Search Legislation

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

RHAN 1STATWS SWYDDOGOL Y GYMRAEG

1Statws swyddogol y Gymraeg

(1)Mae statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru.

(2)Heb ragfarnu egwyddor gyffredinol is-adran (1), rhoddir effaith gyfreithiol i statws swyddogol y Gymraeg drwy gyfrwng deddfiadau ynghylch y canlynol—

(a)dyletswyddau ar gyrff i ddefnyddio'r Gymraeg, a'r hawliau sy'n deillio o allu gorfodi'r dyletswyddau hynny, sy'n galluogi siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith yn ymwneud y cyrff hynny â hwy (megis darparu gwasanaethau gan y cyrff hynny);

(b)peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg;

(c)dilysrwydd defnyddio'r Gymraeg;

(d)hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg;

(e)rhyddid personau sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg i wneud hynny gyda'i gilydd;

(f)creu swydd Comisiynydd y Gymraeg; ac

(g)materion eraill sy'n ymwneud â'r Gymraeg.

(3)Mae'r deddfiadau hynny'n cynnwys deddfiadau sy'n gwneud y canlynol (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i'r Gymraeg a'r Saesneg gael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal yn nhrafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)rhoi hawl i siarad Cymraeg mewn achosion cyfreithiol yng Nghymru;

(c)rhoi statws cyfartal i destunau Cymraeg a Saesneg—

(i)Mesurau a Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(ii)is-ddeddfwriaeth;

(d)gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i fabwysiadu strategaeth sy'n nodi sut y maent yn bwriadu hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg;

(e)creu safonau ymddygiad sy'n ymwneud â defnyddio'r Gymraeg, neu â pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, mewn cysylltiad—

(i)â chyflenwi gwasanaethau,

(ii)â llunio polisi, a

(iii)ag arfer swyddogaethau neu gynnal busnesau neu ymgymeriadau eraill;

(f)creu safonau ymddygiad o ran hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg;

(g)creu safonau ymddygiad ar gyfer cadw cofnodion mewn cysylltiad â'r Gymraeg;

(h)gosod dyletswydd i gydymffurfio â'r safonau ymddygiad hynny sy'n cael eu creu, a chreu rhwymedïau am fethiannau i gydymffurfio â hwy; ac

(i)creu swydd Comisiynydd y Gymraeg a chanddi swyddogaethau sy'n cynnwys—

(i)hybu defnyddio'r Gymraeg,

(ii)hwyluso defnyddio'r Gymraeg,

(iii)gweithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg,

(iv)cynnal ymholiadau i faterion sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Comisiynydd, a

(v)ymchwilio i ymyrraeth â'r rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg.

(4)Nid yw'r Mesur hwn yn effeithio ar statws y Saesneg yng Nghymru.

RHAN 2COMISIYNYDD Y GYMRAEG

Y Comisiynydd

2Comisiynydd y Gymraeg

(1)Bydd yna Gomisiynydd y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Comisiynydd”).

(2)Rhaid i Brif Weinidog Cymru benodi'r Comisiynydd.

(3)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â'r Comisiynydd.

(4)Am ddarpariaeth ynglŷn ag uniondeb cymeriad y Comisiynydd, gweler Pennod 1 o Ran 8.

Dyletswydd gyffredinol

3Prif nod y Comisiynydd

(1)Prif nod y Comisiynydd wrth arfer ei swyddogaethau yw hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg.

(2)Mae'r camau y mae'n rhaid i'r Comisiynydd eu cymryd wrth arfer swyddogaethau yn unol ag is-adran (1) yn cynnwys gweithio tuag at gynyddu'r canlynol (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt)—

(a)defnyddio'r Gymraeg yng nghyswllt darparu gwasanaethau, a

(b)cyfleoedd eraill i bersonau ddefnyddio'r Gymraeg.

(3)Wrth arfer swyddogaethau'n unol ag is-adran (1), rhaid i'r Comisiynydd roi sylw—

(a)i statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru,

(b)i'r dyletswyddau i ddefnyddio'r Gymraeg sydd wedi eu gosod (neu a all gael eu gosod) drwy gyfraith, a'r hawliau sy'n deillio o allu gorfodi'r dyletswyddau hynny,

(c)i'r egwyddor na ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru, a

(d)i'r egwyddor y dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Swyddogaethau

4Hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

(1)Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei dyb ef—

(a)er mwyn hybu defnyddio'r Gymraeg,

(b)er mwyn hwyluso defnyddio'r Gymraeg, neu

(c)er mwyn gweithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

(2)Mae hynny'n cynnwys gwneud unrhyw un neu ragor o'r pethau canlynol, ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny—

(a)hybu darparu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg;

(b)annog arferion gorau o ran defnyddio'r Gymraeg gan bersonau sy'n delio â phersonau eraill, neu sy'n darparu gwasanaethau i bersonau eraill;

(c)cadw digonolrwydd ac effeithiolrwydd y gyfraith sy'n ymwneud â'r Gymraeg o dan arolygiaeth;

(d)llunio a chyhoeddi adroddiadau;

(e)gwneud gwaith ymchwil neu gomisiynu eraill i'w wneud;

(f)gwneud gweithgareddau addysgol neu gomisiynu eraill i'w gwneud;

(g)rhoi cymorth (gan gynnwys cymorth ariannol) i unrhyw berson;

(h)gwneud argymhellion ysgrifenedig i Weinidogion Cymru;

(i)cyflwyno sylwadau i unrhyw berson;

(j)rhoi cyngor i unrhyw berson.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn gwneud argymhelliad ysgrifenedig neu'n cyflwyno sylw ysgrifenedig, neu'n rhoi cyngor ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i'r argymhelliad, y sylw neu i'r cyngor wrth arfer unrhyw swyddogaeth y mae'n ymwneud â hi.

(4)Mae pŵer y Comisiynydd o dan is-adran (2)(g) i roi cymorth ariannol yn ddarostyngedig i adran 11(4).

(5)Caniateir arfer pwerau'r Comisiynydd o dan is-adran (2)(h) i (j) i wneud argymhellion neu gyflwyno sylwadau neu i roi cyngor i berson (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) p'un a wnaeth y person hwnnw gais i'r Comisiynydd arfer y pwerau ai peidio.

(6)Caiff y Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth a roddir gan yr adran hon.

5Cynhyrchu adroddiadau 5-mlynedd

(1)Rhaid i'r Comisiynydd, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, lunio adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa'r Gymraeg yn y cyfnod hwnnw.

(2)Yn y Mesur hwn, cyfeirir at adroddiad o'r fath fel “adroddiad 5-mlynedd”.

(3)Os yr adroddiad cyntaf o'i fath i gael ei lunio ar ôl cyfrifiad yw adroddiad 5-mlynedd, rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—

(a)adroddiad ar ganlyniadau'r cyfrifiad i'r graddau y maent yn ymwneud â'r Gymraeg;

(b)asesiad o oblygiadau'r canlyniadau hynny i sefyllfa'r Gymraeg.

(4)Nid yw is-adran (3) yn cyfyngu ar y materion y caiff y Comisiynydd eu cynnwys mewn unrhyw adroddiad 5-mlynedd.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cyfnod adrodd” (“reporting period”) yw—

    (a)

    y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw adran 2 i rym ac sy'n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2015; a

    (b)

    pob cyfnod olynol o 5 mlynedd;

  • ystyr “cyfrifiad” (“census”) yw cyfrifiad a wnaed o dan Ddeddf Cyfrifiad 1920 yng Nghymru (p'un a wnaed y cyfrifiad hefyd mewn man heblaw Cymru ai peidio).

6Adroddiadau 5-mlynedd: atodol

(1)Wrth baratoi pob adroddiad 5-mlynedd—

(a)rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori, a

(b)caiff y Comisiynydd ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn ei dyb ef.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad 5-mlynedd yn Gymraeg ac yn Saesneg.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad 5-mlynedd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cyfnod y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef ddod i ben.

(4)Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi pob adroddiad 5-mlynedd, rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)archwilio pob adroddiad 5-mlynedd a gyflwynir iddynt, a

(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

7Ymholiadau

(1)Caiff y Comisiynydd gynnal ymholiad i unrhyw fater sy'n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i is-adrannau (3) i (5).

(3)Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad mewn achos—

(a)lle y caiff y Comisiynydd, neu lle y mae'n rhaid iddo, gynnal ymchwiliad safonau o dan Bennod 8 o Ran 4, neu

(b)lle y mae'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad o dan Ran 5 (nad yw'n ei derfynu).

(4)Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad i'r methiant, gan un neu ragor o bersonau penodol, i gydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor.

(5)Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad i'r ymyrraeth, gan un neu ragor o bersonau penodol, â'r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg (ond gweler Rhan 6 am bŵer i ymchwilio i ymyrraeth benodol â'r rhyddid hwnnw).

(6)Nid yw is-adran (4) neu (5) yn atal y Comisiynydd rhag ystyried ymddygiad un neu ragor o bersonau penodol pan fydd yn cynnal ymchwiliad—

(a)i fethiant i gydymffurfio â gofynion perthnasol, neu

(b)i ymyrraeth â'r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg.

(7)Caiff y Comisiynydd—

(a)terfynu, neu

(b)atal,

ymholiad, neu unrhyw agwedd ar ymholiad.

(8)Os bydd y Comisiynydd yn ystod ymholiad yn dechrau amau y gall person fod wedi methu â chydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor—

(a)wrth iddo barhau â'r ymholiad, rhaid i'r Comisiynydd, i'r graddau y bo'n bosibl, osgoi ystyried ymhellach a yw'r person wedi methu â chydymffurfio â'r gofynion ai peidio,

(b)caiff y Comisiynydd gychwyn ymchwiliad i'r cwestiwn hwnnw o dan Ran 5, ac

(c)caiff y Comisiynydd ddefnyddio gwybodaeth neu dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr ymholiad at ddibenion yr ymchwiliad.

(9)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth atodol ynglŷn ag ymholiadau.

(10)Yn yr adran hon mae i gyfeiriad at fethiant i gydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor yr un ystyr ag yn Rhan 5.

8Adolygiad barnwrol ac achosion cyfreithiol eraill

(1)Caiff y Comisiynydd gychwyn achos cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, neu ymyrryd mewn achos o'r fath, os yw'n ymddangos i'r Comisiynydd fod yr achos yn un sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.

(2)O ran is-adran (1)—

(a)nid yw'n creu sail i achos, a

(b)mae yn ddarostyngedig i unrhyw derfyn neu gyfyngiad a osodir yn rhinwedd deddfiad neu yn unol ag ymarferiad llys.

(3)Yn yr adran hon, mae'r ymadrodd “achos cyfreithiol” yn cynnwys achosion gerbron unrhyw lys neu dribiwnlys, ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny.

9Cymorth cyfreithiol

(1)Caiff y Comisiynydd ddarparu cymorth i unigolyn os yw'r person hwnnw yn barti, neu os gall y person hwnnw ddod yn barti, i achos cyfreithiol gwirioneddol neu achos cyfreithiol posibl yng Nghymru a Lloegr sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.

(2)Nid yw'r adran hon yn effeithio ar unrhyw gyfyngiad a osodir mewn cysylltiad â chynrychiolaeth—

(a)yn rhinwedd deddfiad, neu

(b)yn unol ag ymarferiad llys neu dribiwnlys.

(3)Y Comisiynydd sydd i ddyfarnu, at ddibenion yr adran hon, a oes achos cyfreithiol posibl sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.

(4)Yn yr adran hon—

  • mae “achos cyfreithiol” (“legal proceedings”) yn cynnwys achos gerbron unrhyw lys neu dribiwnlys, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny;

  • mae “cymorth” (“assistance”) yn cynnwys y pethau a ganlyn, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—

    (a)

    cyngor cyfreithiol;

    (b)

    cynrychiolaeth gyfreithiol;

    (c)

    cyfleusterau i setlo anghydfod.

10Cymorth cyfreithiol: costau

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os yw'r Comisiynydd wedi cynorthwyo unigolyn o dan adran 9 mewn perthynas ag achos, a

(b)os bydd yr unigolyn hwnnw'n ennill yr hawl i gael rhywfaint neu'r cyfan o'i gostau yn yr achos (boed yn rhinwedd dyfarniad neu yn rhinwedd cytundeb).

(2)O ran treuliau'r Comisiynydd wrth ddarparu'r cymorth—

(a)cânt eu codi ar symiau a delir i'r unigolyn ar ffurf costau, a

(b)gellir eu gorfodi fel dyled sy'n ddyladwy i'r Comisiynydd.

(3)Mae gofyniad i dalu arian i'r Comisiynydd o dan is-adran (2) yn dod islaw gofyniad a osodir yn rhinwedd adran 11(4)(f) o Ddeddf Mynediad at Gyfiawnder 1999 (adennill costau mewn achosion a gyllidir).

(4)At ddibenion is-adran (2), mae treuliau'r Comisiynydd i'w cyfrifo'n unol â darpariaeth a wneir (os o gwbl) gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw drwy reoliadau.

(5)Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (4) ddarparu, ymhlith pethau eraill, ar gyfer dyrannu gwariant a dynnir gan y Comisiynydd—

(a)yn rhannol at un diben ac yn rhannol at ddiben arall, neu

(b)at ddibenion cyffredinol.

11Pwerau

(1)Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei dyb ef mewn cysylltiad ag unrhyw un o'i swyddogaethau.

(2)Mae hynny'n cynnwys gwneud unrhyw un neu ragor o'r canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—

(a)rhoi grantiau a benthyciadau a rhoi gwarantau;

(b)codi ffi am roi cyngor neu am wasanaethau eraill;

(c)talu trydydd partïon am roi cyngor neu am wasanaethau eraill;

(d)derbyn rhoddion ar ffurf arian neu eiddo arall;

(e)caffael neu waredu unrhyw eiddo neu hawl.

(3)Mae is-adran (2) yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) i (6).

(4)Rhaid i'r Comisiynydd beidio—

(a)â rhoi grant neu fenthyciad,

(b)â rhoi gwarant, neu

(c)â chaffael neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir,

ac eithrio gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i unrhyw beth a wneir o dan adran 9.

(6)Mae pŵer y Comisiynydd i godi ffi am roi cyngor neu am wasanaethau yn gyfyngedig i godi'r symiau sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd i adennill y gost wirioneddol neu amcangyfrif o'r gost a dynnir gan y Comisiynydd wrth roi'r cyngor hwnnw neu wrth ddarparu'r gwasanaethau hynny.

12Staff

(1)O ran y Comisiynydd—

(a)rhaid iddo benodi person yn Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Dirprwy Gomisiynydd”), a

(b)caiff benodi staff arall sy'n briodol yn ei dyb ef mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at staff y Comisiynydd yn gyfeiriadau at y Dirprwy Gomisiynydd a staff arall.

(3)Caiff y Comisiynydd dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau o staff y Comisiynydd.

(4)Caiff y Comisiynydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i aelodau o staff y Comisiynydd.

(5)Caiff y Comisiynydd dalu—

(a)pensiynau i bersonau a fu'n aelodau o staff y Comisiynydd, neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n aelodau o staff y Comisiynydd, neu mewn cysylltiad â hwy.

(6)Rhaid i'r Comisiynydd gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru ar gyfer—

(a)nifer y staff y caniateir eu penodi,

(b)telerau ac amodau gwasanaeth y staff, ac

(c)taliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o is-adrannau (3) i (5).

(7)Rhaid i Brif Weinidog Cymru benodi'r Dirprwy Gomisiynydd—

(a)os yw swydd y Comisiynydd yn wag, neu

(b)os yw'n ymddangos i Brif Weinidog Cymru y bydd y Comisiynydd yn methu â phenodi'r Dirprwy Gomisiynydd yn unol â'r adran hon.

(8)Am ddarpariaeth ynglŷn ag uniondeb cymeriad y Dirprwy Gomisiynydd gweler Pennod 1 o Ran 8.

13Arfer swyddogaethau'r Comisiynydd gan staff

(1)Caiff y Comisiynydd ddirprwyo unrhyw un neu ragor neu'r oll o swyddogaethau'r Comisiynydd i aelod o staff y Comisiynydd.

(2)Mae swyddogaethau'r Comisiynydd yn arferadwy gan y Dirprwy Gomisiynydd—

(a)os yw swydd y Comisiynydd yn wag, neu

(b)os yw'n ymddangos i Brif Weinidog Cymru nad yw'r Comisiynydd am unrhyw reswm yn gallu arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.

(3)Os oes un o swyddogaethau'r Comisiynydd yn arferadwy gan aelod o staff y Comisiynydd yn unol ag is-adran (1) neu (2) caiff yr aelod staff, wrth arfer y swyddogaeth, ddelio ag unrhyw eiddo neu hawliau sydd wedi eu breinio yn y Comisiynydd fel pe byddent wedi eu breinio yn yr aelod staff.

14Y weithdrefn gwyno

(1)Rhaid i'r Comisiynydd sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion ynglŷn â gweithredoedd neu anweithiau'n ymwneud ag arfer swyddogaethau'r Comisiynydd (“y weithdrefn gwyno”).

(2)Rhaid i'r weithdrefn gwyno gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)ym mha fodd y gellir gwneud cwyn;

(b)y person y gellir cwyno wrtho;

(c)y cyfnod a ganiateir ar gyfer dechrau a gorffen ystyried cwyn; a

(d)y camau y mae'n rhaid i'r Comisiynydd ystyried eu cymryd wrth ymateb i gŵyn.

(3)Caiff y Comisiynydd ddiwygio'r weithdrefn gwyno.

(4)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)sicrhau bod copi o'r weithdrefn gwyno ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a

(b)sicrhau y perir bod copïau o'r weithdrefn gwyno ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.

(5)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at gopïau o'r weithdrefn gwyno yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant yn y weithdrefn.

15Y sêl a dilysrwydd dogfennau

(1)Caniateir i'r Comisiynydd gael sêl.

(2)Mae dogfen—

(a)yr honnir ei bod wedi ei chyflawni'n briodol o dan sêl y Comisiynydd, neu

(b)yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y Comisiynydd,

i gael ei derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i'r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi ei chyflawni neu wedi ei llofnodi felly.

16Pŵer Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddyd

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i'r Comisiynydd.

(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r Comisiynydd mewn perthynas â'r materion canlynol—

(a)rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson o dan Bennod 6 o Ran 4 (gan gynnwys cynnwys hysbysiad cydymffurfio sydd i'w roi i berson);

(b)Rhan 5 (gorfodi safonau);

(c)Rhan 6 (rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg).

(3)Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

17Ymgynghori

Os bydd y Comisiynydd, mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth, yn ymgynghori —

(a)â'r Panel Cynghori, neu

(b)ag unrhyw berson arall yn unol â'r Mesur hwn,

rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r ymgynghoriad wrth arfer y swyddogaeth.

Adroddiadau blynyddol

18Adroddiadau blynyddol

(1)Rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad mewn perthynas â phob un o flynyddoedd ariannol y Comisiynydd (“adroddiad blynyddol”).

(2)Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys y materion a ganlyn—

(a)crynodeb o'r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau'r Comisiynydd;

(b)adolygiad o faterion sy'n berthnasol i'r Gymraeg;

(c)crynodeb o raglen waith y Comisiynydd;

(d)cynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol;

(e)crynodeb o'r cwynion a wnaed yn unol â'r weithdrefn a sefydlwyd o dan adran 14.

(3)Caiff adroddiad blynyddol hefyd gynnwys unrhyw faterion eraill y mae'n briodol eu cynnwys yn yr adroddiad yn nhyb y Comisiynydd.

(4)Am ddarpariaeth ynghylch blwyddyn ariannol y Comisiynydd, gweler paragraff 15 o Atodlen 1.

19Adroddiadau blynyddol: atodol

(1)Wrth baratoi pob adroddiad blynyddol, caiff y Comisiynydd ymgynghori—

(a)â'r Panel Cynghori, a

(b)ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb y Comisiynydd.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad blynyddol yn Gymraeg ac yn Saesneg.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol sy'n dilyn y flwyddyn ariannol y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi.

(4)Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi pob adroddiad blynyddol, rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)archwilio pob adroddiad blynyddol a gyflwynir iddynt, a

(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gweithio gydag ombwdsmyn eraill, comisiynwyr eraill etc

20Gweithio ar y cyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'n ymddangos i'r Comisiynydd y gallai pwnc ymchwiliad penodol i orfodi safonau (“ymchwiliad y Comisiynydd”) hefyd fod yn destun ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

(2)Os yw'r Comisiynydd o'r farn fod hynny'n briodol, rhaid iddo—

(a)hysbysu'r Ombwdsmon ynglŷn ag ymchwiliad y Comisiynydd (gan gynnwys cynigion y Comisiynydd ar gyfer ymgymryd â'r ymchwiliad), a

(b)ymgynghori â'r Ombwdsmon mewn perthynas ag ymchwiliad y Comisiynydd.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn ymgynghori â'r Ombwdsmon mewn perthynas ag ymchwiliad y Comisiynydd, caiff y Comisiynydd a'r Ombwdsmon wneud unrhyw un neu ragor neu'r oll o'r canlynol—

(a)cydweithredu â'i gilydd mewn perthynas â'r ymchwiliad;

(b)cynnal ymchwiliad ar y cyd;

(c)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â'r ymchwiliad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn—

(a)darparu i'r adran hon fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson arall fel y mae'n gymwys mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a

(b)gwneud darpariaeth arall sy'n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â, at ddibenion, neu o ganlyniad i ddarpariaeth a wneir o dan baragraff (a).

(5)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (4) yn cynnwys y canlynol, ond nid yw wedi ei chyfyngu i hynny—

(a)darpariaeth yn galluogi'r person arall i weithio, neu'n ei gwneud yn ofynnol i'r person arall weithio, ar y cyd â'r Comisiynydd; a

(b)diwygiadau i unrhyw ddeddfiad.

(6)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd ac ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Gweinidogion Cymru.

(7)Yn yr adran hon—

  • mae “ymchwiliad” (“investigation”), mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys archwiliad ac ymholiad, ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli'n unol â hynny;

  • ystyr “ymchwiliad i orfodi safonau” (“standards enforcement investigation”) yw ymchwiliad y mae gan y Comisiynydd yr hawl i ymgymryd ag ef, neu ymchwiliad y mae'n ymgymryd ag ef, o dan adran 71.

21Gweithio'n gyfochrog ag ombwdsmyn, comisiynwyr etc

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'n ymddangos i'r Comisiynydd fod pwnc ymchwiliad i orfodi safonau (“ymchwiliad y Comisiynydd”) yn bwnc sy'n ymwneud â mater a allai fod yn destun ymchwiliad gan ombwdsmon penodol, neu sy'n codi mater felly (“y mater cysylltiedig”).

(2)Os yw'r Comisiynydd o'r farn bod hynny'n briodol, rhaid iddo hysbysu'r ombwdsmon ynglŷn â'r mater cysylltiedig.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad y Comisiynydd, rhaid i'r Comisiynydd, os yw o'r farn bod hynny'n briodol—

(a)hysbysu'r ombwdsmon ynglŷn â'r ymchwiliad (gan gynnwys ynglŷn â chynigion y Comisiynydd ar gyfer ymgymryd â'r ymchwiliad), a

(b)ymgynghori â'r ombwdsmon mewn perthynas â'r ymchwiliad.

(4)Os yw'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad y Comisiynydd, a'r ombwdsmon yn ymchwilio i'r mater cysylltiedig, cânt wneud unrhyw un neu ragor o'r canlynol—

(a)cydweithredu â'i gilydd mewn perthynas â'u gwahanol ymchwiliadau;

(b)cynnal ymchwiliad ar y cyd;

(c)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â'u gwahanol ymchwiliadau neu â'u hymchwiliad ar y cyd.

(5)Os na fydd y Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad y Comisiynydd, rhaid i'r Comisiynydd, os yw o'r farn bod hynny'n briodol—

(a)rhoi i'r person sydd am ddwyn yr achos wybodaeth ynglŷn â sut i gyfeirio'r mater cysylltiedig at yr ombwdsmon, a

(b)rhoi'r wybodaeth honno i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr achos.

(6)Yn yr adran hon—

  • ystyr “ombwdsmon” (“ombudsman”) yw—

    (a)

    Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,

    (b)

    Comisiynydd Plant Cymru,

    (c)

    Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a

    (d)

    y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol;

  • mae “ymchwiliad” (“investigation”), mewn perthynas ag ombwdsmon, yn cynnwys archwiliad ac ymholiad, ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli'n unol â hynny;

  • ystyr “ymchwiliad i orfodi safonau” (“standards enforcement investigation”) yw ymchwiliad y mae gan y Comisiynydd yr hawl i'w gynnal, neu ymchwiliad y mae'n ei gynnal, o dan adran 71.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r diffiniad o “ombwdsmon” yn is-adran (6)—

(a)drwy ychwanegu person;

(b)drwy hepgor person;

(c)drwy newid disgrifiad o berson.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth arall sy'n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â, at ddibenion, neu o ganlyniad i ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (7), gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig—

(a)i ddarpariaeth sy'n galluogi'r person arall i weithio gyda'r Comisiynydd, neu'n ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, a

(b)i ddiwygiadau i unrhyw ddeddfiad.

(9)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (7), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r person dan sylw ac ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Gweinidogion Cymru.

(10)Mae Atodlen 3 yn cynnwys diwygiadau ynghylch Comisiynwyr ac Ombwdsmyn eraill yn gweithio ar y cyd ac yn gweithio'n gyfochrog â Chomisiynydd y Gymraeg.

Datgelu gwybodaeth

22Y pŵer i ddatgelu gwybodaeth

(1)Rhaid peidio â datgelu gwybodaeth y mae'r Comisiynydd wedi ei chael wrth arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd onid awdurdodir y datgeliad gan is-adran (2).

(2)Caiff y Comisiynydd ddatgelu'r wybodaeth—

(a)at ddibenion arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd;

(b)at ddibenion achos am dramgwydd o dyngu anudon yr honnir i'r tramgwydd gael ei gyflawni yn ystod ymchwiliad i orfodi safonau;

(c)at ddibenion ymholiad gyda golwg ar gychwyn achos fel a grybwyllir ym mharagraff (b);

(d)at ddibenion dyroddi tystysgrif o dan adran 107 (rhwystro a dirmygu);

(e)os yw'r wybodaeth i'r perwyl bod person yn debygol o fod yn fygythiad i iechyd neu ddiogelwch un neu ragor o bersonau a bod y datgeliad yn ddatgeliad i berson sydd ym marn y Comisiynydd yn berson y dylid datgelu'r wybodaeth iddo er budd y cyhoedd;

(f)os gwybodaeth o'r math a grybwyllir yn is-adran (3) yw'r wybodaeth, ac os gwneir y datgeliad i'r Comisiynydd Gwybodaeth;

(g)os gwneir y datgeliad i berson a ganiatawyd, a bod y Comisiynydd yn fodlon bod amod budd y cyhoedd wedi ei fodloni;

(h)os cafwyd yr wybodaeth gan y Comisiynydd dros 70 o flynyddoedd cyn dyddiad y datgelu, ac os datgeliad ydyw i berson sydd ym marn y Comisiynydd yn berson y dylid datgelu'r wybodaeth iddo er budd y cyhoedd.

(3)Gwybodaeth yw'r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-adran (2)(f) yr ymddengys i'r Comisiynydd ei bod yn ymwneud—

(a)â mater y gallai'r Comisiynydd Gwybodaeth arfer pŵer mewn perthynas ag ef ac a roddir mewn deddfiad a grybwyllir yn is-adran (4); neu

(b)â chyflawni tramgwydd a grybwyllir yn is-adran (5).

(4)Y deddfiadau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(a) yw—

(a)Rhan 5 o Ddeddf Diogelu Data 1998 (gorfodi);

(b)adran 48 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (argymhellion arfer); ac

(c)Rhan 4 o'r Ddeddf honno (gorfodi).

(5)Y tramgwyddau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(b) yw'r rhai—

(a)o dan unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Diogelu Data 1998 ac eithrio paragraff 12 o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno (rhwystro gweithredu gwarant); neu

(b)o dan adran 77 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y tramgwydd o altro etc cofnodion gyda'r bwriad o atal datgelu).

(6)At ddibenion is-adran (2)(g), mae amod budd y cyhoedd wedi ei fodloni os yw'r datgeliad—

(a)yn briodol at ddiben arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r person a ganiatawyd gan y person hwnnw, a

(b)er budd y cyhoedd.

(7)Wrth ddyfarnu at ddibenion yr adran hon a yw datgelu gwybodaeth er budd y cyhoedd, rhaid i'r Comisiynydd ystyried buddiannau—

(a)unrhyw berson y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef; a

(b)unrhyw bersonau eraill sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.

(8)Nid yw'r adran hon yn effeithio ar gymhwyso Deddf Diogelu Data 1998 i'r Comisiynydd.

(9)Yn yr adran hon—

  • ystyr “person a ganiatawyd” (“permitted person”) yw—

    (a)

    Gweinidogion Cymru;

    (b)

    Prif Weinidog Cymru;

    (c)

    Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru;

    (d)

    Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;

    (e)

    Comisiynydd Plant Cymru;

    (f)

    y Comisiynydd Plant;

    (g)

    y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol;

    (h)

    Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc Gogledd Iwerddon;

    (i)

    Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;

    (j)

    ombwdsmon tai a benodwyd yn unol â chynllun o dan adran 51 o Ddeddf Tai 1996;

    (k)

    cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;

    (l)

    cyngor ar gyfer sir neu ddosbarth yn Lloegr;

    (m)

    cyngor ar gyfer un o fwrdeistrefi Llundain;

    (n)

    prif gwnstabl o'r heddlu ar gyfer ardal heddlu;

    (o)

    prif gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydain;

  • ystyr “ymchwiliad i orfodi safonau” (“standards enforcement investigation”) yw ymchwiliad a wneir gan y Comisiynydd o dan adran 71.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn ddiwygio'r diffiniad o “person a ganiatawyd” yn is-adran (9)—

(a)drwy ychwanegu person;

(b)drwy hepgor person;

(c)drwy newid disgrifiad o berson.

(11)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (10), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r person o dan sylw ac ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Gweinidogion Cymru.

RHAN 3PANEL CYNGHORI COMISIYNYDD Y GYMRAEG

23Y Panel Cynghori

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi personau i fod yn aelodau o banel o gynghorwyr i'r Comisiynydd.

(2)Mae'r panel i'w alw'n Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel y “Panel Cynghori”).

(3)I'r graddau y bo hynny'n ymarferol, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod o leiaf 3 ond nid mwy na 5 o aelodau ar y Panel Cynghori ar unrhyw adeg.

(4)Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch aelodau'r Panel Cynghori.

24Ymgynghori

(1)Caiff y Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori ynghylch unrhyw fater.

(2)Nid yw darpariaethau eraill y Mesur hwn sy'n darparu i'r Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori yn cyfyngu ar is-adran (1).

(3)Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at ymgynghori â'r Panel Cynghori yn gyfeiriadau at ymgynghori ag unrhyw un neu ragor neu'r oll o aelodau'r Panel.

RHAN 4SAFONAU

PENNOD 1DYLETSWYDD I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU

25Dyletswydd i gydymffurfio â safon

(1)Rhaid i berson (P) gydymffurfio â safon ymddygiad a bennir gan Weinidogion Cymru yn unol â Phennod 2 os bodlonir, a thra bodlonir, yr amodau canlynol.

(2)Amod 1 yw bod P yn agored i orfod cydymffurfio â safonau (gweler Pennod 3).

(3)Amod 2 yw bod y safon yn gymwysadwy i P (gweler Pennod 4).

(4)Amod 3 yw bod y safon yn benodol gymwys i P (gweler Pennod 5).

(5)Amod 4 yw bod y Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i P (gweler Pennod 6).

(6)Amod 5 yw bod yr hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â'r safon (gweler Pennod 6).

(7)Amod 6 yw bod yr hysbysiad cydymffurfio mewn grym (gweler Pennod 6).

(8)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r hysbysiad cydymffurfio a roddir i P.

(9)Am ddarpariaeth—

(a)ynglŷn â'r hawl i herio mewn cysylltiad â'r ddyletswydd i gydymffurfio â safonau, gweler Pennod 7;

(b)ynglŷn ag ymchwiliadau ac adroddiadau safonau, gweler Pennod 8;

(c)ynglŷn â materion cyffredinol, gweler Pennod 9.

PENNOD 2SAFONAU A PHENNU SAFONAU

Pennu safonau

26Gweinidogion Cymru i bennu safonau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)pennu un neu ragor o safonau cyflenwi gwasanaethau,

(b)pennu un neu ragor o safonau llunio polisi,

(c)pennu un neu ragor o safonau gweithredu,

(d)pennu un neu ragor o safonau hybu, ac

(e)pennu un neu ragor o safonau cadw cofnodion.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth arall ynghylch y safonau hynny.

27Pennu safonau: darpariaeth atodol

(1)Dim ond os ymddengys i Weinidogion Cymru y byddai'r safon yn gwneud y canlynol y caiff Gweinidogion Cymru bennu safon cadw cofnodion sy'n ymwneud â chadw cofnodion sy'n dod o fewn adran 32(1)(b)(ii) (cwynion yn ymwneud â'r Gymraeg, ac eithrio cwynion yn ymwneud â chydymffurfedd person â safonau eraill)—

(a)cynorthwyo Gweinidogion Cymru i arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Mesur hwn, neu

(b)cynorthwyo'r Comisiynydd i arfer unrhyw swyddogaeth.

(2)Caiff rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) bennu gwahanol safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw mewn perthynas ag ymddygiad gwahanol.

(3)Caiff rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) bennu, mewn perthynas ag ymddygiad penodol—

(a)un safon o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, neu

(b)nifer o safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw.

(4)Caiff safonau a bennir o dan adran 26(1), neu reoliadau o dan adran 26(2), ymdrin, ymhlith pethau eraill, ag unrhyw un neu ragor o'r canlynol—

(a)llunio gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau, strategaethau neu gynlluniau'n nodi sut y maent yn bwriadu cydymffurfio â'r safonau;

(b)gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau;

(c)casglu gwybodaeth gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau, gan gynnwys gwybodaeth am ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg mewn perthynas ag ymddygiad penodol;

(d)gwybodaeth y mae'n rhaid trefnu iddi fod ar gael i'r Comisiynydd;

(e)trefniadau monitro a gofynion cyhoeddusrwydd;

(f)gofynion adrodd.

Safonau cyflenwi gwasanaethau

28Safonau cyflenwi gwasanaethau

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “safon cyflenwi gwasanaethau” yw safon—

(a)sy'n ymwneud â gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau, a

(b)y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg, neu weithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg, pan gyflawnir y gweithgaredd hwnnw.

(2)Yn yr adran hon ystyr “gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau” yw—

(a)cyflenwi gwasanaethau gan berson i berson arall, neu

(b)delio gan berson ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau—

(i)i'r person arall hwnnw, neu

(ii)i drydydd person.

Safonau llunio polisi

29Safonau llunio polisi

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “safon llunio polisi” yw safon—

(a)sy'n ymwneud â phenderfyniad polisi, a

(b)y bwriedir iddo sicrhau, neu gyfrannu at sicrhau, un neu ragor o'r canlyniadau a ganlyn.

(2)Y cyntaf o'r canlyniadau hynny yw bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried pa effeithiau, os o gwbl, (a ph'un ai yw'r effeithiau'n bositif neu'n andwyol) y byddai'r penderfyniad polisi yn eu cael—

(a)ar gyfleoedd i bersonau eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, neu

(b)ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

(3)Yr ail o'r canlyniadau hynny yw bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif—

(a)ar gyfleoedd i bersonau eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, neu

(b)ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

(4)Y trydydd o'r canlyniadau hynny yw bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad fel nad yw'r penderfyniad yn cael effeithiau andwyol, neu fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau llai andwyol—

(a)ar gyfleoedd i bersonau eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, neu

(b)ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

(5)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at effeithiau positif neu effeithiau andwyol yn gyfeiriad at yr effeithiau hynny, boed uniongyrchol neu anuniongyrchol.

(6)Ystyr “penderfyniad polisi” yw penderfyniad gan berson—

(a)ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau, neu

(b)ynglŷn â chynnal ei fusnes neu ymgymeriad arall.

Safonau gweithredu

30Safonau gweithredu

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “safon gweithredu” yw safon—

(a)sy'n ymwneud â gweithgareddau perthnasol person (A), a

(b)y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg—

(i)gan A wrth i A wneud ei weithgareddau perthnasol,

(ii)gan A a pherson arall wrth iddynt ddelio â'i gilydd mewn cysylltiad â gweithgareddau perthnasol A, neu

(iii)gan berson heblaw A wrth iddo wneud gweithgareddau at ddibenion gweithgareddau perthnasol A, neu mewn cysylltiad â hwy.

(2)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “gweithgareddau perthnasol” yw—

(i)swyddogaethau, neu

(ii)busnes neu ymgymeriad arall;

(b)mae cyfeiriad at gyflawni gweithgareddau perthnasol yn gyfeiriad at—

(i)arfer swyddogaethau, neu

(ii)cynnal busnes neu ymgymeriad arall.

Safonau hybu

31Safonau hybu

Yn y Mesur hwn ystyr “safon hybu” yw safon (yn ymwneud ag unrhyw weithgaredd) y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg yn ehangach.

Safonau cadw cofnodion

32Safonau cadw cofnodion

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “safon cadw cofnodion” yw safon sy'n ymwneud â chadw—

(a)cofnodion sy'n ymwneud â safonau penodedig eraill, a

(b)cofnodion sy'n ymwneud—

(i)â chwynion am gydymffurfedd person â safonau penodedig eraill, neu

(ii)â chwynion eraill sy'n ymwneud â'r Gymraeg.

(2)Yn yr adran hon ystyr “safon benodedig” yw safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1).

PENNOD 3PERSONAU SY'N AGORED I ORFOD CYDYMFFURFIO Å SAFONAU

33Personau sy'n agored i orfod cydymffurfio â safonau

(1)Mae person (P) yn agored i orfod cydymffurfio â safonau os yw P—

(a)yn dod o fewn Atodlen 5 a hefyd o fewn Atodlen 6, neu

(b)yn dod o fewn Atodlen 7 a hefyd o fewn Atodlen 8.

(2)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

34Personau sy'n dod o fewn Atodlenni 5, 6, 7 ac 8

(1)Mae person yn dod o fewn Atodlen 5 os yw'r person yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 5.

(2)Mae person yn dod o fewn Atodlen 6 os yw'r person—

(a)yn cael ei bennu yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 6, neu

(b)yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yn y golofn honno.

(3)Mae person yn dod o fewn Atodlen 7 os yw'r person yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 7.

(4)Mae person yn dod o fewn Atodlen 8 os yw'r person—

(a)yn cael ei bennu yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 8, neu

(b)yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yn y golofn honno.

(5)Nid yw newid enw person a bennir yn Atodlen 6 neu yn Atodlen 8 yn effeithio ar weithredu'r Mesur hwn mewn perthynas â'r person.

(6)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at gofnod person yn y tabl yn Atodlen 6 neu yn y tabl yn Atodlen 8 yn gyfeiriadau at y cofnod yn y tabl hwnnw (yng ngholofn (1)) sy'n pennu—

(a)P, neu

(b)categori o bersonau y mae P yn dod oddi mewn iddo.

(7)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.

35Diwygio personau a chategorïau a bennir yn Atodlenni 6 ac 8

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 a'r tabl yn Atodlen 8 yn unol â'r adran hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn (1) yn cynnwys cyfeiriad—

(a)at berson sy'n dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 5, neu

(b)at gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 5.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 6 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (1).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 fel bod colofn (1) yn cynnwys cyfeiriad—

(a)at berson sy'n dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 7, neu

(b)at gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 7.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (1).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau eraill i'r tabl yn Atodlen 6 neu i'r tabl yn Atodlen 8, neu i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Mesur hwn, sy'n briodol yn eu tyb hwy mewn cysylltiad â phwerau yn unrhyw un neu ragor o is-adrannau (2) i (5), at ddibenion y pwerau hynny, neu o ganlyniad i'r pwerau hynny.

(7)Yn yr adran hon—

  • ystyr “categori yn Atodlen 5” (“Schedule 5 category”) yw categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 5;

  • ystyr “categori yn Atodlen 7” (“Schedule 7 category”) yw categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 7.

PENNOD 4SAFONAU CYMWYSADWY

36Personau sy'n dod o fewn Atodlen 6

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i berson (P) sy'n dod o fewn Atodlen 6.

(2)Mae safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) yn gymwysadwy i P os yw'n perthyn i ddosbarth o safonau a bennir yng ngholofn (2) o gofnod P yn y tabl yn Atodlen 6.

(3)At y diben hwnnw, mae pob un o'r canlynol yn ddosbarth o safonau—

(a)safonau cyflenwi gwasanaethau;

(b)safonau llunio polisi;

(c)safonau gweithredu;

(d)safonau hybu;

(e)safonau cadw cofnodion.

(4)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

37Personau sy'n dod o fewn Atodlen 8

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i berson (P) sy'n dod o fewn Atodlen 8.

(2)Mae safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) yn gymwysadwy i P os yw'r safon honno, ac i'r graddau y mae'r safon honno—

(a)yn safon cyflenwi gwasanaethau sy'n ymwneud â darparu gan P wasanaeth a bennir (“safon neilltuedig cyflenwi gwasanaethau”), neu

(b)yn safon cadw cofnodion sy'n ymwneud â chadw cofnodion—

(i)am safonau neilltuedig cyflenwi gwasanaethau,

(ii)am gwynion yn ymwneud â chydymffurfedd P â safonau neilltuedig cyflenwi gwasanaethau, neu

(iii)am gwynion mewn perthynas â'r Gymraeg sy'n ymwneud â darparu gan P wasanaeth a bennir.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “gwasanaeth a bennir” yw gwasanaeth a bennir yng ngholofn (2) o gofnod P yn y tabl yn Atodlen 8.

(4)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

38Diwygio safonau cymwysadwy

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 a'r tabl yn Atodlen 8 yn unol â'r adran hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn (2) o gofnod yn cynnwys cyfeiriad at un neu ragor o'r canlynol—

(a)safonau cyflenwi gwasanaethau;

(b)safonau llunio polisi;

(c)safonau gweithredu;

(d)safonau cadw cofnodion.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn (2) o unrhyw un neu ragor o'r cofnodion canlynol yn y tabl yn cynnwys cyfeiriad at safonau hybu—

(a)cofnod Gweinidogion Cymru;

(b)cofnod cyngor bwrdeistref sirol;

(c)cofnod cyngor sir;

(d)cofnod awdurdod Parc Cenedlaethol;

(e)cofnod unrhyw berson arall, ond dim ond os yw'r person wedi cydsynio y dylai safonau hybu fod yn gymwysadwy iddo.

(4)At ddibenion is-adran (3)—

(a)ystyr “cydsyniad” yw cydsyniad ysgrifenedig a roddir i Weinidogion Cymru;

(b)caniateir i berson dynnu cydsyniad yn ôl, ond dim ond os yw Gweinidogion Cymru yn cytuno i hynny;

(c)os yw person yn tynnu cydsyniad yn ôl ar ôl i gofnod y person hwnnw gael ei ddiwygio i gynnwys cyfeiriad at safonau hybu, rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 drwy ddileu'r cyfeiriad at safonau hybu yng nghofnod y person hwnnw.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (2).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 fel bod colofn (2) o gofnod sy'n ymwneud â pherson neu gategori o berson yn cynnwys cyfeiriad at ddarparu gwasanaeth (y “gwasanaeth a bennir”), ond dim ond—

(a)os yw'r amod yn is-adran (7) wedi ei fodloni, a

(b)os yw'r amod yn is-adran (8) neu (9) wedi ei fodloni.

(7)Rhaid i'r gwasanaeth a bennir ddod o fewn categori o wasanaeth a bennir yng ngholofn (3) o'r tabl yn Atodlen 7 (“gwasanaeth sydd ar gael”)

(8)Os yw'r gwasanaeth a bennir i ymwneud â pherson yn Atodlen 8, rhaid i'r person hwnnw ddod o fewn y categori o bersonau yng ngholofn (2) yn y tabl yn Atodlen 7 y mae'r gwasanaeth sydd ar gael yn perthyn iddo.

(9)Os yw'r gwasanaeth a bennir i ymwneud â chategori o bersonau yn Atodlen 8, rhaid i'r holl bersonau o fewn y categori hwnnw ddod o fewn y categori o bersonau yng ngholofn (2) yn y tabl yn Atodlen 7 y mae'r gwasanaeth sydd ar gael yn perthyn iddo.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (2).

(11)Caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau eraill i'r tabl yn Atodlen 6 neu i'r tabl yn Atodlen 8, neu i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Mesur hwn, sy'n briodol yn eu tyb hwy mewn cysylltiad â phwerau o dan unrhyw un neu ragor o is-adrannau (2) i (10), at ddibenion y pwerau hynny, neu o ganlyniad iddynt.

PENNOD 5SAFONAU SY'N BENODOL GYMWYS

39Safonau sy'n benodol gymwys

(1)Mae safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) yn benodol gymwys i berson (P) os yw Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, yn awdurdodi'r Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i P sy'n ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â'r safon.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu i safon fod yn benodol gymwys i P drwy wneud darpariaeth sy'n cyfeirio—

(a)at P yn benodol, neu

(b)at grŵp o bersonau y mae P yn dod oddi mewn iddo.

(3)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.

40Dyletswydd i wneud safonau'n benodol gymwys

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phob safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod rheoliadau o dan adran 39 yn gwneud darpariaeth i'r safon fod yn benodol gymwys i un person neu ragor.

41Safonau gwahanol yn ymwneud ag ymddygiad penodol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os bydd rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) yn pennu nifer o safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw mewn perthynas ag ymddygiad penodol.

(2)Caiff rheoliadau o dan adran 39 ddarparu ar gyfer un neu ragor o'r canlynol—

(a)i un safon fod yn benodol gymwys i un person, i ddau berson neu i ragor, neu i grŵp o bersonau;

(b)i ddwy safon neu ragor fod yn benodol gymwys i un person, i ddau berson neu i ragor, neu i grŵp o bersonau;

(c)i safonau gwahanol fod yn benodol gymwys i bersonau gwahanol.

42Dyletswydd i wneud rhai safonau cyflenwi gwasanaethau'n benodol gymwys

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw rheoliadau o dan adran 39 yn darparu bod unrhyw safon cyflenwi gwasanaethau'n benodol gymwys i berson (P).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod rheoliadau o dan adran 39 yn darparu bod safonau cyflenwi gwasanaethau sy'n ymwneud â phob un o'r gweithgareddau a bennir yn Atodlen 9 (i'r graddau y mae safonau o'r fath wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1)) yn benodol gymwys i P os yw P, ac i'r graddau y mae P, yn gwneud y gweithgareddau hynny.

(3)Ond nid oes rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod rheoliadau yn darparu i safon cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â gweithgaredd a bennir yn Atodlen 9 os yw, neu i'r graddau y mae—

(a)adroddiad safonau o dan adran 64 yn nodi y byddai'n afresymol neu'n anghymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â'r gweithgaredd hwnnw, neu

(b)Gweinidogion Cymru o'r farn y byddai'n afresymol neu'n anghymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â'r gweithgaredd hwnnw.

(4)Nid yw'r adran hon yn atal rheoliadau o dan adran 39 rhag darparu bod safonau cyflenwi gwasanaethau eraill yn benodol gymwys i P.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio Atodlen 9 drwy ychwanegu, hepgor neu ddiwygio cyfeiriad at weithgaredd.

43Cyfyngiad ar y pŵer i wneud safonau'n benodol gymwys

(1)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 39 ddarparu bod safon—

(a)yn benodol gymwys i berson, oni bai bod y safon yn gymwysadwy i'r person hwnnw, neu

(b)yn benodol gymwys i grŵp o bersonau oni bai bod y safon yn gymwysadwy i bob person yn y grŵp hwnnw.

(2)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 39 ddarparu i safon fod yn benodol gymwys i unrhyw un o Weinidogion y Goron oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i'r ddarpariaeth honno.

(3)Mewn achos—

(a)pan fo safon yn benodol gymwys i unrhyw un o Weinidogion y Goron, a

(b)pan fo'r safon yn cael ei haddasu gan ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan adran 26,

nid yw'r safon fel y mae wedi ei haddasu yn benodol gymwys i Weinidogion y Goron oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i'r ddarpariaeth honno yn y rheoliadau hynny.

(4)Yn yr adran hon, mae i'r ymadrodd “Gweinidogion y Goron” yr un ystyr ag sydd iddo yn Atodlen 6.

PENNOD 6HYSBYSIADAU CYDYMFFURFIO

Hysbysiadau cydymffurfio

44Hysbysiadau cydymffurfio

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “hysbysiad cydymffurfio” yw hysbysiad a roddir i berson (P) gan y Comisiynydd—

(a)sy'n nodi, neu'n cyfeirio at, un neu ragor o safonau a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1), a

(b)sy'n ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â'r safon neu â'r safonau a nodir neu y cyfeirir ati neu atynt.

(2)Caiff hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio â safon benodol—

(a)mewn rhai amgylchiadau, ond nid mewn amgylchiadau eraill;

(b)mewn rhyw ardal neu rai ardaloedd, ond nid mewn ardaloedd eraill.

(3)Os yw rheoliadau o dan adran 39 yn darparu bod dwy neu ragor o safonau a bennir mewn perthynas ag ymddygiad penodol yn benodol gymwys i berson penodol, caiff hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio—

(a)ag un o'r safonau'n unig, neu

(b)â gwahanol safonau—

(i)ar adegau gwahanol;

(ii)mewn amgylchiadau gwahanol (boed ar yr un adeg neu ar adegau gwahanol);

(iii)mewn ardaloedd gwahanol (boed ar yr un adeg neu ar adegau gwahanol).

Rhoi hysbysiadau cydymffurfio

45Rhoi hysbysiadau cydymffurfio i unrhyw berson

(1)Dim ond os yw person (P) yn agored i orfod cydymffurfio â safonau (gweler Pennod 3) y caiff y Comisiynydd roi hysbysiad cydymffurfio i P.

(2)Dim ond os yw safon benodol a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1)—

(a)yn gymwysadwy i P (gweler Pennod 4), a

(b)yn benodol gymwys i P (gweler Pennod 5),

y caiff hysbysiad cydymffurfio a roddir i P nodi, neu gyfeirio at, safon benodol.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad cydymffurfio i P, rhaid i'r Comisiynydd hefyd—

(a)rhoi copi o unrhyw god ymarfer perthnasol a ddyroddir o dan adran 68 i P, a

(b)rhoi gwybod i P am yr hawl i herio o dan Bennod 7.

(4)Am ddarpariaeth ynglŷn â rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr, gweler adran 48.

46Diwrnodau gosod

(1)Mae'r adran hon yn gymwys o ran pob safon a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio a roddir i berson.

(2)Rhaid i'r hysbysiad ddatgan y diwrnod gosod neu'r diwrnodau gosod.

(3)Rhaid i'r diwrnod gosod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau gosod, ddod ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(4)Yn yr adran hon ystyr “diwrnod gosod” o ran safon yw—

(a)y diwrnod oddi ar bryd y mae'n ofynnol i berson gydymffurfio â'r safon, neu,

(b)y diwrnod oddi ar bryd y mae'n ofynnol i berson gydymffurfio â'r safon mewn modd penodol.

(5)Am ddarpariaeth ynglŷn â rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr, gweler adran 48.

47Ymgynghori

(1)Cyn rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r person.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ymgynghori â pherson ar unrhyw fater os yw'r Comisiynydd wedi ei fodloni bod y person hwnnw eisoes wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y mater hwnnw, neu wedi cael cyfle i wneud hynny, mewn cysylltiad ag ymchwiliad safonau (gweler Pennod 8).

(3)Nid yw methiant y person i gymryd rhan mewn ymgynghoriad yn atal y Comisiynydd rhag rhoi hysbysiad cydymffurfio i'r person hwnnw.

48Rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr

(1)Mae'r adran hon yn gymwys (ynghyd ag adrannau 45 a 46) mewn perthynas â pherson neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd (y “gwasanaethau perthnasol”) o dan gytundeb, neu'n unol â threfniadau, a wneir gydag awdurdod cyhoeddus (y “contract perthnasol”).

(2)Dim ond—

(a)os yw'n ofynnol i'r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon berthnasol wrth ddarparu'r gwasanaethau perthnasol i'r cyhoedd (neu y byddai wedi bod yn ofynnol i'r awdurdod cyhoeddus wneud hynny pe bai'n darparu'r gwasanaethau hynny i'r cyhoedd),

(b)os gwnaed y contract perthnasol ar neu ar ôl diwrnod gosod yr awdurdod cyhoeddus, ac

(c)os yw diwrnod gosod y person neilltuedig yn dod ar neu ar ôl diwrnod gosod yr awdurdod cyhoeddus,

y caiff hysbysiad cydymffurfio a roddir i'r person neilltuedig nodi, neu gyfeirio at, safon benodol (y “safon berthnasol”) mewn perthynas â darparu'r gwasanaethau perthnasol o dan y contract perthnasol.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y gofyniad am i'r person neilltuedig gydymffurfio â'r safon berthnasol (sy'n codi yn rhinwedd bod hysbysiad cydymffurfio yn cael ei roi yn unol ag is-adran (2)) yr un fath â'r gofyniad, neu heb fod yn fwy na'r gofyniad, am i'r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon.

(4)Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn yr adran hon ac yn Atodlen 8 yr un ystyr yn yr adran hon ag yn Atodlen 8.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “diwrnod gosod yr awdurdod cyhoeddus” (“public authority’s imposition day”) yw'r diwrnod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau, y mae'n ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon berthnasol;

  • ystyr “diwrnod gosod y person neilltuedig” (“qualifying person’s imposition day”) yw'r diwrnod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau, a nodir yn yr hysbysiad cydymffurfio a roddir i'r person neilltuedig yn ddiwrnod y mae i fod yn ofynnol i'r person neilltuedig gydymffurfio â'r safon berthnasol mewn perthynas â darparu'r gwasanaethau perthnasol o dan y contract perthnasol.

Amrywio hysbysiadau cydymffurfio

49Amrywio hysbysiadau cydymffurfio

(1)Caiff y Comisiynydd amrywio unrhyw hysbysiad cydymffurfio.

(2)Mae adrannau 45 i 47 yn gymwys o ran amrywio hysbysiad cydymffurfio yn yr un modd ag y maent yn gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio, ond dim ond i'r graddau y mae'r hysbysiad wedi ei amrywio.

(3)Mae adran 48 yn gymwys o ran amrywio hysbysiad cydymffurfio yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio.

Dirymu hysbysiadau cydymffurfio

50Dirymu hysbysiadau cydymffurfio

(1)Caiff y Comisiynydd ddirymu unrhyw hysbysiad cydymffurfio.

(2)Mae is-adrannau (3) a (4) yn gymwys mewn achos pan fo'r Comisiynydd—

(a)yn dirymu hysbysiad cydymffurfio a roddwyd i berson (yr “hen hysbysiad”), a

(b)ar yr un pryd yn rhoi i'r person hwnnw hysbysiad cydymffurfio (yr “hysbysiad newydd”).

(3)Dim ond i'r graddau y mae'r hysbysiad newydd yn wahanol i'r hen hysbysiad y mae adrannau 45 i 47 yn gymwys o ran rhoi'r hysbysiad newydd.

(4)Mae adran 48 yn gymwys o ran rhoi hysbysiad newydd yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio.

Pan fydd hysbysiad cydymffurfio mewn grym

51Pan fydd hysbysiad cydymffurfio mewn grym

(1)Mae hysbysiad cydymffurfio a roddir i berson (P) mewn grym o'r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i P gan y Comisiynydd.

(2)Mae hysbysiad cydymffurfio yn aros mewn grym oni chaiff — a hyd oni chaiff — ei ddirymu.

(3)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.

Cyhoeddi hysbysiadau cydymffurfio

52Cyhoeddi hysbysiadau cydymffurfio

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phob hysbysiad cydymffurfio sydd mewn grym.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau, o'r diwrnod gosod perthnasol ymlaen—

(a)bod copi o'r hysbysiad cydymffurfio ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a

(b)y perir bod copïau o'r hysbysiad cydymffurfio ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.

(3)Os bydd person yn gwneud cais i'r Comisiynydd o dan Bennod 7 mewn cysylltiad â safon rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y copïau o'r hysbysiad cydymffurfio y parwyd iddynt fod ar gael yn unol ag is-adran (2) yn nodi, hyd nes bod y cais wedi ei ddyfarnu'n derfynol—

(a)bod y cais wedi ei wneud, a

(b)nad yw'r gofyniad i gydymffurfio â'r safon yn gymwys, yn rhinwedd adran 60 (os dyna'r sefyllfa).

(4)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at hysbysiadau cydymffurfio yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant mewn archwilio a chael at hysbysiadau cydymffurfio.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “diwrnod gosod perthnasol” yw—

(a)os dim ond un diwrnod gosod sydd wedi ei nodi mewn hysbysiad cydymffurfio, y diwrnod gosod hwnnw;

(b)os oes dau neu ragor o ddiwrnodau gosod wedi eu nodi yn yr hysbysiad cydymffurfio, y cynharaf o'r diwrnodau hynny.

Gofyniad i gydymffurfio â safon yn dod i ben

53Gofyniad i gydymffurfio â safon yn dod i ben

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn unrhyw achos pan fydd person (P) yn peidio â bod o dan y ddyletswydd yn adran 25(1) i gydymffurfio â safon oherwydd—

(a)bod un neu ragor o amodau 1 i 3 yn adran 25 yn peidio â chael ei fodloni neu eu bodloni, neu

(b)bod y safon yn peidio â chael ei phennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1).

(2)Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r adran hon fod yn gymwys, rhaid i'r Comisiynydd, drwy arfer y pwerau a roddir gan y Bennod hon, sicrhau bod y newid a ddisgrifir yn is-adran (1) yn cael ei adlewyrchu yn yr hysbysiadau cydymffurfio (os bydd rhai) sy'n parhau mewn grym mewn perthynas â P.

PENNOD 7YR HAWL I HERIO

54Herio dyletswyddau dyfodol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os yw'r Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson (P), a

(b)os yw'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i P—

(i)cydymffurfio â safon, neu

(ii)cydymffurfio â safon mewn modd penodol

oddi ar ddiwrnod gosod yn y dyfodol.

(2)Caiff P wneud cais i'r Comisiynydd yn gofyn i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon honno, neu gydymffurfio â'r safon yn y modd hwnnw, yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.

(3)Os yw'r dyfarniad hwnnw'n cael ei wneud cyn y diwrnod gosod, rhaid i'r Comisiynydd wrth wneud y dyfarniad ystyried yr amgylchiadau fel y disgwylir iddynt fod ar y diwrnod gosod.

(4)Rhaid i gais o dan yr adran hon gael ei wneud cyn y diwrnod gosod.

(5)Yn yr adran hon, mae i'r ymadrodd “diwrnod gosod” yr ystyr sydd iddo yn adran 46.

55Herio dyletswyddau presennol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os yw'r Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson (P), a

(b)os yw'r hysbysiad eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i P—

(i)cydymffurfio â safon, neu

(ii)cydymffurfio â safon mewn modd penodol.

(2)Caiff P wneud cais i'r Comisiynydd yn gofyn i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon honno, neu gydymffurfio â'r safon yn y modd hwnnw, yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.

(3)Ond caiff y Comisiynydd wrthod derbyn cais o dan yr adran hon os yw wedi ei fodloni nad oes unrhyw newid sylweddol wedi bod yn amgylchiadau P—

(a)oddi ar y diwrnod y'i gwnaed yn ofynnol am y tro cyntaf i P gydymffurfio â'r safon, neu i P gydymffurfio â'r safon yn y modd hwnnw, neu

(b)os yw'r Comisiynydd wedi dyfarnu'r cwestiwn perthnasol ar gais blaenorol o dan yr adran hon, ers i'r Comisiynydd ddyfarnu'r cwestiwn perthnasol ar y cais hwnnw.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “cwestiwn perthnasol” yw'r cwestiwn y mae cais o dan yr adran hon yn ymwneud ag ef.

56Ceisiadau i'r Comisiynydd

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gais o dan adran 54 neu 55 yn gofyn i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â safon neu gydymffurfio â hi mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.

(2)Rhaid i'r cais fod yn ysgrifenedig.

(3)Rhaid i'r cais gael ei wneud ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Comisiynydd (os yw'n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei wneud ar ffurf benodol).

(4)Rhaid i'r cais nodi'r rhesymau pam y mae P o'r farn bod y gofyniad i gydymffurfio â'r safon, neu i gydymffurfio â'r safon yn y modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.

57Dyfarnu ar gais

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)i unrhyw gais o dan adran 54, a

(b)i unrhyw gais o dan adran 55 nad yw'r Comisiynydd yn gwrthod ei dderbyn.

(2)Mater i P yw dangos bod y gofyniad am i P gydymffurfio â safon, neu gydymffurfio â hi mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd ddyfarnu ar y cais cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r cais gael ei wneud.

(4)Wrth ddyfarnu ar y cais—

(a)rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â P, a

(b)caiff y Comisiynydd ymgynghori ag unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yng nghanlyniad y cais ym marn y Comisiynydd.

(5)Rhaid i'r Comisiynydd hysbysu P o'r dyfarniad ar y cais.

(6)Os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu bod y gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon, neu gydymffurfio â'r safon yn y modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur, rhaid iddo wneud un o'r canlynol—

(a)dirymu'r hysbysiad cydymffurfio;

(b)dirymu'r hysbysiad cydymffurfio a rhoi hysbysiad cydymffurfio newydd;

(c)amrywio'r hysbysiad cydymffurfio presennol.

(7)Os bydd y Comisiynydd yn rhoi hysbysiad cydymffurfio newydd neu'n amrywio'r hysbysiad cydymffurfio presennol—

(a)nid yw adran 45(3) yn gymwys, a

(b)nid yw adrannau 46(3) a 47 yn gymwys i'r graddau y mae'r Comisiynydd a P yn cytuno ar yr hysbysiad newydd, neu ar yr amrywiad i'r hysbysiad cydymffurfio presennol.

58Yr hawl i apelio

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn hysbysu P o dan adran 57 o ddyfarniad nad yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â safon, neu gydymffurfio â'r safon mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.

(2)Caiff P apelio i'r Tribiwnlys yn gofyn i'r Tribiwnlys ddyfarnu a yw'r gofyniad yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.

(3)Rhaid i apêl o dan yr adran hon gael ei gwneud o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbyswyd P gan y Comisiynydd o dan adran 57.

(4)Ond caiff y Tribiwnlys, ar gais ysgrifenedig gan P, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os oedd unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.

(5)Rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu P a'r Comisiynydd o'i ddyfarniad ar apêl a wneir o dan yr adran hon.

(6)Os yw'r Tribiwnlys yn dyfarnu bod y gofyniad yn afresymol neu'n anghymesur, bydd is-adrannau (6) a (7) o adran 57 yn gymwys fel pe bai'r Comisiynydd wedi gwneud y dyfarniad hwnnw.

(7)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys (sy'n cael gwneud, ymysg pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y modd y ceir dwyn apelau o dan yr adran hon).

59Apelau o'r Tribiwnlys

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Tribiwnlys wedi penderfynu apêl o dan adran 58.

(2)Caiff y Comisiynydd neu P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, apelio i'r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol sy'n deillio o'r penderfyniad.

(3)Os yw'r Uchel Lys yn dyfarnu bod y Tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad ar bwynt cyfreithiol—

(a)caiff yr Uchel Lys osod penderfyniad y Tribiwnlys o'r naill du, a

(b)os bydd yr Uchel Lys yn gosod y penderfyniad o'r naill du, rhaid iddo naill ai—

(i)anfon yr achos yn ôl i'r Tribiwnlys gyda chyfarwyddyd ar gyfer ei ailystyried, neu

(ii)ail-wneud y penderfyniad.

(4)Mae'r cyfarwyddiadau y caniateir i'r Uchel Lys eu rhoi o dan is-adran (3)(b)(i) yn cynnwys y canlynol, ond heb fod wedi eu cyfyngu iddynt—

(a)cyfarwyddyd na all y personau sydd i ailystyried yr achos fod yr un rhai â'r personau a wnaeth y penderfyniad sydd wedi ei roi o'r naill du;

(b)cyfarwyddiadau gweithredu mewn cysylltiad ag ailystyried yr achos.

(5)Wrth ail-wneud y penderfyniad yn unol ag is-adran (3)(b)(ii), caniateir i'r Uchel Lys—

(a)gwneud unrhyw benderfyniad y gallai'r Tribiwnlys ei wneud pe bai'r Tribiwnlys yn gwneud y penderfyniad, a

(b)gwneud y canfyddiadau ffeithiol sy'n briodol yn nhyb yr Uchel Lys.

(6)Rhaid i gais am ganiatâd i apelio gael ei wneud i'r Tribiwnlys neu'r Uchel Lys o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysodd y Tribiwnlys y person sy'n gwneud y cais o'i ddyfarniad ar yr apêl o dan adran 58.

(7)Ond caiff y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, ar gais ysgrifenedig gan y Comisiynydd neu P, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys neu'r Uchel Lys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)dros y methiant i wneud cais am ganiatâd i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os oedd unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud y cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.

(8)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.

60Gohirio gosod dyletswydd

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw P yn gwneud cais o dan adran 54 am i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â safon, neu gydymffurfio â hi mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.

(2)Ni fydd y gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon honno, neu am i P gydymffurfio â'r safon yn y modd hwnnw'n gymwys oni fydd neu hyd oni fydd—

(a)y Comisiynydd wedi dyfarnu a yw'r gofyniad yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio, a

(b)hawliau P i apelio wedi eu disbyddu.

(3)At y diben hwnnw, bydd hawliau P wedi eu disbyddu—

(a)os bydd y cyfnod a grybwyllir yn adran 58(3) ar gyfer gwneud apêl i'r Tribiwnlys wedi dod i ben heb fod apêl wedi ei gwneud, neu

(b)os bydd apêl o dan adran 58 wedi ei gwneud a'i dyfarnu ac, o ran apêl bellach—

(i)na ellir gwneud un, neu

(ii)na ellir gwneud un heb ganiatâd y Tribiwnlys neu ganiatâd llys.

PENNOD 8YMCHWILIADAU AC ADRODDIADAU SAFONAU

Ymchwiliadau safonau

61Ymchwiliadau safonau

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “ymchwiliad safonau” yw ymchwiliad a gynhelir mewn perthynas â pherson (P) er mwyn dyfarnu ar un neu ragor o'r cwestiynau canlynol—

(a)a ddylai P fod yn agored — neu a ddylai P barhau i fod yn agored — i orfod cydymffurfio â safonau;

(b)os yw P yn dod o fewn Atodlen 6, pa safonau (os o gwbl) a ddylai fod — neu a ddylai barhau i fod — yn gymwysadwy i P;

(c)os yw P yn dod o fewn Atodlen 8, pa wasanaethau (os o gwbl) a ddylai gael — neu a ddylai barhau i gael — eu pennu yng ngholofn (2) o gofnod P yn y tabl yn Atodlen 8;

(d)pa safonau (os o gwbl) a ddylai fod — neu a ddylai barhau i fod — yn benodol gymwys i P (p'un a yw'r safonau eisoes wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) ai peidio);

(e)unrhyw gwestiwn arall y mae'r Comisiynydd o'r farn ei fod yn berthnasol o ran y graddau y caniateir i P fod yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd yn adran 25(1) i gydymffurfio â safonau.

(2)Caniateir cynnal ymchwiliad safonau penodol mewn perthynas—

(a)â pherson penodol, neu

(b)â grŵp o bersonau.

62Y pŵer i gynnal ymchwiliadau safonau

(1)Caiff y Comisiynydd gynnal ymchwiliadau safonau.

(2)Ond ni chaiff y Comisiynydd gynnal ymchwiliad safonau oni bai iddo roi hysbysiad rhagymchwilio i bob person perthnasol o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn dechrau ar yr ymchwiliad.

(3)Hysbysiad ysgrifenedig yw hysbysiad rhagymchwilio—

(a)sy'n datgan bod y Comisiynydd yn bwriadu cynnal ymchwiliad safonau, a

(b)sy'n pennu pwnc yr ymchwiliad safonau.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—

(a)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person hwnnw;

(b)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grŵp o bersonau, yw personau—

(i)yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a

(ii)y mae'n briodol rhoi hysbysiadau rhagymchwilio iddynt yn nhyb y Comisiynydd.

63Y gofynion wrth gynnal ymchwiliadau safonau

(1)Wrth gynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r angen am sicrhau nad yw gofynion am i bersonau gydymffurfio â safonau yn rhinwedd adran 25(1) yn afresymol neu'n anghymesur.

(2)Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu, neu'n cael ei gyfarwyddo, bod ymchwiliad safonau i ystyried a ddylai safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P, rhaid i'r ymchwiliad—

(a)ystyried, o ran pob gweithgaredd a bennir yn Atodlen 9 y mae P yn ei wneud, a yw'n rhesymol ac yn gymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P ai peidio, a

(b)o ran pob gweithgaredd o'r fath, os yw'n rhesymol ac yn gymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P, ddod i'r casgliad y dylai safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â'r gweithgaredd hwnnw.

(3)Wrth gynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori—

(a)â phob person perthnasol,

(b)â'r Panel Cynghori, ac

(c)â'r cyhoedd, ac eithrio—

(i)os yw'n ystyried, neu

(ii)i'r graddau y mae'n ystyried

ei bod yn amhriodol gwneud hynny.

(4)Nid yw methiant person i gymryd rhan yn ymgynghoriad y Comisiynydd yn atal y Comisiynydd rhag cynnal yr ymchwiliad safonau.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—

(a)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person hwnnw;

(b)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grŵp o bersonau, yw personau—

(i)yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a

(ii)y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb y Comisiynydd.

Adroddiadau safonau

64Adroddiad safonau

(1)Ar ôl cynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad safonau.

(2)Dogfen sy'n nodi'r canlynol yw adroddiad safonau—

(a)casgliadau'r ymchwiliad safonau, a

(b)rhesymau'r Comisiynydd dros ddod i'r casgliadau hynny.

(3)Os—

(a)casgliadau'r ymchwiliad (boed yn llwyr neu'n rhannol) yw y dylai safonau fod yn benodol gymwys i P, a

(b)nad yw unrhyw un neu ragor neu'r oll o'r safonau hynny wedi ei phennu neu eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1),

rhaid i'r adroddiad nodi'r safonau sydd heb eu pennu.

(4)Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl llunio adroddiad safonau—

(a)rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad—

(i)at bob person perthnasol,

(ii)at y Panel Cynghori,

(iii)at bob person a gymerodd ran yn ymgynghoriad y Comisiynydd yn unol ag adran 63, a

(iv)at Weinidogion Cymru, a

(b)caiff y Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad at unrhyw berson arall a chanddo ddiddordeb yn yr adroddiad ym marn y Comisiynydd.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—

(a)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person hwnnw;

(b)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grŵp o bersonau, yw personau—

(i)yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a

(ii)y mae'n briodol anfon copi o'r adroddiad atynt yn nhyb y Comisiynydd.

Pŵer cyfarwyddo Gweinidogion Cymru

65Cyfarwyddyd i gynnal ymchwiliad safonau

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os bydd Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan adran 16 i roi cyfarwyddyd i'r Comisiynydd er mwyn ei gyfarwyddo i gynnal ymchwiliad safonau mewn cysylltiad â pherson neu grŵp o bersonau.

(2)Rhaid i'r cyfarwyddyd bennu'r materion a ganlyn—

(a)y person, neu'r grŵp o bersonau y mae'r ymchwiliad i'w gynnal mewn cysylltiad ag ef;

(b)pwnc yr ymchwiliad;

(c)y rhesymau pam y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y dylai'r Comisiynydd gynnal yr ymchwiliad safonau;

(d)y cyfnod (y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na chwe mis) y mae'n rhaid i'r Comisiynydd gynnal yr ymchwiliad safonau cyn iddo ddod i ben.

(3)Nid yw is-adran (2) yn atal y cyfarwyddyd rhag pennu materion eraill.

Sylw sydd i'w roi i adroddiad safonau

66Gweinidogion Cymru i roi sylw dyladwy i adroddiad

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd wedi cynnal ymchwiliad safonau ac wedi llunio adroddiad safonau (boed o dan gyfarwyddyd neu ar gais Gweinidogion Cymru).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i'r adroddiad safonau wrth benderfynu ai i arfer ai peidio y pwerau sydd wedi eu rhoi iddynt gan y Rhan hon, a sut i wneud hynny.

PENNOD 9CYFFREDINOL

Eithrio darlledu

67Eithrio darlledu

(1)Nid yw'r Mesur hwn—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol, na

(b)yn awdurdodi person i'w gwneud yn ofynnol,

i berson gydymffurfio â safon os yw'r safon honno, ac i'r graddau y mae'r safon honno, yn ymwneud â darlledu.

(2)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “darlledu” yw comisiynu, cynhyrchu, amserlennu, trawsyrru neu ddosbarthu rhaglenni (gan gynnwys hysbysebion, is-deitlau, cyhoeddiadau cyswllt a theletestun), gwasanaethau mynediad, rhyngweithgarwch, cynnwys ar-lein ac allbwn arall tebyg ei natur ar gyfer y teledu, y radio, y rhyngrwyd neu lwyfannau ar-lein neu ddi-wifr eraill;

(b)ond nid yw cyfeiriadau at ddarlledu yn cynnwys unrhyw weithgaredd a gyflawnir mewn cysylltiad â darlledu (onid darlledu yw'r gweithgaredd ei hun).

Codau ymarfer

68Codau ymarfer

(1)Caiff y Comisiynydd ddyroddi codau ymarfer at ddiben darparu canllawiau ymarferol am ofynion unrhyw safonau a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) (“codau ymarfer safonau”).

(2)Caiff y Comisiynydd adolygu codau ymarfer safonau neu eu tynnu'n ôl.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd beidio â dyroddi, adolygu neu dynnu'n ôl god ymarfer safonau heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

(4)Cyn ceisio'r cydsyniad hwnnw, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori—

(a)â'r personau y mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio â'r safon neu â'r safonau y mae'r cod ymarfer yn ymwneud â hi neu â hwy, a

(b)â'r Panel Cynghori.

(5)Pan fo cod ymarfer yn cael ei ddyroddi gan y Comisiynydd, rhaid i'r Comisiynydd hefyd ddyroddi hysbysiad ysgrifenedig—

(a)sy'n nodi pa god sydd dan sylw ac sy'n datgan dyddiad y dyroddi, a

(b)sy'n pennu safon neu safonau y mae'r cod yn ymwneud â hi neu â hwy.

(6)Pan fo'r Comisiynydd yn tynnu cod ymarfer yn ôl, rhaid i'r Comisiynydd ddyroddi hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r cod dan sylw ac yn datgan y dyddiad y mae'r cod i beidio â bod yn effeithiol.

69Methiant i gydymffurfio â chodau

(1)Nid yw methiant person i gydymffurfio â darpariaeth mewn cod ymarfer a gymeradwywyd yn peri i'r person hwnnw fod yn agored i gamau gorfodi o unrhyw fath.

(2)Ond os cymerir unrhyw gamau o dan y Mesur hwn mewn perthynas â methiant person (P) i gydymffurfio â safon (“y methiant safonau honedig”)—

(a)caniateir dibynnu ar fethiant P i gydymffurfio â darpariaeth berthnasol mewn cod ymarfer a gymeradwywyd fel rhywbeth sy'n tueddu i gadarnhau bod P yn atebol am y methiant safonau honedig, a

(b)caniateir dibynnu ar gydymffurfedd â darpariaeth berthnasol mewn cod ymarfer a gymeradwywyd fel rhywbeth sy'n tueddu i gadarnhau nad yw P yn atebol am y methiant safonau honedig.

(3)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at god ymarfer a gymeradwywyd yn gyfeiriadau—

(a)at god ymarfer safonau fel y mae'n effeithiol am y tro, a

(b)pan fo cod ymarfer safonau wedi ei adolygu, at y cod hwnnw fel y'i hadolygwyd fel y mae'n effeithiol am y tro.

Dehongli

70Dehongli

(1)Yn y Rhan hon—

(a)mae cyfeiriadau at fod person yn agored i orfod cydymffurfio â safonau i'w darllen yn unol ag adran 33;

(b)mae cyfeiriadau at gofnod person yn y tabl yn Atodlen 6 neu'r tabl yn Atodlen 8 i'w darllen yn unol ag adran 34;

(c)mae cyfeiriadau at fod safon yn gymwysadwy i berson i'w darllen yn unol ag adrannau 36 a 37;

(d)mae cyfeiriadau at fod safon yn benodol gymwys i berson i'w darllen yn unol ag adran 39.

RHAN 5GORFODI SAFONAU

PENNOD 1YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC

Ymchwiliadau

71Ymchwilio i fethiant i gydymffurfio â safonau etc

(1)Caiff y Comisiynydd ymchwilio i a yw person (D) wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol.

(2)Yn y Rhan hon, ystyr “gofyniad perthnasol” yw unrhyw un neu ragor o'r canlynol—

(a)dyletswydd i gydymffurfio â safon a bennir gan Weinidogion Cymru (gweler adran 25);

(b)gofyniad a gynhwysir mewn hysbysiad penderfynu yn rhinwedd adran 79 (gofyniad i baratoi cynllun gweithredu, neu i gymryd camau);

(c)cynllun gweithredu (gweler adrannau 79 a 80);

(d)gofyniad a gynhwysir mewn hysbysiad penderfynu yn rhinwedd adran 82 (rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfio).

(3)Os dyletswydd i gydymffurfio â safon yw'r gofyniad perthnasol, dim ond os yw'n amau bod D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol y caiff y Comisiynydd gynnal ymchwiliad o dan yr adran hon.

(4)Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn ag ymchwiliadau.

72Terfynu ymchwiliad

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad o dan adran 71.

(2)Caiff y Comisiynydd derfynu'r ymchwiliad ar unrhyw adeg.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu terfynu'r ymchwiliad, rhaid i'r Comisiynydd—

(a)hysbysu pob person a chanddo fuddiant, a

(b)hysbysu D o'r rhesymau dros ddod i'r penderfyniad.

(4)Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag is-adran (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl dod i'r penderfyniad.

Dyfarnu ar ymchwiliad

73Dyfarnu ar ymchwiliad

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os yw'r Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad o dan adran 71, a

(b)os nad yw'r Comisiynydd yn terfynu'r ymchwiliad.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol ai peidio.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)llunio adroddiad ar yr ymchwiliad, a

(b)rhoi copi o'r adroddiad ar yr ymchwiliad i bob person a chanddo fuddiant.

(4)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)rhoi hysbysiad penderfynu i D, a

(b)rhoi copi o'r hysbysiad penderfynu i bob person arall a chanddo fuddiant.

(5)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.

Adroddiadau ar ymchwiliadau

74Adroddiadau ar ymchwiliadau

(1)Yn y Mesur hwn, ystyr “adroddiad ar ymchwiliad” yw adroddiad ar ymchwiliad o dan adran 71 sy'n cynnwys pob un o'r canlynol—

(a)cylch gorchwyl yr ymchwiliad;

(b)crynodeb o'r dystiolaeth a gymerwyd yn ystod yr ymchwiliad;

(c)canfyddiadau'r Comisiynydd ar yr ymchwiliad;

(d)dyfarniad y Comisiynydd ar a yw D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol ai peidio;

(e)datganiad ar a yw'r Comisiynydd am weithredu ymhellach;

(f)os yw'r Comisiynydd am weithredu ymhellach, datganiad ar y gweithredu hwnnw.

(2)Nid yw is-adran (1) yn atal y Comisiynydd rhag cynnwys materion eraill mewn adroddiad ar ymchwiliad.

Hysbysiadau penderfynu

75Hysbysiadau penderfynu

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “hysbysiad penderfynu” yw hysbysiad sy'n datgan dyfarniad y Comisiynydd ar a yw D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol ai peidio.

(2)Nid yw is-adran (1) yn atal hysbysiad penderfynu rhag cynnwys materion eraill (ac mae darpariaethau penodol yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i faterion eraill gael eu cynnwys mewn amgylchiadau penodol).

Dim methiant i gydymffurfio: opsiynau'r Comisiynydd

76Dim methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu nad yw D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol.

(2)Caiff y Comisiynydd—

(a)peidio â gweithredu ymhellach, neu

(b)gweithredu o dan is-adran (3).

(3)Caiff y Comisiynydd wneud un neu ragor o'r pethau a ganlyn—

(a)rhoi argymhellion i D neu i unrhyw berson arall;

(b)rhoi cyngor i D neu i unrhyw berson arall.

(4)Os yw'r ymchwiliad a arweiniodd at y dyfarniad yn dilyn cwyn a wnaed o dan adran 93, rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol roi gwybod i'r person a wnaeth y gŵyn am yr hawl i apelio o dan adran 99.

(5)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.

(6)Yn yr adran hon ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad penderfynu y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i'r person a wnaeth y gŵyn o dan adran 93.

Methiant i gydymffurfio: opsiynau'r Comisiynydd

77Methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol.

(2)Caiff y Comisiynydd—

(a)beidio â gweithredu ymhellach,

(b)gweithredu o dan is-adran (3), neu

(c)gweithredu o dan is-adran (4).

(3)Caiff y Comisiynydd wneud un neu ragor o'r pethau a ganlyn—

(a)ei gwneud yn ofynnol i D baratoi cynllun gweithredu at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd;

(b)ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd;

(c)rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol;

(d)ei gwneud yn ofynnol i D roi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol;

(e)gosod cosb sifil ar D.

(4)Caiff y Comisiynydd wneud un neu ragor o'r pethau a ganlyn—

(a)rhoi argymhellion i D neu i unrhyw berson arall;

(b)rhoi cyngor i D neu i unrhyw berson arall;

(c)ceisio ymrwymo mewn cytundeb setlo gyda D (gweler Pennod 2), ond dim ond os dyletswydd i gydymffurfio â safon yw'r gofyniad perthnasol.

(5)Os yw'r Comisiynydd yn ceisio ymrwymo mewn cytundeb setlo gyda D—

(a)nid oes gorfodaeth ar D i ymrwymo yn y cytundeb hwnnw;

(b)os yw D yn gwrthod ymrwymo mewn cytundeb setlo, caiff y Comisiynydd arfer ei bwerau o dan yr adran hon mewn modd gwahanol, ond nid oes angen iddo wneud hynny.

(6)Os yw'r Comisiynydd yn gweithredu o dan is-adran (3), nid yw is-adrannau (2) a (3) yn atal y Comisiynydd rhag gwneud hefyd y naill neu'r llall neu'r naill a'r llall o'r canlynol—

(a)rhoi argymhellion i D neu i unrhyw berson arall;

(b)rhoi cyngor i D neu i unrhyw berson arall.

(7)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.

Dim camau gorfodi gosodedig

78Dim camau gorfodi gosodedig

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd—

(a)yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol, ond

(b)yn penderfynu—

(i)peidio â gweithredu ymhellach, neu

(ii)gweithredu o dan adran 77(4).

(2)Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol roi rhesymau'r Comisiynydd dros benderfynu—

(a)peidio â gweithredu ymhellach, neu

(b)gweithredu o dan adran 77(4) ac nid o dan adran 77(3).

(3)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i D.

Atal methiant D i gydymffurfio rhag parhau neu gael ei ailadrodd

79Gofyniad i baratoi cynllun gweithredu neu i gymryd camau

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd—

(a)yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol, a

(b)yn penderfynu ei gwneud yn ofynnol i D wneud un o'r pethau a ganlyn neu'r ddau ohonynt—

(i)paratoi cynllun gweithredu at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd;

(ii)cymryd camau at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd.

(2)Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol ddatgan yr hyn y mae'r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol i D ei wneud.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol i D baratoi cynllun gweithredu, rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol bennu o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid i D—

(a)llunio cynllun drafft cyntaf, a

(b)rhoi'r drafft hwnnw i'r Comisiynydd.

(4)Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol hysbysu D—

(a)o'r canlyniadau os nad yw D yn cydymffurfio â gofyniad sydd wedi ei gynnwys yn yr hysbysiad yn rhinwedd yr adran hon; a

(b)o'r hawl i apelio o dan adran 95.

(5)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.

(6)Yn yr adran hon ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i D.

80Cynlluniau gweithredu

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D sy'n ei gwneud yn ofynnol i D baratoi cynllun gweithredu.

(2)Rhaid i D roi cynllun drafft cyntaf i'r Comisiynydd o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad penderfynu.

(3)Ar ôl i gynllun drafft cyntaf ddod i law oddi wrth berson rhaid i'r Comisiynydd—

(a)ei gymeradwyo, neu

(b)rhoi i'r person hysbysiad—

(i)sy'n datgan nad yw'r drafft yn ddigonol,

(ii)sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person roi drafft diwygiedig i'r Comisiynydd erbyn amser penodedig, a

(iii)sy'n nodi y caniateir iddo wneud argymhellion ynghylch cynnwys y drafft diwygiedig.

(4)Mae is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas â chynllun drafft diwygiedig fel y mae'n gymwys mewn perthynas â chynllun drafft cyntaf.

(5)Daw cynllun gweithredu i rym—

(a)ar ddiwedd cyfnod o chwe wythnos yn dechrau ar y dyddiad y rhoddir drafft cyntaf neu ddrafft diwygiedig i'r Comisiynydd, os daw'r cyfnod hwnnw i ben heb i'r Comisiynydd—

(i)rhoi hysbysiad o dan is-adran (3)(b), neu

(ii)gwneud cais am orchymyn o dan is-adran (6)(b), neu

(b)ar yr adeg pryd y bydd llys yn gwrthod gwneud gorchymyn o dan is-adran (6)(b) mewn perthynas â drafft diwygiedig o'r cynllun.

(6)Caiff y Comisiynydd wneud cais i lys sirol—

(a)am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson roi cynllun drafft cyntaf i'r Comisiynydd erbyn amser a bennir yn y gorchymyn; neu

(b)am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi rhoi cynllun drafft diwygiedig i'r Comisiynydd baratoi a rhoi cynllun drafft diwygiedig pellach i'r Comisiynydd—

(i)erbyn amser a bennir yn y gorchymyn, a

(ii)yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau ynghylch cynnwys y cynllun a bennir yn y gorchymyn.

(7)Caniateir i gynllun gweithredu gael ei amrywio drwy gytundeb rhwng y Comisiynydd a'r person a'i paratôdd.

(8)Mae paragraffau 5 i 12 o Atodlen 10 yn gymwys mewn perthynas â bod y Comisiynydd yn ystyried a yw cynllun gweithredu drafft yn ddigonol fel y mae'r paragraffau hynny'n gymwys mewn perthynas â chynnal ymchwiliad.

Rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio

81Rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfio

(1)Yn y Mesur hwn, mae cyfeiriadau at fod y Comisiynydd yn rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol yn gyfeiriadau at fod y Comisiynydd yn gwneud y naill neu'r llall o'r canlynol neu'r naill a'r llall o'r canlynol—

(a)cyhoeddi datganiad yn dweud bod D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol;

(b)cyhoeddi'r adroddiad ar yr ymchwiliad a luniwyd mewn perthynas â'r ymchwiliad i D.

(2)Yn y Mesur hwn, mae cyfeiriadau at fod gofyn i D roi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol yn gyfeiriadau at fod gofyn i D roi cyhoeddusrwydd i unrhyw un neu ragor neu'r oll o'r canlynol—

(a)datganiad bod D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol;

(b)yr adroddiad ar yr ymchwiliad a luniwyd mewn perthynas â'r ymchwiliad i D;

(c)gwybodaeth arall sy'n ymwneud â methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol.

82Ei gwneud yn ofynnol rhoi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os bydd y Comisiynydd—

(a)yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol, a

(b)yn penderfynu gwneud y naill neu'r llall o'r canlynol neu'r naill a'r llall o'r canlynol—

(i)rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol;

(ii)ei gwneud yn ofynnol i D roi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol.

(2)Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol ddatgan yr hyn y mae'r Comisiynydd—

(a)i'w wneud er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D;

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i D ei wneud er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i'r methiant.

(3)Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol roi gwybod i D—

(a)beth fydd y canlyniadau os na fydd D yn cydymffurfio â gofyniad sydd wedi ei gynnwys yn yr hysbysiad yn rhinwedd yr adran hon; a

(b)am yr hawl i apelio o dan adran 95.

(4)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.

(5)Yn yr adran hon ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad penderfynu y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i D.

Cosbau sifil

83Cosbau sifil

(1)Rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r materion a nodir yn is-adran (2) pan fydd yn penderfynu—

(a)ai i roi cosb sifil i unrhyw berson ai peidio, a

(b)ynghylch swm unrhyw gosb sifil.

(2)Y canlynol yw'r materion hynny—

(a)pa mor ddifrifol yw'r mater y mae'r gosb sifil i'w rhoi mewn cysylltiad ag ef;

(b)amgylchiadau'r person y mae'r gosb sifil i'w rhoi iddo;

(c)yr angen am atal parhau neu ailadrodd y mater y mae'r gosb sifil i'w rhoi mewn cysylltiad ag ef.

(3)Nid yw is-adran (1) yn atal y Comisiynydd rhag rhoi sylw i faterion eraill.

(4)Rhaid i gosb sifil beidio â bod yn fwy na £5,000.

(5)Mae cosb sifil yn adferadwy gan y Comisiynydd fel dyled sy'n ddyladwy i'r Comisiynydd.

(6)Rhaid i'r Comisiynydd dalu'r holl gosbau sifil sy'n dod i law i Gronfa Gyfunol Cymru.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, roi swm gwahanol yn lle'r swm sydd wedi ei bennu o bryd i'w gilydd yn is-adran (4).

(8)Yn yr adran hon ystyr “cosb sifil” yw unrhyw gosb sifil y caiff y Comisiynydd ei rhoi.

84Rhoi cosb sifil

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd—

(a)yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol, a

(b)yn penderfynu rhoi cosb sifil i D.

(2)Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol ddatgan—

(a)y gosb sifil y mae'r Comisiynydd wedi penderfynu ei rhoi;

(b)sut y caniateir i'r gosb sifil gael ei thalu;

(c)y cyfnod y mae'n rhaid talu'r gosb sifil cyn iddo ddod i ben (ac y mae'n rhaid iddo fod yn gyfnod o ddim llai na 28 o ddiwrnodau).

(3)Rhaid i hysbysiad penderfynu perthnasol roi gwybod hefyd i D—

(a)beth fydd y canlyniadau os na fydd D yn talu'r gosb sifil; a

(b)am yr hawl i apelio o dan adran 95.

(4)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.

(5)Yn yr adran hon ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad penderfynu y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i D.

Ymgynghori

85Ymgynghori cyn dyfarnu'n derfynol etc

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad o dan adran 71.

(2)Cyn dyfarnu'n derfynol ynghylch a yw D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol ai peidio, rhaid i'r Comisiynydd roi i bob person a chanddo fuddiant hysbysiad o'r dyfarniad y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei roi.

(3)Cyn penderfynu'n derfynol pa weithredu pellach i'w wneud, os o gwbl, rhaid i'r Comisiynydd roi i bob person a chanddo fuddiant—

(a)hysbysiad yn nodi a yw'r Comisiynydd yn bwriadu gweithredu ymhellach ai peidio, a datganiad am resymau'r Comisiynydd dros fwriadu gwneud hynny;

(b)os yw'r Comisiynydd yn bwriadu gweithredu ymhellach, hysbysiad yn nodi'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd, a datganiad am resymau'r Comisiynydd dros fwriadu gweithredu felly; ac

(c)copïau drafft o'r hysbysiad penderfynu y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei roi.

(4)Cyn setlo adroddiad yr ymchwiliad, rhaid i'r Comisiynydd roi drafft o'r adroddiad arfaethedig i bob person a chanddo fuddiant.

(5)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)rhoi cyfle i D i wneud sylwadau ynghylch y cynigion y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2), (3) a (4), a

(b)rhoi cyfle i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant i wneud sylwadau ynghylch y cynigion y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2) a (4).

(6)Rhaid i'r Comisiynydd roi sylw dyladwy i unrhyw sylwadau a wneir gan D neu gan unrhyw berson arall a chanddo fuddiant cyn cymryd unrhyw gam y mae'r sylwadau'n ymwneud ag ef.

(7)Y Comisiynydd sydd i bennu'r cyfnod a ganiateir i berson ar gyfer gwneud sylwadau yn unol ag is-adran (5); ond rhaid i'r cyfnod beidio â bod yn llai na 28 o ddiwrnodau.

86Ymgynghori cyn dyfarnu'n derfynol yn dilyn apêl

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os cyfarwyddir y Comisiynydd, yn dilyn apêl o dan adran 99 neu 101, neu'n dilyn unrhyw apêl bellach, i ddyfarnu o dan adran 73 bod D wedi methu â chydymffurfio â safon (y “dyfarniad newydd”).

(2)Cyn penderfynu'n derfynol pa weithredu pellach i'w wneud, os o gwbl, ar sail y dyfarniad newydd, rhaid i'r Comisiynydd roi i bob person a chanddo fuddiant—

(a)hysbysiad yn nodi a yw'r Comisiynydd yn bwriadu gweithredu ymhellach ai peidio, a datganiad am resymau'r Comisiynydd dros fwriadu gwneud hynny;

(b)os yw'r Comisiynydd yn bwriadu gweithredu ymhellach, hysbysiad yn nodi'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd, a datganiad am resymau'r Comisiynydd dros fwriadu gweithredu felly; ac

(c)copïau drafft o'r hysbysiad penderfynu y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei roi.

(3)Cyn setlo adroddiad yr ymchwiliad, rhaid i'r Comisiynydd roi drafft o'r adroddiad arfaethedig i bob person a chanddo fuddiant.

(4)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)rhoi cyfle i D i wneud sylwadau ynghylch y cynigion y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2) a (3), a

(b)rhoi cyfle i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant i wneud sylwadau ynghylch y cynigion y cyfeirir atynt yn is-adran (3).

(5)Rhaid i'r Comisiynydd roi sylw dyladwy i unrhyw sylwadau a wneir gan D neu gan unrhyw berson arall a chanddo fuddiant o dan is-adran (4).

(6)Y Comisiynydd sydd i bennu'r cyfnod a ganiateir i berson ar gyfer gwneud sylwadau yn unol ag is-adran (4); ond rhaid i'r cyfnod beidio â bod yn llai na 28 o ddiwrnodau.

Yr adeg y bydd camau gorfodi yn dod yn effeithiol

87Yr adeg y bydd camau gorfodi yn dod yn effeithiol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D yn nodi camau gorfodi y mae'r Comisiynydd wedi penderfynu eu cymryd mewn perthynas â dyfarniad o dan adran 73.

(2)Rhaid i D—

(a)paratoi cynllun gweithredu neu gymryd camau, neu

(b)rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfio,

os yw'r hysbysiad penderfynu'n ei gwneud yn ofynnol i D wneud hynny, yn unol ag adran 79 neu 82.

(3)Rhaid i D dalu cosb sifil a nodir yn yr hysbysiad penderfynu yn unol ag adran 84.

(4)Ond dim ond ar ôl i'r cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer gwneud apêl berthnasol ddod i ben y mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys.

(5)Dim ond ar ôl i'r cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer gwneud apêl berthnasol ddod i ben y caiff y Comisiynydd roi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol.

(6)Os gwneir apêl berthnasol, nid yw is-adrannau (2), (3) a (5) yn gymwys—

(a)oni fydd, a hyd oni fydd, yr apêl honno, ac unrhyw apêl bellach, wedi dod i ben yn derfynol, a

(b)o ran apêl bellach—

(i)oni na ellir, a hyd na ellir gwneud un, neu

(ii)oni na ellir, a hyd na ellir gwneud un heb ganiatâd y Tribiwnlys neu ganiatâd llys.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “apêl berthnasol” yw apêl i'r Tribiwnlys o dan adran 95 mewn cysylltiad â'r materion sydd wedi eu nodi yn yr hysbysiad penderfynu.

Gorfodi gan lys sirol

88Methiant i gydymffurfio â gofyniad i gymryd camau

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os bydd y Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd.

(2)Caiff y Comisiynydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, wneud cais i lys sirol am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â'r gofyniad yn yr hysbysiad penderfynu.

(3)Yn yr adran hon ystyr “cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad penderfynu.

89Methiant i gydymffurfio â chynllun gweithredu

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw D wedi llunio cynllun gweithredu yn unol ag adran 80.

(2)Caiff y Comisiynydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, wneud cais i lys sirol am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â'r cynllun gweithredu.

(3)Yn yr adran hon ystyr “cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y daw'r cynllun gweithredu i rym.

90Methiant i gydymffurfio â gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfio

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau i roi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio.

(2)Caiff y Comisiynydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, wneud cais i lys sirol am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â'r gofyniad yn yr hysbysiad penderfynu.

(3)Yn yr adran hon ystyr “cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad penderfynu.

PENNOD 2CYTUNDEBAU SETLO

91Cytundebau setlo

(1)Mae cyfeiriad at gytundeb setlo rhwng y Comisiynydd a pherson (D) ynghylch methiant D i gydymffurfio â safon (y “methiant perthnasol”) yn gyfeiriad at gytundeb sy'n cynnwys—

(a)ymgymeriad gan D i wneud un neu ragor o'r pethau canlynol—

(i)peidio â methu â chydymffurfio ag un neu ragor o safonau;

(ii)gweithredu mewn ffordd benodol (a gaiff gynnwys paratoi cynllun o gamau sydd i'w cymryd, ond heb fod wedi ei gyfyngu i hynny);

(iii)peidio â gweithredu mewn ffordd benodol; a

(b)ymgymeriad gan y Comisiynydd i beidio â chymryd camau gorfodi mewn cysylltiad â'r methiant perthnasol.

(2)O ran cytundeb setlo —

(a)caiff gynnwys darpariaeth gysylltiedig neu atodol (a gaiff gynnwys darpariaeth ar gyfer terfynu'r cytundeb mewn amgylchiadau penodedig, ond heb fod wedi ei gyfyngu i hynny), a

(b)caniateir ei amrywio neu ei derfynu drwy gytundeb rhwng y Comisiynydd a D.

(3)Ni fernir bod D wedi cyfaddef y methiant perthnasol dim ond oherwydd ei fod wedi ymrwymo mewn cytundeb setlo.

(4)Mae is-adran (1) yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.

92Methiant i gydymffurfio â chytundeb setlo

(1)Caiff y Comisiynydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, wneud cais i lys sirol am orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â chytundeb setlo.

(2)Yn yr adran hon ystyr “cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod yr ymrwymir yn y cytundeb setlo.

PENNOD 3DIFFYG CYDYMFFURFIO Å SAFONAU: CWYNION GAN BERSONAU YR EFFEITHIR ARNYNT

93Ystyried ai i ymchwilio ai peidio os gwneir cwyn ynghylch ymddygiad

(1)Rhaid i'r Comisiynydd ystyried ai i gynnal ymchwiliad o dan adran 71 ai peidio i'r cwestiwn a yw ymddygiad person (D) (“yr ymddygiad honedig”) yn gyfystyr â methiant i gydymffurfio â safon—

(a)os yw person (P) yn gwneud cwyn i'r Comisiynydd ynglŷn â'r ymddygiad, a

(b)os yw'r gŵyn yn un ddilys.

(2)Mae cwyn gan P i'r Comisiynydd yn gŵyn ddilys os bodlonir yr amodau yn is-adrannau (3) i (6).

(3)Rhaid i P fod—

(a)yn berson y mae'n ymddangos i'r Comisiynydd fod yr ymddygiad honedig wedi effeithio arno'n uniongyrchol, neu

(b)yn berson sy'n gweithredu ar ran y person hwnnw.

(4)Rhaid gwneud y gŵyn yn ysgrifenedig, oni bai bod amgylchiadau personol P yn golygu na fyddai'n rhesymol i P wneud y gŵyn yn ysgrifenedig.

(5)Rhaid i'r gŵyn roi cyfeiriad lle y caiff y Comisiynydd gysylltu â P (boed y cyfeiriad yn gyfeiriad post, electronig neu'n gyfeiriad o ddisgrifiad arall).

(6)Rhaid i'r gŵyn—

(a)ei gwneud yn hysbys pwy yw D, a

(b)ei gwneud yn hysbys beth yw'r ymddygiad honedig.

(7)Ond, os bodlonir yr amodau hynny, nid oes angen i'r Comisiynydd ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio—

(a)os gwneir y gŵyn fwy na blwyddyn ar ôl i'r person yr effeithiwyd arno ddod yn ymwybodol o'r ymddygiad honedig,

(b)os yw'r Comisiynydd o'r farn bod y gŵyn yn wacsaw neu'n flinderus, neu'n un sydd eisoes wedi ei gwneud sawl gwaith, neu

(c)os tynnir y gŵyn yn ôl.

(8)Nid yw'r adran hon yn atal y Comisiynydd rhag ystyried ai i gynnal yr ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio—

(a)os na fodlonir unrhyw un neu ragor o'r amodau yn is-adrannau (3) i (6), neu

(b)os yw is-adran (7) yn gymwys.

(9)Os gwneir cwyn o dan yr adran hon gan berson sy'n gweithredu ar ran person arall, yn narpariaethau'r Mesur hwn sy'n ymwneud ag apelau neu apelau pellach sy'n gysylltiedig â'r gŵyn, mae cyfeiriad at y person a wnaeth y gŵyn (gan gynnwys achos pan gyfeirir at y person hwnnw fel “P”) i'w ddarllen fel cyfeiriad at y person arall (ac nid fel cyfeiriad at y person a wnaeth y gŵyn).

(10)Yn yr adran hon ystyr “person yr effeithiwyd arno” yw person y mae'n ymddangos i'r Comisiynydd fod yr ymddygiad honedig wedi effeithio arno'n uniongyrchol.

94Hysbysiad os nad oes ymchwiliad etc

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn unrhyw un neu ragor o'r achosion a ganlyn.

(2)Yr achos cyntaf yw—

(a)pan fo'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys, a

(b)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad.

(3)Yr ail achos yw—

(a)pan fo adran 93(7) yn gymwys o ran cwyn, a

(b)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio.

(4)Y trydydd achos yw pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu nad yw'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys.

(5)Y pedwerydd achos yw—

(a)pan nad yw'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys, a

(b)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio o dan adran 93(8) neu, ar ôl ystyried ai i gynnal ymchwiliad o dan yr adran honno, yn penderfynu peidio â chynnal yr ymchwiliad.

(6)Y pumed achos yw—

(a)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu cynnal ymchwiliad, ac

(b)pan fo'r Comisiynydd wedyn yn penderfynu terfynu'r ymchwiliad.

(7)Rhaid i'r Comisiynydd hysbysu P—

(a)o'r penderfyniad a nodir yn is-adrannau (2)(b), (3)(b), (4), (5)(b) neu (6)(b), a

(b)o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw, ac

(c)o'r hawl i gael adolygiad o dan adran 103.

PENNOD 4APELAU

95Apelau i'r Tribiwnlys

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd—

(a)yn cynnal ymchwiliad o dan adran 71, a

(b)yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol.

(2)Caiff D apelio i'r Tribiwnlys ar y sail na fethodd D â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol.

(3)Ond ni chaiff D apelio i'r Tribiwnlys o dan is-adran (2) os yw'r Comisiynydd wedi ei gyfarwyddo, yn dilyn apêl o dan adran 99 neu 101, neu unrhyw apêl bellach, i ddyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol.

(4)Os yw'r Comisiynydd yn cymryd camau gorfodi mewn cysylltiad â methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol, caiff D apelio i'r Tribiwnlys ar y sail bod y camau gorfodi yn afresymol neu'n anghymesur.

(5)Rhaid i apêl o dan yr adran hon gael ei gwneud cyn diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.

(6)Ond caiff y Tribiwnlys, pan wneir cais ysgrifenedig gan D, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau os yw'r Tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os oes unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.

(7)Caniateir i gais o dan is-adran (6) gael ei wneud cyn diwedd neu ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.

(8)Caiff D apelio o dan is-adran (4) p'un a yw D yn apelio hefyd o dan is-adran (2) ai peidio.

(9)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys (sy'n cael gwneud, ymysg pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y modd y ceir dwyn apelau o dan yr adran hon).

(10)Yn y Bennod hon ystyr “cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau” yw'r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r Comisiynydd yn rhoi'r hysbysiad penderfynu i D mewn perthynas â'r ymchwiliad.

96Pwerau'r Tribiwnlys pan wneir apêl

(1)Pan wneir apêl o dan adran 95(2), caiff y Tribiwnlys—

(a)cadarnhau dyfarniad y Comisiynydd, neu

(b)diddymu dyfarniad y Comisiynydd.

(2)Pan wneir apêl o dan adran 95(4), caiff y Tribiwnlys—

(a)cadarnhau'r camau gorfodi,

(b)amrywio'r camau gorfodi (gan gynnwys drwy gymryd camau gorfodi o fath gwahanol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny), neu

(c)diddymu'r camau gorfodi.

(3)Rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu D a'r Comisiynydd o'i benderfyniad ar apêl o dan adran 95.

(4)Mae i unrhyw benderfyniad gan y Tribiwnlys pan wneir apêl o dan adran 95 yr un effaith â dyfarniad y Comisiynydd, a gellir ei orfodi yn yr un modd.

97Apelau o'r Tribiwnlys

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Tribiwnlys wedi penderfynu apêl o dan adran 95.

(2)Caiff y Comisiynydd neu D, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, apelio i'r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol sy'n deillio o'r penderfyniad.

(3)Os yw'r Uchel Lys yn dyfarnu bod y Tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad ar bwynt cyfreithiol—

(a)caiff yr Uchel Lys osod penderfyniad y Tribiwnlys o'r naill du, a

(b)os bydd yr Uchel Lys yn gosod y penderfyniad o'r naill du, rhaid iddo naill ai—

(i)anfon yr achos yn ôl i'r Tribiwnlys gyda chyfarwyddyd ar gyfer ei ailystyried, neu

(ii)ail-wneud y penderfyniad.

(4)Mae'r cyfarwyddiadau y caniateir i'r Uchel Lys eu rhoi o dan is-adran (3)(b)(i) yn cynnwys y canlynol, ond heb fod wedi eu cyfyngu iddynt—

(a)cyfarwyddyd na all y personau sydd i ailystyried yr achos fod yr un rhai â'r personau a wnaeth y penderfyniad sydd wedi ei roi o'r naill du,

(b)cyfarwyddiadau gweithredu mewn cysylltiad ag ailystyried yr achos.

(5)Wrth ail-wneud y penderfyniad yn unol ag is-adran (3)(b)(ii), caniateir i'r Uchel Lys—

(a)gwneud unrhyw benderfyniad y gallai'r Tribiwnlys ei wneud pe bai'r Tribiwnlys yn gwneud y penderfyniad, a

(b)gwneud y canfyddiadau ffeithiol sy'n briodol yn nhyb yr Uchel Lys.

(6)Rhaid i gais am ganiatâd i apelio gael ei wneud i'r Tribiwnlys neu i'r Uchel Lys o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysodd y Tribiwnlys y person sy'n gwneud y cais o'i benderfyniad ar yr apêl o dan adran 95.

(7)Ond caiff y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, ar gais ysgrifenedig gan y Comisiynydd neu D, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys neu'r Uchel Lys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)dros y methiant i wneud cais am ganiatâd i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os oedd unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud y cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.

(8)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.

98Dyletswydd y Comisiynydd ar apêl

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os yw'r Comisiynydd wedi cynnal ymchwiliad o dan adran 71 yn dilyn cwyn o dan adran 93, a

(b)os gwneir apêl o dan adran 95 neu 97, neu os gwneir unrhyw apêl bellach, mewn perthynas â'r ymchwiliad, ac

(c)os nad yw P yn barti yn yr achos hwnnw.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ei hysbysu o ganlyniad, apêl o dan adran 95 roi i'r person a wnaeth y gŵyn hysbysiad yn nodi'r canlyniad,

(b)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ei hysbysu o apêl o dan adran 97, neu unrhyw apêl bellach, roi i'r person a wnaeth y gŵyn hysbysiad yn nodi bod yr apêl wedi ei gwneud, ac

(c)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ei hysbysu o ganlyniad apêl o dan adran 97 neu o ganlyniad apêl bellach, roi i'r person a wnaeth y gŵyn hysbysiad yn nodi'r canlyniad.

PENNOD 5APELAU GAN YR ACHWYNYDD

Apelau yn erbyn dyfarniad nad yw D wedi methu â chydymffurfio â safon

99Hawl P i apelio

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os yw person (P) yn gwneud cwyn o dan adran 93,

(b)os yw'r Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad o dan adran 71 yn dilyn y gŵyn, ac

(c)os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu nad yw D wedi methu â chydymffurfio â safon.

(2)Caiff P apelio i'r Tribiwnlys ar y sail bod D wedi methu â chydymffurfio â'r safon.

(3)Rhaid i apêl o dan yr adran hon gael ei gwneud cyn diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.

(4)Ond caiff y Tribiwnlys, pan wneir cais ysgrifenedig gan P, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os oes unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.

(5)Caniateir i gais o dan is-adran (4) gael ei wneud cyn diwedd neu ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.

(6)Rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu P a'r Comisiynydd o'i benderfyniad ar apêl o dan yr adran hon.

(7)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys (sy'n cael gwneud, ymysg pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y modd y ceir dwyn apelau o dan yr adran hon).

(8)Yn y Bennod hon ystyr “cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau” yw'r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r Comisiynydd yn rhoi'r hysbysiad penderfynu i P mewn perthynas â'r ymchwiliad.

100Pwerau'r Tribiwnlys pan wneir apêl gan P

(1)Pan wneir apêl o dan adran 99, caiff y Tribiwnlys—

(a)cadarnhau dyfarniad y Comisiynydd, neu

(b)diddymu dyfarniad y Comisiynydd.

(2)Os yw'r Tribiwnlys yn diddymu dyfarniad y Comisiynydd (y “dyfarniad gwreiddiol”), rhaid i'r Tribiwnlys gyfarwyddo'r Comisiynydd i ddyfarnu o dan adran 73 fod D wedi methu â chydymffurfio â'r safon (y “dyfarniad newydd”).

(3)Os yw'r Tribiwnlys yn cyfarwyddo'r Comisiynydd o dan is-adran (2), rhaid i'r Comisiynydd ddirymu'r hysbysiad penderfynu a'r adroddiad ar ymchwiliad a roddwyd o dan adran 73 mewn perthynas â'r dyfarniad gwreiddiol.

(4)Mae adran 73(3) a (4), a darpariaethau eraill y Mesur hwn, yn gymwys i'r dyfarniad newydd fel y maent yn gymwys i unrhyw ddyfarniad arall o dan adran 73.

(5)Rhaid i'r adroddiad ar ymchwiliad a roddir o dan adran 73(3) mewn perthynas â'r dyfarniad newydd gynnwys datganiad bod y Comisiynydd wedi gwneud y dyfarniad newydd i gydymffurfio â chyfarwyddyd gan y Tribiwnlys.

(6)I'r graddau y mae adrannau 77, 78, 79, 82 ac 84 yn gymwys i'r dyfarniad newydd, maent yn ddarostyngedig i adran 86 ond nid i adran 85.

101Apelau o'r Tribiwnlys

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Tribiwnlys wedi penderfynu apêl o dan adran 99.

(2)Caiff y Comisiynydd neu P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, apelio i'r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol sy'n deillio o'r penderfyniad.

(3)Os yw'r Uchel Lys yn dyfarnu bod y Tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad ar bwynt cyfreithiol—

(a)caiff yr Uchel Lys osod penderfyniad y Tribiwnlys o'r naill du, a

(b)os bydd yr Uchel Lys yn gosod y penderfyniad o'r naill du, rhaid iddo naill ai—

(i)anfon yr achos yn ôl i'r Tribiwnlys gyda chyfarwyddyd ar gyfer ei ailystyried, neu

(ii)ail-wneud y penderfyniad.

(4)Mae'r cyfarwyddiadau y caniateir i'r Uchel Lys eu rhoi o dan is-adran (3)(b)(i) yn cynnwys y naill neu'r llall neu'r naill a'r llall o'r canlynol, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt—

(a)cyfarwyddyd na all y personau sydd i ailystyried yr achos fod yr un rhai â'r personau a wnaeth y penderfyniad sydd wedi ei roi o'r naill du,

(b)cyfarwyddiadau gweithredu mewn cysylltiad ag ailystyried yr achos.

(5)Wrth ail-wneud y penderfyniad yn unol ag is-adran (3)(b)(ii), caniateir i'r Uchel Lys—

(a)gwneud unrhyw benderfyniad y gallai'r Tribiwnlys ei wneud pe bai'r Tribiwnlys yn gwneud y penderfyniad, a

(b)gwneud y canfyddiadau ffeithiol sy'n briodol yn nhyb yr Uchel Lys.

(6)Rhaid i gais am ganiatâd i apelio gael ei wneud i'r Tribiwnlys neu i'r Uchel Lys o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod yr hysbysodd y Tribiwnlys y person sy'n gwneud y cais o'i benderfyniad ar yr apêl o dan adran 99.

(7)Ond caiff y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, ar gais ysgrifenedig gan y Comisiynydd neu P, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys neu'r Uchel Lys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)dros y methiant i wneud cais am ganiatâd i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os oes unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.

(8)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.

102Dyletswydd y Comisiynydd pan wneir apêl gan P

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os yw'r Comisiynydd wedi cynnal ymchwiliad o dan adran 71 yn dilyn cwyn o dan adran 93,

(b)os gwneir apêl o dan adran 99 neu 101, neu os gwneir unrhyw apêl bellach, mewn perthynas â'r ymchwiliad, ac

(c)os nad yw D yn barti yn yr achos hwnnw.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ei hysbysu o ganlyniad apêl o dan adran 99, roi hysbysiad i D yn nodi'r canlyniad,

(b)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ei hysbysu o apêl o dan adran 101, neu unrhyw apêl bellach, roi hysbysiad i D yn nodi bod yr apêl wedi ei gwneud, ac

(c)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ei hysbysu o ganlyniad apêl o dan adran 101 neu o ganlyniad apêl bellach, roi hysbysiad i D yn nodi'r canlyniad.

PENNOD 6ADOLYGIAD GAN YR ACHWYNYDD

Adolygu methiant y Comisiynydd i ymchwilio i gŵyn

103Hawl P i gael adolygiad

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw P yn gwneud cwyn i'r Comisiynydd o dan adran 93 ynglŷn ag ymddygiad D (“yr ymddygiad honedig”), p'un a yw'r gŵyn honno yn gŵyn ddilys o dan yr adran honno ai peidio.

(2)Caiff P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys, wneud cais i'r Tribiwnlys i adolygu penderfyniad y Comisiynydd mewn unrhyw un neu ragor o'r achosion sydd wedi eu nodi yn yr adran hon.

(3)Rhaid i'r Tribiwnlys, yn ddarostyngedig i adran 104, ymdrin â chais am adolygiad o'r fath fel pe bai'n gais i'r Uchel Lys am adolygiad barnwrol.

(4)Rhaid i'r Tribiwnlys roi caniatâd i wneud cais pan fo'r Tribiwnlys o'r farn—

(a)bod disgwyliad rhesymol y byddai'r cais yn llwyddo, neu

(b)bod rhyw reswm cryf arall pam y dylai'r cais gael ei glywed.

(5)Yr achos cyntaf y cyfeirir ato yn is-adran (2) yw—

(a)pan fo'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys, a

(b)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad.

(6)Yr ail achos yw—

(a)pan fo adran 93(7) yn gymwys o ran cwyn, a

(b)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio.

(7)Y trydydd achos yw pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu nad yw'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys.

(8)Y pedwerydd achos yw—

(a)pan nad yw'r ddyletswydd o dan adran 93 i ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio yn gymwys, a

(b)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ystyried ai i gynnal ymchwiliad i'r ymddygiad honedig ai peidio o dan adran 93(8) neu, ar ôl ystyried ai i gynnal ymchwiliad o dan yr adran honno, yn penderfynu peidio â chynnal yr ymchwiliad.

(9)Y pumed achos yw—

(a)pan fo'r Comisiynydd yn penderfynu cynnal ymchwiliad, a

(b)pan fo'r Comisiynydd wedyn yn penderfynu terfynu'r ymchwiliad.

(10)Rhaid i gais o dan is-adran (2) gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.

(11)Ond caiff y Tribiwnlys, pan wneir cais ysgrifenedig gan P, ganiatáu i gais o dan is-adran (2) gael ei wneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)dros y methiant i wneud cais cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os oes unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud cais am ganiatâd i wneud cais ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.

(12)Caniateir i gais o dan is-adran (11) gael ei wneud cyn diwedd neu ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.

(13)Rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu P a'r Comisiynydd o'i benderfyniad ar gais o dan is-adran (2).

(14)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys (sy'n cael gwneud, ymysg pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y modd y ceir gwneud ceisiadau o dan yr adran hon).

(15)Yn y Bennod hon ystyr “cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau” yw'r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y bu i'r Comisiynydd hysbysu P o'i benderfyniad o dan adran 94.

104Pwerau'r Tribiwnlys ar adolygiad

(1)Pan wneir cais o dan adran 103, caiff y Tribiwnlys—

(a)cadarnhau dyfarniad y Comisiynydd, neu

(b)diddymu dyfarniad y Comisiynydd.

(2)Os yw'r Tribiwnlys yn diddymu dyfarniad y Comisiynydd, rhaid i'r Tribiwnlys anfon yr achos yn ôl at y Comisiynydd gyda chyfarwyddyd ar gyfer ei ailystyried.

105Apelau o'r Tribiwnlys

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Tribiwnlys wedi penderfynu cais o dan adran 103(2).

(2)Caiff y Comisiynydd neu P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, apelio i'r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol sy'n deillio o'r penderfyniad.

(3)Os yw'r Uchel Lys yn dyfarnu bod y Tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad ar bwynt cyfreithiol—

(a)caiff yr Uchel Lys osod penderfyniad y Tribiwnlys o'r naill du, a

(b)os bydd yr Uchel Lys yn gosod y penderfyniad o'r naill du, rhaid iddo naill ai—

(i)anfon yr achos yn ôl i'r Tribiwnlys gyda chyfarwyddyd ar gyfer ei ailystyried, neu

(ii)ail-wneud y penderfyniad.

(4)Mae'r cyfarwyddiadau y caniateir i'r Uchel Lys eu rhoi o dan is-adran (3)(b)(i) yn cynnwys y naill neu'r llall neu'r naill a'r llall o'r canlynol, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt—

(a)cyfarwyddyd na all y personau sydd i ailystyried yr achos fod yr un rhai â'r personau a wnaeth y penderfyniad sydd wedi ei roi o'r naill du,

(b)cyfarwyddiadau gweithredu mewn cysylltiad ag ailystyried yr achos.

(5)Wrth ail-wneud y penderfyniad yn unol ag is-adran (3)(b)(ii), caniateir i'r Uchel Lys—

(a)gwneud unrhyw benderfyniad y gallai'r Tribiwnlys ei wneud pe bai'r Tribiwnlys yn gwneud y penderfyniad, a

(b)gwneud y canfyddiadau ffeithiol sy'n briodol yn nhyb yr Uchel Lys.

(6)Rhaid i gais am ganiatâd i apelio gael ei wneud i'r Tribiwnlys neu i'r Uchel Lys o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysodd y Tribiwnlys y person sy'n gwneud y cais o dan yr adran hon o'i benderfyniad ar y cais o dan adran 103.

(7)Ond caiff y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, ar gais ysgrifenedig gan y Comisiynydd neu P, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys neu'r Uchel Lys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)dros y methiant i wneud cais am ganiatâd i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os oes unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud y cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.

(8)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.

PENNOD 7YCHWANEGU PARTI MEWN ACHOS

106Hawl i wneud cais i berson gael ei ychwanegu'n barti mewn achos

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os gwneir apêl i'r Tribiwnlys o dan adran 95(2) neu adran 99, a

(b)os gwneir yr apêl honno mewn perthynas â dyfarniad a wnaed ar ôl ymchwiliad sy'n dilyn cwyn a wneir o dan adran 93.

(2)Yn achos apêl o dan adran 95(2)—

(a)rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu'r person a wnaeth y gŵyn (P) fod yr apêl wedi ei gwneud, a

(b)caiff P wneud cais i'r Tribiwnlys i gael ei ychwanegu'n barti yn yr achos.

(3)Mewn achos o'r fath, os ychwanegir P yn barti yn yr achos—

(a)rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu P o'i benderfyniad ar yr apêl, a

(b)caiff P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, apelio i'r Uchel Lys o dan adran 97 ar bwynt cyfreithiol sy'n deillio o'r penderfyniad hwnnw.

(4)Yn achos apêl a wneir o dan adran 99—

(a)rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu D fod yr apêl wedi ei gwneud, a

(b)caiff D wneud cais i'r Tribiwnlys i gael ei ychwanegu'n barti yn yr achos.

(5)Os ychwanegir D yn barti yn yr achos—

(a)rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu D o'i benderfyniad ar yr apêl, a

(b)caiff D, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, apelio i'r Uchel Lys o dan adran 101 ar bwynt cyfreithiol sy'n deillio o'r penderfyniad hwnnw.

(6)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys (sy'n cael gwneud, ymysg pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y modd y caniateir gwneud cais o dan yr adran hon i berson gael ei ychwanegu'n barti mewn achos a'r amser a ganiateir ar gyfer gwneud cais o'r fath).

(7)Nid yw'r adran hon yn atal Rheolau'r Tribiwnlys rhag gwneud darpariaeth ynghylch personau eraill y caniateir eu hychwanegu'n barti mewn achos.

PENNOD 8CYFFREDINOL

Rhwystro a dirmygu

107Rhwystro a dirmygu

(1)Os bodlonir y Comisiynydd fod yr amod yn is-adran (2) wedi cael ei fodloni o ran person, caiff y Comisiynydd ddyroddi tystysgrif i'r perwyl hwnnw i'r Uchel Lys.

(2)Yr amod yw bod y person—

(a)heb esgus cyfreithlon, wedi rhwystro cyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd o dan y Rhan hon, neu

(b)wedi cyflawni gweithred o ran ymchwiliad o dan adran 71 a fyddai, pe bai'r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys, yn ddirmyg llys.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn dyroddi tystysgrif o dan is-adran (1), caiff yr Uchel Lys ymchwilio i'r mater.

(4)Os bodlonir yr Uchel Lys fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran y person, caiff drin y person mewn unrhyw ffordd y byddai wedi trin y person pe bai'r person wedi cyflawni dirmyg llys o ran yr Uchel Lys.

Dogfen polisi gorfodi

108Dogfen polisi gorfodi

(1)Rhaid i'r Comisiynydd lunio dogfen polisi gorfodi.

(2)Caiff y Comisiynydd ddiwygio'r ddogfen polisi gorfodi.

(3)Dogfen yw dogfen polisi gorfodi sy'n rhoi cyngor a gwybodaeth ar y ffordd y mae'r Comisiynydd yn bwriadu mynd ati i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd o dan y Rhan hon.

(4)Ni chaniateir i'r Comisiynydd lunio neu ddiwygio'r ddogfen polisi gorfodi heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(5)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)sicrhau bod copi o'r ddogfen polisi gorfodi ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a

(b)sicrhau y perir bod copïau o'r ddogfen polisi gorfodi ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.

(6)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at gopïau o'r ddogfen polisi gorfodi yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant yn y ddogfen.

Cofrestr camau gorfodi

109Cofrestr camau gorfodi

(1)Rhaid i'r Comisiynydd greu a chynnal cofrestr camau gorfodi.

(2)Rhaid i'r gofrestr camau gorfodi gynnwys yr oll o'r canlynol—

(a)disgrifiad o bob ymchwiliad yr ymgymerwyd ag ef gan y Comisiynydd;

(b)o ran pob ymchwiliad yr ymgymerwyd ag ef, yr wybodaeth a ganlyn fel y'i cynhwysir yn yr adroddiad ar yr ymchwiliad—

(i)canfyddiadau'r Comisiynydd ar yr ymchwiliad;

(ii)dyfarniad y Comisiynydd ar a yw D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol ai peidio;

(iii)y datganiad sy'n nodi a weithredodd y Comisiynydd ymhellach ai peidio;

(iv)os gweithredodd y Comisiynydd ymhellach, datganiad ar y gweithredu hwnnw;

(c)o ran pob ymchwiliad yr ymgymerwyd ag ef, manylion am unrhyw hysbysiad penderfynu a roddwyd;

(d)manylion apelau a wnaed i'r Tribiwnlys o dan Bennod 4 (gan gynnwys penderfyniadau a wnaed gan y Tribiwnlys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt).

(3)Rhaid i'r Comisiynydd ddiweddaru'r gofrestr camau gorfodi'n barhaus.

(4)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)sicrhau bod copi o'r gofrestr camau gorfodi ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a

(b)sicrhau y perir bod copïau o'r gofrestr camau gorfodi ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.

(5)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at gopïau o'r gofrestr camau gorfodi yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant yn y gofrestr.

(6)Yn yr adran hon ystyr “ymchwiliad” yw ymchwiliad o dan adran 71.

Dehongli

110Dehongli

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “camau gorfodi” (“enforcement action”), mewn perthynas ag ymchwiliad o dan adran 71, yw un neu ragor o'r canlynol—

    (a)

    ei gwneud yn ofynnol i D baratoi cynllun gweithredu at ddiben atal methiant D rhag parhau neu gael ei ailadrodd;

    (b)

    ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau at ddiben atal methiant D rhag parhau neu gael ei ailadrodd;

    (c)

    rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D;

    (d)

    ei gwneud yn ofynnol i D roi cyhoeddusrwydd i'r methiant;

    (e)

    gosod cosb sifil ar D;

  • ystyr “person a chanddo fuddiant” (“interested person”) mewn perthynas ag ymchwiliad o dan adran 71 yw—

    (a)

    D, a

    (b)

    os yw'r ymchwiliad yn dilyn cwyn a wnaed o dan adran 93, y person a wnaeth y gŵyn.

RHAN 6RHYDDID I DDEFNYDDIO'R GYMRAEG

111Gwneud cais i'r Comisiynydd

(1)Caiff unigolyn (P) wneud cais i'r Comisiynydd yn gofyn i'r Comisiynydd ymchwilio i a yw person (D) wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg ag unigolyn arall (R) (“yr ymyrraeth honedig”).

(2)Rhaid i gais o dan yr adran hon gydymffurfio â'r gofynion a ganlyn.

(3)Rhaid i'r cais fod yn ysgrifenedig oni bai bod amgylchiadau personol P yn golygu na fyddai'n rhesymol i P wneud cais yn ysgrifenedig.

(4)Rhaid i'r cais roi cyfeiriad lle y caiff y Comisiynydd gysylltu â P (boed y cyfeiriad yn gyfeiriad post, electronig neu'n gyfeiriad o ddisgrifiad arall).

(5)Rhaid i'r cais—

(a)ei gwneud yn hysbys pwy yw D, a

(b)ei gwneud yn hysbys beth yw'r ymyrraeth honedig.

112Cyfathrebiadau Cymraeg

Yn y Mesur hwn, ystyr “cyfathrebiad Cymraeg” yw cyfathrebiad yn Gymraeg rhwng dau unigolyn, y mae'r ddau ohonynt—

(a)yng Nghymru, a

(b)yn dymuno defnyddio'r Gymraeg gyda'i gilydd wrth ymgymryd â'r cyfathrebiad.

113Ymyrryd â rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg

(1)At ddibenion y Mesur hwn, bernir bod D yn ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg ag R mewn unrhyw un neu ragor o'r achosion a ganlyn.

(2)Achos 1 yw pan fo D yn mynegi na ddylai P neu R ymgymryd—

(a)â chyfathrebiad penodol yn Gymraeg sy'n gyfathrebiad Cymraeg, neu

(b)â chategori o gyfathrebiadau Cymraeg sydd (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) yn un neu ragor o gyfathrebiadau Cymraeg.

(3)Achos 2 yw pan fo D yn mynegi y bydd P neu R yn dioddef anfantais (drwy law D neu unrhyw berson arall) oherwydd bod P neu R wedi ymgymryd—

(a)â chyfathrebiad penodol yn Gymraeg sy'n gyfathrebiad Cymraeg, neu

(b)â chategori o gyfathrebiadau Cymraeg sydd (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) yn un neu ragor o gyfathrebiadau Cymraeg.

(4)Achos 3 yw pan fo D, neu berson sy'n gweithredu ar anogaeth D, yn peri bod P neu R yn dioddef anfantais oherwydd bod P neu R wedi ymgymryd—

(a)â chyfathrebiad penodol yn Gymraeg sy'n gyfathrebiad Cymraeg, neu

(b)â chategori o gyfathrebiadau Cymraeg sydd (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) yn un neu ragor o gyfathrebiadau Cymraeg.

(5)Ond, mewn achos sy'n dod o fewn is-adran (2)(b), (3)(b) neu (4)(b), dim ond i'r graddau y mae'r categori o gyfathrebiadau yn un neu ragor o gyfathrebiadau Cymraeg y bernir bod D yn ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg.

(6)At ddibenion is-adran (2), mae'r amgylchiadau lle y bernir bod D yn mynegi na ddylai P neu R ymgymryd â chyfathrebiad penodol, neu gategori o gyfathrebiadau, yn cynnwys yr amgylchiadau canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—

(a)mae D yn dweud wrth P neu R am beidio ag ymgymryd â'r cyfathrebiad neu'r categori o gyfathrebiadau,

(b)mae D yn mynegi y bydd P neu R yn dioddef anfantais (drwy law D neu unrhyw berson arall) os yw P neu R yn ymgymryd â'r cyfathrebiad neu'r categori o gyfathrebiadau, neu

(c)mae D, neu berson sy'n gweithredu ar anogaeth D, yn peri bod P neu R yn dioddef anfantais mewn cysylltiad â bod P neu R yn ymgymryd â'r cyfathrebiad neu'r categori o gyfathrebiadau.

(7)At ddibenion yr adran hon, mae'n amherthnasol—

(a)a oes gan D neu unrhyw berson arall awdurdod i roi mynegiad ai peidio, a

(b)a oes gan D neu unrhyw berson arall awdurdod i orfodi mynegiad ai peidio.

(8)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at fod P neu R yn dioddef anfantais yn cynnwys bygylu neu fwlio P neu R, aflonyddu arnynt neu eu bychanu.

114Penderfynu ai i ymchwilio ai peidio

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw P yn gwneud cais i'r Comisiynydd o dan adran 111.

(2)Mater i'r Comisiynydd yw penderfynu ai i ymchwilio i'r ymyrraeth honedig ai peidio.

(3)Wrth benderfynu ai i ymchwilio i'r ymyrraeth honedig ai peidio—

(a)rhaid i'r Comisiynydd gymryd i ystyriaeth ym mha gyd-destun yr honnir bod yr ymyrraeth wedi digwydd (gan gynnwys y berthynas (os oes perthynas) sy'n bodoli rhwng D a P a rhwng D ac R, ond heb fod yn gyfyngedig i'r ddwy berthynas hyn);

(b)caiff y Comisiynydd ofyn i P, D, neu i unrhyw berson arall, am wybodaeth neu holi ei farn ynghylch yr ymyrraeth honedig; ac

(c)rhaid i'r Comisiynydd, os yw'n gofyn i P neu D am wybodaeth neu'n holi ei farn, roi i P neu D yr wybodaeth berthnasol am ymchwiliadau.

(4)Nid yw is-adran (3) yn cyfyngu ar y materion y caiff y Comisiynydd eu hystyried wrth benderfynu ai i ymchwilio i'r ymyrraeth honedig ai peidio.

(5)Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu ymchwilio i'r ymyrraeth honedig, rhaid iddo—

(a)hysbysu P a D o'r penderfyniad, a

(b)rhoi i P a D yr wybodaeth berthnasol am ymchwiliadau (i'r graddau nad yw'r Comisiynydd eisoes wedi rhoi'r wybodaeth o dan is-adran (3)(c)).

(6)Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu peidio ag ymchwilio i'r ymyrraeth honedig, rhaid i'r Comisiynydd hysbysu P—

(a)o'r penderfyniad, a

(b)o'r rhesymau dros ddod i'r penderfyniad.

(7)Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag is-adran (5) neu (6) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl dod i'r penderfyniad o dan sylw.

(8)Yn yr adran hon ystyr “gwybodaeth berthnasol am ymchwiliadau” yw gwybodaeth am—

(a)y weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliadau o dan y Rhan hon, a

(b)pwerau'r Comisiynydd mewn perthynas â'r ymchwiliadau hynny (gan gynnwys y pŵer o dan adran 118 i lunio a chyhoeddi adroddiadau a dogfennau eraill, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny).

115Ymchwiliadau

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn penderfynu ymchwilio i'r ymyrraeth honedig.

(2)Caiff y Comisiynydd ofyn i P, D, neu i unrhyw berson arall, am wybodaeth neu holi ei farn ynghylch yr ymyrraeth honedig.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd, i'r graddau y mae'n ymarferol, roi cyfle i D i ymateb i'r honiadau a wnaed gan P neu gan unrhyw berson arall.

116Terfynu ymchwiliadau

(1)Caiff y Comisiynydd derfynu'r ymchwiliad i'r ymyrraeth honedig ar unrhyw adeg.

(2)Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu terfynu'r ymchwiliad, rhaid iddo—

(a)hysbysu P a D o'r penderfyniad, a

(b)hysbysu P o'r rhesymau dros ddod i'r penderfyniad.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag is-adran (2) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl dod i'r penderfyniad.

117Cwblhau ymchwiliadau

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os yw'r Comisiynydd yn penderfynu ymchwilio i'r ymyrraeth honedig, a

(b)os nad yw'r Comisiynydd yn terfynu'r ymchwiliad.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â'r cyfathrebiad Cymraeg ai peidio.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu bod D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â'r cyfathrebiad Cymraeg, rhaid i'r Comisiynydd hefyd roi ei farn ar yr ymyrraeth (gan gynnwys ei farn ynghylch a ellid cyfiawnhau'r ymyrraeth, ond heb fod yn gyfyngedig i'w farn ar hynny).

(4)Cyn bod y Comisiynydd yn gwneud dyfarniad o dan is-adran (2) neu'n rhoi ei farn o dan is-adran (3), rhaid iddo—

(a)hysbysu D o'r dyfarniad y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei wneud ac o'r farn y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei rhoi, a

(b)cyn belled ag y bo'n ymarferol, rhoi cyfle i D ymateb i'r dyfarniad ac i'r farn sydd yn yr arfaeth.

(5)Rhaid i'r Comisiynydd hysbysu P a D—

(a)o'r dyfarniad ar y cais a wnaed gan P, a

(b)o'i farn ar yr ymyrraeth, os dyfarniad bod D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â'r cyfathrebiad Cymraeg yw'r dyfarniad.

(6)Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag is-adran (5) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y dyfarniad.

(7)Caiff y Comisiynydd roi i P, D, neu i unrhyw berson arall gyngor ynghylch—

(a)yr ymyrraeth honedig, neu

(b)unrhyw fater sy'n ymwneud â'r ymyrraeth honedig.

118Adroddiadau

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn unrhyw achos lle y gwneir cais o dan adran 111.

(2)Caiff y Comisiynydd lunio, a rhoi i Weinidogion Cymru, adroddiad ar—

(a)y cais, a

(b)y camau a gymerwyd gan y Comisiynydd mewn ymateb i'r cais.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd roi copïau o unrhyw adroddiad o'r fath i P a D.

(4)Caiff y Comisiynydd gyhoeddi—

(a)adroddiad a roddir i Weinidogion Cymru o dan is-adran (2),

(b)fersiwn o'r adroddiad hwnnw, neu

(c)dogfen arall sy'n ymwneud (boed yn gyfan gwbl neu'n rhannol) â phwnc yr adroddiad hwnnw,

(“dogfen gyhoeddus”), ond dim ond os bodlonir yr amodau canlynol.

(5)Yr amod cyntaf yw bod y Comisiynydd—

(a)yn hysbysu P a D o'r bwriad i gyhoeddi dogfen gyhoeddus, a

(b)cyn belled ag y bo'n ymarferol, yn rhoi i P, D, neu i unrhyw berson arall y mae'r Comisiynydd o'r farn ei fod yn briodol, gyfle i roi i'r Comisiynydd farn am gyhoeddi dogfen gyhoeddus.

(6)Yr ail amod yw—

(a)bod P a D yn cytuno bod y ddogfen gyhoeddus yn cael ei chyhoeddi, neu

(b)bod y Comisiynydd o'r farn ei bod er budd y cyhoedd i'r ddogfen gyhoeddus gael ei chyhoeddi.

(7)Wrth bwyso a mesur a yw er budd y cyhoedd i'r ddogfen gyhoeddus gael ei chyhoeddi, rhaid i'r Comisiynydd gymryd i ystyriaeth, ymhlith pethau eraill—

(a)buddiannau P a D, a

(b)buddiannau unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol eu cymryd i ystyriaeth yn nhyb y Comisiynydd.

(8)Yn achos unrhyw gais lle dyfarna'r Comisiynydd nad yw D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg, rhaid i ddogfen gyhoeddus beidio â'i gwneud yn hysbys pwy yw D.

119Adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru

(1)Rhaid i'r Comisiynydd gynnwys, ym mhob adroddiad blynyddol a lunnir yn unol â Rhan 2, adroddiad—

(a)ar y ceisiadau perthnasol a wnaed i'r Comisiynydd yn y cyfnod y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef,

(b)ar y camau a gymerwyd gan y Comisiynydd mewn ymateb i geisiadau perthnasol a wnaed yn y cyfnod hwnnw, ac

(c)ar farn y Comisiynydd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y gyfraith i warchod rhyddid personau yng Nghymru sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg i gyfathrebu â'i gilydd.

(2)Wrth ffurfio barn at ddibenion is-adran (1)(c), mae'r materion y mae'n rhaid i'r Comisiynydd eu hystyried yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt—

(a)pob cais perthnasol a wnaed oddi ar y dyddiad y daeth adran 111 i rym, a

(b)pob cam a gymerwyd gan y Comisiynydd mewn ymateb i geisiadau perthnasol a wnaed oddi ar y dyddiad y daeth adran 111 i rym.

(3)O ran unrhyw gais perthnasol lle y dyfarna'r Comisiynydd nad yw D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg, rhaid i'r materion a gynhwysir mewn adroddiad blynyddol yn unol â'r adran hon beidio â'i gwneud yn hysbys pwy yw D.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth am adroddiadau o dan yr adran hon.

(5)Yn yr adran hon ystyr “cais perthnasol” yw cais a wneir o dan adran 111.

RHAN 7TRIBIWNLYS Y GYMRAEG

Y Tribiwnlys

120Tribiwnlys y Gymraeg

(1)Bydd yna Dribiwnlys y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel y “Tribiwnlys”).

(2)Yr aelodau canlynol fydd aelodau'r Tribiwnlys—

(a)Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel y “Llywydd”);

(b)aelodau wedi ymgymhwyso yn y gyfraith; ac

(c)aelodau lleyg.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi aelodau'r Tribiwnlys.

(4)Mae Atodlen 11 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y Tribiwnlys.

121Cyfansoddiad ar gyfer achosion gerbron y Tribiwnlys

(1)Rhaid i'r Llywydd ddewis yr aelodau o'r Tribiwnlys sydd i ymdrin ag achosion penodol gerbron y Tribiwnlys.

(2)Rhaid i'r Llywydd ddewis tri aelod o'r Tribiwnlys i ymdrin â'r achosion.

(3)Rhaid i'r Llywydd sicrhau bod—

(a)o leiaf un o'r tri aelod yn aelod cyfreithiol, a

(b)o leiaf un o'r tri aelod yn aelod lleyg.

(4)Os dim ond un o'r tri aelod sy'n aelod cyfreithiol, yr aelod cyfreithiol hwnnw sydd i gadeirio'r achos.

(5)Os oes mwy nag un o'r tri aelod yn aelodau cyfreithiol, mae'r Llywydd i ddewis yr aelod cyfreithiol sydd i gadeirio'r achos.

(6)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.

(7)Yn yr adran hon ystyr “aelod cyfreithiol” yw—

(a)y Llywydd, neu

(b)aelod o'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith.

122Gwrandawiadau cyhoeddus

(1)Mae achosion gerbron y Tribiwnlys i'w cynnal yn gyhoeddus.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.

Ymarferiad a threfniadaeth etc

123Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg

(1)Rhaid i'r Llywydd wneud rheolau sy'n llywodraethu'r ymarferiad a'r drefniadaeth sydd i'w dilyn yn y Tribiwnlys.

(2)Mae'r rheolau i'w galw'n “Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg” (ond cyfeirir atynt yn y Mesur hwn fel “Rheolau'r Tribiwnlys”).

(3)Rhaid i Reolau'r Tribiwnlys gynnwys y canlynol—

(a)darpariaeth ynghylch dewis o dan adran 121(2) y tri aelod o'r Tribiwnlys i ymdrin ag achosion;

(b)darpariaeth ynghylch dewis o dan adran 121(5) yr aelod cyfreithiol i gadeirio achosion;

(c)darpariaeth ynghylch gwrthdrawiadau buddiant sy'n codi—

(i)mewn perthynas â chyfranogiad aelodau o'r Tribiwnlys yn y gwaith o ddyfarnu achos, neu

(ii)mewn perthynas ag arfer swyddogaethau'r Llywydd o dan adran 121.

(4)Caiff Rheolau'r Tribiwnlys, ymysg pethau eraill, gynnwys darpariaeth ynghylch y materion a ganlyn—

(a)arfer gan y Llywydd, neu gan yr aelod sy'n cadeirio unrhyw achosion, unrhyw swyddogaethau sy'n ymwneud â materion sy'n rhagarweiniol i'r achos neu'n gysylltiedig â'r achos;

(b)cynnal achosion yn absenoldeb unrhyw aelod ac eithrio'r aelod sy'n eu cadeirio;

(c)dadlennu neu archwilio dogfennau, a'r hawl i fanylion pellach y gallai llys sirol ei rhoi;

(d)dyfarnu achosion heb wrandawiad mewn amgylchiadau a ragnodir yn Rheolau'r Tribiwnlys;

(e)achosion gwacsaw neu flinderus;

(f)caniatáu costau (gan gynnwys costau cosbedigol, ond heb eu cyfyngu i hynny) neu dreuliau;

(g)asesu'r costau neu'r treuliau hynny neu eu setlo fel arall (ac, yn benodol, ar gyfer galluogi asesu'r costau hynny yn y llys sirol);

(h)cyhoeddi adroddiadau ynghylch penderfyniadau'r Tribiwnlys;

(i)pwerau'r Tribiwnlys i adolygu ei benderfyniadau, neu i ddirymu neu amrywio ei orchmynion, yn yr amgylchiadau a gaiff eu pennu'n unol â Rheolau'r Tribiwnlys;

(j)y dyddiad y bernir bod hysbysiad wedi ei roi gan y Tribiwnlys.

(5)Mae'r pŵer i wneud Rheolau'r Tribiwnlys yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, a

(b)i roi swyddogaethau i'r Llywydd neu i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.

(6)Rhaid i'r Llywydd gyflwyno Rheolau'r Tribiwnlys i Weinidogion Cymru.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod Rheolau'r Tribiwnlys a gyflwynir iddynt.

(8)O ran rheolau a ganiateir gan Weinidogion Cymru—

(a)deuant i rym ar y diwrnod y bydd Gweinidogion Cymru'n ei gyfarwyddo, a

(b)maent i'w cynnwys mewn offeryn statudol y mae Deddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys iddo fel pe bai'r offeryn yn cynnwys rheolau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(9)Mae offeryn statudol sy'n cynnwys rheolau a wneir gan y Llywydd yn ddarostyngedig i'w ddiddymu'n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

124Cyfarwyddiadau ymarfer

(1)Caiff y Llywydd roi cyfarwyddiadau ynghylch ymarferiad a threfniadaeth y Tribiwnlys.

(2)Ond ni chaiff y Llywydd roi cyfarwyddiadau ymarfer onid ydynt wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i gyfarwyddiadau ymarfer i'r graddau y mae'r cyfarwyddiadau hynny'n ymwneud â—

(a)cymhwyso neu ddehongli'r gyfraith, neu

(b)gwneud penderfyniadau gan aelodau o'r Tribiwnlys.

(4)Mae'r pŵer o dan yr adran hon i roi cyfarwyddiadau ymarfer yn cynnwys—

(a)pŵer i amrywio neu ddirymu cyfarwyddiadau ymarfer a roddir wrth arfer y pŵer, a

(b)pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

125Canllawiau, cyngor a gwybodaeth

(1)Caiff y Llywydd roi canllawiau i aelodau eraill o'r Tribiwnlys mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau fel aelodau o'r Tribiwnlys.

(2)Rhaid i aelod o'r Tribiwnlys roi sylw i'r canllawiau hynny wrth arfer y swyddogaethau hynny.

(3)Caiff y Llywydd roi cyngor a gwybodaeth mewn cysylltiad â'r Tribiwnlys a'i swyddogaethau (gan gynnwys ymarferiad a threfniadaeth y Tribiwnlys, ond heb ei gyfyngu iddynt).

(4)Caiff y Llywydd roi'r cyngor hwnnw—

(a)i bersonau penodol, neu

(b)yn fwy cyffredinol.

126Pwerau atodol

(1)Mewn perthynas â'r materion a grybwyllir yn is-adran (2), mae gan y Tribiwnlys yr un pwerau, hawliau, breintiau ac awdurdod â'r Uchel Lys.

(2)Dyma'r materion—

(a)presenoldeb tystion a'u holi,

(b)cyflwyno ac archwilio dogfennau, ac

(c)pob mater arall sy'n gysylltiedig â swyddogaethau'r Tribiwnlys.

(3)Nid yw is-adran (1)—

(a)yn cyfyngu ar unrhyw bŵer i wneud Rheoliadau'r Tribiwnlys, neu

(b)wedi ei chyfyngu gan unrhyw beth yn Rheoliadau'r Tribiwnlys, ac eithrio cyfyngiad penodol.

(4)Caiff y Tribiwnlys gyfarwyddo bod parti neu dyst i'w holi ar lw neu gadarnhad.

(5)Caiff y Tribiwnlys weinyddu unrhyw lw, neu gymryd unrhyw gadarnhad, sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw.

Staff ac adnoddau eraill

127Staff, adeiladau ac adnoddau eraill y Tribiwnlys

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod gan y Tribiwnlys y canlynol—

(a)staff,

(b)adeiladau, ac

(c)adnoddau ariannol ac adnoddau eraill,

sy'n briodol i'r Tribiwnlys er mwyn iddo arfer ei swyddogaethau.

(2)Gweinidogion Cymru sydd i benderfynu pa staff, adeiladau, adnoddau ariannol ac adnoddau eraill sy'n briodol at y diben hwnnw.

(3)Caniateir i Weinidogion Cymru fodloni'r ddyletswydd o dan is-adran (1)—

(a)drwy ddarparu staff, adeiladau neu adnoddau eraill, neu

(b)drwy wneud trefniadau gydag unrhyw berson arall ar gyfer darparu staff, adeiladau neu adnoddau eraill.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i staff y Tribiwnlys.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i staff y Tribiwnlys.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

(a)pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau o staff y Tribiwnlys, neu mewn perthynas â hwy, a

(b)symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau sydd wedi bod yn aelodau o staff y Tribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hwy.

128Cynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig

(1)Caiff y Llywydd benodi cynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig i ddarparu cymorth i'r Tribiwnlys (boed mewn perthynas ag achosion penodol gerbron y Tribiwnlys neu fel arall).

(2)Caiff y Llywydd dalu tâl cydnabyddiaeth i gynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig.

(3)Caiff y Llywydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i gynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig.

(4)Ond rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo swm unrhyw dâl cydnabyddiaeth, lwfansau neu arian rhodd sy'n daladwy i gynghorydd sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig cyn i'r Llywydd dalu'r tâl cydnabyddiaeth, lwfansau neu'r arian rhodd, neu gytuno i'w talu.

Materion gweinyddol

129Y sêl

(1)Mae'r Tribiwnlys i gael sêl swyddogol.

(2)Mae pob dogfen yr honnir ei bod yn dwyn sêl swyddogol y Tribiwnlys i'w derbyn yn dystiolaeth yng Nghymru a Lloegr heb brawf pellach.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os dangosir nad yw'r ddogfen yn dwyn sêl swyddogol y Tribiwnlys.

130Y flwyddyn ariannol

(1)Blwyddyn ariannol gyntaf y Tribiwnlys yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod cychwyn ac sy'n dod i ben—

(a)y 31 Mawrth canlynol (os 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn), neu

(b)yr ail 31 Mawrth canlynol (os nad 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn).

(2)Yn ddarostyngedig i hynny, blwyddyn ariannol y Tribiwnlys yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth.

(3)Yn yr adran hon ystyr “diwrnod cychwyn” yw'r diwrnod y daw adran 120 i rym.

131Swydd y Llywydd yn wag

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw swydd y Llywydd yn wag.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru benodi un neu ragor o aelodau'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith i arfer unrhyw un neu ragor neu'r oll o swyddogaethau'r Llywydd.

(3)Os na fydd, neu i'r graddau na fydd, swyddogaethau'r Llywydd yn arferadwy gan aelod sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith yn unol ag is-adran (2), caiff Gweinidogion Cymru arfer y swyddogaethau.

(4)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gymryd rhan yn y gwaith o ddyfarnu unrhyw achosion gerbron y Tribiwnlys.

Adroddiadau, adolygiadau a pherfformiad

132Adroddiad blynyddol y Llywydd

(1)Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Llywydd—

(a)llunio adroddiad ar y modd y mae'r Tribiwnlys wedi arfer ei swyddogaethau yn y flwyddyn ariannol honno, a

(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Rhaid i'r Llywydd gydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch ffurf yr adroddiad ac ynghylch ei osod.

133Hyfforddiant etc ar gyfer aelodau'r Tribiwnlys

(1)Rhaid i'r Llywydd gynnal trefniadau priodol ar gyfer hyfforddiant, arweiniad a lles aelodau'r Tribiwnlys.

(2)Y Llywydd sydd i benderfynu pa drefniadau sy'n briodol at y diben hwnnw.

RHAN 8CYFFREDINOL

PENNOD 1UNIONDEB CYMERIAD

134Cofrestr buddiannau

(1)Rhaid i bob deiliad swydd perthnasol greu a chynnal cofrestr buddiannau.

(2)Rhaid i gofrestr buddiannau deiliad swydd perthnasol gynnwys ei holl fuddiannau cofrestradwy.

(3)Rhaid i ddeiliad swydd perthnasol lunio'i gofrestr buddiannau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

(4)Rhaid i ddeiliad swydd perthnasol ddiweddaru ei gofrestr buddiannau'n barhaus.

(5)Mae hynny'n cynnwys dyletswydd i gynnwys buddiant cofrestredig yn y gofrestr buddiant o fewn 4 wythnos i'r canlynol ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny—

(a)y buddiant yn codi, neu

(b)y deiliad swydd perthnasol yn dod yn ymwybodol o'r buddiant (os yw hynny'n digwydd ar ôl i'r buddiant godi).

135Cyhoeddi cofrestrau buddiannau

(1)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)sicrhau bod copi o gofrestr buddiannau pob deiliad swydd perthnasol ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a

(b)sicrhau y perir bod copïau o gofrestr buddiannau pob deiliad swydd perthnasol ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at gopïau o gofrestrau buddiannau deiliaid swyddi perthnasol yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant yn y cofrestrau.

(3)Rhaid i'r Dirprwy Gomisiynydd roi i'r Comisiynydd—

(a)copïau o gofrestr buddiannau'r Dirprwy Gomisiynydd, a

(b)cymorth arall,

y gall y Comisiynydd ofyn amdanynt er mwyn ei alluogi i gydymffurfio â'r ddyletswydd o dan is-adran (1).

136Gwrthdrawiadau buddiannau

(1)Rhaid i ddeiliad swydd perthnasol beidio ag arfer swyddogaeth os oes ganddo fuddiant cofrestradwy sy'n ymwneud ag arfer y swyddogaeth.

(2)Mewn achos lle y mae is-adran (1) yn atal y Comisiynydd rhag arfer swyddogaeth, rhaid iddo ddirprwyo'r swyddogaeth honno (i'r graddau y bo'n angenrheidiol i alluogi'r gwaith hwnnw o'i harfer i gael ei wneud)—

(a)i'r Dirprwy Gomisiynydd, neu

(b)i aelod arall o staff y Comisiynydd.

(3)Mewn achos lle y mae is-adran (1) yn atal y Dirprwy Gomisiynydd rhag arfer swyddogaeth, rhaid i'r Comisiynydd wneud trefniadau i'r swyddogaeth gael ei harfer gan rywun heblaw'r Dirprwy Gomisiynydd.

137Dilysrwydd gweithredoedd

Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred deiliad swydd perthnasol gan fethiant i gydymffurfio â darpariaeth yn y Bennod hon neu a wneir o dan y Bennod hon.

138Rheoliadau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)pennu pa fuddiannau sy'n fuddiannau cofrestradwy at ddibenion y Bennod hon, a

(b)gwneud darpariaeth arall at ddibenion y Bennod hon.

(2)Caiff buddiannau cofrestradwy gynnwys, ymhlith pethau eraill, buddiannau personau y mae cysylltiad rhyngddynt a deiliaid swyddi perthnasol (boed yn gysylltiad teuluol, ariannol neu o unrhyw fath arall).

(3)Yn yr adran hon ystyr “buddiant” yw buddiant o unrhyw fath (gan gynnwys buddiannau ariannol, a phob gweithgaredd a swydd, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt).

139Dehongli'r Bennod hon

Yn y Bennod hon—

  • ystyr “buddiant cofrestradwy” (“registrable interest”) yw buddiant cofrestradwy a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 138;

  • ystyr “deiliad swydd perthnasol” (“relevant office holder”) yw—

    (a)

    y Comisiynydd, neu

    (b)

    y Dirprwy Gomisiynydd.

PENNOD 2DIFENWI

140Braint absoliwt

(1)At ddibenion cyfraith difenwi, mae'r canlynol yn absoliwt freintiedig—

(a)cyhoeddi mater gan y Comisiynydd wrth iddo arfer unrhyw un neu ragor o'i swyddogaethau;

(b)cyhoeddi mater gan aelod o'r Panel Cynghori wrth iddo arfer unrhyw un neu ragor o'i swyddogaethau;

(c)cyhoeddi mater gan berson wrth iddo gydymffurfio â gofyniad mewn hysbysiad penderfynu;

(d)cyhoeddi, mewn cyfathrebiad rhwng—

(i)y Comisiynydd, a

(ii)person a ddiogelir,

fater mewn cysylltiad ag ymholiad neu ymchwiliad;

(e)cyhoeddi, mewn cyfathrebiad rhwng—

(i)yr achwynydd neu berson sy'n gweithredu ar ran yr achwynydd, a

(ii)cynrychiolydd,

fater mewn cysylltiad ag ymchwiliad o dan Ran 5 neu Ran 6.

(2)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at y Comisiynydd yn cynnwys y personau canlynol—

(a)aelodau o staff y Comisiynydd;

(b)unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran y Comisiynydd neu'n cynorthwyo i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.

141Dehongli'r Bennod hon

Yn y Bennod hon—

  • ystyr “achwynydd” (“complainant”)—

    (a)

    mewn perthynas ag ymchwiliad o dan Ran 5, yw'r person (os oes person) y cyfeirir ato fel “P” yn adran 93;

    (b)

    mewn perthynas ag ymchwiliad o dan Ran 6—

    (i)

    yw'r person y cyfeirir ato fel “P” yn adran 111; a

    (ii)

    yw'r person y cyfeirir ato fel “R” yn adran 111;

  • ystyr “cynrychiolydd” (“representative”) yw unrhyw un neu ragor o'r canlynol—

    (a)

    aelod o gyngor cymuned, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru;

    (b)

    Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

    (c)

    Aelod Seneddol;

    (d)

    aelod o Dŵ'r Arglwyddi;

    (e)

    Aelod o Senedd Ewrop;

  • ystyr “person a ddiogelir” (“protected person”), mewn perthynas ag ymholiad neu ymchwiliad, yw unrhyw un neu ragor o'r personau canlynol—

    (a)

    aelod o'r Panel Cynghori;

    (b)

    cynrychiolydd;

    (c)

    person sy'n destun yr ymholiad neu'r ymchwiliad;

    (d)

    person y mae'r Comisiynydd yn cyfathrebu ag ef at ddiben cael gwybodaeth mewn cysylltiad ag ymholiad neu ymchwiliad;

    (e)

    yr achwynydd;

    (f)

    person sy'n gweithredu ar ran person sy'n dod o fewn paragraff (c) i (e).

  • ystyr “ymchwiliad” (“investigation”) yw unrhyw un neu ragor o'r canlynol—

    (a)

    ymchwiliad safonau o dan Bennod 8 o Ran 4;

    (b)

    ymchwiliad o dan Ran 5 (cydymffurfedd â gofynion perthnasol);

    (c)

    ymchwiliad o dan Ran 6 (ymyrraeth â'r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg);

  • ystyr “ymholiad” (“inquiry”) yw ymholiad o dan adran 7.

PENNOD 3CYFYNGIADAU

142Cyfyngiadau

(1)Nid yw'r Mesur hwn yn awdurdodi'r Comisiynydd i arfer swyddogaeth ragnodedig sydd yn rhinwedd deddfiad yn arferadwy hefyd gan berson rhagnodedig, nac yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd wneud hynny.

(2)Yn yr adran hon ystyr “rhagnodedig” yw rhagnodedig mewn gorchymyn a wneir at ddibenion yr adran hon gan Weinidogion Cymru.

RHAN 9BYRDD IAITH GYMRAEG, CYNLLUNIAU IAITH GYMRAEG ETC

143Diddymu'r Bwrdd a throsglwyddo swyddogaethau

(1)Diddymir Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

(2)Trosglwyddir y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan adran 3 o Ddeddf 1993 i'r Comisiynydd.

(3)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan adran 154 sy'n darparu i'r swyddogaethau hynny gael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru (boed yn lle trosglwyddo'r swyddogaethau i'r Comisiynydd neu'n ychwanegol at wneud hynny).

(4)Trosglwyddir y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan Ran 2 o Ddeddf 1993 i'r Comisiynydd.

(5)Diddymir darpariaethau canlynol Deddf 1993—

(a)adran 1;

(b)adran 2;

(c)adran 4(2);

(d)adran 34(2);

(e)Atodlen 1.

144Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau

(1)Diddymir y swyddogaethau a roddwyd gan adran 3 o Ddeddf 1993 (ac a drosglwyddwyd fel a grybwyllir yn adran 143).

(2)Mae Rhan 2 o Ddeddf 1993 yn peidio â bod yn gymwys i berson os daw'r person hwnnw, a phan ddaw'r person hwnnw, yn ddarostyngedig am y tro cyntaf i'r ddyletswydd o dan adran 25(1) o'r Mesur hwn i gydymffurfio â safon.

(3)Diddymir darpariaethau canlynol Deddf 1993—

(a)adran 3;

(b)adran 4(1).

145Disodli cynlluniau iaith Gymraeg gan safonau

(1)Diddymir y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan Ran 2 o Ddeddf 1993 (ac a drosglwyddwyd fel a grybwyllir yn adran 143).

(2)Diddymir darpariaethau canlynol Deddf 1993—

(a)Rhan 2;

(b)adran 34(1) a (3).

146Darpariaeth arall

Mae Atodlen 12 yn cynnwys darpariaeth arall sy'n ymwneud â diddymu'r Bwrdd.

147Atodol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan Rannau eraill o'r Mesur hwn at ddibenion dwyn i rym unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn sy'n ymwneud â'r Comisiynydd er mwyn galluogi swyddogaethau'r Bwrdd i gael eu trosglwyddo i'r Comisiynydd a bod yn arferadwy ganddo cyn bod unrhyw swyddogaeth newydd yn arferadwy gan y Comisiynydd (p'un a ddaw unrhyw swyddogaeth newydd yn arferadwy ar ôl hynny ai peidio tra bydd unrhyw swyddogaeth a drosglwyddwyd yn parhau i fod yn arferadwy).

(2)At y diben hwnnw ystyr “swyddogaeth newydd” yw swyddogaeth a roddir i'r Comisiynydd gan ddarpariaeth mewn unrhyw Ran arall o'r Mesur hwn.

(3)Nid yw'r Rhan hon yn cyfyngu ar bwerau Gweinidogion Cymru o dan Rannau eraill o'r Mesur hwn (ac yn unol â hynny ceir defnyddio'r pwerau hynny i wneud darpariaeth yn ychwanegol at ddarpariaeth neu yn lle darpariaeth yn y Rhan hon).

(4)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at bwerau Gweinidogion Cymru o dan Rannau eraill o'r Mesur hwn yn cynnwys eu pwerau o dan—

(a)adran 154 (darpariaeth drosiannol a darpariaeth ganlyniadol etc), a

(b)adran 156(2) (cychwyn),

ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.

(5)Yn y Rhan hon—

  • ystyr “y Bwrdd” (“Board”) yw Bwrdd yr Iaith Gymraeg;

  • ystyr “Deddf 1993” (“1993 Act”) yw Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

RHAN 10STRATEGAETH IAITH GYMRAEG GWEINIDOGION CYMRU

148Gweinidogion Cymru i baratoi cynllun gweithredu

(1)Diwygier adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel a ganlyn.

(2)Ar ôl is-adran (8), mewnosoder—

(9)For each financial year, the Welsh Ministers must publish a plan setting out how they will implement the proposals set out in the Welsh language strategy during that year.

(10)The plan must be published as soon as reasonably practicable before the commencement of the financial year to which it relates.

149Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal corff a enwir yn Gyngor Partneriaeth y Gymraeg (ac y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Cyngor Partneriaeth”).

(2)Yr aelodau canlynol fydd aelodau'r Cyngor Partneriaeth—

(a)pa un bynnag o Weinidogion Cymru sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg (ac ef sydd i gadeirio'r Cyngor Partneriaeth), a

(b)aelodau wedi eu penodi gan Weinidogion Cymru o blith—

(i)Gweinidogion Cymru,

(ii)Dirprwy Weinidogion Cymru,

(iii)personau y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod ganddynt brofiad o faterion yn ymwneud â'r Gymraeg, a

(iv)personau y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod ganddynt brofiad sy'n berthnasol i unrhyw un neu ragor o'r materion sydd wedi eu rhestru yn is-adran (6).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth arfer eu pŵer i apwyntio aelodau o'r Cyngor Partneriaeth o dan is-adran (2)(b)(iii) a (iv), ystyried y ffaith ei bod yn ddymunol bod aelodaeth y Cyngor Partneriaeth yn adlewyrchu graddau amrywiol defnyddio'r Gymraeg gan drigolion Cymru.

(4)Mae trefniadaeth y Cyngor Partneriaeth i'w rheoleiddio gan reolau sefydlog sydd i'w gwneud gan Weinidogion Cymru ar ôl iddynt ymgynghori â'r Cyngor Partneriaeth.

(5)Caiff y rheolau sefydlog ddarparu pwy sydd i gadeirio'r Cyngor Partneriaeth yn absenoldeb pa un bynnag o Weinidogion Cymru sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.

(6)Caiff y Cyngor Partneriaeth—

(a)roi cyngor neu gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ynghylch y strategaeth iaith Gymraeg a fabwysiadwyd o dan adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (gan gynnwys y cynllun sy'n nodi sut y bydd Gweinidogion Cymru yn cyflawni'r cynigion a nodwyd yn y strategaeth), a

(b)gwneud unrhyw beth sy'n briodol ym marn y Cyngor at ddibenion rhoi'r cyngor hwnnw neu gyflwyno'r sylwadau hynny.

RHAN 11ATODOL

150Gorchmynion a rheoliadau

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy'n cynnwys unrhyw un neu ragor o'r canlynol gael ei wneud onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)gorchymyn o dan adran 20(4)(a) neu (b) (cymhwyso adran 20 i bersonau ac eithrio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru etc) sy'n diwygio darpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol;

(b)gorchymyn o dan adran 21(7) (diwygio'r diffiniad o “ombwdsmon”);

(c)gorchymyn o dan adran 21(8) (darpariaeth mewn cysylltiad â gorchymyn o dan adran 21(7)) sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol;

(d)gorchymyn o dan adran 22(10) (diwygio'r diffiniad o “person a ganiatawyd”);

(e)rheoliadau o dan adran 26(1) neu (2) (pennu safonau etc);

(f)gorchymyn o dan adran 35 neu 38 (diwygio Atodlen 6 neu 8), ac eithrio gorchymyn sy'n cynnwys darpariaeth o dan yr adran honno y mae'r cyfan ohono'n ddarpariaeth o'r math a nodir yn is-adran (4);

(g)rheoliadau o dan adran 39 (safonau sy'n benodol gymwys);

(h)gorchymyn o dan adran 42 (diwygio Atodlen 9);

(i)rheoliadau o dan adran 68 (rhoi gwybodaeth i'r Comisiynydd);

(j)gorchymyn o dan adran 83(7) (newid uchafswm cosb sifil);

(k)gorchymyn o dan adran 154 (darpariaeth drosiannol a darpariaeth ganlyniadol etc) sy'n cynnwys darpariaeth sy'n diwygio, diddymu neu fel arall yn addasu deddfiad (ac eithrio deddfiad a geir mewn is-ddeddfwriaeth);

(l)rheoliadau o dan baragraff 7(1) o Atodlen 1 (darpariaeth ynghylch penodi'r Comisiynydd);

(m)gorchymyn o dan baragraff 8(1) o Atodlen 1 (arfer swyddogaethau'r Comisiynydd gan Weinidogion Cymru) sy'n diwygio'r Mesur hwn;

(n)gorchymyn o dan baragraff 1 o Atodlen 5 (newid swm arian cyhoeddus a bennir yn y tabl yn Atodlen 5).

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy'n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn, ac eithrio offeryn nad yw ond yn cynnwys gorchymyn o dan adran 156 (cychwyn), yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Darpariaeth sy'n diwygio cyfeiriad at berson yng nghofnod person yn y tabl yn Atodlen 6 neu'r tabl yn Atodlen 8 o ganlyniad i newid enw'r person hwnnw yw'r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-adran (2)(f).

(5)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dibenion gwahanol neu ardaloedd daearyddol gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(c)i wneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig a darpariaeth arall sy'n angenrheidiol neu'n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru.

(6)Mae pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 155(3) hefyd yn cynnwys, yn achos cychwyn diddymiad darpariaeth yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993, pŵer i ddarparu ar gyfer cychwyn gwahanol ar gyfer awdurdodaethau gwahanol.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw Deddf Senedd y DU neu un o Fesurau neu Ddeddfau'r Cynulliad.

151Cyfarwyddiadau

O ran unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn—

(a)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach;

(b)rhaid ei roi'n ysgrifenedig;

(c)caniateir iddo wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol; a

(d)caniateir iddo wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dibenion gwahanol neu ardaloedd daearyddol gwahanol.

152Hysbysiadau etc

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau a dogfennau eraill y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir eu rhoi o dan y Mesur hwn.

(2)Caniateir rhoi hysbysiad neu ddogfen y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei roi neu ei rhoi i'r Comisiynydd—

(a)drwy ei draddodi neu ei thraddodi i'r Comisiynydd,

(b)drwy ei anfon neu ei hanfon drwy'r post i brif swyddfa'r Comisiynydd, neu

(c)yn ddarostyngedig i is-adran (3), drwy ei drosglwyddo neu ei throsglwyddo'n electronig.

(3)Dim ond os cafodd yr hysbysiad neu'r ddogfen ei drosglwyddo neu ei throsglwyddo mewn modd y gall y Comisiynydd ei wneud yn ofynnol y caniateir i hysbysiad neu ddogfen gael ei drosglwyddo neu ei throsglwyddo'n electronig.

(4)Caniateir rhoi hysbysiad neu ddogfen y mae'n ofynnol i'r Comisiynydd ei roi neu ei rhoi, neu yr awdurdodir y Comisiynydd i'w roi neu i'w rhoi, i berson arall—

(a)drwy ei draddodi neu ei thraddodi i'r person,

(b)drwy ei anfon neu ei hanfon drwy'r post i'r cyfeiriad diweddaraf sy'n hysbys ar gyfer y person, neu

(c)yn ddarostyngedig i is-adran (5), drwy ei drosglwyddo neu ei throsglwyddo'n electronig.

(5)Dim ond os bodlonir y gofynion canlynol y caiff y Comisiynydd roi hysbysiad neu ddogfen i berson drwy ei drosglwyddo neu ei throsglwyddo'n electronig—

(a)rhaid i'r person y mae'r hysbysiad neu'r ddogfen i'w roi neu i'w rhoi iddo fod wedi—

(i)mynegi i'r Comisiynydd fod y person hwnnw'n fodlon derbyn yr hysbysiad neu'r ddogfen drwy ei drosglwyddo neu ei throsglwyddo drwy gyfrwng electronig, a

(ii)darparu cyfeiriad addas at y diben hwnnw i'r Comisiynydd, a

(b)rhaid i'r Comisiynydd anfon yr hysbysiad neu'r ddogfen i'r cyfeiriad a ddarparwyd gan y person hwnnw.

(6)Caiff person fynegi, at ddibenion is-adran (4), ei fod yn fodlon derbyn—

(a)hysbysiadau neu ddogfennau'n gyffredinol wedi eu trosglwyddo'n electronig, neu

(b)hysbysiadau neu ddogfennau o ddisgrifiadau penodol wedi eu trosglwyddo'n electronig.

(7)Nid yw'r adran hon yn hepgor unrhyw ddull arall o roi neu o anfon hysbysiad neu ddogfen na ddarperir yn benodol ar ei gyfer gan yr adran hon.

(8)Nid yw gofyniad yn y Mesur hwn am i hysbysiad neu ddogfen fod yn ysgrifenedig yn atal yr adran hon rhag bod yn gymwys mewn perthynas â hi neu ag ef.

(9)Nid yw gofyniad am i'r Comisiynydd roi hysbysiad neu ddogfen arall i berson yn gymwys os yw'r Comisiynydd o'r farn nad yw'n ymarferol rhoi'r hysbysiad hwnnw neu'r ddogfen honno i'r person hwnnw yn unol ag is-adran (4).

(10)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth ynghylch y dyddiad y bernir bod hysbysiad wedi ei roi neu ddogfen wedi ei rhoi.

153Dehongli'r Mesur hwn

(1)Yn y Mesur hwn—

  • ystyr “Comisiynydd” (“Commissioner”) yw Comisiynydd y Gymraeg (gweler Rhan 2);

  • mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys Mesur Cynulliad, Deddf Cynulliad, is-ddeddfwriaeth ac unrhyw ddeddfiad yn y dyfodol;

  • ystyr “Dirprwy Gomisiynydd” (“Deputy Commissioner”) yw Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg (gweler adran 12);

  • ystyr “Llywydd” (“President”) yw Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg (gweler Rhan 7);

  • ystyr “Panel Cynghori” (“Advisory Panel”) yw Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (gweler Rhan 3);

  • ystyr “Rheolau'r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg (gweler Rhan 7);

  • ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys y Gymraeg (gweler Rhan 7).

(2)Yn y Mesur hwn mae cyfeiriadau at staff y Comisiynydd i'w dehongli'n unol ag adran 12(2).

154Darpariaeth drosiannol a darpariaeth ganlyniadol etc

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y cyfryw ddarpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig, a darpariaeth arall ag y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n briodol mewn cysylltiad â'r Mesur hwn neu i roi llwyr effaith iddo.

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth sy'n diwygio, diddymu neu fel arall yn addasu deddfiad, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.

155Rhychwant

(1)Mae'r Mesur hwn yn rhychwantu Cymru a Lloegr yn unig.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i is-adran (3).

(3)Yr un yw rhychwant diddymiad i ddarpariaeth yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 â rhychwant y ddarpariaeth a gaiff ei diddymu.

156Cychwyn

(1)Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor—

(a)Rhan 1;

(b)y Rhan hon.

(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (1), daw'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

157Enw byr

Enw'r Mesur hwn yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure as a PDF

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources