Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 10/07/2011. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Measure yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Valid from 01/10/2014
Ar ôl adran 14 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
(1)Rhaid i gorff perthnasol sicrhau bod pob bws a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr y mae'n ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall yn un y mae gwregys diogelwch wedi ei ffitio i bob sedd deithiwr.
(2)Rhaid i berson sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol sicrhau bod pob bws a ddefnyddir ar gyfer cludiant o'r fath yn un y mae gwregys diogelwch wedi ei ffitio i bob sedd deithiwr.
(3)Mae person sy'n methu â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (2) yn cyflawni tramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
(4)Mae'n amddiffyniad i ddangos bod y methiant i gydymffurfio ag is-adran (1) neu (2) wedi ei gyfiawnhau oherwydd amgylchiadau eithriadol.
(5)Nid oes dim yn yr adran hon i'w ddehongli fel petai'n gosod safonau technegol ar gyfer gwneuthuriad neu gyfarpar cerbyd sy'n wahanol i'r safonau a fyddai neu a allai fod yn gymwys mewn modd arall i'r cerbyd hwnnw yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu unrhyw ofyniad yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd sy'n uniongyrchol gymwysadwy.
(6)Yn yr adran hon—
ystyr “bws” yw cerbyd modur sydd wedi ei wneuthur neu wedi ei addasu i gario mwy nag wyth o deithwyr ar eu heistedd yn ychwanegol at y gyrrwr;
ystyr “deddfiad” yw unrhyw un o'r canlynol, pryd bynnag y'i pasiwyd neu y'i gwnaed—
Deddf Seneddol;
is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Seneddol;
darpariaeth mewn unrhyw Ddeddf neu is-ddeddfwriaeth o'r fath;
ystyr “gwregys diogelwch” yw gwregys sydd wedi ei fwriadu ar gyfer ei wisgo gan berson mewn cerbyd ac sydd wedi ei ddylunio i atal neu leihau anafiadau i'r sawl sy'n ei wisgo os bydd damwain i'r cerbyd.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 mewn grym ar 1.10.2014, gweler a. 16(1)
Ar ôl adran 14A o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach er mwyn—
(a)ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol sicrhau mai dim ond cerbydau o ddisgrifiadau rhagnodedig a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall;
(b)ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol ddefnyddio cerbydau o ddisgrifiadau rhagnodedig yn unig;
(c)darparu am dramgwyddau troseddol a chosbau am dorri gofynion a osodir o dan yr adran hon.
(2)Caiff rheoliadau o dan baragraffau (a) a (b) o is-adran (1) ddisgrifio cerbydau drwy gyfeirio at wneuthuriad, cyfarpar neu nodweddion eraill cerbyd.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 2 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)
Ar ôl adran 14B o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
(1)Caiff rheoliadau—
(a)ei gwneud yn ofynnol i drefniadau rhagnodedig gael eu gwneud i recordio delweddau gweledol neu sain o ddigwyddiadau sy'n digwydd ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol;
(b)darparu ynghylch defnyddio, storio a chadw delweddau gweledol neu sain a recordir ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir gan gorff perthnasol;
(c)darparu am dramgwyddau troseddol a chosbau am dorri gofynion a osodir o dan yr adran hon.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) roi pwerau neu ddyletswyddau ar unrhyw un o'r canlynol—
(a)corff perthnasol;
(b)person sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.
(3)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) awdurdodi na'i gwneud yn ofynnol bod recordio yn digwydd mewn ffordd sydd wedi ei chynllunio i sicrhau nad yw personau sy'n ddarostyngedig iddo yn gwybod ei fod neu y gall fod yn digwydd.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 3 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)
Ar ôl adran 14C o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol gynnal asesiadau risg diogelwch o'r cludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—
(a)gosod gofynion ynghylch natur yr asesiad i'w gynnal;
(b)ei gwneud yn ofynnol i lunio a chyhoeddi adroddiadau;
(c)rhagnodi ffurf a dull y cyhoeddi;
(d)rhagnodi pa mor aml y mae'n rhaid cynnal yr asesiadau.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 4 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)
Ar ôl adran 14D o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol sy'n darparu neu yn sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu sicrhau bod gyrwyr cerbydau a ddefnyddir at y cyfryw gludiant wedi cwblhau hyfforddiant rhagnodedig i safon ragnodedig.
(2)Caniateir rhagnodi hyfforddiant a safonau drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru.
(3)Yn yr adran hon ystyr “hyfforddiant” yw hyfforddiant am ddiogelwch ar gludiant i ddysgwyr a gweithio gyda phlant.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 5 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)
Ar ôl adran 14E o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
(1)Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer goruchwylio dysgwyr sy'n defnyddio cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill)—
(a)rhoi pwerau i gorff perthnasol neu osod dyletswyddau arno;
(b)darparu ynghylch hyfforddiant i bersonau sy'n goruchwylio dysgwyr.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 6 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)
(1)Ar ôl adran 14F o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
Mae i Atodlen A1 effaith.”.
(2)Mae i Atodlen y Mesur hwn effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 7 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)
Ar ôl adran 14G o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
(1)Caiff rheoliadau benodi person neu gorff (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) i fod yn awdurdod gorfodi.
(2)Caniateir penodi mwy nag un person neu gorff yn awdurdod gorfodi.
(3)Caiff rheoliadau roi pwerau i awdurdod gorfodi neu osod dyletswyddau arno i orfodi darpariaeth a wneir gan adran 14A a chan reoliadau o dan adrannau 14B a 14C ac Atodlen A1 a chânt (ymhlith pethau eraill)—
(a)rhoi pŵer i awdurdod gorfodi i awdurdodi person (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “arolygydd”) i arfer y pwerau yn adrannau 14I a 14J,
(b)gwneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sy'n gymwys i'r awdurdod gorfodi, neu
(c)darparu i'r cyfryw ddeddfiad fod yn gymwys, gyda neu heb addasiadau, at ddibenion adran 14A a rheoliadau o dan adrannau 14B a 14C, yr adran hon ac Atodlen A1.
(4)Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at awdurdod gorfodi yn gyfeiriadau at berson neu gorff a benodir o dan yr adran hon ac maent yn cynnwys person a benodir gan awdurdod gorfodi.
(5)Yn yr adran hon mae “deddfiad” yn cynnwys—
(a)deddfiad pryd bynnag y'i pasiwyd neu y'i gwnaed,
(b)deddfiad a geir mewn Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac
(c)darpariaeth a geir mewn is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr is-ddeddfwriaeth yn Neddf Dehongli 1978 (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru).”.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 8 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)
Ar ôl adran 14H o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i—
(a)cerbyd neu unrhyw fangre dan berchnogaeth neu reolaeth corff perthnasol;
(b)cerbyd neu fangre sy'n dod o fewn is-adran (2).
(2)Cerbyd neu fangre sy'n dod o fewn yr is-adran hon yw—
(a)y rhai a ddefnyddir, neu y bwriedir eu defnyddio, gan unrhyw berson mewn cysylltiad â darparu cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol, neu
(b)y rhai y mae arolygydd yn credu yn rhesymol eu bod yn cael eu defnyddio felly, neu y bwriedir eu defnyddio felly.
(3)Caiff arolygydd ar unrhyw adeg resymol—
(a)cadw cerbyd yn gaeth;
(b)mynd i gerbyd neu fangre.
(4)Ond nid yw'r pŵer yn is-adran (3) yn cynnwys y pŵer i fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn annedd breifat.
(5)Rhaid i arolygydd sy'n arfer unrhyw bŵer a roddir o dan is-adran (3) neu adran 14J, os bydd yn ofynnol iddo wneud hynny, ddangos dogfen a awdurdodwyd yn briodol sy'n dangos bod gan yr arolygydd yr awdurdod i wneud felly.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 9 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)
Ar ôl adran 14I o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
(1)Caiff arolygydd sy'n cadw cerbyd yn gaeth neu yn mynd i mewn i gerbyd neu fangre o dan adran 14I—
(a)arolygu'r cerbyd neu'r fangre;
(b)arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion sy'n ymwneud â darparu cludiant i ddysgwyr, cymryd copïau ohonynt a mynd â hwy o'r cerbyd neu'r fangre;
(c)arolygu unrhyw eitem arall a mynd ag ef o'r cerbyd neu'r fangre.
(2)Mae'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys—
(a)pŵer i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n dal dogfennau neu gofnodion a gedwir yn y cerbyd neu'r fangre neu sy'n gyfrifol am y dogfennau neu'r cofnodion hynny i'w dangos hwy, a
(b)o ran cofnodion a gedwir yn gyfrifiadurol, pŵer i'w gwneud yn ofynnol dangos y cofnodion ar ffurf y mae modd eu darllen a mynd â hwy i ffwrdd.
(3)Nid yw'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—
(a)sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol, neu
(b)i gymryd copïau o'r cyfryw ddogfennau neu gofnodion neu i fynd â hwy i ffwrdd.
(4)Mewn cysylltiad ag arolygu'r cyfryw ddogfennau, caiff arolygydd—
(a)mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sydd yn ei dyb ef yn cael neu wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau ac arolygu a gwirio gweithrediad y cyfrifiadur, y cyfarpar cysylltiedig neu'r deunydd, a
(b)ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (5) roi unrhyw gymorth rhesymol a all fod yn ofynnol at y diben hwnnw.
(5)Mae person o fewn yr is-adran hon—
(a)os y person hwnnw yw'r person sy'n defnyddio'r cyfrifiadur neu a'i defnyddiodd neu'r person y defnyddir neu y defnyddiwyd y cyfrifiadur ar ei ran, neu
(b)os yw'r person hwnnw yn berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu'n ymwneud fel arall â'u gweithrediad.
(6)Caiff arolygydd sy'n cadw cerbyd yn gaeth neu'n mynd i gerbyd neu fangre ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw gyfleusterau neu gymorth iddo o ran materion o fewn rheolaeth y person ag sy'n angenrheidiol er mwyn ei alluogi i arfer pwerau o dan adran 14I neu'r adran hon.
(7)Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol—
(a)yn rhwystro arolygydd rhag arfer unrhyw bŵer o dan adran 14I neu'r adran hon, neu
(b)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr adran hon,
yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 10 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)
Ar ôl adran 14J o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
(1)Caiff awdurdod gorfodi ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a bennir yn is-adran (2) roi iddo unrhyw wybodaeth, dogfennau, cofnodion neu eitemau eraill—
(a)sy'n ymwneud â darparu cludiant i ddysgwyr, a
(b)sydd, ym marn yr awdurdod gorfodi, yn angenrheidiol neu'n hwylus i'w cael at ddibenion ei swyddogaethau fel yr awdurdod gorfodi.
(2)Y personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw—
(a)corff perthnasol;
(b)unrhyw berson sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.
(3)Mae'r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys, mewn perthynas â gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion a gedwir yn gyfrifiadurol, y pŵer i'w gwneud yn ofynnol eu darparu ar ffurf y mae modd eu darllen a mynd â hwy i ffwrdd.
(4)Nid yw'r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol yn cael eu darparu.
(5)Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar yr raddfa safonol.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 11 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)
Ar ôl adran 14K o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 mewnosoder—
(1)Pan brofir bod tramgwydd o dan adran 14A, 14B neu 14C a gyflawnir gan gorff corfforaethol wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn swyddog o'r corff corfforaethol, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o'r corff corfforaethol, caiff rheoliadau ddarparu y bydd y swyddog yn atebol yn ogystal â'r corff corfforaethol ei hun.
(2)Pan brofir bod tramgwydd o dan adran 14A, 14B neu 14C a gyflawnir gan bartneriaeth wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner yn y bartneriaeth, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner yn y bartneriaeth, caiff rheoliadau ddarparu y bydd y partner yn atebol yn ogystal â'r bartneriaeth ei hun.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 12 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)
Ar ôl 14L o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) mewnosoder—
Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob awdurdod lleol ac ag unrhyw bersonau eraill y mae yn eu barn hwy yn briodol ymgynghori â hwy cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 13 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)
Ar ôl adran 14M o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 mewnosoder—
(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 14A i 14K.
(2)Mae pob un o'r canlynol yn “gorff perthnasol”—
(a)awdurdod lleol;
(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir.
(3)Ystyr “cludiant i ddysgwyr” yw cludiant i'w gwneud yn hwylus i blentyn fynychu unrhyw fan perthnasol lle y caiff addysg neu hyfforddiant; ond nid yw'n cynnwys cludiant a ddarperir er mwyn teithio yn ystod y dydd rhwng mannau perthnasol neu rhwng safleoedd gwahanol o'r un sefydliad.
(4)Nid yw'r weithred o wneud unrhyw un o'r trefniadau a ganlyn i'w hystyried, ynddi'i hun, fel petai'n darparu cludiant i ddysgwyr neu'n sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu.
(5)Y trefniadau a grybwyllir yn is-adran (4) yw—
(a)trefniadau i dalu'r cyfan neu unrhyw ran o dreuliau teithio rhesymol person;
(b)trefniadau i dalu lwfansau mewn cysylltiad â defnyddio cludiant.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio is-adran (3) yn y fath fodd ag i hepgor y geiriau o “ond nid yw'n cynnwys” hyd at ddiwedd yr is-adran.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I14A. 14 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)
(1)Diwygier adran 27 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (gorchmynion a rheoliadau) fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (2)—
(a)ym mharagraff (a), ar ôl “neu” rhodder “ddosbarthau ar achos neu ddibenion gwahanol neu”;
(b)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)i wneud darpariaeth yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig;”;
(c)ym mharagraff (b), ar ôl “achosion” mewnosoder “neu ddosbarthau ar achos”.
(3)Yn is-adran (3), hepgorer “adran 7 neu adran 8” a rhodder “7, 8, 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1”.
(4)Ar ôl is-adran (4), mewnosoder—
“(4A)Wrth gymhwyso is-adran (4) i reoliadau a wneir o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1 mae'r cyfeiriad at “y Mesur hwn” yn is-adran (4) i'w ddehongli fel cyfeiriad at Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2011.”.
(5)Yn is-adran (7)—
(a)ym mharagraff (d) hepgorer “neu”;
(b)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
“(da)rheoliadau o dan adran 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1, neu
(db)gorchymyn o dan adran 14N(6).”.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 15 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)
(1)Mae adran 1 yn dod i rym ar 1 Hydref 2014.
(2)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar y diwrnod y caiff y Mesur hwn ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.
Gwybodaeth Cychwyn
I16A. 16 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)
Enw'r Mesur hwn yw Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 17 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: