Search Legislation

Gorchymyn Cefnffordd Castell-Nedd — Y Fenni (A465) (Deuoli o'r Fenni i Hirwaun a'r Ffyrdd Ymuno ac Ymadael) a Ffordd Man i'r Dwyrain o Abercynon — Man i'r Dwyrain o Ddowlais (A4060), Cefnffordd Caerdydd — Glanconwy (A470) (Ffyrdd Cysylltu) 1999

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

1.  Daw'r priffyrdd newydd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu eu hadeiladu —

(a)ar hyd y llwybrau a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn (cyfeirir at y priffyrdd ar hyd y llwybrau yn y Gorchymyn hwn fel “y brif gefnffordd newydd”); a

(b)ar hyd y llwybrau a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn sy'n cysylltu'r brif gefnffordd newydd â phriffyrdd eraill yn y lleoedd a nodir yn yr atodlen honno (cyfeirir at y priffyrdd ar hyd y llwybrau hyn yn y Gorchymyn fel “y ffyrdd ymuno ac ymadael”); ac

(c)ar hyd y llwybrau a ddisgrifir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn sy'n cysylltu â'r briffordd newydd bennaf â'r ffyrdd ymuno ac ymadael â'r cefnffyrdd eraill a nodir yn atodlen honno (cyfeirir at y priffyrdd ar hyd y llwybrau hyn yn y Gorchymyn fel “y cefnffyrdd cysylltu newydd”)

yn gefnffyrdd o'r dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym.

2.  Dangosir llinellau canol y cefnffyrdd newydd â llinellau du trwm a dangosir y cynigion ynglŷn â'r ffyrdd ymyl cysylltiedig â llinellau gwyn bylchog ar y plan a adneuwyd.

3.  Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo fel a ganlyn ynglŷn ag unrhyw ran o briffordd sy'n croesi llwybr unrhyw un o'r cefnffyrdd newydd —

(a)lle gellir cynnal y briffordd ar draul y cyhoedd gan awdurdod priffyrdd lleol, cynhelir y rhan dan sylw gan yr awdurdod hwnnw; a

(b)lle nad yw'r briffordd yn briffordd y gellir ei chynnal felly ac na ellir ei chynnal o dan ddeddfiad arbennig neu oherwydd deiliadaeth, tir caeedig neu bresgripsiwn, ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol o dan unrhyw ddyletswydd i gynnal y rhan o dan sylw,

tan, yn y naill achos neu'r llall, ddyddiad i'w bennu mewn hysbysiad a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol i'r awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd honno. Ni fydd y dyddiad a bennir yn ddiweddarach na'r dyddiad y bydd y llwybr perthnasol yn cael ei agor ar gyfer traffig trwodd.

4.  Bydd y darnau o'r briffordd a ddisgrifir yn Atodlen 4 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau lletraws â stribedi bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffyrdd ac fe'u dosberthir fel a ddangosir yn yr Atodlen honno o'r dyddiad y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn hysbysu Cynghorau Sir Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent fod y cefnffyrdd newydd yn agored ar gyfer traffig trwodd.

5.  Awdurdodir y Cynulliad Cenedlaethol i adeiladu'r bont a bennir yn Atodlen 5 i'r Gorchymyn hwn fel rhan o'r brif gefnffordd newydd dros y cwrs dŵr mordwyadwy a bennir yn yr Atodlen honno.

6.  Yn y Gorchymyn hwn:

(1Gwneir pob mesuriad pellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;

(2) (iystyr “y plan a adneuwyd” yw'r plan sydd wedi'i rifo HA10/2 — WO131 a'i farcio “Gorchymyn Cefnffordd Castell-nedd — Y Fenni (A465) (Deuoli o'r Fenni i Hirwaun a'r Ffyrdd Ymuno ac Ymadael) a Ffordd Man i'r Dwyrain o Abercynon — Man i'r Dwyrain o Ddowlais (A4060), Cefnffordd Caerdydd — Glanconwy (A470) (Ffyrdd Cysylltu) 1999” a lofnodwyd drwy awdurdod y Cynulliad Cenedlaethol ac a adneuwyd yn Ystorfa Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Arglawdd Curran, Caerdydd;

(ii)mae “i'r brif gefnffordd newydd” a'r “ffyrdd ymuno ac ymadael” yr ystyron a roddir iddynt yn erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn, a phob un ohonynt yn rhan o Gefnffordd Castell-nedd — Y Fenni (A465);

(iii)ystyr “y cefnffyrdd cysylltu newydd” yw'r cefnffyrdd cysylltu y sonnir amdanynt yn erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn ac ystyr “cefnffordd cysylltu newydd” yw un o'r priffyrdd hynny: cefnffordd Man i'r Dwyrain o Abercynon — Man i'r Dwyrain o Ddowlais (A4060); Cefnffordd Castell-nedd — Y Fenni (A465); a Chefnffordd Caerdydd — Glanconwy (A470);

(iv)ystyr “y cefnffyrdd” yw'r priffyrdd newydd y sonnir amdanynt yn erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn;

(v)ystyr “ffordd ddosbarthiadol” fel dosbarthiad ar gyfer priffordd yw nad yw'r briffordd yn brif ffordd at ddibenion deddfiadau ag offerynnau sy'n cyfeirio at briffyrdd a ddosberthir fel prif ffyrdd ag a ddosberthir hefyd at ddibenion pob deddfiad ac offeryn arall sy'n cyfeirio at briffyrdd a ddosberthir gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nad yw'n cyfeirio'n benodol at eu dosbarthiad fel prif ffyrdd;

(vi)ystyr “y gefnffordd” yw Cefnffordd Castell-Nedd — Y Fenni (A465).

7.  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 8 Hydref 1999 a'r enw yw Cefnffordd Castell-nedd — Y Fenni (A465) (Deuoli o'r Fenni i Hirwaun a Ffyrdd Ymuno ac Ymadael) a Ffordd Man i'r Dwyrain o Abercynon — Man i'r Dwyrain o Ddowlais (A4060), Cefnffordd Caerdydd — Glanconwy (A470) (Ffyrdd Cysylltu) 1999.

Llofnodwyd ar ran yr Ysgrifennydd Cynulliad dros yr Amgylchedd a Llywodraeth Leol

D M TIMLIN

Pennaeth yr Adran Gweinyddu Ffyrdd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dyddiedig 21 Medi 1999

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources