Adran 9- Pwerau mynediad
18.Mae'r adran hon yn gosod pŵer mynediad sy'n arferadwy gan berson a awdurdodir i'w arfer gan awdurdod gorfodi o dan reoliadau a wneir o dan adran 14H(3)(a). Cyfeirir at berson a awdurdodir yn y ffordd hon yn y Mesur fel “arolygydd”. Caiff arolygydd, ar adeg resymol, fynd i gerbyd neu fangre –
sydd dan berchenogaeth neu reolaeth awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir; neu
a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio gan unrhyw berson mewn cysylltiad â darparu cludiant i ddysgwyr.
Hefyd, caiff arolygydd gadw cerbyd yn gaeth. Nid yw pŵer mynediad yn cynnwys y pŵer i fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn annedd breifat.