Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Mesur Diogelwch Ar Gludiant I Ddysgwyr (Cymru) 2011

Atodlen – Cosbau sifil

33.Cyflwynir Atodlen A1 gan adran 7 o'r Mesur.

34.Mae darpariaethau'r Atodlen yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer cosbau sifil am dorri rheoliadau o dan adrannau 14A neu 14B (y cyfeirir atynt yn Atodlen A1 fel “rheoliadau diogelwch”). Mae torri rheoliadau diogelwch at ddibenion yr Atodlen yn cynnwys methiant i gydymffurfio â gofyniad yn y rheoliadau a rhwystro neu fethu â chynorthwyo awdurdod gorfodi (gweler adran 7 ar gyfer darpariaeth ynghylch awdurdodau gorfodi). Rhaid i'r holl bwerau i osod cosbau sifil gael eu rhoi i'r awdurdod gorfodi.

35.Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer pedwar math gwahanol o gosb sifil:

  • cosbau ariannol penodedig,

  • gofynion yn ôl disgresiwn,

  • hysbysiadau stop, a

  • ymgymeriad gorfodi.

Cosbau ariannol penodedig (paragraffau 2 a 3 o Atodlen A1)

36.Gofyniad yw “cosb ariannol benodedig” i dalu cosb am swm a bennir yn y rheoliadau i awdurdod gorfodi. Uchafswm y gosb y caniateir ei gosod yw £5,000.  Dim ond pan fo awdurdod gorfodi wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod toriad i reoliadau wedi digwydd y caiff rheoliadau roi pŵer i osod cosb ariannol benodedig.

37.Mae paragraff 3 o Atodlen A1 yn nodi'r weithdrefn ar gyfer gosod cosbau ariannol penodedig gan gynnwys dyroddi hysbysiad o fwriad, cyfle i berson ryddhau ei hun o atebolrwydd, y broses o gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, hysbysiad terfynol, y broses apelio i'r person y gosodwyd y gosb ariannol benodedig arno, a seiliau apêl.

38.Dylai'r rheoliadau hefyd bennu'r amgylchiadau pan na chaiff awdurdod gorfodi benderfynu gosod cosb ariannol benodedig er enghraifft am resymau gweithredol eithriadol megis tywydd garw, cerbyd ddim yn gweithio, neu argyfwng pan na fyddai disgyblion fel arall yn gallu mynd adref.

Gofynion yn ôl disgresiwn (paragraffau 4, 5 a 6 o Atodlen A1)

39.Caiff rheoliadau ddarparu bod awdurdod gorfodi yn gosod gofyniad neu ofynion yn ôl disgresiwn ar berson sy'n torri rheoliadau diogelwch. Unwaith eto rhaid bod yr awdurdod gorfodi wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod toriad i reoliadau wedi digwydd.

40.Caiff gofyniad yn ôl disgresiwn gynnwys gofyniad i dalu cosb o swm a ddyfernir gan awdurdod gorfodi; neu ofyniad i gymryd y camau hynny a bennir gan yr awdurdod gorfodi i sicrhau nad yw'r toriad yn y rheoliadau yn parhau neu'n digwydd eto.

41.Ni ellir gosod gofyniad yn ôl disgresiwn ar yr un person am yr un weithred neu anwaith ar fwy nag un achlysur.

42.Mae paragraff 5 o Atodlen A1 yn gosod y weithdrefn ar gyfer gofynion yn ôl disgresiwn gan gynnwys hysbysiad o fwriad, y broses o gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, talu cosbau yn achos cosb ariannol amrywiadwy a'r broses apelio, seiliau apêl a chanlyniadau peidio â chydymffurfio.

43.Caniateir gwneud darpariaeth hefyd mewn rheoliadau i ganiatáu i awdurdod gorfodi osod cosb ariannol (‘cosb am beidio â chydymffurfio’) ar berson sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad yn ôl disgresiwn i gymryd camau i sicrhau nad yw toriad yn y rheoliadau yn parhau neu'n digwydd eto (paragraff 6 o  Atodlen  A1).

Hysbysiadau stop

44.Caiff y rheoliadau roi'r pŵer i awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad stop. Mae hysbysiad stop yn gwahardd person rhag parhau â gweithgaredd a bennir yn yr hysbysiad nes bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad. Cyn dyroddi hysbysiad stop rhaid bod arolygydd wedi ei fodloni bod y gweithgaredd yn golygu bod risg arwyddocaol o achosi niwed difrifol i iechyd dynol, ac yn golygu toriad yn y rheoliadau sy'n ymwneud â'r disgrifiad o gerbydau a ddefnyddir ar gyfer cludiant i ddysgwyr

45.Rhaid i'r rheoliadau wneud darpariaeth am iawndal ar gyfer colled a ddioddefir o ganlyniad i gyflwyno'r hysbysiad. Ond dim ond mewn achosion a bennir yn y rheoliadau neu mewn perthynas â disgrifiadau o golled a bennir yn y rheoliadau y caniateir iddynt ddarparu iawndal. Rhaid i'r rheoliadau hefyd ddarparu ar gyfer apelau yn erbyn penderfyniadau i beidio â dyfarnu iawndal neu mewn perthynas â'r swm.

46.Os na fydd person y cyflwynwyd hysbysiad iddo yn cydymffurfio â hysbysiad stop mae'r person yn euog o dramgwydd ac yn agored-

(a)

ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd), neu garchar am gyfnod nad yw'n hwy na chwe mis, neu'r ddau, neu

(b)

ar gollfarn ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu i ddirwy neu i'r ddau.

47.Pan fydd adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 yn cael ei chychwyn bydd uchafswm cyfnod o garchar ar gollfarn ddiannod yn cael ei ymestyn i ddeuddeng mis (gweler paragraff 10 o  Atodlen A1).

Ymgymeriadau gorfodi (paragraff 11 o Atodlen A1)

48.Caiff y rheoliadau roi i awdurdod gorfodi'r pŵer i dderbyn ymgymeriad gorfodi gan berson pan fo gan yr awdurdod gorfodi sail resymol i amau fod y person wedi torri'r rheoliadau diogelwch. Ymgymeriad gorfodi yw ymgymeriad i gymryd y camau hynny a bennir yn yr ymgymeriad o fewn cyfnod o amser penodedig. Effaith yr ymgymeriad yw cyhyd ag y bo cydymffurfio â'r ymgymeriad ni ellir cymryd mathau eraill o gamau gorfodi mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith y mae'r ymgymeriad yn ymwneud ag ef neu â hi. Y camau na ellir eu cymryd yn ystod gweithrediad yr ymgymeriad gorfodi yw: achos o dramgwydd troseddol, cosb ariannol benodedig neu ofyniad yn ôl disgresiwn. Mae paragraff 11 o Atodlen A1 hefyd yn nodi'r pŵer sydd gan reoliadau i wneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn ar gyfer ymrwymiadau gorfodi, eu telerau, cyhoeddi ac amrywio a darpariaeth ynghylch cydymffurfio, monitro , ac apelau

Cyfuno cosbau (paragraff 12 o Atodlen A1)

49.Mae paragraff 12 yn gwneud darpariaeth i sicrhau na ellir defnyddio cyfuniad o gosb ariannol benodedig, gofyniad yn ôl disgresiwn, a hysbysiad stop mewn perthynas â'r un toriad yn y rheoliadau diogelwch.

Materion atodol

50.Yn achos cosbau ariannol caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer disgownt am dalu'n gynnar, talu llog neu gosbau ariannol eraill am dalu'n hwyr, ac adennill arian am gosbau am logau a dalwyd yn hwyr fel dyledion sifil (paragraff 3 o Atodlen A1).

51.Caiff darpariaeth yn y rheoliadau hefyd ddarparu ar gyfer talu costau y mae'r awdurdod gorfodi yn mynd iddynt; yn benodol, costau ymchwilio, costau gweinyddu a'r gost o gael cyngor arbenigol (paragraff 14 o Atodlen A1).

52.Rhaid darparu bod apelau yn y rheoliadau o dan Atodlen A1 yn darparu bod apelau yn cael eu gwneud i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf neu i dribiwnlys arall a grëir o dan ddeddfiad (paragraff 15 o  Atodlen A1).

53.Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i alluogi'r awdurdod gorfodi i'w gwneud yn ofynnol bod y person y gosodwyd y gosb arno i roi cyhoeddusrwydd i'r ffaith (paragraff 16 o Atodlen A1).

54.Caiff y rheoliadau ddarparu bod swyddogion corff corfforaethol neu bartneriaeth yn atebol yn bersonol i gosbau sifil yn ogystal â'r corff corfforaethol neu'r bartneriaeth ei hun (paragraff 17 o Atodlen A1).

55.Pan fo pŵer yn cael ei roi i awdurdod gorfodi, rhaid i'r awdurdod gorfodi hwnnw gyhoeddi canllawiau am ddefnydd yr awdurdod gorfodi o gosbau sifil gan gynnwys o dan ba amgylchiadau y mae'r gosb yn debygol o gael ei gosod, yr amgylchiadau pan na chaniateir ei gosod, swm y gosb, y gellir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ac effaith y rhyddhad,  a'r hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau i apelio (paragraff 18 o Atodlen A1).

56.Rhaid i reoliadau sy’n rhoi pwerau i awdurdod gorfodi osod cosbau sifil sicrhau bod awdurdod gorfodi o bryd i’w gilydd yn cyhoeddi adroddiadau sy’n pennu’r achosion lle y cafodd cosbau sifil eu gosod (paragraff 18 o Atodlen A1).

57.Rhaid i awdurdod gorfodi weithredu yn unol â'r egwyddor y dylai pob gweithgaredd rheoleiddiol gael ei gyflawni mewn modd tryloyw, atebol, cymesur a chyson a dim ond at achosion pryd y mae angen camau gweithredu y dylid targedu gweithgareddau rheoleiddiol (paragraff 20 o Atodlen A1).

58.Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu gweithrediad unrhyw ddarpariaethau a wnaed ganddynt sy'n rhoi pŵer i awdurdod gorfodi osod cosbau sifil. Rhaid i’r adolygiad ddigwydd cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar y diwrnod pryd y daw’r ddarpariaeth i rym (paragraff 21 o Atodlen A1).

59.Caniateir i Weinidogion Cymru gael eu penodi'n awdurdod gorfodi mewn rheoliadau, ac os digwydd hynny telir unrhyw dderbyniadau o gosbau sifil i Gronfa Gyfunol Cymru drwy effaith adran 120 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae paragraff 22 o Atodlen A1 yn gwneud darpariaeth ynghylch talu derbyniadau o gosbau sifil i Gronfa Gyfunol Cymru os person neu gorff heblaw Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources