ingredients, or
(iii)be cooled and mixed with the other ingredients in such a way (to be specified in the approval document for the establishment concerned) that the timing during which the temperature of the meat product is between 10°C and 60°C is kept to a minimum;”.
3. I'r graddau y mae'n gymwys i Gymru, diwygir Atodlen 2 i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(5) (Rheoliadau sy'n berthnasol i fasnachu o fewn i'r Gymuned) drwy fewnosod y cyfeiriad canlynol ar ddiwedd paragraff 5 —
“The Meat Products (Hygiene) (Amendment) (Wales) Regulations 2000.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)
Jane Davidson
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Gorffennaf 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Maent yn diwygio —
(a)Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994 (O.S. 1994/3082, fel y'u diwygiwyd); a
(b)Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio 1996 (O.S. 1996/3124)
yn y naill achos a'r llall i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru (mae O.S. 1994/3082 ac O.S. 1999/3124 ill dau yn gymwys i Brydain Fawr gyfan).
2. Effaith y diwygiadau uchod yw caniatáu trydydd dull o baratoi bwydydd parod ar sail cig o 31 Gorffennaf 2000 ymlaen yn unol â phwynt 2(a) o Bennod IX o Atodiad B i Gyfarwyddeb y Cyngor 77/99/EEC (a fewnosodwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 95/68/EC, OJ Rhif L332, 30.12.95, t.10).
1990 p.16. Gweler adran 4(1) i gael diffiniad o “the Ministers”. Trosglwyddwyd y swyddogaethau a freiniwyd yng Ngweinidogion y Goron i Gymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Diwygiwyd adran 48 gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28).
Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. Rhif 1999/2788).
O.S. 1994/3082 a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/539, O.S.1995/1763, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3205, O.S. 1996/1499 ac O.S. 1999/683.
O.S. 1996/3124 a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/539, O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3205, O.S. 1996/1499 ac O.S. 1999/683. Cymhwyswyd O.S. 1996/3124 gan O.S. 1996/3125 i fewnforio cig ffres.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: