Cosbau ariannol penodedig (paragraffau 2 a 3 o Atodlen A1)
36.Gofyniad yw “cosb ariannol benodedig” i dalu cosb am swm a bennir yn y rheoliadau i awdurdod gorfodi. Uchafswm y gosb y caniateir ei gosod yw £5,000. Dim ond pan fo awdurdod gorfodi wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod toriad i reoliadau wedi digwydd y caiff rheoliadau roi pŵer i osod cosb ariannol benodedig.
37.Mae paragraff 3 o Atodlen A1 yn nodi'r weithdrefn ar gyfer gosod cosbau ariannol penodedig gan gynnwys dyroddi hysbysiad o fwriad, cyfle i berson ryddhau ei hun o atebolrwydd, y broses o gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, hysbysiad terfynol, y broses apelio i'r person y gosodwyd y gosb ariannol benodedig arno, a seiliau apêl.
38.Dylai'r rheoliadau hefyd bennu'r amgylchiadau pan na chaiff awdurdod gorfodi benderfynu gosod cosb ariannol benodedig er enghraifft am resymau gweithredol eithriadol megis tywydd garw, cerbyd ddim yn gweithio, neu argyfwng pan na fyddai disgyblion fel arall yn gallu mynd adref.