Search Legislation

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

(a gyflwynwyd gan adran 33)

ATODLEN 7Y CATEGORÏAU O BERSON Y CANIATEIR EU HYCHWANEGU AT ATODLEN 8

This schedule has no associated Explanatory Notes
Colofn 1Colofn 2Colofn 3
CofnodDisgrifiad o'r personGwasanaeth(au) sydd ar gael
(1)Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau nwy, dŵr neu drydan (gan gynnwys cyflenwi neu ddosbarthu).
(a)

Gwasanaethau nwy, dŵr neu drydan (gan gynnwys cyflenwi neu ddosbarthu).

(b)

Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(2)Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau carthffosiaeth (gan gynnwys gwaredu carthion).
(a)

Gwasanaethau carthffosiaeth (gan gynnwys gwaredu carthion).

(b)

Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(3)Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau post neu swyddfeydd post.
(a)

Gwasanaethau post neu wasanaethau swyddfeydd post.

(b)

Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(4)Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau telathrebu.
(a)

Gwasanaethau telathrebu.

(b)

Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(5)Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd addysg, hyfforddiant (lle y mae'r darparwr yn derbyn arian cyhoeddus i'w ddarparu), neu gyfarwyddyd gyrfaoedd.
(a)

Addysg, hyfforddiant (lle y mae'r darparwr yn derbyn arian cyhoeddus i'w ddarparu), neu gyfarwyddyd gyrfaoedd.

(b)

Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(6)Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau sy'n annog, yn galluogi neu'n cynorthwyo cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyfarwyddyd gyrfaoedd.
(a)

Gwasanaethau i annog, i alluogi neu i gynorthwyo cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyfarwyddyd gyrfaoedd.

(b)

Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(7)Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau bysiau neu wasanaethau rheilffyrdd.
(a)

Gwasanaethau bysiau neu wasanaethau rheilffyrdd.

(b)

Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(8)Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau i ddatblygu neu i ddyfarnu cymwysterau addysgol neu alwedigaethol.
(a)

Gwasanaethau i ddatblygu neu i ddyfarnu cymwysterau addysgol neu alwedigaethol.

(b)

Gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ym mharagraff (a).

(9)Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau sy'n gysylltiedig ag unrhyw wasanaeth sylfaenol.Gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag unrhyw wasanaeth sylfaenol.
(10)Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd o dan gytundeb, neu'n unol â threfniadau, a wnaed gydag awdurdod cyhoeddus.Gwasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd o dan y cytundeb, neu'n unol â'r trefniadau, a wnaed gyda'r awdurdod cyhoeddus.

Gwasanaethau a ddarperir mewn siopau: eithriadau

1(1)Nid yw cyfeiriadau yn y tabl at “wasanaethau cysylltiedig” yn cynnwys gwasanaethau a ddarparir mewn siopau onid yw'r gwasanaethau hynny—

(a)yn wasanaethau cownteri swyddfa'r post, neu

(b)yn wasanaethau gwerthu tocynnau neu ddarparu amserlenni ar gyfer gwasanaethau bysiau a gwasanaethau rheilffyrdd.

(2)At y diben hwnnw, y canlynol yw'r cyfeiriadau yn y tabl at wasanaethau cysylltiedig—

(a)yng ngholofn (3) ym mhob un o resi (1) i (8) yn y tabl, y cyfeiriadau ym mharagraff (b) bob tro at wasanaethau eraill, a

(b)yng ngholofnau (2) a (3) yn rhes (9) yn y tabl, y cyfeiriadau at wasanaethau sy'n gysylltiedig ag unrhyw wasanaeth sylfaenol.

Dehongli

2Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “arian cyhoeddus” (“public money”) yw—

    (a)

    arian y perir ei fod ar gael yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy—

    (i)

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    (ii)

    Gweinidogion Cymru;

    (iii)

    Senedd y DU;

    (iv)

    Gweinidogion y Goron; neu

    (v)

    un neu ragor o sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd;

    (b)

    arian a ddarperir yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad;

  • ystyr “awdurdod cyhoeddus” yw pob awdurdod cyhoeddus sy'n dod o fewn ystyr “public authority” yn adran 6 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998;

  • ystyr “gwasanaethau bysiau” (“bus services”) yw gwasanaeth rheolaidd â cherbyd gwasanaeth cyhoeddus (o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981) i gludo teithwyr am brisiau tocyn ar wahân, ac eithrio gwasanaeth—

    (a)

    y mae capasiti cyfan y cerbyd ar gyfer y gwasanaeth hwnnw wedi ei brynu gan siartrwr at ei ddefnydd ei hun neu i'w ailwerthu;

    (b)

    sy'n daith neu'n drip a drefnwyd yn breifat gan unrhyw berson sy'n gweithio'n annibynnol ar weithredwr y cerbyd; neu

    (c)

    lle y mae'r teithwyr yn teithio gyda'i gilydd ar daith, gyda seibiannau neu hebddynt, a ph'un ai ar yr un diwrnod ai peidio, o un neu fwy o leoedd i un neu fwy o leoedd ac yn ôl;

  • ystyr “gwasanaeth sylfaenol” (“primary service”) yw gwasanaeth sy'n dod o fewn paragraff (a) yng ngholofn (3) o unrhyw un neu ragor o resi (1) i (8);

  • ystyr “gwasanaethau post” (“postal services”) yw'r gwasanaeth o gludo llythyrau, parseli, pacedi neu bethau eraill o un man i fan arall drwy'r post a'r gwasanaethau cysylltiedig o dderbyn, casglu, sortio a danfon y cyfryw bethau;

  • ystyr “gwasanaethau telathrebu” (“telecommunications service”) yw unrhyw wasanaeth sy'n cynnwys darparu mynediad at, neu gyfleusterau i wneud defnydd o, unrhyw system sy'n bod (boed yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn y Deyrnas Unedig neu mewn man arall) at y diben o hwyluso trosglwyddo cyfathrebiadau drwy unrhyw fodd sy'n golygu defnyddio ynni trydanol, magnetig neu electromagnetig (gan gynnwys y cyfarpar a geir yn y system), ond nid yw'n cynnwys darlledu, y radio na'r teledu;

  • ystyr “person neilltuedig” (“qualifying person”) yw person nad yw o fewn Atodlen 6;

  • ystyr “siop” (“shop”) yw unrhyw fangre, a masnach neu fusnes gwerthu nwyddau yw'r brif fasnach neu'r prif fusnes sy'n cael ei chynnal neu ei gynnal yno.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure as a PDF

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources