Adran 1 –: Pŵer cyffredinol i godi ffioedd am wasanaethau gofal
3.Mae is-adrannau 1(1) a (2) yn gwneud darpariaeth i awdurdod lleol yng Nghymru sy'n darparu gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano godi ffi am y gwasanaeth hwnnw am y cyfryw swm ag y mae'n ystyried sy'n rhesymol (i gael disgrifiad o'r gwasanaethau y caniateir codi ffi amdanynt y mae'r Mesur yn ymwneud â hwy gweler y nodiadau ar adran 13). Ond mae adran 1(3) yn gwneud darpariaeth i’r pŵer hwn fod yn ddarostyngedig i nifer o ddarpariaethau deddfwriaethol y cyfeirir atynt yn is-adran (3) sef:
darpariaethau adran 2 ar uchafswm y ffioedd;
darpariaethau adran 3 ynghylch personau a gwasanaethau na chaniateir gosod ffioedd ynglŷn â hwy;
darpariaethau adran 8(1) (effaith penderfyniadau sy’n ymwneud â’r gallu i dalu); ac
unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 16 o Ddeddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc) (darparu gwasanaethau yng Nghymru yn ddi-dâl) 2003.
4.Mae is-adrannau (4) a (5) yn darparu pŵer i awdurdod lleol adennill ffi am wasanaethau y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddynt ac yn enwedig i’w adennill fel dyled sifil mewn achos llys.