Adran 8 - Awdurdod gorfodi
17.Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i benodi person neu gorff yn awdurdod gorfodi. Caiff rheoliadau roi pwerau neu ddyletswyddau i awdurdod gorfodi at ddibenion gorfodi darpariaeth a wneir gan adran 14A a chan reoliadau o dan adran 14B, 14C ac Atodlen A1. Byddai hyn yn cynnwys (ymhlith pethau eraill) y pŵer i awdurdodi personau i benodi “arolygwyr” i arfer y pwerau mynediad ac arolygu a nodir yn adrannau 9 a 10 (gan fewnosod adran 14I a 14J yn y drefn honno).
