Adran 15 - Darpariaethau cyffredinol am orchmynion a rheoliadau
27.Mae'r adran hon yn diwygio adran 27 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 sy'n gwneud darpariaeth i orchmynion a rheoliadau gael eu gwneud drwy offeryn statudol, pwerau ategol i wneud darpariaeth drwy orchmynion neu reoliadau a gweithdrefnau craffu gan y Cynulliad.
28.Mae adran 15(2) yn diwygio adran 27(2) o Fesur 2008 i estyn cwmpas y pwerau i wneud gorchmynion a rheoliadau o dan Fesur 2008 i gynnwys:
gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer dosbarthau gwahanol ar achos neu at ddibenion gwahanol,
gwneud darpariaeth sy'n ddarostyngedig i esemptiad neu eithriadau penodedig, ac
gwneud darpariaeth mewn perthynas â dosbarth penodol o achos.
29.Diben adran 15(3) yw darparu bod y cyfan o'r pwerau i wneud rheoliadau o dan y Mesur yn cynnwys y pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol. A diben is-adran (4) yw darparu bod y pŵer i wneud darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth drosiannol, darpariaeth arbed neu ddarpariaeth ganlyniadol o dan y pwerau'n cynnwys pŵer i ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau mewn Mesurau Cynulliad, Deddfau Senedd y DU ac is-ddeddfwriaeth a basiwyd neu a wnaed cyn pasio'r Mesur. Is-adran (5) yw'r ddarpariaeth sy'n cymhwyso gweithdrefn penderfyniad cadarnhaol i bob rheoliad a wneir o dan y Mesur ac i unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 14N(6).